Nawr bod y rhan fwyaf o’ch darlithoedd yn cael eu cyflwyno ar ffurf fideo, neu recordiadau Panopto rydym yn cynnig ychydig o awgrymiadau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar y profiadau dysgu hyn.
Dysgu o recordiadau
Pryd a ble i wylio
Y peth cyntaf i sylwi arno yw bod gweithio o recordiadau’n golygu bod gennych lawer mwy o ryddid i ddewis pryd a ble i wylio eich darlithoedd. Croesawch y gwahaniaeth! Dyw hyn ddim yn well nac yn waeth, mae’n wahanol.
I ddechrau, efallai bydd rhai ohonoch chi wrth eich bodd yn gallu gwylio darlithoedd yn eich gwely, gyda’r hwyr, yn gwisgo eich wynsi, yn hytrach nag eistedd mewn darlithfa am 9am fore Iau. Ond, i’r rhan fwyaf o bobl, bydd yn well ganddynt wylio eu darlithoedd yn ystod amser sydd wedi’i neilltuo fel ‘amser gwaith’, mewn ‘gweithfan’ lle nad oes dim byd i dynnu eu sylw, er mwyn rhoi rhyw fath o strwythur i’r dydd.
Yn gyffredinol, mae eich ymennydd ar ei fwyaf parod i ddysgu ddwy awr ar ôl i chi ddeffro. Felly, os gallwch wneud hynny, dyna’r amser gorau i wylio (hyd yn oed os mai canol y prynhawn yw hynny!)
Dim ymyriadau
Mae’r ffaith eich bod yn gallu atal y recordiad yn golygu eich bod yn fwy tebygol o ymateb i alwad ffôn neu hysbysiad nag y byddech mewn darlith fyw. Fodd bynnag, mae angen i chi ganolbwyntio a hoelio eich sylw ar y cynnwys, felly mae’n bwysig bod cyn lleied o bethau â phosib yn eich gweithle i dynnu eich sylw. Felly, gadewch eich ffôn mewn ystafell arall a gofynnwch i’r teulu geisio osgoi torri ar eich traws yn ystod y cyfnod hwn.
Cymerwch seibiannau
Peidiwch â gwylio un ddarlith ar ôl y llall. Cymerwch seibiant ar ôl pob un i estyn eich coesau a chael diod neu damaid i’w fwyta. Gall syllu ar gyfrifiadur am gyfnod hir roi straen ar eich llygaid hefyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych allan o’r ffenestr i newid hyd eich ffocws ac estyn cyhyrau eich llygaid, yn ogystal â’ch cefn poenus.
Paratoi i wylio
Mae’n bosib y bydd llai o gyfleoedd i ofyn cwestiynau uniongyrchol, felly gwnewch yn siŵr eich bod ar y blaen drwy baratoi ymlaen llaw. Y ffordd orau yw darllen rhywbeth sy’n berthnasol i bwnc y ddarlith cyn i chi wylio’r recordiad. Edrychwch ar eich rhestr ddarllen i weld a oes penodau llyfr neu erthyglau sy’n berthnasol. Hyd yn oed os ydych chi’n brasddarllen ac yn darllen y penawdau yn unig, gall hyn roi teimlad cyffredinol i chi am y pwnc a bydd yn eich helpu i ddeall wrth i chi wylio.
Darllenwch eich nodiadau o’r ddarlith flaenorol hefyd – mae’n bosib y bydd y ddarlith hon yn adeiladu ar honno.
Gwneud nodiadau
Gwnewch nodiadau fel byddech yn ei wneud mewn darlith fyw. Mae’r Dull Cornell yn ffordd dda am ei fod yn rhoi lle i chi nodi ymholiadau ac mae’n eich annog i grynhoi – sy’n ysgogi’r ymennydd yn well na chofnodi gwybodaeth yn oddefol yn unig. Mae’r canllaw hwn i ddysgu o bell hefyd yn cynnwys tudalen benodol am greu nodiadau digidol
Rhowch gynnig ar rywbeth newydd
Defnyddiwch y ffordd newydd hon o ddysgu fel cyfle i roi cynnig ar ddull cymryd nodiadau nad ydych yn ei ddefnyddio fel arfer, efallai am ei fod yn cymryd gormod o amser fel rheol – efallai rhywbeth mwy gweledol fel map meddwl. Mae gallu atal recordiad yn golygu y bydd mwy o amser gennych i greu’r rhain heb golli dim byd.
Os ydych yn gwneud nodiadau’n ddigidol, ystyriwch gynnwys sgrinluniau o sleidiau arbennig o bwysig y gallwch ychwanegu nodiadau atynt wedyn.
Defnyddiwch stampiau amser
Ceisiwch gynnwys stampiau amser yn eich nodiadau (mae hyn yn golygu nodi’r pwynt amser mae’r fideo wedi’i gyrraedd pan drafodir pwnc penodol). Mae hyn yn golygu y bydd hi’n haws mynd yn ôl a gwylio rhannau penodol eto nes ymlaen os oes angen.
