Cyrraedd a’r Camau Nesaf
Eich cyfeiriad
GWE001/07 – rhowch eich adeilad, eich fflat a rhif eich ystafell yn eu lle
Neuadd Gwenllian – rhowch enw eich adeilad yn ei le
Llety Myfyrwyr
Prifysgol Abertawe
Campws y Bae
Ffordd Fabian
Abertawe
SA1 8EP
BH D02/09 - rhowch enw eich bloc, eich fflat a rhif eich ystafell yn eu lle
Bloc D - rhowch enw eich adeilad yn ei le
Tŷ Beck
Heol Sgeti
Uplands
Abertawe
SA2 0NG
Gan ddibynnu ar eich bloc, bydd eich côd post yn amrywio. Gweler eich côd post isod:
Bloc A: SA2 0NF
Bloc B: SA2 0NF
Bloc C: SA2 0NF
Bloc D: SA2 0NG
Bloc E: SA2 0NH
Bloc F: SA2 0NL
Bloc G: SA2 0NL
CAS109 – rhowch eich adeilad, eich fflat a rhif eich ystafell yn eu lle
Caswell – rhowch enw eich adeilad yn ei le
Campws Parc Singleton
Prifysgol Abertawe
Abertawe
SA2 8PJ – dewiswch o'r isod
Gan ddibynnu ar eich preswylfa, bydd eich côd post yn amrywio. Gweler isod ar gyfer eich côd post:
Caswell: SA2 8PJ
Cefn Bryn: SA2 8PT
Horton: SA2 8PH
Cilfái: SA2 8PU
Langland: SA2 8PL
Oxwich: SA2 8PQ
Penmaen: SA2 8PG
Preseli: SA2 8PS
Rhosili: SA2 8PT
A1601A – rhowch rif eich fflat a’ch ystafell yn eu lle
Seren
66 Alexandra Road
Abertawe
SA1 5BD
4039 – newid gyda rhif eich ystafell
Block 4 – amnewid gyda'ch rhif bloc
true Swansea
50 Morfa Road
Abertawe
SA1 2FD
Cloi Allan
Mae'n digwydd... rydych chi’n colli’ch allwedd neu'n cloi eich hun allan o’ch ystafell.
Siaradwch ag aelod o’r staff yn Nerbynfa eich Safle, sy'n gallu rhoi allwedd dros dro i fynd i mewn i’ch llety. Rhaid i chi roi prawf adnabod i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd yr allwedd erbyn 10am y bore canlynol i osgoi talu ffi am ddychwelyd yn hwyr.
Sylwer y codir ffi ar ôl i chi gloi eich hun allan 5 gwaith ac ar ôl pob 5 tro wedi hynny.
Os byddwch chi’n colli eich allwedd neu’ch cerdyn mynediad, bydd rhaid talu ffi o £8.50 i gael un newydd a chaiff hon ei hychwanegu at eich cyfrif. Bydd yn rhaid talu’r ffi hon wrth gael eich anfoneb nesaf.
Peidiwch ag ymyrryd â cherdyn mynediad na’i ddifwyno, h.y. creu tyllau ynddo, gan y bydd hyn yn atal y cerdyn rhag gweithio gan arwain at ffi am gerdyn newydd.
Allweddi a Mynediad
Os oes gennych chi broblemau gyda’ch cerdyn mynediad neu’ch allweddi, siaradwch ag aelod o’r staff yn nerbynfa eich Safle.
Ymwelwyr a gwesteion
Am resymau Iechyd a Diogelwch, rhaid i bob gwestai sy'n aros dros nos gael ei gofrestru yma cyn iddo gyrraedd.
- Gall 1 ymwelydd dros 18 mlwydd oed aros dros nos gyda phob preswylydd, am hyd at uchafswm o 3 noson bob tymor.
- Ar gyfer myfyrwyr sy'n byw mewn ardal Un Rhyw, dylai gwesteion fod o'r un rhyw â’r preswylwyr (oni cheir caniatâd HOLL breswylwyr y fflat).
- Os byddwch chi’n gwahodd ffrindiau i ddod draw, sylwer bod yn rhaid i chi fod yn bresennol bob amser, a bydd disgwyl i chi gymryd cyfrifoldeb llawn am eu hymddygiad.
- Er eich diogelwch a’ch lles eich hun, rydym ni'n eich cynghori i beidio â dod â gwesteion i breswylfeydd oni bai eich bod yn eu hadnabod.
- Mae gan staff Diogelwch a Phreswylfeydd yr hawl i wrthod hawl gwesteion i aros dros nos a'u gorfodi i adael os nad ydynt yn ufuddhau i'r rheoliadau a amlinellir yn y ffurflen uchod.
Sŵn ac oriau tawel
Un o'r pethau pwysicaf i'w hystyried wrth fyw gyda phobl eraill yw lefelau sŵn. Mewn cymunedau mawr, bydd lefelau anochel o sŵn cefndirol, ond bydd ystyried eich cyd-drigolion a'ch cymdogion yn gwneud eich amser mewn preswylfeydd yn fwy pleserus i bawb. Os bydd lefelau sŵn yn tarfu arnoch chi, yn y lle cyntaf dylech chi siarad â'r rhai sy'n gyfrifol yn eich barn chi. Os yw sŵn yn tarfu arnoch chi o hyd, gallwch chi gysylltu â'r Tîm Bywyd Preswyl neu'r tîm Diogelwch.
