CANLLAWIAU AR ASESU NEU ARHOLI DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG NEU MEWN IAITH AR WAHÂN I'R IAITH ADDYSGU A CHYMEDROLI AC ASESU
1. Diffiniadau/Sicrhau Ansawdd a Safonau/Proses ar ôl penodi Ymgynghorydd Asesu:
1.1 Beth yw Ymgynghorydd Asesu?
Mae Ymgynghorydd Asesu allanol fel arfer yn academydd sydd yn aml o brifysgol arall sydd wedi cytuno i weithredu fel cymedrolwr ar gyfer asesiad a gyflwynwyd yn Gymraeg neu iaith arall. Caiff Ymgynghorwyr Asesu eu talu am eu gwaith a gellir cysylltu â Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn externalexaminers@abertawe.ac.uk am ragor o gyngor ar ffioedd.
Bydd yn ofynnol i Ymgynghorydd Asesu:
- Gymedroli gwaith myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg/iaith arall yn unol â phroses ac amserlen safoni'r Brifysgol.
- Cyflwyno adroddiad safonwr.
Ni fydd yn ofynnol i Ymgynghorydd Asesu:
- Weithredu fel marciwr cyntaf
- Cyfrannu at y cwestiynau asesu
- Mynd i gyfarfodydd byrdau arholi
Caiff Ymgynghorwyr Asesu eu recriwtio yn unswydd i gymedroli gwaith myfyrwyr yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno. Ni fydd angen unrhyw gyfranogiad arall ar unrhyw adeg.
1.2 Pwy sy'n gyfrifol am sicrhau y bodlonir safonau ansawdd a marcio?
Bydd cydlynydd y modiwl a chyfarwyddwr y rhaglen yn gyfrifol am sicrhau bod yr Ymgynghorwyr Asesu'n bodloni ansawdd a safonau marcio drwy gyfrwng y Gymraeg/iaith arall. Bydd modd gwneud hyn drwy <adroddiad y cymedrolwr>.
1.3 Beth fydd yn digwydd ar ôl i ni benodi Ymgynghorydd Asesu?
Bydd y Brifysgol yn cynnal gwiriad Hawl i Weithio i gadarnhau bod gan bob unigolyn sy'n gweithio i'r Brifysgol hawl i weithio yn y DU, cyn dechrau unrhyw waith gyda'r Brifysgol. Mae'r gofyniad hwn yn cynnwys Ymgynghorwyr Asesu, ac mae'n unol â Fisâu a Mewnfudo'r DU, un o adrannau Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU. Gofynnir i'r Ymgynghorydd Asesu gyflwyno neu e-bostio copi o'i ddogfennaeth adnabod i'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, fel arfer pasbort (a fisa os yw hynny'n berthnasol), cyn dechrau gweithio gyda'r Brifysgol. Bydd angen cyflwyno'r ddogfennaeth wreiddiol yn ystod yr ymweliad cyntaf â safleoedd y Brifysgol.
Os bydd yr enwebai yn derbyn rôl Ymgynghorydd Asesu, ni chaniateir i'r unigolyn hwnnw fel arfer gael ei benodi'n Arholwr Allanol yn yr un maes pwnc am o leiaf bum mlynedd. Mae'n bosib hefyd na fyddai cydweithiwr yn yr un adran â'r Ymgynghorydd Asesu'n cael ei ystyried yn ddigon annibynnol i weithredu fel Arholwr Allanol am bum mlynedd.
1.4 Cymedroli Marcio
Ceir manylion y broses cymedroli marcio yn y Polisi Asesu, Marcio ac Adborth - Prifysgol Abertawe.
2. Asesu neu Arholi yn Gymraeg
2.1 Asesu drwy gyfrwng y Gymraeg
Waeth beth yw iaith yr addysgu, mae gan fyfyrwyr hawl gyfreithiol o dan Safonau'r Gymraeg i gyflwyno gwaith neu gael eu harholi yn Gymraeg ac yn unol â Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth y Brifysgol - Prifysgol Abertawe.
NID yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i fyfyrwryr sy'n astudio modiwlau lle mae'n rhaid dangos hyfedredd/cymhwysedd mewn iaith arall.
Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais electronig i'r Gyfadran o fewn pedair wythnos i ddechrau'r modiwl(au) perthnasol os ydynt am gael caniatâd i sefyll arholiad a/neu gyflwyno gwaith i'w asesu yn Gymraeg. Yna bydd tîm asesu'r Gyfadran yn anfon y ceisiadau hyn ymlaen i'r Swyddfa Arholi ac yn sicrhau darpariaeth ynghylch:
- Penodi unigolyn neu unigolion addas i weithredu fel ymgynghorydd asesu neu (am ffi gymeradwy ac fel dewis terfynol) fel cyfieithwyr.
