Cwestiynau Cyffredin: Cyfadrannau
Pam rydym yn gwneud y newidiadau hyn?
Bydd y strwythur newydd yn caniatáu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws ein meysydd pwnc, gan wneud pethau'n gyson waeth ble rydych chi'n astudio. Bydd y strwythurau newydd yn symleiddio'r ffordd rydym yn gweithio, gan ymgorffori gweithgareddau addysgol ac ymchwil ar draws disgyblaethau academaidd cysylltiedig, gan gynnig rhagor o gyfleoedd ar gyfer cydweithio. Byddwn yn galluogi myfyrwyr a staff i gydweithio mewn ffyrdd newydd ar draws ein Cyfadrannau.
Mae Covid-19, Brexit a llawer o ffactorau eraill wedi effeithio ar y Brifysgol ac rydym am sicrhau ein bod wedi'n trefnu mewn ffordd sy'n wydn i'r rhain, gan ganiatáu i ni fuddsoddi'n barhaus yn eich profiad fel myfyrwyr. Yn ogystal â newid ein strwythurau byddwn yn newid yr arferion gwaith sy'n cyd-fynd â nhw.
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr ni fyddwch yn sylwi ar newid ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, er ei bod yn bosib y byddwch yn clywed pobl yn cyfeirio at y Cyfadrannau newydd yn lle eich Coleg blaenorol.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar fyfyrwyr, ni fydd newidiadau mawr i'ch addysgu, eich dysgu nac i'ch asesu a bydd y newidiadau y byddwch yn sylwi arnynt yn cynnwys gwasanaethau gwell mewn perthynas â'ch profiad fel myfyrwyr.
Sut bydd hyn yn effeithio ar fy ymchwil?
Ni fydd effaith ar eich ymchwil oherwydd nad yw cyflwyno Cyfadrannau yn effeithio ar y cwrs gradd PhD/rhaglen radd y mae myfyriwr yn astudio arni. Ni fydd eich goruchwyliwr yn newid ychwaith.
Fydd strwythur newydd y Gyfadran yn effeithio ar fy nysgu?
Bydd eich pwnc academaidd yn cadw'r un hunaniaeth a byddwch yn astudio'r un rhaglen gyda'r un myfyrwyr. Ein blaenoriaeth yw sicrhau parhad eich profiad dysgu, felly yn lle gwneud newidiadau enfawr ar un adeg.
Fydd systemau/mynediad TG yn newid o ganlyniad i hyn ac a yw hyn yn newid y ffordd yr wyf yn mynd ar-lein?
Ni fydd newidiadau o ran sut rydych chi’n cyrchu gwasanaethau canolog y Brifysgol o ganlyniad i’r Cyfadrannau newydd.
Ydy hyn yn newid yr hyn y byddwn ni’n ei weld ar Canvas?
Ni fydd effaith weladwy ar Canvas nac o ran y ffordd rydych chi’n cyrchu’r system. Efallai y bydd ychydig o darfu ar gyfer cyrsiau newydd rhwng 16 a 27 Awst pan fydd y newidiadau data’n weithredol.
Fydd hyn yn golygu grwpiau mentora/dosbarthiadau mwy?
Ni fydd cyflwyno Cyfadrannau yn effeithio ar faint grwpiau, dosbarthiadau neu seminarau fodd bynnag, canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus ynghylch y pandemig parhaus fydd yn penderfynu ar faint dosbarthiadau eleni.
Beth bydd hyn yn ei olygu ar gyfer Cynrychiolwyr Coleg/Pwnc?
Golyga strwythur newydd y Gyfadran y caiff Cynrychiolwyr Myfyrwyr eu recriwtio ar lefel Ysgol ac ar lefel Pwnc. Bydd rôl Cynrychiolydd Ysgol yn disodli’r rôl Cynrychiolydd Coleg bresennol.
Bydd y Cynrychiolwyr hyn yn parhau i gasglu adborth gan fyfyrwyr, yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgorau Addysg ac yn cynrychioli eu Hysgolion mewn cyfarfodydd perthnasol.
Ni fydd y rôl Cynrychiolydd Pwnc yn newid.
Gallwch chi enwebu eich hun i ddod yn Gynrychiolydd rhwng 20 Medi ac 8 Hydref.