Canllaw i'r Radd Doethuriaeth Uwch
1. Derbyn Ymgeiswyr i’r Radd
Ni chaiff ymgeiswyr eu derbyn i radd Doethuriaeth Uwch oni bai eu bod yn unigolion sydd naill ai:
a) Yn raddedigion y Brifysgol sydd, fan lleiaf:
- Wedi graddio gyda gradd israddedig ers 10 mlynedd;
- Wedi graddio gyda gradd Meistr ers 4 mlynedd;
- Wedi graddio a gradd Doethur ers 2 flynedd.
neu;
b) Yn aelodau presennol neu flaenorol o staff Prifysgol Abertawe, sydd wedi dal swydd yn y Brifysgol am gyfnod parhaus o dair blynedd o leiaf yn aelod o staff amser llawn (neu chwe blynedd yn aelod o staff rhan-amser) ac sydd yn raddedigion Prifysgol arall ers o leiaf deng mlynedd.
1.1
Rhaid i ymgeiswyr am Ddoethuriaeth Uwch feddu ar radd gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall y mae’r Senedd yn ei chymeradwyo, ac fel rheol bydd wedi ennill gradd nad yw’n is na rhan uchaf yr ail ddosbarth (2.1) neu gyfwerth.
1.2
Bydd ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau gan sefydliadau y tu allan i’r DU yn cael eu gwirio gan ddefnyddio cronfa ddata’r ENIC sydd wedi’i sefydlu gan y Cyngor Prydeinig. Defnyddir ENIC wrth asesu bob cais o’r tu allan i’r DU.
1.3
Bydd gofyn i ymgeisydd gyflwyno rhestr fanwl o waith cyhoeddedig y mae’n bwriadu ei gynnwys yn yr hyn a gyflwynir yn derfynol, ynghyd â datganiad ynghylch ei gyfraniad i unrhyw bapurau sydd â mwy nag un awdur neu waith cydweithredol, i'r Deon Gweithredol perthnasol neu enwebai. Mewn achosion lle gall ymwneud y Deon Gweithredol perthnasol neu enwebaiperthnasol greu gwrthdaro buddiannau, dirprwyir yr holl gyfrifoldeb i Ddirprwy y Deon Gweithredok perthnasol.
1.4
Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu crynodeb beirniadol byr o’r cyhoeddiadau sydd i’w cyflwyno hefyd, sy’n rhoi’r gwaith yn ei gyd-destun, sy’n dangos cydlyniad y gwaith, ac sy’n dangos cyfraniad y gwaith i dwf gwybodaeth. Yn ogystal, dylai’r crynodeb beirniadol byr ddangos y fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth gynnal yr ymchwil.
1.5
Cyn ystyried y cais terfynol, bydd y Deon Gweithredol, Cyfarwyddwr Ymchwil/Cyfarwyddwr Myfyrwyr Ymchwil y Gyfadran/Ysgol ac aelod staff annibynnol hŷn yn y maes pwnc yn cwrdd i ystyried y cais yn fanwl ac i benderfynu a yw o safon addas i symud ymlaen at y cam cyflwyno cais ffurfiol. Gwneir y penderfyniad terfynol a ddylid derbyn ymgeisydd yn ymgeisydd am y radd gan Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a/neu unigolyn a enwebir ganddo. Bydd y penderfyniad yn seiliedig ar yr awgrymiadau a wneir gan y Deon Gweithredol perthnasol, Cyfarwyddwr Ymchwil/Cyfarwyddwr Myfyrwyr Ymchwil y Gyfadran/Ysgol ac aelod staff annibynnol hŷn o fewn y maes pwnc.
2. Diffiniad o Waith Cyhoeddedig
Er mwyn bod yn gymwys i gael ei ystyried yn “waith cyhoeddedig”, rhaid i ddarn o waith fod wedi’i gyhoeddi mewn modd sy’n golygu ei fod ar gael yn gyffredinol i’w ddarllen gan ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb ynddo, a rhaid bod modd ei olrhain mewn catalogau cyffredin. Rhaid i’r holl waith fod wedi’i adolygu gan gymheiriaid yn rhyngwladol, a rhaid iddo fod wedi’i gyhoeddi cyn y dyddiad cyflwyno.
2.1
Mae enghreifftiau o waith cyhoeddedig cymwys yn cynnwys y canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig iddynt:
- Papur academaidd;
- Erthygl mewn cyfnodolyn;
- Monograff;
- Pennod mewn llyfr;
- Cyfeirlyfr ysgolheigaidd neu fonograff ymchwil;
- Llyfr.
Gellir tybio bod gwaith electronig yn gymwys, ond dylai’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos y bydd y gwaith yn parhau i fod ar gael yn gyhoeddus ar ei ffurf bresennol, hyd y gellir rhagweld.
3. Swmp y Gwaith
Disgwylir y bydd ymgeiswyr am radd Doethuriaeth Uwch wedi cyhoeddi corff sylweddol o waith dros gyfnod. Dylai’r gwaith a gyflwynir i’w arholi fod yn sampl gynrychioliadol o holl gyhoeddiadau’r ymgeisydd. Bydd nifer y darnau o waith a gyflwynir i’w harholi’n dibynnu ar y maes academaidd, a’r math o waith cyhoeddedig sydd wedi’i gynnwys yn yr hyn a gyflwynir, ond fel rheol dylai’r hyn a gyflwynir gynnwys rhwng tri a deg darn o waith. Fodd bynnag, mae ansawdd a dylanwad y gwaith yn bwysicach na nifer y darnau.
4. Fformat y Gwaith Sydd i’w Gyflwyno
Bydd y gwaith sydd i’w gyflwyno yn cynnwys:
- Esboniad sy’n rhoi crynodeb o’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir, gan gynnwys holl brif gysyniadau a chasgliadau’r gwaith cyhoeddedig;
- Taflen grynhoi sy’n rhestru’r holl waith cyhoeddedig a gyflwynir, ynghyd â datganiad ynghylch maint cyfraniad yr ymgeisydd i waith sydd â mwy nag un awdur;
- Copi o bob cyhoeddiad, wedi’u rhifo, yn unol â phwynt b) uchod;
- Tystiolaeth am statws yr holl waith cyhoeddedig a gyflwynir;
- Curriculum Vitae (CV) academaidd.
4.1
Dylai’r CV academaidd gynnwys manylion pob cymhwyster academaidd a/neu broffesiynol, swyddi academaidd presennol a blaenorol, cofnod o waith goruchwylio a/neu arholi graddau ymchwil, cofnod o grantiau ymchwil y mae’r ymgeisydd wedi’u cael (fel Prif Ymchwilydd), ac unrhyw arwyddion o gydnabyddiaeth genedlaethol neu ryngwladol (e.e. gwobrau, gwahoddiadau i draddodi areithiau fel prif siaradwr, aelodaeth o gymdeithasau proffesiynol, aelodaeth o fyrddau golygyddol). Dylai’r CV academaidd hefyd nodi manylion holl gyhoeddiadau a chynnyrch ymchwil yr ymgeisydd (h.y. nid y rhai a gyflwynir i’w harholi’n unig).
4.2
Dylid cyflwyno’r gwaith mewn un gyfrol os yw hynny’n bosibl. Os oes llyfrau cyfan yn rhan o’r gwaith a gyflwynir, rhaid eu darparu ar wahân yn eu rhwymiad gwreiddiol. Dylid cyflwyno penodau o lyfrau ac erthyglau/papurau mewn fformat diogel ar ffurf ailargraffiadau.
5. Cyfansoddiad y Bwrdd Canolwyr
Bydd y Bwrdd Canolwyr ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
- Cadeirydd annibynnol, a fydd yn aelod o staff a chanddo brofiad addas a enwebir gan Bennaeth y Gyfadran/Ysgol. Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau a/neu unigolyn a enwebir ganddo yn ystyried, ac os yw’n briodol, yn cymeradwyo enwebiad y Cadeirydd;
- Tri chanolwr allanol, a bydd un ohonynt fel rheol yn gweithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig (fel sy’n briodol i faes y pwnc).
6. Cadeirydd y Bwrdd Canolwyr
Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi, a bydd yn atebol i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad. Bydd gofyn i Gadeirydd y Bwrdd Canolwyr gadeirio unrhyw gyfarfod o'r canolwyr a sicrhau cydymffurfio â’r rheoliadau.
6.1
Dylai Cadeirydd arfaethedig:
- Bod yn aelod o staff a gyflogir ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â statws digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod;
- Wedi bod yn arholwr ar lefel doethuriaeth o leiaf deirgwaith;
- Meddu ar ddyfarniad academaidd ar lefel doethuriaeth, neu fod â phrofiad proffesiynol cyfwerth;
- Meddu ar ddealltwriaeth glir o reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol;
- Heb fod yn gydawdur unrhyw ddarn o’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir i’w arholi.
7. Canolwyr
Caiff Canolwyr eu henwebu gan y Deon Gweithredol perthnasol.