2. 2 Cyfieithu Cwestiynau Asesu
Bydd myfyrwyr yn cael papur arholiad dwyieithog. Bwriad hyn yw sicrhau nad yw’r cyfle sydd gan fyfyrwyr i gael eu hasesu yn yr iaith o’u dewis yn amharu ar eu gallu i gyflawni eu gorau.
2.3 Marcio gwaith i’w asesu a gyflwynir yn Gymraeg
Ar gyfer rhaglenni a addysgir trwy gyfrwng y Saesneg
2.3.1 Fframwaith Asesu Cyfrwng Cymraeg
Mae hawl gan holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i'w asesu naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg. Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru yn datgan y dylai asesu yn Gymraeg gael ei gynnal gan arholwyr mewnol ac allanol sy'n gymwys yn ieithyddol ac yn academaidd i lunio barn ar y testun gwreiddiol yn Gymraeg. Felly, i sicrhau uniondeb yr asesiadau a gyflwynir yn Gymraeg, ac i ddilyn canllawiau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, bydd y Brifysgol yn sicrhau, pryd bynnag y bo modd, fod gwaith yn cael ei farcio drwy gyfwng y Gymraeg ac y darperir adborth yn yr iaith honno yn unig, yn hytrach na chyfieithu i'r Saesneg.
2.3.2 Pa broses y dylid ei dilyn pan fydd myfyriwr yn cyflwyno asesiad yn Gymraeg?
Os bydd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn dewis cyflwyno asesiad yn Gymraeg, mae'n rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau eu bod wedi rhoi trefniadau ar waith i alluogi myfyriwr i wneud hyn.
I sicrhau bod gan Gyfadrannau/Ysgolion amser digonol i roi'r fframwaith angenrheidiol ar waith, mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn hysbysu eu Cyfadrannau/Ysgolion o'u dymuniad i gyflwyno gwaith yn Gymraeg cyn gynted â phosib, o fewn pedair wythnos i ddechrau’r modiwl perthnasol. Os nad yw myfyrwyr yn hysbysu eu Cyfadrannau/Ysgolion, gall fod oedi wrth farcio'r gwaith a/neu gellir cyfieithu eu gwaith cyn ei farcio.
Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno asesiad yn y Gymraeg, dylai timau Ansawdd ac Asesu'r Gyfadran gyfeirio at y tabl isod i nodi'r ateb gorau a hysbysu Arweinwyr Cymraeg y Gyfadran o gais y myfyriwr.
Senario | Cynnig/Cynigion Arfaethedig |
---|---|
Ceir marciwr mewnol cyntaf a chymedrolwr mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg/Saesneg | Dim angen gweithredu pellach. Caiff y gwaith ei farcio'n fewnol fel yr arfer. |
Ceir marciwr mewnol cyntaf mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg/Saesneg, ond nid oes cymedrolwr | Y Gyfadran/yr Ysgol i drefnu Ymgynghorydd Asesu allanol i weithredu fel cymedrolwr (Os na fydd y marciwr mewnol cyntaf ar gael, dylai'r Cyfadrannau/Ysgolion droi at opsiwn 1 neu 2 isod) |
Dim marciwr cyntaf ar gael |
1) Dod o hyd i aelod staff mewnol sy'n siarad Cymraeg o faes pwnc cytras i ofyn a fyddai'n fodlon gweithredu fel marciwr cyntaf. Yna anfonir y gwaith at Ymgynghorydd Asesu i'w safoni. 2) Caiff y gwaith ei gyfieithu, a bydd aelod staff mewnol yn gweithredu fel marciwr cyntaf; caiff y fersiwn Gymraeg o'r gwaith ei hanfon at Ymgynghorydd Asesu i'w chymedroli ac i sicrhau uniondeb y broses farcio. 3) Fel ateb olaf ar ôl ceisio pob cam arall, caiff y gwaith ei gyfieithu a gwneir y marcio cyntaf a'r cymedroli drwy gyfrwng y Saesneg yn unig. |
2.4
Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn darparu rhestr o ddarpar Ymgynghorwyr Asesu a'u disgyblaethau i bob Cyfadran/Ysgol ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Dylai Cyfarwyddwyr Rhaglenni mewn Cyfadrannau/Ysgolion y mae arnynt angen Ymgynghorydd Asesu ddewis hyd at ddau, llenwi'r ffurflen Enwebu, ei dychwelyd i'r Gwasanaethau Addysg ac e-bostio externalexaminers@abertawe.ac.uk am arweiniad ar ffïoedd a'r camau nesaf. Bydd yr Arweinydd Addysg Ysgol yn adolygu'r enwebiadau ac yn dewis yr Ymgynghorydd Asesu mwyaf priodol ac yn rhoi gwybod i Gyfarwyddwr y Rhaglen am y canlyniad. Yna dylai Cyfarwyddwr y Rhaglen gysylltu â'r darpar Ymgynghorydd Asesu i holi a yw ar gael i gwblhau'r gwaith. Mae'r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) yn cadw'r hawl i allu dewis Ymgynghorydd Asesu annibynnol os ystyrir bod angen.
