Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad sy'n ymroddedig i weithredu ar sail ddiogel a gwydn. Rydym yn croesawu ein myfyrwyr, ein staff a'n hymwelwyr i amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n grymuso pobl i gyflawni eu potensial a rhagoriaeth. Rydym yn ymroddedig i wreiddio rheolaeth iechyd a diogelwch ardderchog ar draws y Brifysgol drwy arfogi ein staff a'n myfyrwyr â'r sgiliau, yr arfau a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i amddiffyn pobl rhag niwed gan amddiffyn llwyddiant a thwf ein busnes yn y dyfodol.
Diogelwch Mangreoedd
Asbestos
Rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu cynllunio a threfnu gwaith i’w gyflawni gan gontractwyr ar y campws gysylltu â’r adran Ystadau a Rheoli Cyfleusterau cyn gynted â phosibl (h.y. yn ystod y cyfnod cynllunio) i gael unrhyw wybodaeth iechyd a diogelwch berthnasol cyn adeiladu er mwyn cydymffurfio â’i ddyletswyddau dan Reoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM) 2015. Bydd hyn yn galluogi’r holl wybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch, megis lleoliad unrhyw ddeunyddiau hysbys sy’n cynnwys asbestos/gweithdrefnau trwyddedu ac ati, i gael ei darparu i’r contractwyr, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau’n ddiogel ac yn llwyddiannus. Cafodd adeiladau ar Gampws Singleton eu hadeiladu pan oedd asbestos yn cael ei ddefnyddio’n aml. Fodd bynnag, mae gan y Brifysgol gynllun rheoli asbestos cadarn i leihau’r peryglon. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am weithdrefnau mewn argyfwng, cysylltwch â'r Rheolwr Tân ac Adeiladau: Ffôn: 01792 (29)5240 neu e-bostiwch y Tîm Iechyd a Diogelwch.
Dogfennau Ategol
Cyfeiriwch at y canllaw ar Gôd Arferion Diogelwch Contractwyr y Gwasanaethau Ystadau a Rheoli Cyfleusterau am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob contractwr ar y safle gadw at safonau iechyd a diogelwch, gweithdrefnau a gweithdrefnau amgylcheddol y Brifysgol.
Cewch ragor o wybodaeth am Asbestos ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Dylunio a Rheoli Adeiladu
Os ydych yn gwneud ‘gwaith adeiladu’ neu’n cyfarwyddo contractwyr i wneud hynny, mae gennych ddyletswyddau dan reoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu 2015. Mae ‘gwaith adeiladu’ yn cynnwys adeiladu, gosod, rhedeg gwifrau trydanol neu ddata, cynnal digwyddiadau, codi pebyll mawr a rhywfaint o waith cynnal a chadw. Mae’n bwysig cofio os byddwch yn cael unrhyw waith o’r fath wedi’i wneud neu os mai chi fydd yn ei gyflawni, byddwch chi’n ddeiliad dyletswyddau a bydd angen i chi gael gwybodaeth a dealltwriaeth o Reoliadau CDM 2015 a’r ddogfen HSE L153 ategol cyn dechrau unrhyw brosiect. Os oes angen eglurhad arnoch ynghylch a yw’r math penodol o waith yr ydych am ei wneud yn cael ei ystyried yn waith adeiladu, neu i drefnu hyfforddiant CDM, cysylltwch â’ch Cydgysylltydd Iechyd a Diogelwch neu’r Tîm Iechyd a Diogelwch.
Rhif ffôn: 01792 (29)5240 neu e-bostiwch y Tîm Iechyd a Diogelwch.
Beth bynnag fo’ch rôl yn y gwaith adeiladu, rhaid i chi:
gynllunio’r gwaith yn synhwyrol fel bod y risgiau cysylltiedig yn cael eu rheoli o’r dechrau i’r diwedd;
sicrhau bod gan y bobl sy’n gwneud y gwaith yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i wneud hynny;
cael y bobl gywir ar gyfer y gwaith cywir ar yr amser cywir;
cydweithredu a chydgysylltu eich gwaith ag eraill;
cael yr wybodaeth gywir am y risgiau a sut maen nhw’n cael eu rheoli;
cyfathrebu’r wybodaeth hon yn effeithiol i’r rheini y mae angen iddynt ei gwybod;
ymgynghori ac ymgysylltu â gweithwyr am y risgiau a sut maen nhw’n cael eu rheoli.
