Myfyrwyr Newydd a Gwybodaeth am Gyfrif TG Prifysgol Abertawe
Cyflwyniad
Mae angen i chi sefydlu Dilysu Amlffactor (MFA) er mwyn i'ch cyfrif fod yn ddiogel. Mae MFA yn eich galluogi i gadarnhau eich hunaniaeth drwy ddefnyddio gwybodaeth ddiogelwch neu ddulliau dilysu. Mae'n gam gofynnol wrth sefydlu a chynnal eich cyfrif.
Bydd sefydlu MFA er mwyn profi eich hunaniaeth hefyd yn eich galluogi i ailosod eich cyfrinair (os byddwch yn ei anghofio) neu'i newid drwy ddefnyddio'r Hunanwasanaeth Ailosod Cyfrinair (SSPR) ar unrhyw adeg heb fod angen cymorth pellach.
Er mwyn cwblhau'r broses hon, bydd i chi wybod eich cyfeiriad e-bost myfyriwr a'ch cyfrinair dros dro.
Bydd y dull cyntaf rydych yn ei sefydlu yn dod yn ddull di-ofyn. Y dull diofyn a argymhellir yw'r ap Microsoft Authenticator.
Rydym yn eich cynghori'n gryf i ychwanegu ail ddull, fel hysbysiadau drwy neges destun, felly os na fydd modd i chi ddefnyddio eich dull diofyn bydd modd i chi gael mynediad at eich cyfrif o hyd, heb fod angen cysylltu â ni am gymorth. Gweler yr adran Sefydlu Ail Ddull am ragor o arweiniad.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â'r Desg Wasanaeth TG. Sylwer y bydd angen i chi ein ffonio ar 01792 604000 ar gyfer galwadau sy'n ymwneud â diogelwch y cyfrif, er mwyn inni allu cadarnhau eich hunaniaeth.