BETH YW'R COSTAU?

Fel ymchwilydd, sut gallaf gyfrifo’r costau?

Staff on laptops

Mae TRE yn defnyddio lle storio ar gwmwl Amazon Web Services, sy'n wasanaeth talu wrth i chi fynd. O ganlyniad, mae angen i'r prosiect ymchwil dalu costau defnyddio TRE. I gyfrifo costau, bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • Hyd y prosiect fesul wythnosau
  • Swm y data i'w storio fesul GB neu TB
  • Nifer yr ymchwilwyr sy'n rhan o'r prosiect
  • Nifer yr oriau sy'n cael eu treulio'n defnyddio TRE ac yn ymgymryd â gwaith dadansoddi/ymchwil, fesul ymchwilydd, fesul wythnos

Rhoddir y metrigau hyn mewn amcangyfrifydd costau, a fydd yn dangos cost defnyddio TRE ar gyfer y prosiect.

Sylwer: nid yw hyn yn cynnwys cost dyfeisiau defnyddwyr terfynol sy'n cydymffurfio o ran CE, a ddylai gael eu prisio yn y cais am gyllid.