TRAMGWYDDAU MEWN CYSYLLTIAD AG ARHOLIADAU
Tramgwyddau Mewn Cysylltiad ag Arholiadau
Mae tramgwydd, y cyfeirir ato'n aml fel 'arfer annheg' neu 'gamymddygiad academaidd', yn golygu unrhyw weithred lle rydych yn cael - neu'n ceisio cael - mantais nas caniateir, boed ar eich rhan eich hun neu ar ran rhywun arall.
Dyma rai enghreifftiau
- Mynd ag eitemau nas caniateir i mewn i ystafell yr arholiad
- Twyllo, ceisio twyllo neu helpu ymgeisydd arall i dwyllo
- Esgus bod yn ymgeisydd arall mewn arholiad neu ganiatáu i rywun wneud yr un peth ar eich rhan chi
- Bod ag ysgrifen ar ran o'ch corff neu ar eich dillad
- Cyfathrebu neu geisio cyfathrebu ag ymgeiswyr eraill
- Llên-ladrad, h.y. cyflwyno gwaith rhywun arall gan esgus mai chi yw'r awdur
- Parhau i ysgrifennu ar ôl diwedd yr arholiad
- Cyflwyno amgylchiadau esgusodol ffug