1. Cyflwyniad
Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r gofynion ar gyfer cyflwyno gwaith i'w asesu ar gyfer dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd gan fyfyrwyr ôl-raddedig Meistr a Addysgir. Gall y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fod ar sawl ffurf, a ddewisir i gydweddu orau â'r rhaglen a/neu i wella rhagolygon cyflogadwyedd y myfyrwyr. Gellir diffinio hyn wrth gymeradwyo'r rhaglen, a bydd yn gyfwerth â'r ymdrech sydd ei angen i baratoi traethawd hir o hyd at 20,000 o eiriau.
Dylai Cyfadrannau/Ysgolion hysbysu myfyrwyr am unrhyw ofynion o ran cyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol, gan gynnwys darparu cyngor ar y fformat cyffredinol (os yw'n wahanol i'r canllawiau isod), arferion cyfeirnodi ac unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc neu'r ddisgyblaeth.
2. Gwaharddiad ar Fynediad - Cyfyngu ar fynediad at ddarn o waith sy'n sensitif am resymau masnachol neu resymau eraill
Mae'r gwaharddiad ar fynediad yn diogelu eiddo deallusol myfyriwr - neu eiddo deallusol y cwmni y mae'n gweithio iddo.
Gellir diogelu gwaith y tybir ei fod yn werthfawr yn fasnachol neu'n sensitif mewn ffordd arall, er enghraifft trwy ddefnyddio deunydd a ddiogelir gan gytundebau neu gontractau eraill, trwy wahardd mynediad ato. Golyga hyn na fydd y gwaith ar gael i'r darllenydd cyffredinol am hyd at bum mlynedd. (Gellir ymestyn y cyfnod dan amgylchiadau arbennig.)
Ceir manylion llawn y broses am geisio gwaharddiad ar fynediad yn y rheoliadau penodol ar gyfer graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
Pan ganiateir gwaharddiad ar fynediad, defnyddir datganiad gwahanol ar y dudalen Datganiadau a Gosodiadau. (Gweler isod)
3. Nifer o Gopïau
Rhaid cyflwyno'r gwaith yn unol â gofynion y Brifysgol. Caiff Cyfadrannau/Ysgolion ddewis rhwng yr opsiynau canlynol:
• Derbyn copi electronig;
• Derbyn dau gopi o’r gwaith, mewn rhwymiad meddal, yn ogystal â chopi electronig.
Rhaid i Gyfadran/Ysgol hysbysu myfyrwyr am y dull cyflwyno a ddefnyddir, yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Gellir cadw gwaith sydd yn arbennig o berthnasol i Gymru neu Astudiaethau Celtaidd yn Llyfrgell y Brifysgol (gellir digomisiynu copïau ar ôl blwyddyn).
4. Cyfrif Geiriau neu Derfynau Geiriau
Diffinnir y cyfyngiad geiriau am ddarn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd pan gymeradwyir y rhaglen, a byddant yn cyfateb i'r ymdrech sydd ei angen i baratoi traethawd hir o hyd at 20,000 o eiriau. Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion nodi'r union ofynion yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Ni ddylai'r terfyn geiriau gynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol, y llyfryddiaeth, na’r mynegai.
5. Y Fformat Mewnol
Os caiff y gwaith ei gyflwyno fel cyfrol unigol, bydd y cynllun yn gyffredinol yn dilyn y patrwm canlynol:
Tudalen teitl | Gan gynnwys y teitl ac unrhyw is-deitl, enw llawn yr ymgeisydd, gradd y rhaglen er enghraifft MA Hanes, Prifysgol Abertawe, <blwyddyn> |
Crynodeb | Disgrifiad byr o’r gwaith: ei nodau, dulliau a chasgliadau. Dim mwy na thri chant o eiriau, gan ddefnyddio llinellau gofod sengl. |
Datganiadau a Gosodiadau | Datganiad safonol a'r gosodiadau angenrheidiol (gweler islaw). |
Tudalen Cynnwys | Rhaniad y gwaith, gyda rhifau’r tudalennau |
Rhestr o dablau, darluniau ayyb. | |
Rhagair | |
Cydnabyddiaeth | |
Diffiniadau neu Fyrfoddau | |
Prif Gorff y gwaith | Wedi’i rannu’n briodol a chyda phenodau a rhannau wedi’u tudalennu’n barhaus. |
Atodiadau | |
Geirfa (os oes angen) | |
Llyfryddiaeth | |
Mynegai |
6. Datganiadau a Gosodiadau
Rhaid i ymgeiswyr gynnwys y datganiad safonol yn 6.2 (datganiad 1) ac un o'r datganiadau yn 6.3 (datganiad 2).
6.1 Datganiad
Nid yw’r gwaith hwn eisoes wedi’i dderbyn yn gyffredinol ar gyfer unrhyw radd ac nid yw’n cael ei gyflwyno yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth ar gyfer unrhyw radd.
Llofnod ……………………………. Dyddiad ………………………….
6.2 Datganiad 1
Mae'r gwaith hwn yn ganlyniad fy astudio annibynnol/ymchwil fy hun, heblaw lle y nodir yn wahanol. Cydnabyddir ffynonellau eraill gan droednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau amlwg. Ychwanegir llyfryddiaeth.
Llofnod ……………………………. Dyddiad ………………………….
6.3 Datganiad 2
Bydd ymgeiswyr yn defnyddio opsiwn un (6.3.1 isod) oni fydd y Brifysgol wedi cymeradwyo gwaharddiad ar fynediad. Lle cymeradwywyd gwaharddiad ar fynediad yn ffurfiol, bydd ymgeiswyr yn defnyddio opsiwn dau (6.3.2 isod).
