Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil
Drafftio, Cyflwyno ac Arholi Traethawd Ymchwil
1. Beth Yw Traethawd Ymchwil?
Mae traethawd ymchwil yn cyflwyno canlyniadau ymchwil myfyriwr. Mae’n disgrifio’r ymchwil gan gyfeirio at y gwaith perthnasol yn y maes. Bydd yn cynnwys disgrifiad o’r dulliau ymchwil a ystyriwyd, a’r rhai a ddefnyddiwyd mewn gwirionedd, ac yn cyflwyno casgliadau’r myfyriwr. Mae’n hanfodol bod unrhyw ddefnydd o waith awdur arall yn cael ei gydnabod yn gywir. Gwaith y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil a rhaid iddo gael ei ysgrifennu gan y myfyriwr.
1.1
Mae’n hanfodol bod y myfyriwr yn trafod cynllun cyffredinol a chonfensiynau cyfeirnodi gyda’i oruchwylwyr i sicrhau bod gofynion neu reolau sy’n benodol i’r pwnc neu’r ddisgyblaeth yn cael eu dilyn o’r cychwyn cyntaf. Mae disgwyl i oruchwylwyr ddarparu beirniadaeth ac adborth adeiladol ar y traethawd ymchwil yn ystod ymgeisyddiaeth; fodd bynnag, ni ddylid gofyn i’r goruchwylwyr ddarparu hyfforddiant iaith Saesneg nac ymgymryd â gwaith darllen proflenni.
1.2
Wrth asesu traethawd ymchwil, bydd yr arholwyr yn cadw mewn cof safon a chwmpas y gwaith y mae’n rhesymol i ddisgwyl i fyfyriwr galluog a diwyd ei gyflwyno ar ôl cyfnod o amser sy’n gyfwerth â’r cyfnod ymgeisyddiaeth isaf ar gyfer y radd sy’n cael ei harholi.
1.3
Mae rheoliadau academaidd y Brifysgol ar gyfer graddau ymchwil lefel meistr yn datgan:
Dyfernir y cymhwyster i ymgeiswyr sydd:
- Wedi dangos gwybodaeth a dealltwriaeth sydd wedi’i seilio ar ac sy’n ymestyn ac/neu’n ehangu ar yr hyn sy’n gysylltiedig yn nodweddiadol â lefel gradd Faglor, ac sy’n darparu sail neu gyfle am wreiddioldeb wrth ddatblygu ac/neu gymhwyso syniadau, yn aml mewn cyd-destun ymchwil;
- Yn gallu defnyddio’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u galluoedd datrys problemau mewn amgylcheddau newydd neu anghyfarwydd mewn cyd-destunau ehangach (neu amlddisgyblaethol) sy’n gysylltiedig â’u maes astudio;
- Yn meddu ar y gallu i integreiddio gwybodaeth a thrafod cymhlethdod, a ffurfio barn ar gorff o wybodaeth, a myfyrio ar gyfrifoldebau cymdeithasol a moesegol sy’n gysylltiedig â defnyddio’u gwybodaeth a’u barn;
- Yn gallu cyfleu eu casgliadau a’r wybodaeth a’r rhesymeg sy’n sail i’r rhain, i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg mewn ffordd glir a diamwys;
- Yn meddu ar y sgiliau dysgu i’w galluogi i barhau i astudio mewn ffordd a allai fod yn hunan gyfeiriedig neu’n annibynnol gan fwyaf.
1.4
Dyfernir Gradd Ddoethurol mewn Athroniaeth i ymgeisydd sydd wedi:
1. Cyflwyno traethawd ymchwil sy’n cynnwys astudiaeth ac ymchwil uwch yr ymgeisydd sy’n bodloni’r Bwrdd Arholwyr am ei fod yn:
- Gwneud cyfraniad gwreiddiol a sylweddol i ddealltwriaeth;
- Rhoi tystiolaeth o wreiddioldeb o ran barn a safbwynt beirniadol wrth greu a chyflwyno prosiect ymchwil mewn pwnc penodol;
- Cynnwys deunydd sy’n werth ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid;
- Boddhaol o ran ei gyflwyniad llenyddol a/neu dechnegol a’i strwythur, gyda llyfryddiaeth lawn a chyfeirnodau;
- Dangos dealltwriaeth o gyd-destun yr ymchwil, a meistrolaeth o’r sgiliau a’r dulliau ymchwil sy’n gysylltiedig â’r maes.
