Ar hyn o bryd rydym ni’n adolygu gweithdrefnau monitro presenoldeb ar gyfer blwyddyn academaidd 20/21 yn sgil yr amgylchiadau newidiol ynghylch pandemig Covid-19. Byddwn ni’n diweddaru’r wybodaeth ar y dudalen hon unwaith y caiff y gweithdrefnau newydd eu cadarnhau.
Lleoliadau Gwaith a Astudio Dramor
- Os yw myfyrwyr yn astudio y tu allan i gampysau Prifysgol Abertawe, gan gynnwys lleoliadau astudio dramor a gwaith, neu ar raglenni cydweithredol mewn sefydliad arall, bydd yn ofynnol iddyn nhw hefyd lynu wrth y Polisi ar Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr a Addysgir ac, yn achos myfyrwyr Haen 4, y Polisi ar Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr Haen 4 a Noddir.
- Caiff y myfyrwyr hyn eu monitro bob mis gan eu Coleg.Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd cysylltu â'r Coleg. Bydd Colegau'n gyfrifol am hysbysu myfyrwyr am y gofyniad hwn ac am y broses ar gyfer cysylltu.
- Mae myfyrwyr Haen 4 sydd ar leoliad gwaith neu'n astudio dramor yn destun y gofynion ychwanegol a nodir ym mharagraff 3.2 y Polisi ar Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr Haen 4 a Noddir.
- Bydd myfyrwyr sy'n methu cydymffurfio â gofynion eu rhaglen neu sydd â phresenoldeb anfoddhaol yn cael eu hystyried gan y Coleg, a bydd camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.