Gweithdrefn Addasrwydd I Astudio
1. Crynodeb
Mae'n debygol y bydd y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio yn cael eu rhoi ar waith pan fydd y canlynol yn digwydd:
- Mae gweithred/gweithredoedd a/neu ymddygiad/ymddygiadau myfyriwr yn peri risg (gwirioneddol neu bosibl) i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr unigol hwnnw a/neu i eraill (staff a myfyrwyr) A;
- Mae yna bryderon y gallai'r weithred/gweithredoedd a/neu'r ymddygiad/ymddygiadau a nodwyd fod yn gysylltiedig ag iechyd a/neu anabledd myfyriwr (sydd wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis) e.e. anawsterau iechyd meddwl, trallod seicolegol neu emosiynol, cyflyrau niwrolegol neu gyflyrau corfforol.
Cynghorir unrhyw aelod o staff sydd â phryderon am fyfyriwr yn unol â'r hyn a ddisgrifir uchod i ddarllen y Polisi a'r Weithdrefn. Hefyd, gall aelodau staff gysylltu â Llesiant@BywydCampws i gael cyngor ac arweiniad. Gweler yr Atodiadau am fanylion cyswllt.
Noder:
- Ni ddylai'r Polisi a'r Weithdrefn dynnu sylw oddi wrth sefyllfaoedd acíwt lle y credir bod gweithred/gweithredoedd a/neu ymddygiad/ymddygiadau myfyriwr yn peri risg uniongyrchol i'r myfyriwr ei hun neu i aelodau eraill o gymuned ein Prifysgol. Mewn amgylchiadau o'r fath, cysylltwch â'r Gwasanaethau Brys (trwy'r Gwasanaethau Diogelwch) ar unwaith.
- Ni fwriedir i'r Polisi a'r Weithdrefn roi arweiniad ar faterion ehangach sy'n ymwneud â myfyrwyr ag anabledd a/neu anghenion iechyd meddwl (e.e. addasiadau rhesymol, ceisiadau am amgylchiadau arbennig, ffurflenni asesu etc.).
- Mae'r Polisi a'r Weithdrefn yn wahanol i gamau disgyblu academaidd neu gamau disgyblu eraill, ac ni ddylid drysu rhyngddynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylid dilyn y polisi priodol a'r weithdrefn briodol yn y lle cyntaf (gydag addasiadau ar sail cais/gofyniad) e.e. Polisi Disgyblu Myfyrwyr, y Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio, y Polisi Camymddwyn Academaidd, etc.
2. Cyflwyniad
i. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cadarnhaol a diogel sy'n cefnogi myfyrwyr ac sy'n eu galluogi i ymwneud â'u hastudiaethau a chyflawni hyd eithaf eu gallu.
ii. Mae'r Polisi a'r Weithdrefn yn ymwneud â risg o niwed (gwirioneddol neu bosibl) i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr unigol a/neu i eraill (staff a myfyrwyr).
iii. Ym mhob achos, bydd y Polisi a'r Weithdrefn yn cyfeirio at yr 'Egwyddorion Arweiniol' isod fel meincnod ar gyfer gweithredoedd ac ymddygiadau a ddisgwylir gan holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.
iv. Bwriad y Polisi a'r Weithdrefn yw llywio ac arwain ymateb y Brifysgol i sefyllfaoedd lle mae pryderon y gallai'r myfyriwr a'i iechyd gael eu niweidio os yw'n parhau i astudio, neu fod gweithredoedd a/neu ymddygiad myfyriwr yn amharu ar allu pobl eraill i astudio neu'n rhoi pobl eraill mewn perygl o niwed. Os yw'r gweithredoedd a/neu'r ymddygiad a nodwyd yn gysylltiedig â materion iechyd, gall y Brifysgol benderfynu nad yw defnyddio gweithdrefnau eraill ar gyfer myfyriwr (megis y Gweithdrefnau Disgyblu a'r Gweithdrefnau Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio) yn briodol o ystyried amgylchiadau neu fuddiannau pennaf y myfyriwr. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'n bosibl y bydd y Brifysgol yn defnyddio'r Polisi a'r Weithdrefn i'n helpu i weithio gyda'r myfyriwr i benderfynu beth i'w wneud.
v. Hefyd, mae'r Polisi a'r Weithdrefn yn berthnasol i sefyllfaoedd lle nad yw myfyriwr yn ymwybodol bod ei weithredoedd/ymddygiad yn peri unrhyw risg o niwed neu fod ganddo unrhyw gyflyrau iechyd.
vi. Mae'r Polisi a'r Weithdrefn yn wahanol i gamau disgyblu academaidd (Camymddwyn Academaidd) neu gamau disgyblu eraill, ac ni ddylid drysu rhyngddynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylid dilyn y polisi priodol a'r weithdrefn briodol yn y lle cyntaf (gydag addasiadau ar sail cais/gofyniad) e.e. Polisi Disgyblu Myfyrwyr, y Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio, y Polisi Camymddwyn Academaidd, etc. Fodd bynnag, mewn achosion pan fo’r pryderon a nodwyd yn ymwneud â materion iechyd y myfyriwr, a bod yr holl fathau o gymorth, atgyfeiriadau, addasiadau rhesymol, llwybrau a chamau gweithredu arferol eraill wedi'u disbyddu, gall Gwasanaethau Academaidd a Gwasanaethau Myfyrwyr benderfynu ei bod yn fwy priodol defnyddio'r Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio yn y lle cyntaf neu yn ychwanegol at y weithdrefn arall.
vii. Mae dau gam i’r Polisi a'r Weithdrefn: ‘Ymyrraeth Cymorth Anffurfiol' ac 'Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol', gyda chanllawiau a gweithdrefnau yn seiliedig ar lefel y pryder a/neu ddifrifoldeb ymddangosiadol y sefyllfa.
viii. Gall holl aelodau staff Prifysgol Abertawe sy'n ymdrin â phryderon yn unol â'r Polisi a'r Weithdrefn gysylltu â Llesiant@BywydCampws i gael arweiniad ar ystyried anghenion cymorth uniongyrchol y myfyriwr a phriodoldeb troi at y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio.
ix. Ni ddylai'r Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio dynnu sylw oddi wrth sefyllfaoedd acíwt lle y credir bod gweithred/gweithredoedd a/neu ymddygiad/ymddygiadau myfyriwr yn peri risg uniongyrchol i'r myfyriwr ei hun neu i aelodau eraill o gymuned ein Prifysgol. Mewn amgylchiadau o'r fath, cysylltwch â'r Gwasanaethau Brys (trwy'r Gwasanaethau Diogelwch) ar unwaith.
x. Os yw Panel Cymorth i Astudio (Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol) yn penderfynu bod myfyriwr yn peri risg sylweddol o niwed iddo ef ei hun a/neu i eraill (staff a myfyrwyr), gall y Brifysgol atal myfyriwr dros dro o'r Brifysgol. Os yw hyn yn digwydd, mae'r Weithdrefn yn cynnwys camau ac amodau sy'n rhoi cyfle i'r myfyriwr adfer a pharhau â'i astudiaethau trwy dderbyn cymorth i ddychwelyd.
xi. Os yw Panel Cymorth i Astudio (Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol) yn penderfynu bod yr holl opsiynau cymorth wedi cael eu disbyddu neu eu bod yn annhebygol o ddiogelu'r myfyriwr neu eraill rhag niwed, neu'n annhebygol o leihau'r risg o niwed yn foddhaol, mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Panel Cymorth i Astudio argymell i Gadeirydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr (neu ei enwebai) fod y myfyriwr yn cael ei dynnu o'r Brifysgol yn barhaol.