Gwres, a dŵr poeth
Darperir dŵr poeth ar sail system galw a chyflenwi y bydd preswylwyr yn gallu ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r gwres canolog drwy'r preswylfeydd yn gweithredu ar sail system dymhorol felly bydd yn diffodd yn ystod y misoedd cynhesach ac yn gweithredu eto yn ystod y misoedd oerach.
- Mae’r tymheredd yn cael ei reoleiddio gan system synhwyrydd rheoli effeithlon sy'n effeithio ar y tymheredd mewnol. Mae'r gwres a gyflenwir i'r adeilad wedi'i gynllunio i fod yn gyfforddus, wrth gadw ynni.
- Mae rheiddiaduron yn darparu'r gwres ym mhob ystafell ac yn cael eu rheoli gan falf rheiddiadur thermostatig (TRV). Mae TRV yn falf hunanreoleiddiol i reoli'r tymheredd; Gallwch chi addasu'r TRV sydd wedi'i rifo 0-5 ar ochr pob rheiddiadur.
- I gadw eich ystafell mor gynnes â phosibl, caewch eich ffenestr pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell.
- Peidiwch â defnyddio ffynonellau gwres ychwanegol fel gwresogyddion trydan gan y gallent achosi tân ac ymyrryd yn sylweddol â phrif system wresogi'r adeilad – gall defnyddio gwresogydd anfon neges i'r thermostat bod yr adeilad yn rhy gynnes, sy'n golygu bod y gwres canolog yn cael ei ddiffodd.
Polisi Diogelwch Trydanol a Phrofion Dyfeisiau Cludadwy
Mae eich diogelwch o’r pwys mwyaf i ni ac mae diogelwch trydanol yn bwysig iawn yn y llety. Rydym yn gofyn i chi ddilyn y canlynol:
- Os ydych yn dod â chyfarpar i'ch llety yn y Brifysgol, chi sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn ddiogel o safbwynt trydanol ac yn addas ar gyfer systemau trydanol y DU.
- Caiff dyfeisiau trydanol sy'n rhoi gormod o straen ar y system drydanol neu yr ystyrir nad ydynt yn ddiogel neu'n addas i'w defnyddio eu symud a'u storio tan ddiwedd y flwyddyn.
- Y pŵer a gyflenwir yw 240v a rhaid defnyddio plygiau 3 phin.
- Peidiwch â gorlwytho socedi na chysylltu mwy nag un addasydd trydanol. Caniateir un addasydd â sawl soced i'w ddefnyddio gyda chyfarpar watedd isel yn unig, megis cyfrifiadur ac argraffydd, ym mhob ystafell. Gweler Atodiad A a B.
- Ni ellir defnyddio cyfarpar na phlygiau cysylltiedig o'r tu allan i'r DU i addasu’r cyfarpar i ddyfeisiau'r DU oni bai eu bod wedi'u harchwilio a'u cymeradwyo gan y Brifysgol. Gweler Atodiad C.
- Os oes unrhyw amheuaeth gennych ynghylch addasrwydd eich offer trydanol, cysylltwch â'r Dderbynfa a chynhelir prawf trydanol ar bob dyfais, yn ôl yr angen.
- Mae'r Brifysgol yn cynnal profion dyfeisiau cludadwy blynyddol lle caiff yr holl gyfarpar mewn ardaloedd cymunol ei brofi.
- Mae'r eitemau na ddylid dod â hwy i lety'r brifysgol yn cynnwys
- Addasyddion ciwb (mwy nag un). Gweler Atodiad D.
- Eitemau y mae angen addasydd trydanol cyfandirol arnynt i weithio.
- Gwresogyddion trydanol
- Peiriannau sychu dillad trydanol cludadwy
- Blancedi electronig
- Peiriannau ffrio dwfn
- Cyfarpar golchi dillad, gan gynnwys peiriannau golchi a sychu dillad
- Sgwteri neu feiciau trydan yn y llety
Mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn darparu cyngor a gwybodaeth ynghylch defnyddio dyfeisiau trydanol yn y DU:
Yswiriant Eiddo Personol a Chynnwys
Mae eich eiddo personol yn eich llety wedi'i yswirio drwy bolisi yswiriant eiddo Endsleigh.
Rydym yn eich annog i adolygu eich yswiriant er mwyn:
- Gwirio beth sydd wedi'i gynnwys
- Gwirio eithriadau a chyfyngiadau allweddol
- Gwirio tâl dros ben y polisi
- Gwirio sut i wneud hawliad
- Penderfynwch a ydych chi am estyn a phersonoli eich yswiriant i ddiogelu eitemau gwerthfawr erail
Er mwyn gwella eich polisi i gynnwys eitemau drud (e.e. offer trydanol neu feiciau) cysylltwch ag Endsleigh: endsleigh.co.uk/personal/student-insurance