Y ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys y rhan fwyaf o faterion cymunedol yw adnabod eich cymdogion a chyfathrebu mewn modd deallgar a chymdogol.
Mae gan unrhyw un sy'n byw mewn tŷ, boed yn denant neu'n berchennog, yr hawl i fyw ynddo a mwynhau'r tŷ. Gallai'r mwynhad hwn gynnwys gweithgareddau a allai fod yn aflonyddgar ym marn eich cymydog, ond nid yw hyn yn golygu bod cwynion yn gofyn i chi wneud mwy na thrafod y broblem yn anffurfiol.
Drwy gyfnewid rhifau ffôn, er enghraifft, gallwch agor llinell gyfathrebu i drafod problemau, materion neu gwynion. Mae hyn yn golygu bod eich cymdogion yn fwy tebygol o gysylltu â chi'n uniongyrchol yn ystod y sefyllfa sy'n tarfu arnynt, yn hytrach na chwyno i'r tîm Cymuned neu'r heddlu lleol.
Mae'n gwrtais hefyd roi gwybod i'ch cymdogion ymlaen llaw os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad yn eich cartref a allai darfu arnynt. Mae neges destun neu nodyn drwy'r blwch llythyrau bob amser yn cael ymateb da, yn ogystal â rhodd fach megis siocledi neu flodau os aeth yr hwyl yn y tŷ ymlaen yn arbennig o hwyr.
Rydym ni'n cynghori cymdogion i siarad â'i gilydd ag empathi a cheisio meddwl am sut bydden nhw'n teimlo pe tasai'r rolau i'r gwrthwyneb, gan obeithio datrys problemau eu hunain pan fo'n bosibl. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn llwydo, gallwch gysylltu â'r tîm am gymorth i gyflafareddu gwrthdaro a thensiwn rhwng cymdogion os oes ei angen.