Os oes angen mwy o gyngor a chymorth arnoch o ran unrhyw waith adeiladu, cysylltwch â desg gymorth yr adran Ystadau a Rheoli Cyfleusterau: 01792 (29)5240
Rhagor o wybodaeth am CDM
Diogelwch Trydanol
Y tri math gwaethaf o beryglon trydanol yw: cyfarpar diffygiol neu hen gyfarpar, pan fydd rhannau trydanol byw yn dod i gysylltiad â dŵr a chrefftwaith esgeulus neu grefftwaith ddrwg. Nid oes angen i’r un o’r peryglon hyn ddigwydd. Ni ddylai staff a myfyrwyr geisio tarfu ar gyfarpar trydanol na’i drwsio ar unrhyw adeg, oni bai ei fod yn rhan o’ch gwaith a’ch bod wedi eich hyfforddi i drwsio’r cyfarpar yn ddiogel. Os canfyddir nad yw peiriant/cyfarpar yn gweithio neu ei fod mewn cyflwr peryglus, dylid sôn wrth eich Cydgysylltydd Iechyd a Diogelwch ar unwaith, a fydd yn trefnu i’r eitem gael ei thrwsio gan staff technegol cymwys neu i gael eitem newydd yn ei lle. Dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r peiriant/cyfarpar nes iddo gael ei asesu. Peidiwch â cheisio addasu cyfarpar nad yw wedi’i ddatgysylltu’n gyfan gwbl o’r prif gysylltiad. Os oes gennych amheuon, cysylltwch ag Arweinydd Iechyd a Diogelwch eich Coleg neu Ystadau a Rheoli Cyfleusterau i gael cyngor. Rhaid i bob cyfarpar trydanol gael ei wasanaethu gan staff technegol cymwys, neu gan gontractwyr a benodir.
Desg Gymorth Ystadau a Rheoli Cyfleusterau: 01792 (29)5240
Mae’r adran Ystadau a Rheoli Cyfleusterau yn trefnu bod yr holl gyfarpar trydanol ac electronig cludadwy ar draws y Brifysgol yn cael eu profi bob blwyddyn. Os byddwch yn datgomisiynu darn o gyfarpar neu’n prynu rhywbeth newydd, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’r adran Ystadau a Rheoli Cyfleusterau er mwyn diweddaru’r gofrestr gyfarpar yn barod ar gyfer y profion. Rhaid i staff neu fyfyrwyr y mae angen iddynt ddefnyddio cyfarpar foltedd uchel fel rhan o’u prosiect neu waith ymchwil roi gwybod i’r Cydgysylltydd Iechyd a Diogelwch a rhaid cwblhau asesiad risg cyn dechrau ar unrhyw waith. Dylech ymgyfarwyddo â’r switsys stopio mewn argyfwng ar y peiriannau/cyfarpar yn eich man gwaith a sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’r prif switsys.
Ar gyfer pob argyfwng, cysylltwch â'r tîm Diogelwch drwy ffonio 333 neu drwy'ch ap SafeZone
Tân
Eich cyfrifoldeb chi yw gadael adeilad os bydd y larwm tân yn canu.
Os oes gennych chi anabledd a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol cael cymorth i adael adeilad yn ddiogel, cyfeiriwch at y cyngor isod ar Gynlluniau Gadael mewn Argyfwng Personol (PEEP).
Dylech chi ymgyfarwyddo â llwybrau gadael mewn argyfwng, allanfeydd a phwyntiau ymgynnull os bydd tân ar gyfer yr adeilad rydych chi'n ei ddefnyddio yn y Brifysgol. Darperir arwyddion cyfeiriadol i’ch helpu i nodi’r llwybrau dianc a’r allanfeydd mewn sefyllfa o argyfwng. Os oes gennych bryderon mewn perthynas â diogelwch tân yn eich adeiladau, dylech chi roi gwybod am hyn wrth Arweinydd Iechyd a Diogelwch eich Coleg/Uned Gwasanaeth Proffesiynol neu'n uniongyrchol wrth Reolwr Tân ac Adeiladau'r Brifysgol, Phil Moreman, yn y lle cyntaf.
