Caiff llên-ladrad ei ddiffinio fel defnyddio gwaith rhywun arall person heb gydnabyddiaeth a'i gyflwyno i'w asesu fel eich gwaith eich hun; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn, boed yn fwriadol neu’n anfwriadol.
Dyma rai enghreifftiau:
- Defnyddio dyfyniad(au) o waith cyhoeddedig neu waith nas cyhoeddwyd gan unigolyn arall heb nodi'n glir ei fod yn ddyfyniad drwy ei roi mewn dyfynodau a’i gydnabod drwy ddull cyfeirnodi priodol;
- Crynhoi syniadau, barn, ffigurau, meddalwedd neu ddiagramau person arall heb gyfeirio at y person hwnnw yn y testun ac at y ffynhonnell yn y llyfryddiaeth mewn modd priodol;
- Defnyddio deunydd wedi ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd heb ei gydnabod;
- Cyflwyno gwaith myfyriwr arall fel ei waith ei hun.
Nid yw'r rhestr enghreifftiau'n gynhwysfawr.
Ni chydnabyddir hunan-lên-ladrad yn rheoliadau Prifysgol Abertawe. Os bydd myfyriwr wedi cyflawni hunan-lên-ladrad, bydd y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner yn marcio'r gwaith yn unol â'r meini prawf arferol ar gyfer marcio.
Nid yw rheoliadau Prifysgol Abertawe'n gwahardd defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i lunio gwaith gwreiddiol yn benodol, ond rhaid i unrhyw ddefnydd gydymffurfio â'r canllawiau a roddir ar gyfer pob aseiniad a rhaid ei gydnabod a'i gyfeirnodi'n glir.
Os ydych yn defnyddio deunydd wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial, heb gydnabod hynny'n briodol, ac yn ei gyflwyno i'w asesu fel eich gwaith eich hun, gellir ystyried hynny'n dramgwydd camymddygiad academaidd. Felly, cynghorir myfyrwyr i fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio offer o'r fath, er mwyn sicrhau uniondeb academaidd a safon eu gwaith. Dyma rai enghreifftiau y gellir eu hystyried yn gamymddygiad academaidd:
- Creu ymateb i aseiniad gan ddefnyddio ChatGPT neu adnodd tebyg a chyflwyno'r gwaith cyfan, neu'n rhannol, â mân ddiwygiadau yn unig
- Copïo darnau o destun wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial a'u cynnwys mewn aseiniad heb gydnabyddiaeth neu gyfeirnodi priodol i ddangos tarddiad y testun.
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i greu data, graffiau, delweddau, sain neu fideo neu unrhyw fath arall o gynnwys heb gydnabyddiaeth briodol
Nid yw'r rhestr hon o enghreifftiau'n gynhwysfawr.
Gellir ystyried mân ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol heb gydnabyddiaeth yn arfer academaidd gwael (gweler 3.6). Yn ogystal, os ymddengys fod testun neu gynnwys heb ei gydnabod wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial, ond ystyrir nad yw hyn yn sylweddol nac o bwys mawr, gall y broses farcio adlewyrchu hyn gan arwain at ddyfarnu gradd is yn hytrach na thrin yr achos fel tramgwydd camymddygiad academaidd.
Mae Polisi Prawf-ddarllen y Brifysgol yn cynnwys canllawiau wedi'u diweddaru ynghylch defnyddio offer a meddalwedd deallusrwydd artiffisial a ddyluniwyd ar gyfer golygu, aralleirio a chyfieithu testun. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o'r hyn a ganiateir o ran defnyddio'r rheini wrth geisio datblygu a gwella eu gwaith.
Cydgynllwynio yw dau neu fwy o bobl sy'n creu gwaith ar y cyd ac yn ei gyflwyno fel gwaith unigolyn.
Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Dau neu fwy o fyfyrwyr yn cydweithio i ddatblygu data neu ddeunydd arall heb ganiatâd ymlaen llaw. Wedyn, byddai'r gwaith yn cael ei gyflwyno i'w asesu heb gydnabod awdur neu awduron y gwaith;
- Rhannu data, deunydd neu waith cwrs â myfyriwr arall ac wedyn ei gyflwyno i'w asesu heb wybod i'r awdur neu awduron, neu heb eu cydsyniad.
Comisiynu gwaith yw'r weithred o dalu am, neu drefnu, i rywun (neu system) arall lunio darn o waith, p'un a yw hyn wedyn yn cael ei gyflwyno i'w asesu fel gwaith y myfyriwr ei hun ai peidio.
