Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Strwythur a Gweledigaeth y Gyfadran
Strwythur
Mae gan ein Cyfadran bedair Ysgol, gyda chwe Adran:
- Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu (Gan gynnwys yr Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron a'r Adran Llenyddiaeth, Cyfryngau ac Iaith).
- Yr Ysgol Reolaeth
- Yr Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
- Yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (Gan gynnwys yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, yr Adran Economeg, yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod a'r Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol).
Gweledigaeth
Mae ein Cyfadran yn gartref i gymuned groesawgar a chynhwysol sy'n dilyn ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd sydd o fudd i gymdeithas. Rydym yn hyrwyddo profiad myfyriwr sy'n galluogi ein myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion byd-eang medrus, cymdeithasol ymwybodol. Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol i waith cenhadaeth ddiwylliannol a dinesig y Brifysgol, ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant Cymraeg.
Cysylltiadau Pwysig Ysgol
Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
Cymorth a Chyngor Myfyrwyr - studentsupport-cultureandcom@swansea.ac.uk
Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
Cymorth a Chyngor Myfyrwyr - solsupport@swansea.ac.uk
Pennaeth yr Ysgol - Alison Perry
Ysgol Reolaeth
Cymorth a Chyngor Myfyrwyr - somsupport@swansea.ac.uk
Pennaeth yr Ysgol - Yr Athro Paul Jones
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cymorth a Chyngor Myfyrwyr - studentsupport-socialsciences@swansea.ac.uk
Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas gan eich Penaethiaid Ysgol
Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
Fel Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, mae'n bleser gennyf dy groesawu i Brifysgol Abertawe. Fel tîm o staff academaidd a gweinyddol, rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a dy helpu i ymgartrefu yma yn Abertawe.
Bydd yr ychydig wythnosau nesaf yn llawn cyfleoedd a heriau wrth iti gwrdd â dy ddarlithwyr, ymgyfarwyddo â dy bynciau academaidd, ymuno â chlybiau a chymdeithasau a dechrau meithrin cyfeillgarwch a fydd yn para am weddill dy fywyd. Rydym yma i ateb dy gwestiynau a gwneud iti deimlo'n gartrefol. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iti dros yr wythnosau a'r blynyddoedd nesaf ac edrychaf ymlaen at dy gyflawniadau fel rhan o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.
Dr Sian Rees, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
Rwy’n falch iawn i estyn croeso cynnes iawn ichi I Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan Ysgol y Gyfraith yn gymuned academaidd lewyrchus efo myfyrwyr yn ganolog iddi. Ein nod yw cynnig addysg gyfreithiol o’r safon uchaf, gan arfogi ein graddedigion efo sgiliau a phrofiad, ynghyd a dealltwriaeth gyfreithiol gadarn. Yn ystod eich astudiaethau gradd byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn llwyth o weithgareddau o fewn a thu allan i’r cwricwlwm.
Yn eich wythnosau cyntaf gyda ni allwch ddisgwyl cwrdd â’r timau gwasanaeth academaidd a phroffesiynol a fydd eich cefnogi trwy’ch astudiaethau. Yn benodol, byddwch yn cwrdd â’ch mentor academaidd a’n rôl yw darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth wrth i chi symud ymlaen trwy’ch astudiaethau gradd. Gobeithio eich bod chi mor gyffrous â ni, wrth i ni baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd Newydd. Edrychaf ymlaen at groesawu ein holl fyfyrwyr Newydd I’n cymuned yn Ysgol y Gyfraith. Welwn ni chi yn yr Wythnos Croeso!
Alison Perry, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
Ysgol Reolaeth
Fel Pennaeth yr Ysgol Reolaeth, mae’n bleser gennyf eich croesawu chi i Brifysgol Abertawe. Fel tîm o staff academaidd a gweinyddol, mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gyfarfod â thi a dy helpu i ymgartrefu yma yn Abertawe.
Bydd yr wythnosau nesaf yn llawn cyfleoedd a heriau wrth i ti gwrdd â dy ddarlithwyr, ymgyfarwyddo â dy bynciau academaidd, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, a gwneud ffrindiau a fydd yn aros gyda thi am weddill dy fywyd. Rydyn ni yma i ateb dy gwestiynau ac i dy helpu i ymgartrefu. Dymunaf bob llwyddiant i thi dros yr wythnosau, y misoedd, a’r blynyddoedd nesaf ac edrychaf ymlaen at dy gyflawniadau fel rhan o’n Hysgol ni.
Yr Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Ar ran yr holl staff, mae'n bleser gennyf eich croesawu i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Rydym yn hyderus y byddwch yn cytuno a ni bod yr Ysgol yn amgylchedd croesawgar sy'n cyfoethogi bywydau myfyrwyr, lle byddwch yn ffynnu wrth i chi symud ymlaen drwy eich astudiaethau. Mae eich rhaglen wedi cael ei llunio'n ofalus i'ch herio chi ond hefyd i’ch arfogi â sgiliau a gwybodaeth gydol oes a fydd yn eich paratoi ar gyfer y cyfleoedd o'ch blaenau yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.
Byddwch yn ymuno â chymuned fywiog o wyddonwyr cymdeithasol ac rydym wir yn gobeithio, beth bynnag fydd disgyblaeth eich pwnc, y byddwch yn gwneud ffrindiau a chysylltiadau gydol oes sy'n dangos yr effaith y gall y gwyddorau cymdeithasol ei chael ar gymdeithas.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi i gyd yn yr Wythnos Groeso a'ch cyflwyno i'r staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol gwych a fydd yn eich cefnogi yn ystod eich astudiaethau.
Yr Athro Ryan Murphy, Pennaeth yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol