Mae silindrau nwy yn ffordd hwylus o gludo a storio nwyon dan bwysau. Caiff nifer o wahanol nwyon eu defnyddio mewn labordai ar draws y Brifysgol at amrywiaeth o ddibenion gwyddonol. Fodd bynnag, nid yn union mae peryglon yn deillio o’r nwy ei hun ond hefyd o sut mae’n cael ei storio – dan bwysau.
Gall silindrau o nwy cywasgedig fod yn berygl penodol yn ystod tân, ac yn aml mae angen gwybodaeth ar y Gwasanaethau Brys o ran lleoliad silindrau nwy mewn adeilad er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill.
Bydd y Cydgysylltydd Iechyd a Diogelwch yn eich Coleg/PSU yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar systemau nwy cywasgedig, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt. Fodd bynnag, gall y gwaith pob dydd o reoli nwyon cywasgedig gael ei roi yn nwylo aelod cymwys o’r tîm. Ni chaniateir gwneud gwaith gyda nwy cywasgedig sy’n gallu gwneud cyflogwyr, myfyrwyr neu ymwelwyr yn agored i risgiau’r defnyddio nwyon cywasgedig, ymdrin â nhw a’u storio oni bai fod y risgiau wedi’u rheoli drwy broses rheoli risg. Dim ond pobl sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant canlynol sydd ag awdurdod i ddefnyddio/newid/symud silindr nwy cywasgedig. Darperir hyfforddiant ymarferol ar gyfer ymdrin â silindrau yn eich Coleg/Uned Gwasanaeth Proffesiynol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Cydgysylltydd Iechyd a Diogelwch.
Rhaid i bob defnyddiwr ddilyn y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ar gyfer newid silindrau nwy a amlinellwyd yn y trefniadau polisi. Maent hefyd yn cynnwys manylion am ddewis rheoleiddiwr a’r rhaglen amnewid (bob 5 mlynedd). Rhaid i’r holl nwyon a gafaelir ac a gedwir ar y campws gael eu nodi yn y gronfa ddata Quartzy. Nodwch yr wybodaeth dan y categori perthnasol yn y gronfa ddata, e.e. Nwyon Campws y Bae neu Nwyon Campws Singleton.
I ganfod a oes gan eich cyflenwad nwy anadweithiol y potensial i wacáu’r ocsigen yn yr ystafell i lai na 19.5% (os felly, bydd angen monitro ocsigen), defnyddiwch y Cyfrifiannell Gwacáu Ocsigen.
Rhaid i bob gosodiad newydd fod yn unol â’r trefniadau polisi.
O ran unrhyw gyflenwad sy’n fwy na 0.5 Bar PSU, rhaid i’r cyflenwr/gosodwr ddarparu cynllun archwilio ysgrifenedig fel rhan o’r llawlyfr gweithredu a chynnal a chadw wrth drosglwyddo’r prosiect.
O ran prosiectau a gosodiadau newydd, bydd cydgysylltydd y prosiect yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun ysgrifenedig ar waith (lle bo’n briodol) ac am hysbysu’r adran Ystadau a Rheoli Cyfleusterau o unrhyw osodiadau nwy cywasgedig y bydd angen eu profi yn y dyfodol dan PSSR 2000.
O ran gosodiadau sy’n bodoli eisoes, rhaid i Bennaeth y Coleg gynnal adolygiad o osodiadau’r nwy cywasgedig er mwyn pennu a oes angen cynllun ysgrifenedig ac a oes angen archwilio/profi.
Bydd yr holl nwyon gwenwynig a fflamadwy yn cael eu gosod o’r pwynt defnyddio ac mewn cabinet sy’n gallu gwrthsefyll tân am o leiaf 30 munud. Nid oes angen storio nwyon anadweithiol ac ocsigen mewn cabinet.
Os oes angen eglurhad pellach arnoch, cysylltwch â’r adran Ystadau a Rheoli Cyfleusterau ar: 5240
Dogfennau Ategol
Oxygen Depletion Calculator