Pryd bydd disgwyl i mi sefyll fy arholiadau?
Cynhelir arholiadau yn ystod tri phrif gyfnod bob blwyddyn:
- Ionawr
- Mai/Mehefin
- Cyfnod Atodol Mis Awst
Bydd y sesiynau hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr a gellir gweld y dyddiadau yn yr adran Dyddiadau Arholiadau.
Ar gyfer rhaglenni penodol, megis Nyrsio, Meddygaeth, Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC), cynhelir yr arholiadau y tu allan i'r prif sesiynau. Dylai myfyrwyr ar y rhaglenni hyn gysylltu â'u Hysgol/Coleg yn uniongyrchol i holi am ddyddiadau arholiadau oherwydd nad ydynt yn cael eu cyhoeddi ar y brif amserlen.
Ble gallaf weld amserlen fy arholiadau?
Gallwch weld amserlenni arholiadau yn eich cyfrif personol ar y fewnrwyd. Byddant yn dangos amser dechrau a gorffen/dyddiad eich arholiad a'r lleoliad. Sylwer, ar adegau bydd y Brifysgol yn rhannu arholiad rhwng nifer o leoliadau, felly mae'n hanfodol eich bod yn mynd i'r lleoliad a nodir yn eich amserlen bersonol.
Os ydych yn derbyn darpariaethau ychwanegol, bydd y rhain i'w gweld ar eich amserlen bersonol. Os credwch fod eich darpariaeth ychwanegol yn anghywir, rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Arholiadau ar unwaith.
Beth os oes camgymeriad ar Amserlen fy Arholiadau?
Os credwch fod eich amserlen yn dangos y modiwlau anghywir, neu os yw arholiad ar goll, cysylltwch â'ch Ysgol/Coleg yn y lle cyntaf.
Dwi ddim yn gallu sefyll arholiad. Beth dylwn i ei wneud?
Rhaid i chi gysylltu â'ch Ysgol/Coleg ar unwaith. Os ydych yn gwneud cais am amgylchiadau esgusodol, mae gennych bum niwrnod o ddyddiad yr arholiad i drafod y rhain â'ch Ysgol/Coleg. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Cyrhaeddais i'n hwyr am arholiad. Beth dylwn i ei wneud?
Os ydych yn cyrraedd o fewn 30 munud i amser dechrau'r arholiad, byddwch yn cael sefyll yr arholiad, ond ni fyddwch yn cael amser ychwanegol ar ddiwedd yr arholiad.
Os ydych yn cyrraedd ar ôl y cyfnod 30 munud, dylech fynd yn syth i'ch Ysgol/Coleg a thrafod eich opsiynau gyda nhw.
Mae angen darpariaeth arbennig arnaf yn ystod fy arholiadau. Beth dylwn i ei wneud?
Darperir manylion llawn am sut i wneud cais am ddarpariaeth ychwanegol yn yr adran Cymorth ar gyfer eich Arholiadau, gan gynnwys gwybodaeth am ddarpariaethau parhaol a thros dro.
Ble gallaf weld fy nghanlyniadau?
Byddwch yn gallu gweld eich canlyniadau drwy eich cofnod ar y fewnrwyd, ar ddyddiad penodol yn dilyn y Bwrdd Arholi. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am y dyddiad cyhoeddi a chyfarwyddiadau i gael mynediad i'ch canlyniadau drwy e-bost gan y Gwasanaethau Academaidd.
Gaf i sefyll arholiadau rywle arall heblaw am Brifysgol Abertawe?
Na chewch, rhaid sefyll pob arholiad yn Abertawe.
Gaf i sefyll arholiadau sefydliad arall ym Mhrifysgol Abertawe?
Na chewch, nid yw'r Brifysgol yn cynnal arholiadau ar ran sefydliadau/byrddau arholi eraill.
Mae gennyf arholiad ar ddyddiad pwysig i'm crefydd. Beth yw'r rheolau?
Yn anffodus, nid yw'n bosib i'r Brifysgol newid dyddiadau'r cyfnodau arholi, gan eu bod yn cael eu pennu ymhell o flaen llaw, a byddai unrhyw newid yn effeithio'n sylweddol ar ddigwyddiadau eraill yn y Calendr Academaidd blynyddol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar y wefan ganlynol.
Sut dylwn i fynegi pryder/godi problem yn ystod arholiad?
Os oes gennych bryderon yn ystod arholiad, dylech godi'ch llaw a dweud wrth un o'r goruchwylwyr. Os yw'ch pryder yn un personol neu sensitif, dylech ofyn am gael sgwrs breifat â'r Prif Oruchwyliwr.
Sut dylwn i roi gwybod am bryderon/problemau ar ôl arholiad?
Os oes gennych bryderon yn dilyn arholiad, cysylltwch â'r Swyddfa Arholiadau.
Cofiwch ei bod yn haws datrys problemau ar y pryd felly, lle bynnag y bo modd, dylech roi gwybod i'r Prif Oruchwyliwr am unrhyw bryderon neu broblemau ar y pryd.
Rwyf wedi colli/anghofio fy ngherdyn adnabod myfyriwr, beth dylwn i ei wneud?
Os ydych wedi colli eich cerdyn adnabod myfyriwr, rhaid i chi fynd i'r llyfrgell cyn gynted â phosib i gael un newydd. Os nad oes cerdyn adnabod gennych ar ddiwrnod arholiad, dylech ddod â math arall o brawf adnabod swyddogol, megis pasbort neu drwydded yrru, sy'n dangos eich enw llawn. Os nad oes modd i chi brofi pwy ydych chi, caiff hyn ei nodi ar flaen eich llyfr atebion, ac mae'n bosib na chaiff eich arholiad ei farcio.
Eiddo Coll - ble mae'n mynd?
Mae'r holl eiddo coll yn cael ei ddychwelyd i dderbynfa MyUniHub ar y campws perthnasol. Ar gyfer Neuadd Brangwyn, Pafiliwn Patti a'r Neuadd Chwaraeon, caiff eitemau eu dychwelyd i dderbynfa MyUniHub ar Gampws Parc Singleton.
Beth os hoffwn i sefyll fy arholiadau yn Gymraeg?
Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais ysgrifenedig i'w Hysgol/Coleg o fewn pedair wythnos i ddechrau'r modiwl(au) perthnasol i gael caniatâd i sefyll arholiad a/neu gyflwyno gwaith i'w asesu yn Gymraeg. Mae manylion llawn ar gael yn y Canllaw Academaidd.