Datblygu sgiliau yn y ddwy iaith
Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous os ydych chi'n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich amser gyda ni. Mae Academi Hywel Teifi yn darparu cymuned ar gyfer y miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma gan gefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Brifysgol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau os ydych chi’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn rhoi hwb i’ch cyfle i gael yr addysg orau. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae yna ddewis sy’n iawn i chi: o gyrsiau gradd cyfangwbl trwy’r Gymraeg i gyrsiau lle mae rhai modiwlau yn y Gymraeg. Mewn rhai pynciau mae’n bosibl cael dosbarthiadau seminar a thiwtorial ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae hawl gennych i gyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Am fanylion pellach, ewch i dudalen Cyflwyno gwaith ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol. Am fanylion pellach, ewch i'n tudalen Mae gen i Hawl.
O barhau i astudio y cyfan neu ran o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu eich sgiliau yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg – gan agor drysau i’ch hunan ar ôl i chi adael y Brifysgol.