2. llwyddiannus mewn arholiad Viva Voce a gynhelir gan yr arholwyr ar agweddau ehangach ym maes ymchwil, yn ogystal â phwnc y traethawd ymchwil.
1.5
Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS)
Os gwneir unrhyw newidiadau i gynigion ymchwil myfyrwyr ôl-raddedig, mae’n ofynnol i’r Brifysgol hysbysu Fisâu a Mewnfudo y DU o fewn 28 niwrnod am newidiadau i gynigion ymchwil myfyrwyr ôl-raddedig y mae angen tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) arnynt. Gellir cael gwybodaeth am y cyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS arnynt yma: https://www.gov.uk/guidance/find-out-if-you-require-an-atas-certificate#find-out-how-to-apply.
Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr nad ydynt o’r AAE yn unig. Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe yw hysbysu Tîm Cydymffurfio Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol (Gwasanaethau Addysg) am newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol y myfyriwr neu’r defnydd o dechneg ymchwil newydd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Bolisi a Gweithdrefn Newid Pwnc Ymchwil ac ATAS.
2. Y Terfynau Geiriau Uchaf i Bob Gradd
2.1 Meistr Ymchwil
Y terfyn geiriau yw 40,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
2.2 MA trwy Ymchwil/MSc trwy Ymchwil
Y terfyn geiriau yw 40,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
2.3 MPhil
Y terfyn geiriau yw 60,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
2.4 Doethuriaethau Proffesiynol DBA a MD
Y terfyn geiriau yw 80,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
2.5 PhD
Y terfyn geiriau yw 100,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
3. Terfynau Geiriau Isaf
Nid oes isafswm o eiriau wedi'i osod i bob gradd, ond gellir cymryd terfyn geiriau uchaf y radd a’i rhagflaenodd fel canllaw.
3.1
Sylwer: Yn y pen draw, yr arholwyr sydd i benderfynu a yw traethawd ymchwil yn rhy hir neu’n rhy fyr. At hynny, canllaw yn hytrach na gofyniad yw’r terfyn geiriau. Gallai goruchwyliwr gofnodi amheuon mewn perthynas â hyd traethawd ymchwil y myfyriwr ar y system rheoli ymchwil. Os ydyw hi’n glir fod traethawd ymchwil uwchlaw’r terfyn geiriau a fynegir, dylai’r myfyriwr drafod camau golygyddol gyda’i oruchwylwyr cyn ei gyflwyno.
3.2
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall arholwyr benderfynu nad yw traethawd ymchwil rhy hir yn bodloni safonau’r radd, gan beidio â dyfarnu'r radd, na dyfarniad is, heb hyd yn oed bwrw ymlaen i’r cam viva. Gallai fod yn ofynnol i fyfyriwr ailgyflwyno traethawd ymchwil os oes ynddo wallau gramadegol neu sillafu difrifol – argymhellir yn gryf iawn defnyddio gwirydd sillafu.
4. Traethawd Ymchwil Gradd Ymchwil Yn Seiliedig Ar Ymarfer
Mae'r radd ymchwil ar sail ymarfer (naill ai radd ddoethurol neu ynteu radd meistr trwy ymchwil) yn wahanol i'r radd ymchwil safonol oherwydd bod elfen sylweddol o'r cyflwyniad yn waith creadigol gwreiddiol, a grëwyd gan yr ymgeisydd yn benodol ar gyfer ei gyflwyno am y dyfarniad. Ar wahân i gynnwys y fath ddeunyddiau, rhaid i’r traethawd ymchwil seiliedig ar ymarfer gyfateb â'r un safonau a ddisgwylir ar gyfer traethawd ymchwil gradd ymchwil safonol.
