MAE ADRODD AM DDIGWYDDIADAU NIWEIDIOL YN BWYSIG
Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad Niweidiol
Mae'n bwysig iawn bod staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â'n campysau yn adrodd am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol, er mwyn i ni roi mesurau ar waith i’w hatal rhag digwydd eto.
Caiff digwyddiadau niweidiol eu diffinio fel:
- Damwain: digwyddiad sy'n arwain at anafiadau, salwch neu niweidio'r amgylchedd;
- Digwyddiad:
- Digwyddiadau o drwch blewyn: digwyddiad nad yw'n achosi niwed, ond sydd â'r potensial i achosi anafiadau, salwch (gan gynnwys digwyddiadau peryglus) neu niweidio'r amgylchedd;
- Amgylchiadau annymunol: set o amodau neu amgylchiadau sydd â'r potensial i achosi anafiadau neu salwch neu niwed i'r amgylchedd. Er enghraifft, technegwyr labordy anghymwys yn ymdrin â chemegion.
- Digwyddiad peryglus: un o nifer o ddigwyddiadau niweidiol penodol y gellir rhoi gwybod amdanynt, fel y'u diffinnir yn Rheoliadau Rhoi Gwybod am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995 (RIDDOR)
Os ydych chi wedi profi digwyddiad niweidiol, cwblhewch y ffurflen isod.
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'n tîm iechyd a diogelwch pwrpasol.