3. Diben
i. Mae gan Brifysgol Abertawe Ddyletswydd Gofal i ymateb yn briodol pan fydd gweithred/gweithredoedd neu ymddygiad/ymddygiadau myfyriwr yn peri risg (gwirioneddol neu bosibl) i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr unigol a'r effaith bosibl yn sgil hynny ar yr unigolyn a/neu eraill (staff a myfyrwyr). Yn yr achosion hyn, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i'r myfyriwr ac aelodau eraill o gymuned y Brifysgol i ymateb.
ii. Cynlluniwyd y Polisi a'r Weithdrefn i annog ymyrraeth gynnar a chydweithio gweithredol rhwng staff a myfyrwyr wrth roi addasiadau rhesymol ar waith a rheoli sefyllfaoedd lle mae yna bryderon yn ymwneud â gweithred/gweithredoedd a/neu ymddygiad/ymddygiadau myfyriwr, a allai fod yn gysylltiedig ag iechyd a/neu anabledd myfyriwr (sydd wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis), sy'n peri risg (gwirioneddol neu bosibl) i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr unigol a/neu eraill (staff a myfyrwyr).
4. Cwmpas
i. Bydd y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio yn berthnasol i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, o'r dyddiad y maent yn derbyn cynnig i astudio ar un o raglenni'r Brifysgol hyd nes eu bod yn graddio/tynnu'n ôl o'r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gradd ar y cyd sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd, myfyrwyr ar leoliad, a'r rhai sydd wedi atal eu hastudiaethau.
ii. Mae'r Gweithdrefnau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr pan fyddant yn y Brifysgol ac, yn yr un modd, pan fyddant i ffwrdd o'r Brifysgol a'r cyffiniau, gan gynnwys unrhyw leoliadau lle mae myfyrwyr yn cael eu gosod fel rhan o'u hyfforddiant ac yn ystod unrhyw gyfnodau atal dros dro.
iii. Mae myfyrwyr sydd wedi'u heithrio o'r Polisi a'r Weithdrefn yn fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol sydd wedi'i gofrestru gyda chorff rheoleiddio statudol. Bydd Polisi a Gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer ar wahân yn berthnasol i'r myfyrwyr hyn.
iv. Bydd pryderon sydd y tu hwnt i gwmpas/trothwyon y Polisi a'r Weithdrefn yn cael eu cyfeirio at y polisi priodol a/neu bydd maes perthnasol Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynghori ar (ac mewn rhai achosion yn cyflwyno) ymyrraeth bwrpasol.
5. Egwyddorion Arweiniol
i. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe weithredu mewn ffordd sy'n parchu myfyrwyr a staff eraill sy'n gweithio ac yn byw yma, ymwelwyr, a'r gymuned ehangach. Ni ddylai gweithredoedd neu ymddygiadau myfyrwyr olygu eu bod nhw eu hunain, neu eraill, mewn perygl o niwed.
ii. Yn unol â'n Siarter Myfyrwyr, mae'r gofynion Disgwyliadau Myfyrwyr isod yn darparu meincnod ar gyfer ymddygiadau ac agweddau a ddisgwylir gan bob myfyriwr mewn perthynas â'i astudiaethau a’i ymgysylltiad â bywyd y Brifysgol. Dyma'r safonau a ddisgwylir gan ein cymuned myfyrwyr gyfan er mwyn helpu pawb i fanteisio'n llawn ar eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe.
iii. Disgwylir i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe fodloni'r holl ofynion Disgwyliadau Myfyrwyr isod:
- Ymwybyddiaeth briodol o'u hiechyd a'u diogelwch eu hunain ac iechyd a diogelwch pobl eraill;
- Ymwybyddiaeth briodol o'r risg o berygl corfforol iddyn nhw eu hunain ac i eraill;
- Ymddwyn mewn ffordd nad yw'n amharu ar astudiaethau a/neu brofiad y myfyriwr ei hun;
- Ymddwyn mewn ffordd nad yw'n amharu ar astudiaethau a/neu brofiad myfyrwyr eraill;
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chyd-fyfyrwyr, staff a gweithwyr proffesiynol eraill (byddai hyn yn cynnwys dulliau cyfathrebu amgen, fel BSL neu siarad gyda chymorth cyfrifiadur);
- Y gallu i ymgymryd â chyfnodau astudio yn annibynnol (gan ddefnyddio mecanweithiau cymorth rhesymol/priodol os yw myfyriwr yn gwneud cais amdanynt a'u bod yn berthnasol);
- Y gallu i fynychu a chymryd rhan yn effeithiol mewn darlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithgareddau dysgu eraill, gydag addasiadau rhesymol/priodol os yw myfyriwr yn gwneud cais amdanynt a'u bod yn berthnasol;
- Y gallu i gyflwyno gwaith cwrs yn unol ag amserlenni academaidd gofynnol, gydag addasiadau rhesymol/priodol os yw myfyriwr yn gwneud cais amdanynt a'u bod yn berthnasol;
- Y gallu i ymgymryd ag arholiadau/asesiadau ac ymgysylltu'n effeithiol â'r broses asesu, gydag addasiadau rhesymol/priodol os yw myfyriwr yn gwneud cais amdanynt a'u bod yn berthnasol;
- Y gallu i hunangyfeirio at wasanaethau cymorth a argymhellir ac ymgysylltu'n effeithiol ag unrhyw drefniadau cymorth sy'n cael eu rhoi ar waith;
- Y gallu i fyw'n annibynnol (gyda chymorth rhesymol/priodol gan asiantaethau mewnol a/neu allanol os yw myfyriwr yn gwneud cais amdano a'i fod yn berthnasol).
iv. Bydd penderfyniadau o dan y Polisi a'r Weithdrefn yn cael eu gwneud ar sail yr wybodaeth orau sydd ar gael ar yr adeg berthnasol. Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn ffordd deg a thryloyw, gan ystyried risgiau a thebygolrwydd yr effaith ar iechyd a llesiant y myfyriwr a/neu iechyd pobl eraill. Bydd pob achos yn asesu'r risg i'r myfyriwr ei hun a/neu i eraill: a yw gweithredoedd/ymddygiad y myfyriwr wedi cael effaith andwyol, neu'n debygol o gael effaith andwyol, ar y canlynol:
- diogelwch, iechyd neu lesiant y myfyriwr ei hun; neu
- ddiogelwch, iechyd neu lesiant pobl eraill; neu
- amgylchedd dysgu a/neu amgylchedd byw'r Brifysgol.
v. Wrth asesu risgiau a thebygolrwydd yr effaith ar iechyd a llesiant y myfyriwr neu iechyd pobl eraill, gellir ystyried a yw'r myfyriwr yn bodloni gofynion y Disgwyliadau Myfyrwyr a restrir yn 5 (iii) uchod.
vi. Hefyd, rhoddir ystyriaeth i fesurau y gellir eu rhoi ar waith i reoli a/neu leihau'r risg/risgiau a nodwyd yn ddigonol.
6. Gweithdrefn
i. Os yw aelodau staff yn dymuno atgyfeirio achos at y Polisi a'r Weithdrefn, bydd angen iddynt wneud y canlynol:
- Asesu addasrwydd gwneud atgyfeiriad ar sail lefel y risg (gwirioneddol neu bosibl) A
- Darparu manylion a thystiolaeth o weithred/gweithredoedd a/neu ymddygiad/ymddygiadau'r myfyriwr sydd, yn eu barn nhw, yn peri risg (gwirioneddol neu bosibl) i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr unigol a/neu i eraill (staff a myfyrwyr) AC
- Egluro pam y mae ganddynt bryderon y gallai gweithred/gweithredoedd a/neu ymddygiad/ymddygiadau'r myfyriwr fod yn gysylltiedig ag iechyd a/neu anabledd myfyriwr (sydd wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis) e.e. anawsterau iechyd meddwl, trallod seicolegol neu emosiynol, cyflyrau niwrolegol neu gyflyrau corfforol.
ii. Mae'r Polisi a'r Weithdrefn yn cynnwys dau gam sydd wedi'u cynllunio i gefnogi myfyrwyr a darparu pob cyfle priodol i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth (mewnol ac allanol) er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a gallu symud ymlaen. Mae'r camau hyn yn amrywio o gyswllt cefnogol cychwynnol â myfyriwr sy'n peri pryder, i banel ffurfiol a fydd yn penderfynu a yw myfyriwr yn gallu parhau i astudio yn y Brifysgol ai peidio. Ym mhob cam, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn llawn, a bydd pob rhyngweithiad yn cael ei gymryd o ddifri a'i gofnodi yn briodol, e.e. nodiadau cyfarfod, cyswllt rhwng staff a myfyrwyr etc.
iii. Bydd staff perthnasol o'r Brifysgol yn cymryd rhan ym mhob cam o'r Polisi a'r Weithdrefn yn unol â phenderfyniad Gwasanaethau Myfyrwyr. Bydd cymorth yn cael ei deilwra i anghenion pob myfyriwr, ac mae'n bosibl y bydd y Brifysgol yn cymryd camau i sicrhau diogelwch yn unol ag unrhyw un o ddau gam y Polisi a'r Weithdrefn.
iv. I gael manylion penodol y Weithdrefn Cymorth i Astudio, gweler y wybodaeth isod.
7. Ceisiadau i Ailystyried Penderfyniadau'r Panel Cymorth i Astudio
i. O dan Gam 2 y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ofyn i'r Panel Cymorth i Astudio ailystyried ei benderfyniad (mewn achosion lle mae'r panel wedi penderfynu Atal Myfyriwr Rhag Astudio Dros Dro neu Dynnu Myfyriwr oddi ar y Cwrs) trwy gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Gadeirydd y Panel Cymorth i Astudio, o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost yn eu hysbysu am benderfyniad y Panel. Bydd achosion yn cael eu hailystyried ar sail y canlynol yn unig:
- Tystiolaeth newydd na allai'r myfyriwr fod wedi'i darparu yn rhesymol yn gynharach neu;
- Tystiolaeth nad yw Prifysgol Abertawe wedi dilyn y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio.
ii. Os yw myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad penderfyniad terfynol y Panel Cymorth i Astudio (yn dilyn cais i'r Panel Cymorth i Astudio ailystyried y penderfyniad), gallu ofyn am Adolygiad Terfynol o'r penderfyniad, o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost sy'n cadarnhau penderfyniad terfynol y Panel Cymorth i Astudio ar ôl iddo ailystyried yr achos, yn unol â Gweithdrefn Adolygiad Terfynol y Brifysgol.
8. Cyfrinachedd a Diogelu Data
i. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir o dan y Polisi a'r Weithdrefn yn gyfrinachol ac yn ddarostyngedig i ofynion y Ddeddf Diogelu Data. Ni fydd gwybodaeth gyfrinachol ar gael i unrhyw aelod o staff os nad yw'r broses yn ymwneud ag ef neu'n effeithio arno yn uniongyrchol.
ii. Mewn achosion lle mae'r Polisi a'r Weithdrefn wedi'u rhoi ar waith, bydd Gwasanaethau Myfyrwyr yn ystyried pa aelodau staff yn y Brifysgol sydd angen bod yn ymwybodol o'r penderfyniadau a wnaed yng Ngham 1 a/neu Gam 2, a bydd y myfyriwr yn cael gwybod pwy fydd yn cael ei hysbysu. Lle y bo'n briodol, bydd y Gwasanaethau Myfyrwyr yn penderfynu a oes angen hysbysu perthynas agosaf y myfyriwr, ac yn trafod gyda'r myfyriwr i benderfynu a ddylid cysylltu ag unrhyw wasanaethau statudol.
iii. O ganlyniad i roi'r polisi hwn ar waith, mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod y bydd yn derbyn 'Data Categori Arbennig' yn ymwneud â myfyriwr a thrydydd partïon eraill, a bydd yn sicrhau bod yr holl ddata o'r fath yn cael ei drin, ei brosesu a'i storio yn unol â Pholisi Diogelu Data Prifysgol Abertawe. Mae nifer o resymau cyfreithiol dros ddatgelu data er mwyn atal niwed i unigolyn neu i eraill.
9. Cymorth
i. Yn unol ag ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gefnogi myfyrwyr, mae gwasanaethau cyngor a chymorth amrywiol yn cael eu cynnig i'r holl fyfyrwyr. Mae rhagor o fanylion am gymorth i fyfyrwyr, ac am weithredu mewn sefyllfaoedd brys, ar gael yn yr atodiadau.
ii. Oherwydd natur y Polisi a'r Weithdrefn, gallent achosi trallod i fyfyriwr sydd eisoes yn agored i niwed. Bydd pob achos yn cael ei reoli gyda sensitifrwydd a thosturi drwyddi draw.
iii. Yn ystod Cyfnod 2, ni chaiff myfyrwyr a'u cefnogwyr fynychu Cyfarfodydd Panel Cymorth i Astudio.
iv. Gall myfyrwyr atgyfeirio eu hunain at Ganolfan Cyngor Undeb y Myfyrwyr i gael cyngor cyfrinachol am ddim ar y broses Cymorth i Astudio: advice@swansea-union.co.uk.
10. Adolygiad o'r Polisi a'r Weithdrefn
i. Bydd y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio a'r holl atodiadau cysylltiedig yn cael eu hadolygu bob blwyddyn gan y Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gweithdrefn Cymorth i Astudio Prifysgol Abertawe
1. Rolau a Chyfrifoldebau
Rôl | Cyfrifoldebau |
---|---|
Myfyriwr |
|
Timau Gwasanaethau Myfyrwyr e.e. Gwasanaethau Llesiant, Gwasanaeth Anableddau, Llesiant@BywydCampws |
|
Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr (Cyfadran) |
|
Gwasanaethau Preswyl |
|
Gwasanaethau Diogelwch |
|
Llesiant@BywydCampws |
|
Gwasanaethau Addysg (Tîm Achosion Myfyrwyr) |
|
Panel Cymorth i Astudio |
|
Cadeirydd y Panel Cymorth i Astudio (Tîm Arweinyddiaeth Gwasanaethau Myfyrwyr) |
|
2. Atgyfeirio: Polisi a Gweithdrefn Cymorth i Astudio
2.1
Dylai staff sy'n dymuno cyfeirio at y Polisi a'r Weithdrefn gwblhau'r 'Offeryn Asesu Atgyfeirio Cymorth i Astudio Cychwynnol’ a chwblhau 'Ffurflen Atgyfeirio Pryder Cychwynnol' (gweler Atodiadau). Dylid e-bostio'r rhain wedyn i Llesiant@BywydCampws. Gall staff ofyn am arweiniad gan Llesiant@BywydCampws cyn cymryd y cam hwn.
2.2
Ar ôl derbyn yr wybodaeth, bydd Llesiant@BywydCampws yn adolygu'r wybodaeth, yn cynnal Asesiad Risg cynhwysfawr ac yn penderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol:
- Dod yn ôl at y pwynt atgyfeirio cychwynnol gyda chyngor ac arweiniad pellach a/neu anfon ymateb wedi'i deilwra (e.e. ymyrraeth 'Anffurfiol' – gweler isod);
- Atgyfeirio’r achos at Gam 2 y Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio.
3. Gweithdrefn Cam 1: Ymyrraeth Cymorth Anffurfiol
3.1
Nod y cyfarfod Ymyrraeth Cymorth Anffurfiol Cam 1 yw cefnogi yn hytrach na chosbi. Hefyd, bwriedir i'r cyfarfod fod yn agored, yn dryloyw, yn gyson ac yn cael ei gynnal mewn ffordd sensitif.
3.2
Mae modd mynd i'r afael yn rhwydd â'r rhan fwyaf o bryderon o ddydd i ddydd yn ymwneud â lles/llesiant myfyrwyr (nad ydynt yn bodloni'r trothwy ar gyfer Cymorth i Astudio) yn anffurfiol rhwng staff a myfyrwyr. Nid oes modd rhoi'r Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio ar waith os nad yw'r achos yn bodloni'r trothwyon gofynnol (gweler Pwynt 3 uchod).
3.3
Fel arfer, o dan Ymyrraeth Cymorth Anffurfiol Cam 1, bydd aelod priodol o staff (e.e. rhywun sy'n gyfrifol am Lesiant/Cymorth i Fyfyrwyr) yn cysylltu â'r myfyriwr ac yn egluro iddo mewn ffordd sy'n dangos cefnogaeth a dealltwriaeth fod pryderon amdano wedi dod i'r amlwg.
3.4
Dylid codi union natur y gweithredoedd a/neu'r ymddygiad sydd wedi peri pryder, gan gynnwys, os yw'n briodol, cyfeiriad at risg ymddangosiadol sydd wedi’i nodi. Dylid rhoi cyfle i'r myfyriwr egluro ei farn ei hun ar y mater a dangos ei ddealltwriaeth o'r pryderon a gyflwynir iddo. Bydd yr aelod o staff yn ceisio datrys y mater drwy drafod gyda'r myfyriwr.
3.5
Lle y bo'n briodol, dylid annog y myfyriwr i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth a gynigir gan y Brifysgol neu sydd ar gael y tu allan i'r Brifysgol, a'i gynorthwyo i gysylltu ag un neu fwy o'r gwasanaethau hyn os yw'n dymuno eu defnyddio.
3.6
Dylid dogfennu'r trafodaethau anffurfiol, y cyngor ac unrhyw addewidion a wneir gan neu ar ran y Brifysgol a/neu'r myfyriwr.
3.7
Os nad yw myfyriwr yn gallu cydweithredu â'r cyngor a'r arweiniad uchod neu addasu ei weithredoedd a/neu ei ymddygiad, gan beri mwy o bryder/risg o ganlyniad, dylai'r aelod o staff sy'n ymdrin yn uniongyrchol â'r myfyriwr ymgynghori â Llesiant@BywydCampws am symud yr achos ymlaen i Gam 2. Dylid hysbysu'r myfyriwr y gall ymyrraeth fwy ffurfiol o dan ail gam y polisi hwn gael ei ystyried fel cam gweithredu priodol.
4. Gweithdrefn Cam 2: Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol
4.1
Ar ôl derbyn ac adolygu'r wybodaeth ofynnol (gweler Pwynt 3 uchod), os yw Llesiant@BywydCampws yn penderfynu bod yr achos yn bodloni'r trothwy ar gyfer Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol Cam 2, bydd Llesiant@BywydCampws yn gweithredu fel cydgysylltydd.
4.2
Bydd Llesiant@BywydCampws yn gofyn am neu'n dwyn ynghyd pryderon o bob maes (e.e. pryderon Gwasanaethau Preswyl, Gwasanaethau Myfyrwyr, y Gyfadran, trydydd partïon etc.), gan gasglu'r holl wybodaeth/gweithredoedd yn ymwneud ag ymyraethau anffurfiol, cynnal asesiad risg cyfredol a drafftio Cofnod Digwyddiadau Cymorth i Astudio (gweler Atodiadau) wedi’i gwblhau. Bydd y pryderon hyn yn cael eu cyflwyno i'r Cadeirydd perthnasol i'w hadolygu.
4.3
Wrth adolygu'r dogfennau perthnasol a gyflwynir gan Llesiant@BywydCampws, bydd y Cadeirydd yn cynnal cyfarfod Panel Cymorth i Astudio i drafod natur y pryderon gyda’r meysydd perthnasol (i'w penderfynu gan y Cadeirydd) ac ystyried camau gweithredu/canlyniadau posibl.
4.4
Bydd llesiant y myfyriwr yn cael ei ystyried bob amser wrth roi gwybod am atgyfeiriad at Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol Cam 2 o'r Polisi a'r Weithdrefn. Bydd y Cadeirydd yn penderfynu a fydd yn briodol cyfathrebu â'r myfyriwr mewn achos o atgyfeiriad at Ymyrraeth Ffurfiol Cam 2.
4.5
Mae'r weithdrefn benodol sydd i'w dilyn wrth ymdrin â mater o dan Ymyrraeth Cymorth Ffurfiol Cam 2 yn cael ei phenderfynu gan y Cadeirydd perthnasol ac mae'n dibynnu ar amgylchiadau'r mater (e.e. difrifoldeb y pryder, y risg sy'n codi, ac a yw'r myfyriwr yn gallu cymryd rhan yn y broses).
4.6
Ni chaiff myfyrwyr na'r rhai sy’n eu cefnogi fynychu Cyfarfodydd Panel Cymorth i Astudio Cam 2 ond byddant yn cael eu hysbysu’n ysgrifenedig am benderfyniad y Panel, gyda’r rhesymau dros y penderfyniad.
4.7
Bydd y Panel Cymorth i Astudio yn gwneud asesiad risg, yn asesu galluogrwydd myfyriwr i astudio ar y pryd, ac yn trafod unrhyw gamau gweithredu cefnogol sydd angen eu cymryd. Gall camau gweithredu o'r fath gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) un neu fwy o'r canlyniadau canlynol:
- Penderfynu nad oes angen cymryd camau pellach;
- Trefnu cyfarfod Panel Cymorth i Astudio arall i adolygu'r achos ar ddyddiad yn y dyfodol;
- Argymell bod y myfyriwr yn mynychu apwyntiad yn y Gwasanaethau Llesiant a/neu Swyddfa Anableddau'r Brifysgol i drafod ei anghenion cymorth;
- Ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr gysylltu (naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth y Gwasanaethau Llesiant neu'r Gwasanaeth Anableddau fel y bo'n briodol), o fewn cyfnod penodedig, ag ymarferydd cymwysedig addas (i'w benodi gan y Panel Cymorth i Astudio) er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer asesiad a mynychu apwyntiad o'r fath;
- Ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ddarparu i'r Panel Cymorth i Astudio, erbyn dyddiad penodol, lythyr/adroddiad gan ymarferydd cymwysedig addas y bu'n ofynnol i'r myfyriwr fynychu apwyntiad asesu gydag ef. Bydd y Panel Cymorth i Astudio yn nodi’r wybodaeth benodol sydd angen ei chynnwys mewn llythyr/adroddiad o’r fath.
- Ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr atal ei astudiaethau dros dro os yw'r Panel Cymorth i Astudio o'r farn bod y risgiau i'r myfyriwr ei hun neu i eraill, o ganlyniad i weithredoedd a/neu ymddygiad y myfyriwr, yn rhy ddifrifol i ganiatáu iddo barhau i astudio. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y Panel Cymorth i Astudio yn penderfynu'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i'r myfyriwr barhau â'i astudiaethau, megis (ond nid yn gyfyngedig i) dderbyn cadarnhad ysgrifenedig gan ymarferydd cymwysedig addas fel y nodir gan y Panel Addasrwydd i Astudio bod y myfyriwr yn addas i ailgydio yn ei astudiaethau a/neu ganlyniad boddhaol o asesiad risg;
- Argymell i Gadeirydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr (neu ei enwebai) y dylid tynnu'r myfyriwr o'r Brifysgol, os yw'r Panel Addasrwydd i Astudio yn credu'r canlynol:
a) Os yw'r myfyriwr yn dychwelyd i astudio yn y dyfodol agos, bydd hynny'n debygol o gael effaith niweidiol ar iechyd y myfyriwr neu beri risg annerbyniol o niwed i'r myfyriwr neu i eraill; a
b) Mae'r holl opsiynau cymorth wedi cael eu disbyddu neu mae'n annhebygol y bydd opsiynau cymorth priodol yn lleihau lefel y risg yn ddigonol.
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr (neu ei enwebai) yn penderfynu a ddylid tynnu'r myfyriwr o'r Brifysgol. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod yn ysgrifenedig am benderfyniad y Cadeirydd (neu enwebai);
- Penderfynu, yn ôl disgresiwn y Panel Cymorth i Astudio, ar unrhyw ganlyniad/canlyniadau amgen y mae'n ystyried eu bod yn briodol o dan amgylchiadau'r achos;
- Penderfynu bod canlyniad cyfarfod y Panel Cymorth i Astudio, unrhyw ddogfen a gafodd ei hystyried gan y Panel Cymorth i Astudio neu sy'n ymwneud ag ef, a/neu fanylion unrhyw bryderon penodol, yn cael eu datgelu i berson/personau penodol fel y bo'n briodol yn ôl y Panel Cymorth i Astudio;
- Penderfynu ar unrhyw gyfuniad o'r canlyniadau uchod.
4.8
Os oes angen atal myfyriwr dros dro neu ei dynnu o'i astudiaethau, bydd llythyr yn cael ei anfon at y myfyriwr yn ei hysbysu am y penderfyniad i'w atal dros dro/ei dynnu o’r Brifysgol, gan nodi'r rhesymau dros y penderfyniad. Bydd y llythyr yn egluro i'r myfyriwr bod y weithdrefn hon ar wahân i Weithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ofyn i'r Panel Cymorth i Astudio ailystyried y penderfyniad hwn trwy gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cadeirydd o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost sy'n ei hysbysu am benderfyniad y Panel Cymorth i Astudio.
4.9
Ym mhob achos, bydd y Panel Cymorth i Astudio yn ystyried y dull mwyaf priodol a chefnogol o hysbysu'r myfyriwr am y penderfyniad cyn mynd ati i'w hysbysu. Pan fo modd i hynny ddigwydd, ac fel y cytunwyd gan y Cadeirydd, rhoddir yr hysbysiad ysgrifenedig sy'n cynnwys manylion y penderfyniad i'r myfyriwr yn bersonol gan y Cadeirydd, a fydd yn egluro ei gynnwys. Hefyd, caiff y llythyr ei anfon at y myfyriwr drwy e-bost a/neu'r post.
4.10
Os oes angen atal y myfyriwr dros dro neu ei dynnu o'i astudiaethau, bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu Deon Gweithredol Cyfadran y myfyriwr, ac eraill yn ôl yr angen (e.e. Cofnodion Myfyrwyr). Hefyd, bydd y Brifysgol yn hysbysu sefydliadau allanol am y canlyniad os oes ganddi rwymedigaeth i wneud hynny, megis Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr, UKVI etc.
5. Dychwelyd i Astudio
5.1
Os mai canlyniad ffurfiol y Panel Cymorth i Astudio o dan Gam 2 yw atal y myfyriwr dros dro o'i astudiaethau a gosod amodau ar gyfer dychwelyd, bydd y myfyriwr yn cael ei hysbysu am hyn yn ysgrifenedig, gyda dyddiadau pendant ar gyfer cyflwyno tystiolaeth feddygol a/neu dystiolaeth arall y gofynnwyd amdani i'w hadolygu gan y Cadeirydd.
5.2
Ni fydd myfyrwyr yn gallu dychwelyd i astudio heb ganiatâd y Panel Cymorth i Astudio, a bydd angen tystiolaeth feddygol a/neu dystiolaeth addas arall sy'n dangos nad yw'r myfyriwr bellach yn peri risg i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr ei hun a/neu i eraill (staff a myfyrwyr).
5.3
Ar ôl cyflwyno'r dystiolaeth feddygol a/neu'r dystiolaeth arall y gofynnir amdani gan y Panel Cymorth i Astudio, bydd y Cadeirydd yn ailgynnull y Panel Cymorth i Astudio er mwyn adolygu'r dystiolaeth feddygol a/neu'r dystiolaeth arall a gyflwynwyd. Bydd y Panel Cymorth i Astudio yn penderfynu a ddylid caniatáu i'r myfyriwr ddychwelyd i astudio ac os felly, pryd y bydd yn caniatáu i'r myfyriwr ddychwelyd, gan ystyried rheolau, rheoliadau a gweithdrefnau ein Prifysgol a'r angen i sicrhau bod ailintegreiddio'r myfyriwr i astudio yn cyd-fynd ag angen yr amserlen academaidd.
5.4
Wrth ddod i'w benderfyniad, gall y Panel Cymorth i Astudio ymgynghori â staff perthnasol y Brifysgol a/neu weithwyr proffesiynol allanol. Hefyd, gall y Panel Cymorth i Astudio ystyried unrhyw gymorth a/neu addasiadau rhesymol y gellid eu rhoi ar waith ar gyfer y myfyriwr mewn cysylltiad â'i gais i ddychwelyd i astudio, a bydd y Panel yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gymorth ac addasiadau rhesymol a nodwyd yn cael eu darparu (mewn achos lle caniateir i fyfyriwr ddychwelyd i astudio).
5.5
Mewn achosion lle nad yw'r Panel Cymorth i Astudio yn fodlon bod y dystiolaeth feddygol a/neu'r dystiolaeth arall a gyflwynwyd yn dangos nad yw'r myfyriwr bellach yn peri risg i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr ei hun a/neu i eraill (staff a myfyrwyr), bydd Cadeirydd y Panel Cymorth i Astudio yn ysgrifennu at y myfyriwr i'w hysbysu na fydd yn cael dychwelyd i astudio eto, a'r rhesymau dros y penderfyniad.
5.6
Mewn achosion lle mae'r Panel Cymorth i Astudio yn fodlon bod y dystiolaeth feddygol a/neu'r dystiolaeth arall a gyflwynwyd yn dangos nad yw'r myfyriwr bellach yn peri risg i iechyd, diogelwch, profiad neu lesiant y myfyriwr ei hun a/neu i eraill (staff a myfyrwyr), bydd angen i'r Panel Cymorth i Astudio gytuno ar gynllun dychwelyd i astudio. Gallai'r cynllun gynnwys unrhyw gymorth perthnasol, gan gynnwys, er enghraifft, cymorth astudio penodol, cymorth Gwasanaethau Myfyrwyr ac unrhyw gymorth arall y credir ei fod yn angenrheidiol er mwyn i'r myfyriwr ddychwelyd i astudio yn llwyddiannus. Bydd angen i'r myfyriwr gydymffurfio â'r holl gamau gweithredu y cytunwyd arnynt er mwyn aros yn y Brifysgol.
5.7
Ar ôl i'r myfyriwr ddychwelyd i astudio, gallai'r Panel Cymorth i Astudio argymell cynnal cyfarfodydd adolygu, i'w trefnu gan Dîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran. Bydd y cyfarfodydd hyn yn galluogi'r Brifysgol i helpu'r myfyriwr i ddychwelyd i astudio yn llwyddiannus. Bwriedir i'r angen am gyfarfodydd adolygu ddod i ben ar ôl yr ail gyfarfod ond, os yw'n briodol, gall y cyfarfodydd hyn barhau am gyfnod i'w benderfynu gan Dîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr perthnasol y Gyfadran.
5.8
Mewn achosion lle mae myfyriwr wedi atal ei astudiaethau ei hun am resymau iechyd neu resymau eraill cyn i’r Polisi a'r Weithdrefn Cymorth i Astudio gael eu rhoi ar waith, neu cyn eu cwblhau, mae'n bosibl y bydd angen iddo ddilyn y broses Dychwelyd i Astudio cyn gallu dychwelyd i astudio. Bydd y Cadeirydd perthnasol yn penderfynu'r mater hwn.
6. Cyswllt Allweddol
6.1
Os mai canlyniad ffurfiol y Panel Cymorth i Astudio o dan Gam 2 yw cyfnod atal dros dro, bydd y myfyriwr yn cael manylion cyswllt y Cadeirydd perthnasol a fydd yn gweithredu fel un pwynt cyswllt a chyfathrebu.
ATODIADAU
Atodiad: Argyfyngau/Sefyllfaoedd Brys
Mae sefyllfa yn sefyllfa frys os ydych yn credu y gallai'r myfyriwr fod mewn perygl uniongyrchol o niweidio ei hun neu eraill.
Waeth a fydd y myfyriwr yn derbyn cymorth ai peidio, ym mhob sefyllfa o argyfwng meddygol lle mae risg uniongyrchol i fywyd y myfyriwr a/neu i fywydau pobl eraill, e.e. gorddos o gyffuriau, hunan-niweidio difrifol, argyfwng corfforol, etc:
Cysylltwch â'r Gwasanaethau Diogelwch ar 333 i gael cymorth ar unwaith ac i gael eich cyfeirio at y gwasanaethau brys. Gallwch actifadu SafeZone hefyd.
