Eich Cyfeiriad Post

Gellir dod o hyd i’ch cyfeiriad post llawn yma.


Dylech chi strwythuro eich cyfeiriad post fel a ganlyn:
Eich Enw / Rhif eich Ystafell / Rhif y Fflat / Enw'r Adeilad


Dylai eich enw ymddangos fel y mae ar eich cyfrif myfyriwr; nid yw'r system yn adnabod llysenwau. Yn ogystal, gall ychwanegu eich rhif myfyriwr ein helpu i gofnodi eich parsel pan fydd nifer o fyfyrwyr â'r un enw neu enw tebyg.

Parseli a Phost Arall

Gellir casglu post a pharseli eraill o:


Campws y Bae: Yr Ystafell Bost, sydd wrth ymyl y Golchdy.
Dydd Llun i ddydd Gwener – 09:00 – 17:00


Pob safle arall: Derbynfa eich Preswylfa yn ystod yr oriau agor.

  • Os oes parsel neu bost cofrestredig wedi'i dderbyn, byddwch chi’n derbyn e-bost awtomataidd (neu hysbysiad Home at Halls ar gyfer preswylwyr Campws y Bae) a fydd yn cael ei anfon i’ch cyfrif e-bost myfyriwr.
  • Arhoswch tan i chi dderbyn yr e-bost gan y tîm cyn dod i gasglu parsel. Efallai byddwch chi’n derbyn e-bost tracio yn dweud bod y parsel gyda negesydd sydd wedi dod â hwn i'r Brifysgol; mae'n rhaid ychwanegu'r parseli at ein system cyn y gellir eu casglu, felly arhoswch am yr e-bost awtomataidd.
  • Rhaid i chi ddod â dull adnabod â llun gyda chi (eich cerdyn adnabod myfyriwr yn ddelfrydol) pan fyddwch chi’n dod i gasglu post a pharseli cofrestredig.
  • Oherwydd y nifer fawr o bost a pharseli cofrestredig a dderbynnir, gofynnir i breswylwyr gasglu parseli ymhen 48 awr ar ôl derbyn yr e-bost awtomataidd; gellir dychwelyd parseli nad ydynt wedi'u casglu i'r anfonwr.
  • Mae’r timau llety yn cadw'r hawl i wrthod parseli rydym yn credu eu bod yn amheus oherwydd risgiau Iechyd a Diogelwch. Os gwrthodir parsel, byddwn ni'n rhoi gwybod i'r myfyriwr ac os trefnir ei ailddosbarthu, bydd angen cadarnhau'r cynnwys i ni.