Os bydd y larwm tân yn canu:
Mae'n rhaid i'r holl staff a myfyrwyr adael eu hadeiladu ar unwaith pan fydd y larwm tân yn canu. Os byddwch chi'n gweld mwg, fflamau neu'n arogleuo llosgi ac nid yw'r larwm tân wedi seinio eto:
- Seiniwch y larwm ar unwaith trwy dorri gwydr y man actifadu larwm agosaf (blwch coch).
- Ffoniwch 333 ar unwaith ar ôl gadael yr adeilad a rhowch leoliad y tân, gan ddweud ar ba campws ac ym mha adeilad.
Wrth adael yr adeilad oherwydd seinio'r larwm tân:
Caewch ddrysau a ffenestri eich gweithle (os yw'n ddiogel i wneud hynny) wrth adael yr adeilad.
Pan fyddwch allan o'r adeilad, ewch i'r Man Ymgynnull tân perthnasol i'r adeilad ac arhoswch am gyfarwyddiadau pellach gan y Rheolwr Digwyddiadau (Y Goruchwylydd Diogelwch).
Os oes gennych wybodaeth mewn perthynas â phobl sydd yn yr adeilad o hyd, dywedwch wrth Reolwr y Digwyddiad (y Goruchwylydd Diogelwch) cyn gynted â phosib.
Mae offer diffodd tân (diffoddwyr tân) wedi'u lleoli ym mhob adeilad i hwyluso gadael yn ddiogel.
Cynlluniau Gadael mewn Argyfwng Personol PEEPs
Os oes gennych chi gyflwr sy’n effeithio ar eich gallu i adael yr adeilad mewn argyfwng, gellir datblygu cynllun personol i’ch helpu i adael yr adeilad yn ddiogel mewn argyfwng. Bydd y cynllun wedi’i deilwra i’ch gofynion penodol a’i ddatblygu gyda chi. Am gyngor a chefnogaeth wrth ddatblygu eich PEEP, cysylltwch â'r Swyddfa Anableddau – (01792 602000). Fel arall, e-bostiwch y Tîm Iechyd a Diogelwch.
Peidiwch â symud na tharfu ar unrhyw gyfarpar a gyflenwir ar gyfer diogelwch tân.
Os byddwch chi'n sylwi bod offer tân ar goll neu wedi'i ddifrodi, rhowch wybod amdano i Arweinydd Iechyd a Diogelwch eich Coleg/Uned Gwasanaeth Proffesiynol neu'r Tîm Iechyd a Diogelwch ar unwaith. Dylech chi dim ond ddefnyddio offer diffodd tân os ydych chi'n gymwys ac os yw'n ddiogel i wneud hynny.
Mae atal tân yn rhan o'ch cyfrifoldeb chi:
- Dylech chi dim ond ddefnyddio ceblau estyn trydanol os ydych chi wedi cael caniatâd gan Ystadau a Rheoli Cyfleusterau – sicrhewch fod ceblau estyn wedi’u datod yn llawn cyn eu defnyddio.
- Ni ddylid cysylltu ceblau estyn at ei gilydd, fel cadwyn.
- Gwiriwch ddyfeisiau trydanol am ddifrod cyn eu defnyddio.
- Rhowch wybod am offer os yw wedi'i niweidio neu os nad oes sticer prawf teclyn cludadwy (PAT) arno.
- Ni chaniateir ysmygu o fewn 5 metr o adeilad ac fe'i caniateir ar y campws mewn parthau dynodedig yn unig.
- Gwnewch yn siŵr bod sigaréts a matsis yn cael eu diffodd a’u gosod yn y biniau a ddarparwyd.
- Sicrhewch fod yr holl wastraff yn cael ei waredu’n ddiogel yn unol â’r cynllun rheoli gwastraff.
- Peidiwch â chronni llawer o wastraff.
- Gwnewch eich gorau i gadw eich amgylchedd gwaith yn lân ac yn ddiogel trwy gadw ardaloedd yn daclus a chael gwared â pheryglon, megis gwifrau (y gellir baglu trostynt) a phentyrrau o bapur (perygl tân).
- Peidiwch byth ag anwybyddu perygl posibl, hyd yn oed os nad yw yn eich ardal waith chi.
- Peidiwch â rhoi plocyn i ddal drysau tân ar agor.