4.1
Rhaid i gais i gyflwyno traethawd ymchwil gradd ymchwil seiliedig ar arfer gael ei gyflwyno i’r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig i'w gymeradwyo cyn cadarnhau’r ymgeisyddiaeth. Dylai’r myfyriwr a’r goruchwyliwr lunio cais ysgrifenedig, wedi’i gydlofnodi gan y Deon Gweithredol neu enwebai, yn esbonio pam mae’r fformat seiliedig ar ymarfer yn fwy priodol i’r prosiect ymchwil ac yn dangos sut bydd y prosiect yn manteisio’n llawn ar yr elfen greadigol ac/neu ymarferol. Dylai’r cais hefyd nodi’n glir gydbwysedd arfaethedig y cydrannau ysgrifenedig ac ymarferol i’w cyflwyno. Rhaid i’r cais nodi unrhyw faterion o ran anghenion penodol i gefnogi’r myfyriwr yn sgil natur yr ymchwil ayyb - effaith ar ofynion hyfforddiant sgiliau, gofynion goruchwylio ayyb. Dylai’r goruchwylwyr ddarparu gwybodaeth fanwl am sut bydd y gydran ymarferol yn cael ei goruchwylio.
4.2
Elfen fawr o’r cyflwyniad yw gwaith creadigol gwreiddiol a grëwyd gan yr ymgeisydd yn benodol i’w gyflwyno. Dylai’r elfen ymarferol gael sylwadau ysgrifenedig i gyd-fynd â hi. Dylid penderfynu ar hyd yr elfen ysgrifenedig yn ôl natur yr ymchwil, ond ni ddylai fod yn fwy na 40,000 o eiriau ar gyfer lefel ddoethurol ac 20,000 o eiriau ar gyfer lefel meistr ymchwil.
5. Gwaharddiad ar Fynediad
Weithiau, mae canlyniadau ymchwil yn werthfawr o safbwynt masnachol neu'n sensitif am reswm arall, er enghraifft o ran defnyddio deunydd sy'n destun i gytundeb neu gontract arall sy'n cyfyngu ar fynediad ato. Er mwyn diogelu’r cyfrinachedd hwn, mae’r Brifysgol yn caniatáu gwaharddiad ar fynediad at y traethawd ymchwil a bydd hyn yn golygu na fydd ar gael i’r darllenydd cyffredin am hyd at bum blynedd (gellir ymestyn y cyfnod dan amgylchiadau arbennig).
5.1
Dylid nodi’r bwriad i ofyn am waharddiad ar fynediad mor gynnar â phosibl yn ymgeisyddiaeth y myfyriwr a rhaid iddo gael ei nodi ar y System Rheoli Ymchwil. Rhaid i’r myfyriwr gyflwyno cais am wahardd mynediad i i'r Deon Gweithredol neu enwebai. Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am gyfyngiad ffurfiol yn ystod cyfnod embargo (hyd at bum mlynedd ar y mwyaf) neu, gallant gyflwyno fersiwn electronig wedi'i hadolygu o'r traethawd ymchwil; copi argraffedig a fydd ar gael yn y llyfrgell, neu gyfyngiad ffurfiol parhaol ar y fersiwn electronig. Rhaid i geisiadau am wahardd mynediad nodi teitl y gwaith, a'r rhesymau dros y gwaharddiad.
5.2
Os cymeradwyir y gwaharddiad ar fynediad, hysbysir Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Prifysgol Abertawe er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith ar gael hyd nes bod yr amser a gytunwyd wedi mynd heibio.
5.3
Myfyrwyr a ariennir gan UK Research and Innovation (UKRI – Cynghorau Ymchwil yn y DU gynt) yn unig. Disgwylir na fydd fersiwn testun llawn o’r traethawd ymchwil ar gael yn hwy na 12 mis ar ôl dyfarnu’r ddoethuriaeth. Mae UKRI yn cydnabod y gallai trefniadau masnachol, cydweithredol neu gyhoeddi olygu bod angen oedi ychydig, ond disgwyliant i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl wedi hynny, oni bai bod rhwystr ar waith.
6. Confensiynau Rhwymo 6.1 - 6.2.15
6.1 Rhwymo dros dro
Mae rhwymo dros dro’n arferol at ddibenion arholi. Argymhellir rhwymo perffaith fel math o rwymo dros dro. Mae hyn yn darparu llyfr clawr meddal, gyda’r tudalennau wedi’u diogelu gan lud i feingefn du tebyg i dâp.