6.3.1
Opsiwn Un
Trwy hyn, rhoddaf ganiatâd i fy ngwaith, os yw'n berthnasol ac os caiff ei dderbyn, fod ar gael i’w lungopïo ac am fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd, ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i sefydliadau allanol.
Llofnod ……………………………. Dyddiad ………………………….
6.3.2
Opsiwn Dau
Trwy hyn, rhoddaf ganiatâd i fy ngwaith, o’i dderbyn, fod ar gael i’w lungopïo ac am fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd, ar ôl i’r gwaharddiad ar fynediad a gymeradwywyd gan Brifysgol Abertawe ddirwyn i ben.
Llofnod ……………………………. Dyddiad ………………………….
7. Fformatio
Math o bapur (copïau mewn rhwymiad meddal)
Gwyn, maint A4 sy’n ddigon didraidd i atal unrhyw beth rhag dangos trwyddo: i sicrhau hyn dylech ddefnyddio papur sy'n pwyso o 70 i 100 gsm.
Argraffu (copïau mewn rhwymiad meddal)
Dylid argraffu'r testun mewn inc du ar un ochr o'r dudalen yn unig. Mae hyn yn atal yr inc rhag dangos trwyddo ac yn helpu sicrhau bod llungopïau'n glir.
Cymeriad Ffont neu Uchder Argraffu
Ni ddylai’r maint argraffu neu faint y cymeriad fod yn llai nag 8 pwynt (2.50mm), ond fel rheol, byddai maint y testun yn gyfwerth â 12 pwynt Times New Roman.
Ymylon
Dylai ymylon fod yn 4cm (1½ modfedd) o led ar yr ochr chwith a 2cm (¾ modfedd) ar yr ochr dde.
Gofod Llinellau
Dylid defnyddio gofod dwbl neu un llinell a hanner yn y prif destun. Fodd bynnag, dylid defnyddio gofod sengl yn y Crynodeb, mewn unrhyw ddyfyniadau wedi’u cilosod, ac mewn troednodiadau.
Rhifo’r Tudalennau
Dylid rhifo'r tudalennu'n ddilyniannol. Dylid gosod rhifau tudalen ar ben y dudalen ar yr ochr dde neu ar waelod y dudalen yn y canol.
8. Cywirdeb Academaidd
Y gofyniad cyntaf ar gyfer gwaith a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd yw ei fod yn cyflwyno canlyniadau gwaith yr ymgeisydd ei hun. Wrth reswm, nid yw’r gofyniad hwn yn eithrio defnyddio dyfyniadau na chynrychioli safbwyntiau neu ganlyniadau ysgolheigion eraill yn y maes. Yn wir, disgwyliad arall yw y bydd ymgeisydd yn cysylltu ei waith ei hun â gwaith ymchwilwyr eraill, ac y bydd yn gwahaniaethu'n glir ac yn ddiamwys rhwng ei feddyliau, ei gasgliadau, a'i ganlyniadau ei hun ac eiddo ysgolheigion eraill.
Y mecanwaith safonol ar gyfer sicrhau y gwahaniaethir yn glir yw trwy roi dyfynodau ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol o waith ysgolheigion eraill, a chyfeiriadau er mwyn cydnabod defnydd uniongyrchol neu anuniongyrchol o waith ysgolheigion eraill. Rhaid i’r cyfeiriadau fod yn ddigon cryno i alluogi’r darllenydd i gael gafael ar y gwaith gwreiddiol a'i ystyried.
Defnyddir cyfeiriadau i ddynodi’r gwaith a grybwyllwyd yn y testun ond ni fydd y llyfryddiaeth, a osodir ar ddiwedd y gwaith (cyn y mynegai), yn darparu manylion angenrheidiol y gwaith a ddyfynnir yn unig ond hefyd gwaith arall a fu’n ddefnyddiol yn eich astudiaeth, hyd yn oed os na chaiff ei ddyfynnu yn amlwg yn y testun.
9. Cyfeirnodi
Dylai Gyfadran/Ysgol nodi eu gofynion o ran cyfeirnodi yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol; mae canllawiau ar gyfeirnodi ar gael ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau hefyd.
Ar ben hynny, mae meddalwedd Endnote i reoli cyfeiriadau llyfryddiaethol ar gael ar bob cyfrifiadur mynediad agored. Gellir prynu copi personol o feddalwedd Endnote o'r Llyfrgell i’w ddefnyddio gartref am bris gostyngol. Ceir gwybodaeth ynghylch sut i gael copi o Endnote i'w ddefnyddio gartref gan Swyddfa Cymorth yn y llyfrgell (itsupport@abertawe.ac.uk).
10. Terfynau Amser
Rhaid cyflwyno'r darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn unol â'r terfynau amser ar gyfer graddau ôl-raddedig. Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion hysbysu myfyrwyr am y dyddiad cau am gyflwyno'r gwaith yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
11. Terfynau Amser ac Estyniadau
Caiff y Bwrdd Achosion Myfyrwyr (neu enwebeion y Bwrdd) ohirio'r terfyn amser mewn achosion eithriadol. Gellir caniatáu estyniad ar sail dosturiol, mewn achos salwch, mewn achos anawsterau domestig difrifol, neu ar sail ymrwymiadau proffesiynol eithriadol (myfyrwyr rhan-amser yn unig) lle gellir dangos eu bod wedi effeithio'n negyddol ar allu ymgeisydd i gwblhau’r gwaith o fewn yr amser a osodwyd.
Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol wneud achos llawn a rhesymedig, gyda thystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i'r Gwasanaethau Addysg a fydd yn ei ystyried, yn weinyddol, ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr. Rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch neu'r amgylchiadau eraill ac yr ystyria’r estyniad y gwneir cais amdano i fod yn briodol. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai datganiad o’r fath gael ei wneud ar ôl cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Gyfadran/Ysgol.