7.1
Dylai canolwr arfaethedig:
- Bod â statws digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod;
- Bod yn ymwybodol o natur a phwrpas y radd y mae’r ymgeisydd yn cael ei arholi ar ei chyfer;
- Bod ag arbenigedd a gwybodaeth arbenigol yn y pwnc ymchwil;
- Heb gydweithredu’n sylweddol â’r ymgeisydd mewn modd uniongyrchol yn ystod y pum mlynedd flaenorol;
- Heb fod yn gydawdur unrhyw ddarn o’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir i’w arholi.
7.2
Ni ellir gwahodd cyn-aelod o staff Prifysgol Abertawe i fod yn ganolwr hyd nes bod o leiaf pum mlynedd wedi mynd heibio ers iddo adael y Brifysgol.
7.3
Ni ellir gwahodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe i fod yn ganolwr hyd nes bod o leiaf pum mlynedd wedi mynd heibio ers iddo raddio o’r Brifysgol.
8. Enwebu Bwrdd Canolwyr
Dylai'r Deon Gweithredol neu unigolyn a enwebir ganddo lenwi ffurflen Enwebu Bwrdd Canolwyr, gan nodi enw’r canolwyr arfaethedig.
Dylai'r Deon Gweithredol neu unigolyn a enwebir ganddo ddarparu manylion cyswllt llawn y canolwyr. Rhaid darparu manylion llawn unrhyw brofiad goruchwylio ac arholi a gwybodaeth berthnasol arall ar gyfer pob canolwr allanol arfaethedig, oni bai fod y canolwr allanol arfaethedig wedi’i benodi’n arholwr allanol ar gyfer gradd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y deuddeng mis diwethaf.
Dylai’r wybodaeth a ddarperir gynnwys:
- Cofnod o waith goruchwylio llwyddiannus ar y lefel briodol;
- Profiad blaenorol o arholi graddau ymchwil;
- Cymwysterau academaidd a/neu broffesiynol;
- Swyddi academaidd presennol a blaenorol;
- Crynodeb byr o gyhoeddiadau diweddar a chynnyrch ymchwil.
8.1
Ystyrir pob enwebiad gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau neu ei enwebai. Efallai y gofynnir am wybodaeth ychwanegol ynghylch cymwysterau a/neu arbenigedd y canolwyr arfaethedig os bydd unrhyw bryderon yn codi. Mae gan Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau neu ei enwebai awdurdod i gymeradwyo neu wrthod penodi unrhyw ganolwr arfaethedig ar ran y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
9. Cadarnhau Penodiad y Bwrdd Canolwyr
9.1 Canolwyr
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn anfon llythyr at bob canolwr yn cadarnhau'r penodiad, gan anfon copi at y Deon Gweithredol perthnasol. Bydd Gwasanaethau Addysg yn anfon ffurflen hawlio costau hefyd, y gall y canolwr ei defnyddio i hawlio’i ffioedd wrth gwblhau’r broses arholi.
9.2 Canolwyr a Chadeirydd y Bwrdd Canolwyr
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn rhoi gwybod i'r Deon Gweithredol a gymeradwywyd y canolwyr arfaethedig ai peidio, a bydd yn cadarnhau enw Cadeirydd y Bwrdd Canolwyr.
10. Trefniadau Arholi
10.1 Cyfrifoldebau a Dosbarthu Dogfennau Arholi
Ar ôl penodi tri chanolwr allanol, darperir y canlynol i bob canolwr:
- Copïau o’r rheoliadau perthnasol;
- Un copi o’r holl waith cyhoeddedig a gyflwynwyd;
- Un copi o’r Ffurflen Hysbysiad Ymgeisyddiaeth wedi’i llenwi;
- Un copi o’r Canllaw i'r Radd Doethuriaeth Uwch;
- Y Ffurflenni Adrodd ac Argymell sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arholiad.
11. Camymddwyn Academaidd
Rhaid i ganolwr sy’n ystyried bod ymgeisydd wedi bod yn rhan o camymddwyn academaidd, naill ai yn ystod y broses arholi neu wedi hynny, sôn yn syth wrth gadeirydd y bwrdd canolwyr perthnasol mewn ysgrifen am yr amgylchiadau.
12. Amserlen Arholiadau
Gofynnir i ganolwyr adrodd yn ôl ar y gwaith mewn modd amserol. Disgwylir i aelodau’r Bwrdd Canolwyr orffen arholi’r ymgeisydd a chyflwyno’u hadroddiad cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl (fel rheol, cyn pen deuddeng wythnos i’r dyddiad y cafodd y canolwyr y gwaith cyhoeddedig a gyflwynwyd).
13. Ffurflenni Adrodd ac Argymell
Bwriad Ffurflenni Adrodd ac Argymell y Canolwr yw bod yn adnoddau ar gyfer adroddiadau’r canolwr, a gall y Bwrdd Canolwyr eu defnyddio i gyflwyno argymhelliad ffurfiol i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ynghylch canlyniad y broses arholi. Hysbysir y canolwyr bod gan ymgeiswyr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn, dan delerau Deddf Diogelu Data 1998.