6.2 Rhwymo clawr caled parhaol
Pan fydd y traethawd ymchwil wedi’i gymeradwyo gan yr arholwyr, a’r myfyriwr wedi gwneud y newidiadau neu’r cywiriadau gofynnol, rhaid cyflwyno dau gopi wedi’u rhwymo’n barhaol i’r Gyfadran/Ysgol er mwyn eu dosbarthu i’r Llyfrgelloedd (un yn achos yr MRes/MA trwy Ymchwil/MSc trwy Ymchwil).
6.2.1
Nid yw’r Brifysgol yn pennu lliw’r clawr, ond du, gwyrdd tywyll neu goch yw’r lliw fel arfer.
6.2.2
Rhaid i feingefn y traethawd ymchwil (rhwymo parhaol yn unig) ddangos:
- Cyfenw a llythrennau blaen y myfyriwr;
- Prifysgol Abertawe;
- Teitl llawn neu fyr y gwaith;
- Y flwyddyn gyflwyno;
- Y radd y mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno ar ei chyfer.
6.2.3
Sylwer: Os oes angen dwy gyfrol, dylid ychwanegu Cyfrol 1 a Chyfrol 2, fel y bo’n briodol, i’r testun ar y meingefn.
Enghraifft: Meingefn
Tugandhow, G. | Prifysgol Abertawe | 2011 |
Hunanfeirniadaeth a Hunanbenderfyniad | [Cyfrol. 1] | PhD |
Cedwir un copi o’r traethawd ymchwil cymeradwy yn Llyfrgell Prifysgol Abertawe ac, ar gyfer graddau ar wahân i’r MRes/MA trwy ymchwil/MSc trwy ymchwil/LLM trwy ymchwil, anfonir yr ail un at Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Ni ellir dyfarnu’r radd hyd nes bod y copïau clawr caled wedi’u cyflwyno.
6.2.4
Cynllun Mewnol Traethawd Ymchwil
Pan gaiff traethawd hir ei gyflwyno ar ffurf un gyfrol, bydd cynllun y traethawd yn dilyn y patrwm a ddengys isod yn gyffredinol. Fodd bynnag, rhaid i’r myfyriwr wirio gyda’i oruchwylwyr am gonfensiynau penodol a allai fod yn berthnasol i’r maes pwnc penodol:
- Tudalen teitl;
- Crynodeb;
- Datganiadau a Gosodiadau;
- Tudalen Cynnwys;
- Cydnabyddiaeth;
- Rhestr o dablau, darluniau ayyb;
- Diffiniadau neu Fyrfoddau;
- TESTUN: Wedi’i rannu’n briodol a chyda phenodau a rhannau wedi’u tudalennu’n barhaus. (Mae cynllun y testun yn agwedd bwysig o ddyluniad y traethawd ymchwil. Gellir rhannu'r deunydd yn ôl Rhannau, Penawdau, Adrannau, ayyb. – mae cyngor y goruchwyliwr yn hanfodol);
- Atodiadau (Lle mae’r rhain yn sylweddol, dylid ystyried cael cyfrol ar wahân);
- Geirfa;
- Llyfryddiaeth.
Gall traethodau gael strwythur sy’n wahanol i’r uchod, yn amodol ar gael caniatâd gan y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd, cyn cyflwyno’r ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno (NITS) fan hwyraf.
6.2.5
Tudalen Teitl
Rhaid i’r dudalen deitl gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Y teitl cymeradwy ac unrhyw isdeitl.
- Cyfanswm nifer y cyfrolau os oes mwy nag un, a rhif y gyfrol benodol.
- Enw llawn y myfyriwr, ac os dymunir, unrhyw gymwysterau a theilyngdod yn dilyn yr enw.
- Y testun "Cyflwynwyd i Brifysgol Abertawe er mwyn diwallu gofynion y Radd" wedi’i ddilyn gan enw’r cynllun gradd (Doethur mewn Athroniaeth/ Meistr mewn Athroniaeth, Doethur mewn Peirianneg ayyb).
- Y testun "Prifysgol Abertawe".
- Y flwyddyn gyflwyno.
6.2.6
Crynodeb
Disgrifiad byr o’r gwaith: ei nodau, dulliau a chasgliadau. Dim mwy na thri chant o eiriau, gan ddefnyddio llinellau gofod sengl.