2.5 Ar gyfer rhaglenni a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg
Fel ail egwyddor, rydym yn annog penodi Arholwr Allanol sy’n medru’r Gymraeg ac sy’n gymwys yn ieithyddol ac yn academaidd yn Gymraeg ac yn Saesneg i roi barn ar y testun neu asesiadau llafar yn yr iaith wreiddiol. Gofynnir bod Arholwyr Allanol yn medru’r Gymraeg ar y ffurflen enwebu.
Yn achos myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni Ieithoedd Modern, bydd asesiadau parhaus neu arholiadau yn dibynnu ar y dasg a osodir fel rhan o'r modiwl, a gellir ei gyflwyno yn yr iaith darged neu, yn iaith astudio ddewisol y myfyriwr, h.y. Cymraeg neu Saesneg.
2.6 Arfer da
Pan fydd Arholwr Allanol dwyieithog yn cael ei benodi, fe’i hystyrir yn arfer da i’r arholwr adolygu asesiadau yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg er mwyn cymharu a chadarnhau safonau.
3. Asesiadau neu arholiadau drwy gyfrwng iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg
Yn achos myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni Ieithoedd Modern, bydd asesiadau parhaus neu arholiadau yn dibynnu ar y dasg a osodir fel rhan o'r modiwl, a gellir ei gyflwyno yn yr iaith darged neu, yn iaith astudio ddewisol y myfyriwr, h.y. Cymraeg neu Saesneg.
3.1 Pa broses y dylid ei dilyn pan fydd myfyriwr yn cyflwyno asesiad?
Er mwyn sicrhau bod gan Gyfadrannau/Ysgolion ddigon o amser i roi'r fframwaith angenrheidiol ar waith, dylid rhannu unrhyw amgylchiadau esgusodol yn y Gyfadran cyn gynted â phosibl, ac fel arfer dim hwyrach na phedair wythnos o ddechrau'r modiwl perthnasol. Mae'r tabl isod yn helpu i nodi'r ateb gorau ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau.
Fframwaith Asesu
Senario | Cynnig/Cynigion Arfaethedig |
---|---|
Ceir marciwr mewnol cyntaf a chymedrolwr mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg/Saesneg | Dim angen gweithredu pellach. Caiff y gwaith ei farcio'n fewnol fel yr arfer. |
Ceir marciwr mewnol cyntaf mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg/Saesneg, ond nid oes cymedrolwr | Y Gyfadran/yr Ysgol i drefnu Ymgynghorydd Asesu allanol i weithredu fel cymedrolwr (Os na fydd y marciwr mewnol cyntaf ar gael, dylai'r Cyfadrannau/Ysgolion droi at opsiwn 1 neu 2 isod) |
Dim marciwr cyntaf ar gael |
1) Dod o hyd i aelod staff mewnol sy'n siarad Cymraeg o faes pwnc cytras i ofyn a fyddai'n fodlon gweithredu fel marciwr cyntaf. Yna anfonir y gwaith at Ymgynghorydd Asesu i'w safoni. 2) Caiff y gwaith ei gyfieithu, a bydd aelod staff mewnol yn gweithredu fel marciwr cyntaf; caiff y fersiwn Gymraeg o'r gwaith ei hanfon at Ymgynghorydd Asesu i'w chymedroli ac i sicrhau uniondeb y broses farcio. 3) Fel ateb olaf ar ôl ceisio pob cam arall, caiff y gwaith ei gyfieithu a gwneir y marcio cyntaf a'r cymedroli drwy gyfrwng y Saesneg yn unig. |
3.3 Sut gallaf ddod o hyd i Ymgynghorydd Asesu posib?
Dylai Cyfarwyddwyr Rhaglenni mewn Cyfadrannau/Ysgolion y mae arnynt angen Ymgynghorydd Asesu ddewis hyd at ddau, llenwi'r ffurflen Enwebu, ei dychwelyd i'r Gwasanaethau Addysg ac e-bostio externalexaminers@abertawe.ac.uk am arweiniad ar ffïoedd a'r camau nesaf. Bydd Arweinydd Addysg yr Ysgol yn adolygu'r enwebiadau ac yn dewis yr Ymgynghorydd Asesu mwyaf priodol ac yn rhoi gwybod i Gyfarwyddwr y Rhaglen am y canlyniad. Yna dylai Cyfarwyddwr y Rhaglen gysylltu â'r darpar Ymgynghorydd Asesu i holi a yw ar gael i gwblhau'r gwaith. Mae'r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) yn cadw'r hawl i allu dewis Ymgynghorydd Asesu annibynnol os ystyrir bod angen.