Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil

CANLLAW I GYFLOGAETH MYFYRWYR YMCHWIL PRIFYSGOL ABERTAWE

Cyfrifoldeb cyntaf y Brifysgol yw uniondeb yr astudio ac ansawdd profiad dysgu’r myfyriwr. Yn unol â hynny, mae'n ofynnol i’r Cyfadrannau/Ysgolion a'r myfyrwyr roi ystyriaeth bennaf i gwblhau astudiaethau ymchwil yn llwyddiannus ac yn amserol, yn unol â thelerau cynnig derbyniadau ffurfiol y Brifysgol.