Dyma rai enghreifftiau:
- Comisiynu traethawd sydd i'w ysgrifennu gan unigolyn neu system arall;
- Cyrchu neu lawrlwytho deunydd o wefannau cyfnewid traethodau;
- Talu rhywun arall i gasglu, trin neu ddehongli data, lle mae hyn yn ofyniad fel rhan o astudiaethau'r myfyriwr.
Nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr. Mae ffugio canlyniadau gwaith labordy, gwaith maes, neu unrhyw waith arall sy'n casglu ac yn dadansoddi data yn gamymddygiad academaidd hefyd.
3.1 Arholiadau Llafar Uniondeb Academaidd fel ffordd o ddarganfod camymddygiad academaidd heb fod mewn arholiad ar lefel y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner
3.3.1
Mewn achosion lle mae gan staff academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner, Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner a/neu Arweinydd Uniondeb Academaidd y Brifysgol bryderon ynghylch p'un a yw darn o waith cwrs, neu unrhyw waith a gwblhawyd heb fod o dan amodau arholiad, a gyflwynwyd gan fyfyriwr yn waith ganddo ef ei hun, gall y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner wahodd y myfyriwr i ddod i arholiad llafar uniondeb academaidd. Diben yr arholiad llafar uniondeb academaidd yw profi gwybodaeth y myfyriwr o'r gwaith y mae wedi'i gyflwyno a rhoi cyfle i'r myfyriwr, cyn cymryd unrhyw gamau camymddygiad academaidd, ddangos mai ei waith ef yw'r gwaith.
3.1.2
Dylid rhoi o leiaf ddau ddiwrnod o rybudd i'r myfyriwr yn ysgrifenedig am yr arholiad llafar uniondeb academaidd. Rhaid defnyddio templed safonol a fydd ar gael gan y Gwasanaethau Addysg. Gall myfyriwr ddod â ffrind neu gynrychiolydd gan Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr (bydd manylion cyswllt y Ganolfan Gyngor wedi'u cynnwys yn y llythyr). Fodd bynnag, ni chaniateir i unigolyn/unigolion sy'n dod gyda'r myfyriwr ymateb i unrhyw gwestiwn ar ran y myfyriwr. Cynghorir i'r myfyriwr ddod â thystiolaeth o waith paratoi sy'n berthnasol i'r gwaith a gyflwynwyd, megis drafftiau, ffynonellau ac adborth. Os yw'r myfyriwr wedi derbyn unrhyw gymorth gan drydydd parti yn ei waith (e.e. prawf-ddarllenydd), cynghorir iddo ddod â'r copi gwreiddiol, heb ei ddiwygio, i gynorthwyo'r panel cyfweld wrth asesu i ba raddau mae'r newidiadau a wnaed wedi effeithio ar ansawdd y gwaith.
Fel arfer, caiff yr arholiad llafar ei gynnal yn electronig drwy Zoom/Fideo-gynadledda, a bydd disgwyl i'r holl bartïon droi eu gwe-gamerau ymlaen.
3.1.3
Bydd y broses arholiad llafar fel arfer yn cynnwys Panel sy'n cynnwys o leiaf dau aelod o staff academaidd, fel arfer Cadeirydd ac Arbenigwr Pwnc (fel arfer, arweinydd y modiwl neu farciwr y modiwl). Ni ddylai'r panel gynnwys unrhyw Swyddogion Uniondeb Academaidd o Gyfadrannau/Ysgolion/Sefydliad Partner sydd wedi, neu a fydd, yn rhan o'r achos penodol. Rhaid cadw cofnod o'r arholiad llafar; gallai hyn fod ar ffurf cofnodion ysgrifenedig a/neu recordiad clywedol/cyfryngol.Yn ôl disgresiwn y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner, gellir enwebu trydydd aelod o staff er mwyn cofnodi/trawsgrifio'r arholiad llafar.
3.1.4
Cylch gorchwyl Panel yr Arholiad Llafar fydd:
- Profi dealltwriaeth y myfyriwr o'r gwaith a gyflwynwyd gandd;
- Rhoi cyfle i'r myfyriwr ddangos mai ei waith ef yw'r gwaith cyn cynnal camau camymddygiad academaidd.
3.1.5
Bydd y weithdrefn yn ystod yr arholiad llafar fel a ganlyn:
- Bydd y Cadeirydd yn gofyn i bob cyfranogwr gyflwyno ei hun;
- Bydd y Cadeirydd yn hysbysu'r holl gyfranogwyr o gylch gorchwyl y Panel;
- Gall y panel ofyn cwestiynau sy'n ymwneud â'r gwaith megis: sut aeth y myfyriwr at y gwaith; pa ymchwil a wnaed; pa ffynonellau a ddefnyddiwyd a sut y dewiswyd y rhain; beth yw prif gysyniadau'r gwaith, a sut y lluniwyd syniadau/dadleuon/data. Efallai y gofynnir i'r myfyriwr hefyd egluro datganiadau, damcaniaethau neu dermau penodol a ddefnyddir yn eu gwaith, ac a gafodd unrhyw gymorth neu gefnogaeth gan unrhyw drydydd parti.
