Fel rhan o'ch astudiaethau neu eich asesiad, efallai y bydd angen i chi weithio mewn grwpiau. Lle bo cyfyngiadau ar gwrdd wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ymgymryd â gwaith cydweithredol ar-lein lle bynnag y bo modd. Mae'r dudalen hon yn trafod popeth bydd ei angen arnoch i ddechrau cydweithio ar-lein, a'r feddalwedd i'ch galluogi i wneud hynny. Hyd yn oed os nad oes gwaith grŵp gennych, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'ch cyd-fyfyrwyr.
Wrth weithio gyda myfyrwyr eraill, mae'n bwysig deall y bydd gan bawb gyfrifoldebau ac anghenion gwahanol. Mae'n bosib y bydd angen i rai pobl gydbwyso gofal, gofal plant a/neu addysgu plant gartref â'u hastudiaethau. Bydd angen i chi ystyried y cyfrifoldebau hyn pan fyddwch yn trefnu cyfarfodydd i sicrhau eich bod yn cynnwys pawb yn eich grŵp. Os nad yw hyn yn bosib, rhowch wybod i'ch darlithwyr.