Canllawiau ar asesu neu arholi trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae gan bob myfyriwr yr hawl i sefyll arholiadau ysgrifenedig, neu i gyflwyno gwaith ysgrifenedig i’w asesu, yn Gymraeg, p’un ai Cymraeg neu Saesneg yw prif iaith asesu’r modiwl dan sylw. Os ydych chi'n dymuno cyflwyno aseiniadau neu sefyll arholiad ysgrifenedig yn Gymraeg ar fodiwl sy’n cael ei ddysgu yn y Saesneg, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni arlein isod. Rhaid i fyfyrwyr sydd yn eu blwyddyn gyntaf gwblhau'r ffurflen o fewn pedair wythnos i'r modiwl perthnasol ddechrau er mwyn caniatáu amser paratoi priodol. Rhaid i fyfyrwyr sy'n dychwelyd (Blwyddyn 2 ac uwch) hysbysu eu Cyfadran cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol cyn dechrau'r modiwl(au) perthnasol. Os nad ydych wedi cyflwyno’r cais o fewn yr amserlen a nodir uchod, ni ellir gwarantu y byddwch yn gallu cyflwyno’r gwaith yn Gymraeg.