Nod Bywyd Preswyl yw gwneud eich profiad fel myfyriwr, wrth fyw mewn preswylfeydd, y gorau y gall fod. Rydyn ni yma i wrando ar eich pryderon a darparu mynediad at wasanaethau cymorth perthnasol. Nid meddygon proffesiynol, cymdeithasegwyr na chwnselwyr hyfforddedig ydyn ni, ond rydyn ni'n gwybod sut i'ch rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw weithwyr proffesiynol a all eich cefnogi.
Mae'r Tîm Bywyd Preswyl yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol, a gallan nhw eich helpu i deimlo'n fwy gartrefol ac yn rhan o gymuned y myfyrwyr. Mae gan y tîm gysylltiadau cryf ag Undeb y Myfyrwyr, Bod yn ACTIF, prosiectau Yr Hafan a'r Goleudy a chyda'n gilydd rydyn ni wedi llunio calendr o ddigwyddiadau a fydd yn eich helpu i ymsefydlu ar y campws.
Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n gallu defnyddio'r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch ystod eang o faterion. Mae angen cymorth ar bawb o bryd i'w gilydd, ac mae gennym dîm o arbenigwyr wrth law i'ch helpu i weithio drwy unrhyw anawsterau.
Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol am fywyd fel myfyriwr, problem benodol neu os hoffech chi gael sgwrs fach am rywbeth, mae BywydCampws yn lle da i ddechrau.
Hefyd, mae Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyngor a chynrychiolaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Maen nhw'n ymdrin â phob maes materion myfyrwyr; fel pryderon ariannol, trafferthion academaidd a phroblemau tai. Gallwn ni hyd yn oed eich cynghori ar faterion cyfreithiol a'ch cefnogi gyda phroblemau personol.