Mae pob sefydliad yn Ewrop sy'n rhan o drefniadau cyfnewid/cydweithio yn cyhoeddi Tablau Trosi Gradd Astudio yn seiliedig ar raddau cyfatebol System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) a'r canlyniadau modiwl a gyflawnwyd gan fyfyrwyr o fewn canrannau ECTS. Mae'r tablau hyn yn gweithredu fel canllaw i'r Brifysgol Gartref o ran trosi graddau llythyren a rhifol a gyflawnwyd gan fyfyrwyr sy'n astudio mewn prifysgol lle mae'n astudio.
Cyhoeddir tablau trosi graddau astudio israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol Abertawe yn y Rheoliadau Academaidd i'w defnyddio gan ein partneriaid cyfnewid a chydweithio mewn cydweithrediad â thrawsgrifiadau i drosi'r canlyniad academaidd a gafwyd yn Abertawe gan fyfyrwyr sy'n astudio drwy drefniadau cyfnewid, neu fel rhan o raglenni cydweithredol, i raddau ar gyfer y Brifysgol Gartref. Bydd cyfeiriad ar gyfer trosi marciau ar gael yn llawlyfr y rhaglen berthnasol.