14. Cynnal yr Arholiad
Dylai’r canolwyr gwblhau Adran 1.1 y ffurflen Adroddiad (Adroddiad y canolwr ar waith cyhoeddedig a gyflwynwyd). Dylai’r canolwyr asesu cwmpas a phwysigrwydd y corff o waith cyhoeddedig.
14.1
Wrth arholi gwaith a gyflwynir, dylai’r canolwyr roi sylw arbennig i’r meini prawf ar gyfer dyfarnu gradd, a ddisgrifir ym mharagraff 1.1 y rheoliadau academaidd ar gyfer gradd Doethuriaeth Uwch:
Dyfernir y cymhwyster i ymgeiswyr sydd:
- Wedi gwneud cyfraniad gwreiddiol a sylweddol i’w disgyblaeth(au) dros gyfnod sylweddol;
- Wedi ennill statws awdurdodol yn eu disgyblaeth(au).
14.2
Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r canolwyr fod yn ddigon manwl i alluogi’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i asesu cwmpas a phwysigrwydd y gwaith cyhoeddedig a gyflwynwyd a gwerthfawrogi’i gryfderau a’i wendidau. Cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, dylai adroddiadau gael eu hysgrifennu mewn modd sy’n ddealladwy i’r rhai nad ydynt yn arbenigwyr ym maes penodol y gwaith cyhoeddedig a gyflwynwyd. Dylai sylwadau gwerthusol fod mor gyflawn ag sy’n bosibl.
14.3
Dylai’r canolwyr lenwi a llofnodi’r ffurflen derfynol (Ffurflen Argymell). Dylid dangos yr argymellhiad priodol ar y ffurflen.
14.4
Yr argymhellion sydd ar gael i ganolwyr:
- Dylid dyfarnu’r radd Doethuriaeth Uwch i’r ymgeisydd.
- Ni ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd ar gyfer gradd Doethuriaeth Uwch.
- Ni chymeradwyir dyfarnu gradd Doethuriaeth Uwch i'r ymgeisydd, ond rhoddir caniatâd iddo, unwaith yn unig, i ailgyflwyno 'corff gwaith' ychwanegol (fel arfer rhwng 2 a 5 mlynedd ar ôl canlyniad y cyflwyniad blaenorol). (Mae'n bosibl y codir ffi is.)
Dylai’r canolwyr lenwi’r ffurflenni Adrodd ac Argymell a’u hanfon yn ôl at Gadeirydd y Bwrdd Canolwyr. Os yw’r tri chanolwr wedi cyflwyno’r un argymhelliad, bydd Cadeirydd y Bwrdd Canolwyr yn llenwi ffurflen nodi Canlyniadau, sy’n dangos penderfyniad unfrydol y Bwrdd Canolwyr.
14.5 Anghytuno rhwng Canolwyr ynghylch Argymhelliad
Os yw’r canolwyr yn anghytuno, dylai Cadeirydd y Bwrdd Canolwyr sicrhau bod pob adroddiad ar gael i bob canolwr, a gofyn i bob canolwr ailystyried ei argymhelliad gwreiddiol. Os byddant yn dal i anghytuno ar ôl ailystyried, dylai Cadeirydd y Bwrdd Canolwyr ofyn i'r Deon Gweithredol neu ei enwebai benodi cymrodeddwr allanol. Dylai'r enwebiad gael ei gymeradwyo gan Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau neu ei enwebai. Wrth ystyried cymeradwyo enwebiad y cymrodeddwr allanol, caiff Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a/neu ei enwebai ystyried, er na chânt eu clymu gan, enwebiad (os cafwyd un) y Bwrdd Canolwyr. Y cymrodeddwr allanol a fydd yn penderfynu a ddylid ailgynnull y Bwrdd Canolwyr ai peidio, fel y gwêl yn ddoeth. Bydd penderfyniad y cymrodeddwr allanol ynghylch pob mater yn derfynol.
15. Hysbysu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau a'r ymgeisydd am y Canlyniad
Pan fydd pob rhan o’r ffurflenni Adrodd ac Argymell wedi’u llofnodi, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod yr holl ffurflenni Adrodd ac Argymell gwreiddiol yn cael eu hanfon i’r Gwasanaethau Addysg. Bydd argymhelliad y Bwrdd Canolwyr yn cael ei gyflwyno i'r Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau a/neu ei enwebai i’w gadarnhau, a bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu’r ymgeisydd am y canlyniad ffurfiol.