Nid yw’n rhy hwyr i fachu anrheg gan Fulton Outfitters

Gallwch dal lapio’ch hun mewn steil y Nadolig hwn diolch i Fulton Outfitters, siop dillad swyddogol Prifysgol Abertawe!

Mae gan Fulton Outfitters bopeth sydd ei angen arnoch i aros yn gynnes ac yn ffasiynol y tymor hwn. O siwmperi clyd a chotiau gaeaf i ategolion steilus, mae eu casgliad yn berffaith ar gyfer rhoi anrhegion neu drin eich hun dros y Nadolig! Mae gennych tan 1pm ar 17eg Rhagfyr i gael eich hanfodion gaeaf mewn pryd ar gyfer y Nadolig!

Siaced Sherpa

Yn teimlo’r oerfel? Peidiwch â phoeni! Mae’r siacedi hyn yn gynnes iawn ac yn eco-gyfeillgar, wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, sy’n golygu y gallwch deimlo’n dda ac edrych yn dda ar yr un pryd.

Nodweddion:

  • Nwyddau swyddogol Prifysgol Abertawe
  • Deunydd cynnes a chlyd
  • Poced flaen gyda zip ar y frest chwith – maint perffaith ar gyfer pasbortau, waledau a ffonau
  • Eco-gyfeillgar – wedi’i wneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu
  • Ffit rheolaidd
Siaced Sherpa
Siaced Sherpa

Potel Dŵr Poeth

Mae’r poteli dŵr poeth moethus, blewog, gyda brandio swyddogol Prifysgol Abertawe yn berffaith ar gyfer cwtshio i fyny yn y gwely neu ar y soffa, mynd â nhw i ddarlithoedd ar foreau oer, neu fel anrheg gynnes ar gyfer y Nadolig!

Nodweddion:

  • Nwydd swyddogol Prifysgol Abertawe
  • Gorchudd clyd sy’n teimlo fel cwtsh o gartref
  • Brandio Prifysgol Abertawe wedi’i brodio ar y blaen
  • Amryw o liwiau
  • Dewis eco-gyfeillgar sy’n lleihau eich ôl troed carbon ac yn helpu i arbed costau gwresogi
Potel Dŵr Poeth
Potel Dŵr Poeth

Het Beanie gyda Pom-Pom

Yr ategolyn eithaf – y het beanie! Ychwanegwch bach o steil i unrhyw wisg tra’n cynrychioli eich prifysgol!

Nodweddion:

  • Nwydd swyddogol Prifysgol Abertawe
  • Ffit rhydd, ymestynnol ar gyfer cysur
  • 100% Acrylic Meddal
  • Arddull unisex
  • Gwead trwchus moethus gyda dyluniad cuffed
  • Pom pom ffwr ffug moethus y gellir ei dynnu
  • Label gwyn ar y blaen gyda brand Prifysgol Abertawe
Het Beanie gyda Pom-Pom
Het Beanie gyda Pom-Pom

Tedi – Graddio

Yr anrheg graddio gorau? Rydym yn meddwl mae hi! Mae ein tedi bach annwyl wedi’u gwisgo mewn cap a gown ac yn barod i gymryd y cam nesaf yn eu bywydau bach.

Nodweddion:

  • Nwydd swyddogol Prifysgol Abertawe
  • Cap a gown bach
  • Crest a brandio Prifysgol Abertawe mewn gwyn
  • Rhuban coch
  • Meddal, blewog, a hynod o gwtshlyd
  • Anrheg berffaith ar gyfer ein graddedigion
Tedi – Graddio
Tedi – Graddio

Hoodie Prifysgol Abertawe

Cadwch hi’n syml a chlasurol gyda’n hystod o hoodies premiwm gyda manylion wedi’u brodio. Wedi’u gwneud i’ch cadw’n gynnes ac yn gyfforddus yn y gaeaf (a’r haf) Abertawe!

Nodweddion:

  • Nwyddau swyddogol Prifysgol Abertawe
  • Manylion brodio Prifysgol Abertawe ar draws y frest
  • Poced kangaroo safonol
  • Gorffeniad meddal, wedi’i frwsio’n ysgafn
  • Ar gael mewn amrywo liwiau
Hoodie Prifysgol Abertawe
Hoodie Prifysgol Abertawe

Het Beanie Gorfaint

Yn chwilio am rywbeth wahanol? Mae’r beanies gorfaint hyn wedi’u crefftio o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, felly gallwch edrych yn dda a theimlo’n dda – perffaith ar gyfer cadw’n gynnes y tymor hwn!

Nodweddion:

  • Nwydd swyddogol Prifysgol Abertawe
  • Ffit rhydd, ymestynnol ar gyfer cysur
  • Wedi’i wneud gyda polyester wedi’i ailgylchu
  • Label gwyn ar y blaen gyda brandio Prifysgol Abertawe

Mae beanies yn hanfodol ar y campws, diolch i dywydd hyfryd Abertawe!

Het Beanie Gorfaint
Het Beanie Gorfaint

Tylluan - Graddio

Cwtshlyd, ciwt, a deallus – mae’r tylluanod bach hyn yn anrheg neu’n gofrodd berffaith ar gyfer graddio! Mae ganddynt hyd yn oed eu cap graddedig bach fel y gallwch gydweddu ar y diwrnod mawr!
Edrychwch yn ôl ar atgofion melys o’ch hoff brifysgol gyda’r tylluan bach hwn – maen nhw’n aros i chi fynd â nhw adref!

Tylluan - Graddio