GWYBODAETH A CHANLLAWIAU DIOGELWCH I FYFYRWYR ISRADDEDIG
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd ymagwedd synhwyrol at reoli iechyd a diogelwch.
Dan arweiniad ein Polisi Iechyd a Diogelwch Cynhwysfawr, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff rheolaeth iechyd a diogelwch ei gwreiddio yn y ffordd rydym yn rheoli ein gweithrediadau busnes o ddydd i ddydd. Mae ein tîm o weithwyr iechyd a diogelwch ymroddedig yn gweithio gyda staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol i wreiddio diwylliant iechyd a diogelwch a gwella ein prosesau a’n gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â diwylliant iechyd a diogelwch yn barhaus er mwyn sicrhau y gall ein myfyrwyr a'n staff ymgymryd â'u hymchwil, gweithio ac astudio'n ddiogel.
Mae diogelwch ein staff, ein myfyrwyr a'n hymwelwyr yn bwysig iawn i ni. Os ydych chi wedi cael profiad o ddigwyddiad niweidiol, a fyddech gystal â rhoi gwybod amdano gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein syml isod.