- Peidiwch â gorchuddio synwyryddion mwg.
- Peidiwch â defnyddio tostwyr/microdonnau neu griliau cludadwy mewn swyddfeydd/ystafelloedd preswyl.
- Rhaid i’r rhain fod mewn ardaloedd cegin dynodedig.
- Peidiwch â defnyddio gwresogyddion trydanol cludadwy heb awdurdod gan Ystadau a Rheoli Cyfleusterau
Mae llawer o nwyon yn hynod losgadwy ac os byddwch chi’n gallu arogleuo nwy, rhaid i chi:
- Hysbysu pawb yn yr ardal a sicrhau bod pawb yn ei gadael.
- Dweud wrth y Tîm Diogelwch – ffoniwch 333 neu defnyddiwch yr ap SafeZone.
- Peidiwch â seinio’r larwm tân neu droi dyfeisiau trydanol ymlaen neu eu diffodd.
- Os yw’n ddiogel i wneud hynny, dylech ddiffodd y ffynhonnell nwy os ydych chi’n gallu ei gweld.
Dogfennau Ategol
Clefyd y lleng milwyr
Bacteriwm yw legionella pneumophila (a bacteria cysylltiedig) sy’n gallu achosi clefyd lleng y milwyr, sy’n gallu achosi ffurf farwol o niwmonia. Mae’r symptomau cychwynnol yn cynnwys tymheredd uchel, oerfel a phoen yn y pen a’r cyhyrau. Fel arfer, caiff yr haint ei hachosi drwy anadlu diferion bach o ddŵr sy’n cynnwys y bacteria.
Er y gall y clefyd effeithio ar unrhyw un, mae rhai pobl mewn perygl mwy, e.e. pobl dros 45 oed, pobl sy’n ysmygu, pobl sy’n yfed yn drwm, pobl sy’n dioddef o glefyd anadlol cronig neu glefyd yr arennau a phobl y mae nam ar eu systemau imiwnedd. Mae bacteria legionella yn bresennol yn yr amgylchedd yn naturiol. Fodd bynnag, os caniateir i facteria ffynnu a thyfu, bydd y risg o glefyd lleng y milwyr yn cynyddu.
Mae bacteria legionella yn goroesi mewn tymheredd isel, gan ffynnu rhwng 20-45°C os yw’r amgylchiadau’n gywir, e.e. os yw’r maetholion yn bresennol, megis rhwd, slwtsh, cennau, algâu neu facteria eraill.
Rhaid rhoi gwybod am yr holl achosion posib o glefyd y llengfilwyr wrth y Tîm Iechyd a Diogelwch ar unwaith, a byddant yn hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os bydd angen. Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud fesul achos.
Mae gan Golegau/Unedau Gwasanaeth Proffesiynol rwymedigaeth benodol dan Reolaethau Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH) i asesu’r risg o fod yn agored i sylweddau sy’n beryglus i iechyd a rhoi rheolau priodol ar waith i reoli risgiau. Mae hyn yn cynnwys cyfryngau biolegol megis legionella.
Yn eich Colegau/Unedau Gwasanaeth Proffesiynol, yn gyntaf bydd yn rhaid i chi nodi pa offer/systemau sy’n cael eu defnyddio a allai beri risg o glefyd y llengfilwyr. Fel gydag unrhyw berygl, bydd angen asesu’r risg a’i dileu neu ei reoli.
Y Coleg/Uned Gwasanaeth Proffesiynol sy’n gyfrifol am gynnal a sicrhau diogelwch offer/systemau ‘dan berchnogaeth’ Coleg/Uned Gwasanaeth Proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys asesu unrhyw risg o legionella sy’n gysylltiedig â gweithrediad offer/system. Fel rhan o’r broses hon, argymhellir y caiff asesiadau eu trafod â’r Rheolwr Tân a Mangreoedd/Swyddogion Cydymffurfio fel y gellir datblygu a chyflwyno rheolau priodol. Bydd y Rheolwr Tân a Mangreoedd hefyd yn gallu cael cyngor allanol ar y risgiau o glefyd y llengfilwyr sy’n gysylltiedig ag offer arbenigol neu risg uwch os bydd angen.
Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth Clefyd y Llengfilwyr ar gael ar ein tudalennau hyfforddiant.
Dogfennau Ategol
Find out more about Legionella.