Windows
1.Yn gyntaf, sicrhewch bod eich dyfais wedi cysylltu i'r rhwydwaith eduroam. Os ydych yn ansicr sut i gysylltu i eduroam,
cewch hyd i cyfarwyddiadau yma.
2. Lawrlwythwch a rhedwch y rhaglen gosod argraffydd.
3. Dewiswch yr iaith hoffech ei ddefnyddio.
4. Darllenwch y telerau ar y sgrin Cytundeb Trwydded a chliciwch i'w dderbyn, yna cliciwch Nesaf.
5. Dewiswch yr argraffydd priodol o’r rhestr (staff neu fyfyriwr), yna cliciwch nesaf.
6. Mewnbynnwch eich enw defnyddiwr prifysgol (y rhan cyntaf o’ch e-bost cyn @swansea.ac.uk), a'ch cyfrinair, yna cliciwch Nesaf.
7. Cliciwch Gorffen.
8. Anfonwch eich dogfen i'r argraffydd rydych wedi'i hychwanegu, fel y byddech yn argraffu’n arferol.
Mac OSX
1. Yn gyntaf sicrhewch rydych wedi cysylltu i'r rhwydwaith eduroam. Os ydych yn ansicr sut i gysylltu i eduroam, cewch hyd i cyfarwyddiadau yma.
2. Ewch i Dewisiadau system > Argraffwyr a Sganwyr.
3. Cliciwch yr eicon + o dan y rhestr Argraffwyr.
4. Dangosir blwch dialog ar gyfer ychwanegu argraffydd. Dangosir y blwch rhestr o'r holl argraffwyr sydd wedi'u canfod ar y rhwydwaith.
5. Dewiswch argraffydd (argraffu staff neu fyfyrwyr). Dangosir Enw, Lleoliad, a Defnydd yr argraffydd sydd wedi'i dewis.
6. Gwiriwch fod y ddewislen Defnydd wedi ei gosod i "Secure AirPrint."
7. Cliciwch y botwm i ychwanegu'r argraffydd.
8. Argraffwch eich dogfen. Pan gaiff eich annog, mewnbynnwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair (y rhan gyntaf o’ch e-bost cyn @abertawe.ac.uk), a chliciwch OK.