Uniondeb Academaidd
Beth mae Uniondeb Academaidd yn ei olygu?
Pan fyddwn yn ymrwymo i gynnal Uniondeb Academaidd, rydym yn cytuno y byddwn yn gwneud y canlynol:
Camymddwyn Academaidd
Camymddwyn Academaidd yw pan fydd myfyriwr yn gweithredu mewn ffordd sy’n rhoi mantais annheg iddo ef neu i fyfyriwr arall. Mae hyn yn berthnasol os bydd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag eraill i wneud hyn.
Gall hyn ddigwydd mewn unrhyw asesiad y mae myfyriwr yn ei sefyll er mwyn derbyn ei gymhwyster ym Mhrifysgol Abertawe.
Gall myfyrwyr gyflawni camymddwyn academaidd yn fwriadol neu’n anfwriadol felly mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r hyn a ystyrir yn dramgwydd gan y Brifysgol. Gallwch ddod o hyd i'r holl ddogfennau polisi a Chwestiynau Cyffredin perthnasol ymhellach i lawr y dudalen hon, neu edrych ar yr enghreifftiau canlynol:
Enghreifftiau o Gamymddwyn Academaidd
Beth alla i ei wneud i gynnal Uniondeb Academaidd?
Y ffordd orau o gynnal uniondeb academaidd yw bod yn wybodus ynghylch polisïau a gweithdrefnau ar gyfer y Brifysgol, colegau unigol a modiwlau. Gweler y dolenni, y canllawiau a'r fideos isod am wybodaeth ac awgrymiadau llawn cymorth ynghylch sut i ddilyn eich astudiaethau ag uniondeb academaidd.
Darllen
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cyflawni Camymddwyn Academaidd?
Mae’r weithdrefn ar gyfer camymddygiad academaidd yn cael ei thrin fesul achos. Am ragor o wybodaeth, gweler y dolenni isod.
Ymhlith y cosbau posibl y mae rhybuddion ysgrifenedig, dileu marciau’r papur, marc sero ar gyfer y modiwl, dileu’r marciau ar gyfer lefel yr astudio, neu ddileu'r holl farciau a chael eich gwahardd o'r rhaglen.