Os yw’r myfyriwr yn barod i dderbyn cymorth | Os nad yw’r myfyriwr yn dymuno derbyn cymorth |
---|---|
Os yw'r myfyriwr wedi'i gofrestru gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol a bod ganddo symptomau o drallod seicolegol:
Os yw'r myfyriwr wedi'i gofrestru gyda meddyg teulu:
Os nad yw'r myfyriwr wedi'i gofrestru gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu feddyg teulu:
Rhowch wybod i'ch rheolwr llinell. |
Os yw'r myfyriwr mewn perygl o niweidio ei hun neu eraill, ac nad yw’n fodlon derbyn cymorth, mae hon yn sefyllfa frys. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Diogelwch ar 333 i gael cymorth ar unwaith ac i gysylltu â'r Gwasanaethau Brys. Gall fod yn ddefnyddiol rhoi disgrifiad corfforol o'r myfyriwr, ynghyd â manylion sylfaenol (h.y. Enw, Rhif Myfyriwr, Cyfeiriad, Rhif Ffôn, etc.) i'w trosglwyddo i'r Gwasanaethau Diogelwch a/neu'r Gwasanaethau Brys. Rhowch wybod i'ch rheolwr llinell. |
Ym mhob sefyllfa | |
|
Atodiad: Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe
Cynnig Cymorth i Fyfyrwyr
Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Cynhwysol
Rydym yn cynnig opsiynau cyngor, arweiniad, addasiadau a chymorth arbenigol i fyfyrwyr. Mae ein gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr sy'n wynebu anawsterau emosiynol a phersonol yn ogystal â chyflyrau hirdymor mwy cymhleth er mwyn sicrhau bod gan bob myfyriwr Prifysgol Abertawe fynediad at gyfleoedd dysgu cyfartal.
Iechyd Meddwl a Chwnsela
Mae'r tîm Llesiant yn cynnig cymorth i fyfyrwyr reoli anawsterau iechyd seicolegol neu emosiynol posibl. Mae staff arbenigol yn asesu anghenion pob myfyriwr ac yn gallu darparu hunangymorth dan arweiniad, cymorth ar-lein, sesiynau cymorth iechyd meddwl neu gwnsela. Nid yw'r cymorth hwn wedi'i gyfyngu i'r rhai sydd ag anabledd neu dystiolaeth feddygol, ac mae ar gael i bob myfyriwr. Mae'n bosibl y myfyrwyr sydd â diagnosis o gyflwr iechyd meddwl yn gymwys i gael addasiadau academaidd hefyd.
Anabledd
Mae'r tîm Anableddau yn cynorthwyo myfyrwyr trwy ddarparu addasiadau y gallai fod eu hangen arnynt oherwydd anabledd; mae hyn yn cynnwys cyflyrau iechyd hirdymor, anawsterau dysgu penodol, problemau symudedd neu fyfyrwyr sydd â nam ar eu clyw neu eu golwg. Mae'r Tîm yn ystyried anghenion ar sail unigol er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at gymorth, cyfarpar a thechnoleg arbenigol a gofodau hygyrch, ynghyd â dulliau addysgu, dysgu ac asesu hygyrch.
Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth
Mae'r tîm Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig, neu sy'n archwilio cyflwr o'r fath. Mae'r tîm yn cynnig digwyddiadau pontio a chyfeiriadedd, sesiynau cymorth, grŵp cymdeithasol wedi'i hwyluso, ac mae'n cydweithio ag adrannau i drefnu addasiadau academaidd.
Canolfan Asesu DSA
Mae myfyrwyr sydd ag anabledd neu gyflwr hirdymor yn gymwys i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Mae DSA yn gronfa i dalu am gost cymorth ychwanegol sydd o bosib ei angen ar fyfyrwyr anabl er mwyn iddynt ymgymryd â'u hastudiaethau. Rhaid i fyfyrwyr fynychu Canolfan Asesu DSA i asesu sut mae eu hanabledd yn effeithio ar eu hastudiaethau a pha gymorth y dylai'r DSA ei ariannu. Mae enghreifftiau o gymorth a ariennir gan DSA yn cynnwys Mentora Arbenigol, Sgiliau Astudio Arbenigol, Cymryd Nodiadau ac Offer Arbenigol. Mae Canolfan Asesu DSA ym Mhrifysgol Abertawe (Campws Singleton), ond gall myfyrwyr fynychu unrhyw ganolfan asesu yn y DU.
Mentora Arbenigol
Mae Mentora Arbenigol yn darparu cymorth un i un arbenigol iawn, wedi'i deilwra'n benodol sy'n helpu myfyrwyr i oresgyn y rhwystrau i ddysgu sy'n deillio o gyflwr penodol. Darperir y cymorth hwn yn bennaf ar gyfer myfyrwyr â chyflyrau iechyd meddwl neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth. Darperir y cymorth yn dilyn asesiad o anghenion ac mae'n cael ei ariannu gan y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
Sgiliau Astudio Arbenigol
Mae Sgiliau Astudio Arbenigol yn gweithio gyda myfyrwyr trwy ddefnyddio strategaethau amrywiol neu dechnoleg gynorthwyol i’w galluogi i astudio'n fwy effeithiol a gwireddu eu potensial. Bydd Tiwtor Sgiliau Astudio Arbenigol yn gweithio gyda'r myfyriwr ar sail un-i-un er mwyn datblygu ei sgiliau academaidd, gan fynd i'r afael ag effaith ei anabledd ar ei addysg, a gosod a chyflawni nodau personol. Darperir y cymorth yn dilyn asesiad o anghenion ac mae'n cael ei ariannu gan y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
BywydCampws
Mae Llesiant@BywydCampws yn gweithio'n agos gyda staff mewn Cyfadrannau, gwasanaethau cymorth eraill y Brifysgol, a phartneriaid allanol fel yr Heddlu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliadau Diogelu etc. i ddarparu dull cydweithredol a chyfannol o sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth gorau posibl wrth wynebu materion llesiant/bugeiliol sy'n cael effaith negyddol ar eu profiad fel myfyrwyr. Mae'r tîm yn gallu darparu cymorth a gwasanaeth cyfeirio ar gyfer materion o bob math sy'n amrywio o unigrwydd/hiraeth, dioddefwyr, tystion a chyflawnwyr troseddau, trais domestig, camymddwyn rhywiol/trais, dibyniaeth, clefydau trosglwyddadwy, e.e. meningitis, materion sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd; nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r Wefan Llesiant.
Mae Ffydd@BywydCampws yn cynnig lle diogel i bob un o'r myfyriwr, aelodau staff ac aelodau'r gymuned, waeth beth yw eu ffydd, diwylliant, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Gallwch ddod o hyd i ni yn Yr Hafan (Campws y Bae), Y Goleudy (Campws Singleton) ac Y Mosg (Campws Singleton). Rydym yn annog pobl i archwilio ffydd mewn amgylchedd agored a chynhwysol; yn meithrin cydweithrediad a chydweithio rhwng mathau gwahanol o ffydd ac yn cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol heb feirniadaeth drwy'r Gwasanaeth Gwrando a Chefnogaeth mewn Profedigaeth. Hefyd, rydym yn cynnig digwyddiadau cymdeithasol bach, wedi'u bwriadu'n benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n hoffi gweithgareddau mwy tawel.
Mae Arian@BywydCampws yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar faterion yn ymwneud ag arian myfyrwyr ar gyfer ein myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Mae'r tîm yn cynnig cyngor ar gyllid myfyrwyr, caledi ariannol, a chyllidebu, ac mae'n gallu darparu cymorth ariannol wedi'i dargedu i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel person sy'n gadael gofal neu sy'n ofalwr, neu rywun sydd wedi'i ddieithrio oddi wrth ei deulu.
Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn darparu cyngor, cyfleoedd a gwybodaeth bwrpasol i Ymadawyr Gofal cymwys a myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio oddi wrth eu rhieni. Nod y gwasanaeth yw hwyluso mynediad at wybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys llety, cymorth academaidd a chyllid, gan alluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am eu hastudiaethau a'u profiad yn y brifysgol.
Mae International@CampusLife yn cynorthwyo myfyrwyr a'u teuluoedd gyda phob math o broblemau nad ydynt yn gysylltiedig â materion academaidd neu gyllid. Materion sy’n berthnasol i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig yw’r rhain nad oes unrhyw wasanaeth neu adran arall yn ymdrin â nhw. Mae'r rhan fwyaf o waith ICL yn canolbwyntio ar gymorth a chyngor ar fewnfudo (ar gyfer staff/myfyrwyr gan gwmpasu'r cyfnod cyn ac ar ôl astudio - yn ogystal ag yn ystod y cwrs) ac mae'r tîm yn cynnwys nifer o arbenigwyr mewnfudo sydd wedi'u hyfforddi a'u rheoleiddio'n llawn. Hefyd, mae'r tîm yn cynnal digwyddiadau croeso rhyngwladol, yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn o dan y Rhaglen GO! Mae'r rhaglen hon yn cynnwys gwibdeithiau rheolaidd, nosweithiau ffilm, Clwb Swper ac amrywiaeth eang o gyfleoedd cymdeithasol eraill – sydd ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Hefyd, mae'r tîm yn trefnu gweithgareddau sy'n addas i blant yn rheolaidd ar gyfer myfyrwyr a'u teuluoedd. Mae gwybodaeth gynhwysfawr am bob agwedd ar waith ICL ar gael ar y wefan: hafan International@CampusLife
Mae Cymuned@BywydCampws yn canolbwyntio ar fyfyrwyr sy'n byw oddi ar y campws. Mae'r tîm yn cynnig cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n byw yn y gymuned. Mae materion yn cynnwys mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gynorthwyo myfyrwyr i fod yn gymdogion da. Hefyd, mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda phartneriaid lleol fel Heddlu De Cymru, Cyngor Abertawe, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (campws Abertawe). Mae'n darparu gwasanaeth cyfryngu rhwng myfyrwyr sy'n byw yn yr un lle, ac mae'n gweithio mewn ffordd ragweithiol yn y gymuned i feithrin cydlyniant cymunedol rhwng trigolion lleol a thrigolion sy'n fyfyrwyr. Hefyd, mae'r tîm yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n byw mewn Llety Myfyrwyr Pwrpasol ledled y ddinas.
Mae Cydraddoldeb@BywydCampws yn gwasanaethu myfyrwyr a'u rhwydweithiau cymorth (staff, aelodau'r teulu a ffrindiau) drwy gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy ein Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr a'n gwefan; mae'n cynnig cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol ac addysgol rheolaidd gan gynnwys sgyrsiau a grwpiau trafod i archwilio'r materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy'n ein hwynebu fel prifysgol a chymdeithas. Hefyd, mae'r gwasanaeth yn rhannu'r wybodaeth gyswllt ddiweddaraf am adnoddau lleol a gwasanaethau cymorth, ac mae'n cymryd rhan weithredol mewn materion cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol wrth herio anoddefgarwch, rhagfarn ac agweddau anghynhwysol. Nid yw'r tîm yn ymdrin ag achosion unigol o wahaniaethu neu aflonyddu, ond bydd yn cyfeirio pobl at yr asiantaeth briodol.
Darpariaeth Tu Allan i Oriau a Diogelu Myfyrwyr
Nod ein Tîm Diogelu yw arwain a chydgysylltu holl drefniadau Diogelu ac Atal y Brifysgol, gan gynnwys ond heb gael eu cyfyngu i'r canlynol:
- Cynnal Polisi Diogelu cyfoes a seilwaith gweithdrefnol yn unol â dyletswyddau cyfreithiol, a chanllawiau statudol a rheoleiddiol (newydd newid y dilyniant)
- Gweithio'n agos gyda Chyfadrannau a Gwasanaethau Proffesiynol i gynnal trosolwg o weithgareddau'r Brifysgol sy'n cynnwys plant (h.y., o dan 18 oed) ac oedolion sydd mewn perygl, a sicrhau bod rheoliadau diogelu perthnasol ar waith i reoli'r gweithgareddau hyn.
- Darparu a chydgysylltu cyngor ac arweiniad ar Ddiogelu ac Atal, gan gynnwys hyfforddiant cynhwysfawr.
- Arwain rhwydwaith y Brifysgol o Swyddogion Diogelu Dynodedig er mwyn sicrhau bod pryderon/honiadau Diogelu ac atgyfeiriadau Atal yn cael sylw prydlon a, lle y bo'n briodol, eu cyfeirio'n allanol at awdurdodau diogelu.
- Cynnal trosolwg o effeithiolrwydd systemau a gweithdrefnau'r Brifysgol sy'n cefnogi gweithgareddau diogelu, gan gynnwys y rhai a reolir gan y Gwasanaethau Proffesiynol (e.e. gweithdrefnau Recriwtio Diogel).
Mae ein Tîm Rheoli Digwyddiadau yn cynnwys uwch reolwyr a rheolwyr profiadol sy'n gallu ymateb i ddigwyddiadau a chefnogi myfyrwyr, staff a theuluoedd myfyrwyr a allai fod yn wynebu argyfwng neu ddigwyddiadau difrifol. Mae'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau yn gweithio mewn ffordd debyg ond mae ar gael rhwng 5pm a 9am yn ystod yr wythnos a 24 awr ar benwythnos i gefnogi myfyrwyr y tu allan i oriau gwaith arferol y Brifysgol. Er mwyn atgyfeirio achosion at y Tîm Tu Allan i Oriau, mae angen cysylltu â Diogelwch yn y lle cyntaf ar 01792 604271 (24/7).
Timau Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr Cyfadrannau
Mae'r Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr yn bwynt cyswllt yng Nghyfadrannau myfyrwyr ar gyfer unrhyw gwestiynau neu faterion. Os nad yw'r Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr (Cyfadran) yn gallu helpu yn uniongyrchol, bydd yn eich cyfeirio at y cymorth sydd ar gael.
Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Mae gan Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar y campws dîm o Gynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi ac sy'n gallu darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfrinachol, ddiduedd a di-dâl i fyfyrwyr, yn annibynnol ar y Brifysgol.
Mae'r Ganolfan yn gallu cynorthwyo myfyrwyr gyda nifer o faterion cyfreithiol a materion personol ym meysydd arian, lles, materion academaidd, tai, aflonyddu a thrais rhywiol.
E-bost: cyngor@swansea-union.co.uk
Ffôn: 01792 295 821