3.1.6
Dylid rhoi'r cyfle i'r myfyriwr ddangos mai ei waith ef yw'r gwaith, gan gynnwys rhoi'r cyfle iddo gyflwyno unrhyw dystiolaeth sydd ganddo, megis drafftiau, ffynonellau etc.
3.1.7
Os nad yw myfyriwr yn dod i'r arholiad llafar uniondeb academaidd heb reswm digonol, gall Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner a/neu'r Pwyllgor Ymchwilio Camymddygiad Academaidd ddod i gasgliad o ran methiant y myfyriwr i fynychu. Neu, os penderfynir bod angen arholiad llafar er mwyn rhoi dyfarniad teg i achos, ac nid yw'r myfyriwr yn dod i'r arholiad nac yn ymateb i wahoddiad(au), gellir cadw marciau'r myfyriwr yn y modiwl dan sylw yn ôl nes ei fod yn cydweithredu â'r broses camymddygiad academaidd. Gall y bwrdd arholi gadw penderfyniad ar ddilyniant/canlyniad dyfarniad y myfyriwr yn ôl hefyd.
3.1.8
Yn dilyn yr arholiad llafar uniondeb academaidd, bydd y Cadeirydd yn paratoi adroddiad yn nodi ei farn o ran gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd ganddo a'r rhesymau dros ei farn.
3.1.9
Os bydd y Panel, ar sail barn academaidd y staff perthnasol, yn penderfynu nad yw'r myfyriwr wedi dangos mai ei waith ef yw'r asesiad, bydd y Cadeirydd yn darparu copi o'i adroddiad a recordiad/trawsgrifiad yr arholiad llafar i Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner neu Arweinydd Uniondeb Academaidd y Brifysgol (fel y bo'n briodol), yn ogystal â'r gwaith papur ategol arferol parthed yr achos. Fel arfer, dylid gwneud hyn o fewn pum niwrnod gwaith i ddyddiad arholiad llafar uniondeb academaidd y myfyriwr (yn unol â 3.4 isod).
Os yw'r Panel yn penderfynu, ar sail barn academaidd y staff perthnasol, fod y myfyriwr wedi dangos mai ei waith ef yw'r gwaith a aseswyd, bydd y Cadeirydd yn hysbysu Arweinydd/Marciwr y Modiwl y dylid marcio'r gwaith yn unol â meini prawf asesu arferol y modiwl. Dylid hysbysu'r myfyriwr yn ysgrifenedig ac nid oes angen gweithredu ymhellach.
3.2 Ymchwilio i gamymddygiad academaidd mewn amodau nad ydynt yn arholiadau ar lefel y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner (ac eithrio traethodau graddau ymchwil)
Bydd pob Cyfadran/Ysgol/Sefydliad Partner yn penodi o leiaf ddau Swyddog Uniondeb Academaidd i ymdrin ag achosion lefel y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner. Ym mhob achos, bydd un Swyddog Uniondeb Academaidd yn ymgymryd â'r ymchwiliad gan wneud argymhelliad ar yr achos. Bydd yr argymhelliad yn cynnwys: 1) a yw’r achos yn cael ei brofi neu beidio a 2) difrifoldeb yr achos. Bydd ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn gyfrifol am benderfynu a gyflawnwyd tramgwydd ac os felly, am osod cosb. Y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner fydd yn gyfrifol am ddynodi cyfrifoldebau; fodd bynnag, cyfrifoldeb Swyddogion Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner yw sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'r broses.
Mewn achosion pan amheuir camymddygiad academaidd mewn gwaith a gwblhawyd heb fod dan amodau arholiad (ac eithrio traethodau ymchwil graddau ymchwil), disgwylir i'r Gyfadran/yr Ysgol ddilyn y camau a restrir isod. Bydd baich y profi (sef y ddyletswydd i brofi’r honiad) ar y Gyfadran/yr Ysgol, a dylai safon y prawf fod ar bwysau tebygolrwydd: sefydlir ffaith os yw’n fwy tebygol o fod wedi digwydd na pheidio. Dylid ymdrin ag achosion sy'n ymwneud â thraethodau ymchwil graddau ymchwil yn unol â'r cyfarwyddyd yn adran 6.0.
