Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau ar ôl Marwolaeth
1. Diffiniad
Gellir dyfarnu cymhwyster ar ôl marwolaeth i fyfyriwr sydd wedi marw ac sydd wedi cwblhau digon o'i astudiaethau ar gyfer y dyfarniad (gweler 2.1).
2. Cyflwyniad
2.1
Gall Gyfadran/Ysgol argymell i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ddyfarnu cymhwyster israddedig, ôl-raddedig a addysgir, neu ymchwil lle mae digon o dystiolaeth am berfformiad yr ymgeisydd i ddangos y byddai wedi cyrraedd y safon angenrheidiol ar gyfer y fath gymhwyster.
2.2
Bydd gradd ar ôl marwolaeth fel arfer yn ddyfarniad sy'n enwi pwnc, fel bo'n addas, heblaw am yr achosion hynny lle y mae gofynion cyrff proffesiynol yn pennu fel arall.
2.3
Os yw’r ymgeisydd wedi cwblhau’r holl ofynion asesu ar gyfer y dyfarniad, dylai’r achos gael ei ystyried gan y Bwrdd Arholi.
3. Gweithdrefnau Creu’r Dyfarniad
3.1
Rhaid i Gyfadran/Ysgol yr ymgeisydd wneud cais ysgrifenedig i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg i ystyried dyfarniad ar ôl marwolaeth, gyda chaniatâd teulu’r ymgeisydd neu ei berthynas agosaf.
3.2
Caiff y cais ei ystyried gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol gan roi sylw i argymhelliad y Gyfadran/Ysgol.
3.3
Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo’r dyfarniad neu beidio. Hysbysir y penderfyniad i deulu’r ymgeisydd neu ei berthynas agosaf ac fe’i hadroddir i’r Gyfadran/Ysgol.
4. Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu
4.1
Cyfrifoldeb y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, yw adolygu’r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau ar ôl Marwolaeth a’u heffeithiolrwydd a gwneud awgrymiadau am newidiadau, lle bo hynny’n berthnasol, i’w hystyried gan y Pwyllgor Addysg y Brifysgol.