Gofyn ac ateb cwestiynau
Er nad oes cyfle i ofyn cwestiynau uniongyrchol i’r darlithydd neu’r myfyrwyr eraill wrth ddefnyddio recordiad, dyw hyn ddim yn golygu nad oes cyfle gennych o gwbl i ofyn cwestiwn.
Allwch chi ateb eich cwestiwn eich hun?
Yn gyntaf, ystyriwch a oes rhaid gofyn y cwestiwn i rywun arall o gwbl. Wrth wylio darlith wedi’i recordio, byddwch fel arfer yn eistedd o flaen cyfrifiadur neu’n defnyddio dyfais glyfar a bydd gennych fyd o wybodaeth ar flaen eich bysedd. Os nad ydych yn deall rhywbeth, ysgrifennwch y cwestiwn yn eich nodiadau (gan roi marc cwestiwn mawr o’i flaen efallai fel y gallwch ei weld yn hawdd wedyn).
Yn syth ar ôl i chi orffen gwylio, gallwch ddefnyddio Gwgl i chwilio am unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall o hyd. Er na fyddem byth yn argymell ei ddefnyddio fel ffynhonnell academaidd, mae Wikipedia yn wych ar gyfer gwirio ystyr termau penodol er enghraifft.
Gallech atal y recordiad am ychydig eiliadau a chwilio am y term ar unwaith, ond dyw hyn ddim yn syniad da mewn gwirionedd am ei fod yn gallu torri ar draws eich sylw ac mae’n bosib y bydd y darlithydd yn ei esbonio nes ymlaen beth bynnag. Peidiwch â gwneud hyn oni bai fod eich diffyg dealltwriaeth yn amharu ar eich gallu i ddeall rhannau eraill o’r ddarlith.
Defnyddiwch fforymau
Mae llawer o fodiwlau wedi creu fforymau sgwrsio ar eu tudalennau Canvas. Gallwch ddefnyddio’r rhain i ofyn cwestiynau i’r darlithydd ac i bobl eraill ar y modiwl. Mewn cyfnod pan nad oes modd mynd i’r campws, gall hyn fod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â’ch cyd-fyfyrwyr. Ystyriwch ddefnyddio fforymau o’r fath yn rheolaidd hyd yn oed os nad ydych yn chwilio am atebion – efallai byddwch chi’n gallu ateb cwestiynau pobl eraill. Bydd hyn hefyd yn helpu i leihau’r ymdeimlad o unigrwydd wrth weithio gartref.
Cysylltwch â’ch darlithydd
Os nad ydych yn deall rhywbeth o hyd, neu os oes gennych gwestiynau dilynol am bwnc y ddarlith, bydd eich darlithwyr yn falch o ateb y rhain drwy e-bost. Peidiwch â theimlo eich bod yn eu ‘poeni’. Mae’n bosib bod rhai wedi dynodi ‘oriau swyddfa’ pan fyddan nhw’n sicr o fod ar-lein ac yn monitro eu negeseuon e-bost neu unrhyw fforymau maen nhw wedi’u creu. Os oes angen gofyn cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â nhw.
Ar ôl gwylio
Gwnewch rywbeth â’ch nodiadau y diwrnod nesaf
Fel gyda phob darlith, os nad ydych chi’n edrych ar eich nodiadau eto o fewn diwrnod neu ddau, byddwch yn anghofio llawer o’r cynnwys. Dyma pam mae’r Dull Cornell mor effeithiol ar gyfer gwneud nodiadau oherwydd bod adran grynhoi ar waelod pob tudalen – os ydych yn aros tan y diwrnod nesaf i lenwi hyn, byddwch yn gwella eich gallu i adalw’r cynnwys nes ymlaen.
Os nad ydych yn defnyddio’r dull hwn i wneud nodiadau, cofiwch wneud rhywbeth â’ch nodiadau’r diwrnod nesaf – edrychwch arnynt gan amlygu brawddegau allweddol, ychwanegu lluniau eglurhaol, llenwi bylchau, troi nodiadau llinellol yn fap meddwl: unrhyw beth sy’n eich sbarduno i feddwl amdanynt yn hytrach na’u darllen yn unig.
Gwiriwch eich rhestr ddarllen am ddeunydd perthnasol
Tra bydd yn eithaf ffres yn eich meddwl o hyd, beth am ddarllen o gwmpas y pwnc? Efallai fod eich rhestr ddarllen yn cynnwys dolenni i e-lyfrau, penodau llyfrau wedi’u digideiddio, neu erthyglau perthnasol mewn cyfnodolion. Does dim angen eu darllen yn drylwyr ar hyn o bryd, bydd brasddarllen yn ddigon.
Mae’r cynnwys hwn yn dod o’r ffynhonnell ganlynol gan Brifysgol Hull, ac mae wedi’i drwyddedu dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0.