3.3
Gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i achosion o gamymddygiad academaidd heb fod yn rhai mewn arholiad, ar Lefel y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner a phenderfynu arnynt
3.4 Cam Un - adroddiad i Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner
Os bydd aelod o staff yn ystyried, neu'n amau y cafwyd camymddygiad academaidd mewn perthynas ag unrhyw waith a gwblhawyd dan amodau nad ydynt yn rhai arholiad (ac eithrio traethawd ymchwil), dylai roi gwybod am y mater yn ysgrifenedig neu drwy e-bost a darparu tystiolaeth berthnasol i Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner, fel arfer o fewn pum niwrnod gwaith o ystyried gwaith y myfyriwr neu arholiad llafar uniondeb academaidd y myfyriwr. Fel arfer ni fyddai'r gwaith dan sylw yn cael ei farcio ac ni fyddai canlyniad y modiwl fel arfer yn cael ei ddarparu i'r myfyriwr nes y penderfynir ar yr achos camymddygiad academaidd.
Efallai bydd yr aelod o staff (neu ei gydweithiwr) yn ei gwneud hi’n ofynnol i'r myfyriwr fynychu arholiad llafar uniondeb academaidd i brofi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd cyn rhoi gwybod am y mater i Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner neu Arweinydd Uniondeb Academaidd y Brifysgol, yn unol â 3.1 uchod.
3.5 Cam Dau - sefydlu achos Prima Facie
Yn gyntaf oll, bydd Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner neu ei enwebai yn penderfynu a oes achos prima facie o gamymddygiad academaidd, gan ystyried y dogfennau/y dystiolaeth a phan fo angen drwy drafod â'r myfyriwr dan sylw.
Gall y Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf ofyn i aelod academaidd o staff gynnal arholiad llafar uniondeb academaidd i brofi gwybodaeth y myfyriwr o'r gwaith a gyflwynwyd, yn unol â 3.1 uchod.
Caiff achosion sy'n ymwneud â myfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe ar raglenni integredig eu trin gan y Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner yn unol â rheoliadau 3.3 i 3.12.
Mewn achosion sy'n ymwneud â myfyriwr/myfyrwyr o'r Coleg, Prifysgol Abertawe yn unig ar raglenni nad ydynt yn integredig, dylid cyfeirio'r achos at Y Coleg, Prifysgol Abertawe.
Os nad oes achos prima facie o gamymddygiad academaidd, dylid rhoi gwybod i'r myfyriwr ac ni chaiff unrhyw gamau gweithredu ffurfiol pellach eu cymryd.
3.6 Ymarfer Academaidd Gwael
Mewn achosion lle mae myfyriwr yn gynnar ar ei yrfa academaidd mae'n bosib y bydd y Swyddog Uniondeb Academaidd yn penderfynu bod cyfeirnodi yn deillio o ddiffyg dealltwriaeth y myfyrwyr i ddeall gofynion cyfeirnodi ac arfer academaidd gwael yn hytrach na chamymddygiad academaidd.
Mae'r grwpiau canlynol o fyfyrwyr yn cael eu hystyried yn gynnar yn eu gyrfa academaidd:
- Lefel 3 a 4
- Bloc addysgu cyntaf ar gyfer y rhaglen mynediad uniongyrchol Lefel 5,6 a 7
- Myfyrwyr Cyrsiau Gradd Atodol
Byddai achosion nodweddiadol yn cynnwys mân achosion a/neu achosion cymharol ddibwys o:
- Gyfei;
- Rnodi gwaelcydnabyddiaeth anghywir (neu ddiffyg cydnabyddiaeth) am waith a gopïwyd ac a ychwanegwyd at aseiniad;
- Swm bach o waith a gopïwyd gan fyfyriwr arall neu a gynhyrchwyd gan systemau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol;
- Swm bach o aralleirio heb y gydnabyddiaeth briodol.
Mewn achosion o'r fath, rhoddir rhybudd anffurfiol i'r myfyriwr a chaiff ei gyfeirio at y ffynonellau priodol o gyngor (megis Tiwtor Personol, llyfrgellydd pwnc, cyrsiau hyfforddiant ar-lein a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd) i gael canllawiau ar gyfeirnodi cywir ac ymarfer academaidd da. Dim ond un rhybudd anffurfiol fydd yn cael ei roi fel arfer. Fodd bynnag, gan gyfeirio at yr uchod, gall y Swyddog Uniondeb Academaidd ddefnyddio ei ddisgresiwn a rhoi rhybudd anffurfiol arall.
Bydd yr Ysgol/y Gyfadran/Sefydliad Partner yn marcio'r gwaith yn unol â'r meini prawf marcio arferol. Caiff achosion o'r fath eu nodi ond ni chânt eu nodi fel camymddygiad academaidd. Bydd unrhyw dramgwyddau diweddarach yn cael eu hystyried dan y gweithdrefnau camymddygiad academaidd.