Adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein cymuned o fyfyrwyr

Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd (2021-2025) sy’n cydweddu â Gweledigaeth Strategol a Phwrpas y Brifysgol - yn nodi sut rydym yn gweithredu ein Polisi Cynaliadwyedd, ac yn ein hymrwymo i gamau gweithredu ar draws pedair thema allweddol:Yr Argyfwng Hinsawdd, Ein Hamgylchedd Naturiol, Ein Hamgylchedd Gwaith ac Ein Teithio.

Mae ymagwedd arloesol y Brifysgol at gynaliadwyedd yn annog myfyrwyr, staff ac aelodau o’r gymuned i ysgogi'r broses o ddod yn brifysgol sy’n gwbl gynaliadwy ac integredig.

Yn ogystal â lleihau ein heffaith bersonol a’n cyd-effaith ar ein planed, ein nod yw grymuso ein graddedigion i adael y brifysgol gyda’r sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i wireddu newid ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Cliciwch ar y delweddau isod i ddarllen am wybodaeth cynaliadwyedd i fyfyrwyr!

HELPWCH NI I AROS YN WYRDD YNGHYFNOD Y NADOLIG HWN

Gallwch ein helpu i aros yn wyrdd y tymor Nadolig hwn. Cyn i chi fynd i ffwrdd ar gyfer y gwyliau, edrychwch ar ein prif gynghorion cynaliadwy isod.

I ddysgu mwy am ein stori cynaliadwyedd a sut gall ein cymuned o fyfyrwyr ein helpu i'w hadeiladu, cliciwch yma i fynd i'r brif wefan lle cewch wybodaeth am y canlynol: rheoli carbon, caffael cadarnhaol, labordai cynaliadwy, sefydlu a hyfforddiant, a llawer mwy. Oes gennych gwestiwn i ni? Gallwch gysylltu â'r tîm yma.