Beth yw'r swyddogaeth Ailosod Cyfrinair trwy Hunanwasanaeth?
Mae Ailosod Cyfrinair Hunan-wasanaeth yn gam gorfodol wrth osod eich cyfrif Prifysgol sy'n eich galluogi i ailosod eich cyfrinair eich hun.
Golyga hyn nad oes rhaid i chi gysylltu â'r Desg Wasanaeth TG i ailosod eich cyfrinair a gallwch chi ddefnyddio'r swyddogaeth hon 24/7.
Ar ôl i chi fewngofnodi'n llwyddiannus am y tro cyntaf, gofynnir i chi newid eich cyfrinair.Nid yw hyn yn ddewisol. Bydd hyn yn dechrau'r broses o osod y dulliau dilysu sy'n well gennych. Amlinellir y broses hon ar y dudalen Eich Cyfrif. Dylech chi osod cyfrinair cryf sydd ag o leiaf 8 nod sy'n ystyrlon i chi, ond yn anodd i'w ddyfalu.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gosod cyfrineiriau cryf:
- Dylech chi ddewis cymysgedd o 3-4 gair
- Peidiwch â defnyddio un gair (e.e., Abertawe)
- Peidiwch â dewis cyfrinair gwan (e.e. yn cynnwys y geiriau cyfrinair, Abertawe neu eiriau eraill sy'n berthnasol i chi megis enwau teulu)
- Peidiwch â defnyddio ymadrodd poblogaidd (e.e. gadewchfimewn)
Os nad ydych chi'n gosod cyfrinair sy'n ddigon cryf, caiff ei wrthod. Ni fydd eich cyfrinair yn newid a gofynnir i chi roi cynnig arall arni tan ei fod yn bodloni'r gofynion. Dylai'r arweiniad uchod eich galluogi i ddewis cyfrinair priodol.