Os ydych yn cydweithio ar brosiect, gall fod yn ddefnyddiol os oes gennych le cyffredin lle gallwch i gyd rannu ffeiliau neu weithio ar yr un pryd.
Ym Mhrifysgol Abertawe mae gan ein holl fyfyrwyr gyfrif Office 365 a meddalwedd arall a fydd yn caniatáu i chi gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein, storio a rhannu ffeiliau ar-lein a llunio dogfennau ar y cyd. Mae opsiynau eraill ar gael hefyd, megis Google Drive a DropBox. Gydag Office 365 a Google Drive, yn ogystal â storio ffeiliau yn yr un lle, gallwch hefyd eu golygu ar y cyd ar yr un pryd.