Mannau Byw Diogel, Cyfleus a Chyfforddus
Mae llety ar gael i fyfyrwyr sydd naill ai wedi astudio yn y Brifysgol o'r blaen neu sydd eisoes wedi byw yn llety'r Brifysgol am unrhyw gyfnod o amser.
Mae llety ar gael i fyfyrwyr sydd naill ai wedi astudio yn y Brifysgol o'r blaen neu sydd eisoes wedi byw yn llety'r Brifysgol am unrhyw gyfnod o amser.
Rydym yn cynnig fflatiau mewn preswylfeydd a ddynodir ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd yn unig, sy'n golygu na fyddwch yn byw ochr yn ochr â myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o astudio.
Os ydych yn teimlo bod angen i chi fyw yn llety'r Brifysgol - er enghraifft oherwydd anabledd, cyflwr iechyd neu amgylchiadau eraill sy'n golygu nad yw llety yn y sector preifat yn addas i chi - mae'n hanfodol eich bod yn cynnwys yr wybodaeth hon yn eich cais.
Ffioedd LletyMae Campws y Bae yn cynnig mynediad uniongyrchol i draeth hardd, a'i lwybr glan y môr. Mae yna wasanaethau bws rheolaidd, uniongyrchol rhwng y ddau gampws.
Ystafelloedd Ensuite Canolig (¾ gwely maint)
Ystafelloedd Ensuite Premiwm (gwely dwbl llawn)
Mae Tŷ Beck yng nghanol Uplands, ger siopau.
Dewis hunanarlwyo yw’r llety, gydag ystafelloedd ensuite a rhai gydag ystafelloedd ymolchi a rennir. Mae maes parcio am ddim i breswylwyr, ac mae gwasanaethau bws gerllaw yn rhedeg yn rheolaidd i'r ddau gampws a chanol y ddinas.
Mae'r llety yma ar gael i:
Mae holl breswylfeydd Parc Singleton o fewn pellter cerdded i'r parc, y traeth, Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe. Mae gan bob fflat gegin a rennir.
Ystafelloedd ensuite
Ystafelloedd safonol (gydag ystafelloedd ymolchi a rennir, cymhareb 1: 2 neu 1:3)
Sylwer, mae Parc Singleton yn dueddol o fod yn ddewis poblogaidd iawn a gall gael ei ordanysgrifio.
Gyda golygfa hyfryd dros afon Tawe, mae True Swansea ar Ffordd y Morfa yng nghanol y ddinas. Mae yna wasanaethau bws rheolaidd, uniongyrchol rhwng y llety a'r ddau gampws.
Mae gan yr ystafelloedd, sydd mewn fflatiau o 5-6, ystafelloedd ymolchi ensuite, ac mae preswylwyr yn rhannu cegin.
Mae’r ystafelloedd stiwdio yn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi ensuite yn yr ystafell, yn ogystal â chegin a rennir.
Edrychwch ar Studentpad ar gyfer llety yn y sector preifat.