Sylwer: Os ydych yn bwriadu cyflwyno ymholiad ynghylch cywirdeb marc ar gyfer Bloc Addysgu Un, efallai y bydd rhaid aros yn hirach nag arfer am yr ymateb; oherwydd y cyfyngiadau presennol yn sgil y pandemig, mae mynediad at sgriptiau Bloc Addysgu Un yn gyfyngedig.

1.    Cyflwyniad

1.1

Mae’r weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gwestiynu manwl-gywirdeb y marciau/graddau a gofnodwyd yn erbyn eu henw neu fanwl-gywirdeb cyfartaledd y modiwl/Lefel yn gyffredinol gyda’u Cyfadran/Ysgol. Cynhelir profion yna i sicrhau nad yw’r marciau a gofnodwyd ar gyfer asesiadau penodol a’r modiwl yn gyffredinol yn cynnwys gwallau rhifyddol na ffeithiol a’u bod wedi cael eu cofnodi’n gywir.

1.2

Nid yw’r weithdrefn yn cynnwys ail-farcio asesiadau, ac ni fydd chwaith yn darparu gwybodaeth bellach ynghylch pam y dyfarnwyd marciau penodol.

1.3

Os bydd ymgeisydd am dderbyn eglurhad pellach ynghylch pam y dyfarnwyd marc penodol iddo/iddi am asesiad, bydd angen iddo/iddi gysylltu â’r Gyfadran/Ysgol dan sylw i drafod hynny. Fodd bynnag, ni fydd y Brifysgol yn caniatáu i waith gael ei ail-farcio na’i ailystyried yn absenoldeb unrhyw seiliau a gadarnhawyd ar gyfer apêl. Bernir bod penderfyniad arholwr wrth ddyfarnu marciau yn farn academaidd, ac na all fod yn destun apêl academaidd ynddo’i hun. Rhestrir y seiliau posibl ar gyfer apêl academaidd yn Rheoliad 2.3 o Weithdrefnau Apêl y Brifysgol.

1.4

Mae'r weithdrefn hon yn berthnasol hefyd i farciau/raddau a ddyfernir gan brifysgol bartner sy'n cyfrannu at ddyfarniad Prifysgol Abertawe, gan gynnwys trosi marciau/graddau o sefydliad partner gan y Gyfadran/yr Ysgol.

2.    Cyflwyno Cais

2.1

Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig i'r Deon Gweithredolneu unigolyn a enwebir ganddo/ganddi cyn gynted â phosib ac o fewn 10 diwrnod i’r hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu/Arholi. Mae profforma, AR1TP-1-BI, ar gael ar safle Ffurflenni Academaidd y Gwasanaethau Addysg.

2.2

Gellir ymestyn y terfynau amser hyn mewn achosion hollol eithriadol yn unig, lle’r oedd yr oedi yn anorfod a lle cyflwynwyd tystiolaeth i gadarnhau honiad yr ymgeisydd y bu’n amhosibl neu yn anymarferol cyflwyno cais o fewn y terfyn amser.

2.3

Gall myfyrwyr ddim ond gwneud cais am wirio eu marciau a gyhoeddwyd ar sail y canlynol

  • Mae’r myfyriwr yn dymuno sicrhau bod y marc wedi’i drawsgrifio’n gywir;
  • Mae’r myfyriwr yn dymuno sicrhau bod holl gydrannau’r ar fodiwl wedi’u cymryd i ystyriaeth;
  • Bod y marc/gradd a ddyfarnwyd gan y sefydliad partner wedi’i drosi’n deg ac yn unol â’r tabl trosi perthnasol.

Wrth gyflwyno Cais i gadarnhau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd rhaid i fyfyriwr gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Y seiliau am gyflwyno’r cais;
  • Y canlyniad a ddymunir o safbwynt yr ymgeisydd. Rhaid i’r canlyniad a ddymunir fod yn un a ganiateir dan y rheoliadau cyfredol.

3.    Gweithdrefnau ar gyfer Ystyried Ceisiadau

3.1

Cyfrifoldeb y Deon Gweithredol (neu enwebai)/Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol fydd ymchwilio i’r cais a chadarnhau cywirdeb y marciau a gyhoeddwyd.

4.    Canlyniad y Cais

4.1

Mae'r canlyniadau canlynol ar gael:

  1. Bydd y Deon Gweithredol (neu enwebai)/Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol yn cadarnhau nad oes yn yr asesiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol unrhyw wallau rhifyddeg na gwallau ffeithiol eraill. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi gwybod i’r myfyriwr am y canlyniad.
  2. Os canfyddir gwall, bydd y Gyfadran/Ysgol yn cysylltu â’r Gwasanaethau Addysg gan awgrymu sut i weithredu, a allai gynnwys y canlynol:
    • Newid y marc(iau) perthnasol
    • Newid y marc(iau) perthnasol a’r penderfyniad diwedd blwyddyn/diwedd rhan trwy ymgynghori â’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu perthnasol;
    • Cyfeirio’r cais a’r adroddiad yn ôl at y Bwrdd Arholi gwreiddiol i’w hystyried.

4.2

Ym mhob achos, bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi gwybod i’r myfyriwr am y canlyniad.

5.    Statws Ymgeisydd yn Ystod y Broses

5.1

Caiff ymgeisydd sy’n cyflwyno cais ran o’r ffordd trwy’r lefel, y flwyddyn, neu’r rhan, lle gallai’r marc dan sylw ddylanwadu ar ddilyniant myfyriwr, barhau dros dro nes bod canlyniad y gwiriad yn hysbys. Mynychir lleoliadau clinigol yn ôl disgresiwn y Gyfadran/Ysgol.

5.2

Ni chaniateir i ymgeisydd sy’n cyflwyno cais am wirio ar ddiwedd y lefel, y flwyddyn, neu’r rhan o’r astudiaeth, lle penderfynodd y Bwrdd Arholi yn wreiddiol nad oedd ganddo/ganddi hawl i symud ymlaen i’r lefel, y flwyddyn neu’r rhan nesaf, gofrestru ar gyfer y lefel, y flwyddyn neu’r rhan nesaf nes bod canlyniad y gwirio yn hysbys. Bydd y penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd Arholi yn wreiddiol yn sefyll nes ceir canlyniad y broses wirio.

5.3

Caniateir i ymgeisydd a bennir yn gymwys am gymhwyster ac a fydd wedyn yn cyflwyno cais i wirio cywirdeb marciau a gyhoeddwyd i raddio a derbyn y cymhwyster y cytunodd y Bwrdd Arholi Dilyniant a Dyfarnu gwreiddiol arno, dros dro hyd nes y bydd canlyniad gwiriad yn hysbys.