Bydd copi o grynodeb y traethawd ymchwil yn cael ei ddefnyddio yn y cyhoeddiad gan ASLIB o draethodau ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer gradd uwch ym Mhrifysgolion Prydain. Mae’n hanfodol bod y crynodeb yn cael ei deipio mewn gofod sengl a’i gynnwys ar un ochr o’r ddalen a ddarperir.
Dylai fyfyrwyr gofio, wrth iddynt ysgrifennu’r crynodeb, mai dyma’r unig ran o’r traethawd ymchwil y bydd gweithwyr ymchwil eraill yn ei ddarllen o bosibl. Dylid ei ysgrifennu mewn ffordd a fydd yn helpu ymchwilwyr yn yr un maes i benderfynu p’un ai i ddarllen y traethawd ymchwil ai peidio. Dylai’r crynodeb gynnwys darn o ryddiaith gysylltiedig ac ni ddylai fod dros 300 o eiriau o ran hyd. Gallai fod llawer yn fyrrach. Dylid osgoi byrfoddau.
6.2.7
Datganiadau a Gosodiadau
Darperir gwybodaeth am y cyhoeddiadau a datganiadau safonol y mae’n rhaid iddynt gael eu gwneud pan fydd myfyriwr yn cyflwyno’i draethawd ymchwil gyda’r Pecyn Cyflwyno a ddosberthir i ymgeiswyr sydd wedi llenwi eu ffurflen “Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno” ac sy’n paratoi i gyflwyno traethawd ymchwil ar y system rheoli ymchwil. Yn gryno, mae’r rhain yn cynnwys:
- Gosodiad nad yw’r gwaith wedi’i dderbyn yn gyffredinol yn y gorffennol ar gyfer unrhyw radd ac nid yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth ar gyfer unrhyw radd.
- Datganiad mai canlyniad ymchwil y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil, ac eithrio lle y nodir fel arall, a bod ffynonellau eraill yn cael eu cydnabod gan droednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau amlwg a bod llyfryddiaeth wedi'i hatodi.
- Datganiad bod y myfyriwr yn rhoi caniatâd i’r traethawd ymchwil, os caiff ei dderbyn, fod ar gael i’w llungopïo ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd, ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i sefydliadau allanol (oni bai y caiff rhwystr ei osod arnynt).
- Datganiad sy’n nodi y dilynwyd gweithdrefnau moesegol y Brifysgol a, phan fo’n briodol, y rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol.
Os cymeradwyodd y Deon Gweithredol waharddiad ar fynediad, dylai’r myfyriwr ddefnyddio fersiwn ddiwygiedig o’r datganiad hwn, sy’n rhoi caniatâd i’r traethawd ymchwil fod ar gael i’w llungopïo ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd ar ôl i’r gwaharddiad ar fynediad ddirwyn i ben.
6.2.8
Tudalen Cynnwys
Manylion rhaniad y traethawd ymchwil, gyda rhifau’r tudalennau.
6.2.9
Diolchiadau
Os ydy’r myfyriwr yn dymuno cynnwys cyflwyniad neu gydnabyddiaeth yn y traethawd ymchwil, dylid cynnwys hyn ar dudalen sy’n dilyn y Dudalen Gynnwys.
6.2.10
Rhestr o Dablau, Darluniau Ayyb.
Teitlau’r holl dablau a darluniau yn y traethawd ymchwil, gyda rhifau tudalennau.
6.2.11
Diffiniadau neu Fyrfoddau
Dylid diffinio’n glir pob byrfodd a ddefnyddir yn y traethawd ymchwil.
6.2.12
Y Prif Destun – wedi’i rannu’n briodol yn rhannau, penodau ac adrannau
Dylai’r myfyriwr geisio cyngor ei oruchwylwyr ar y ffurf briodol o rannu i’w ddefnyddio yn y prif destun. Dylai’r prif destun fod yn ddogfen hunangefnogol yn ei hun a pheidio â gofyn i’r darllenydd gyfeirio at yr atodiadau.
6.2.13
Atodiadau
Ni chynhwysir yr atodiadau yng nghyfrif geiriau’r traethawd ymchwil. Mae’r atodiadau’n galluogi’r myfyriwr i roi goleuni pellach ar y prif destun a gall weithredu fel storfa o ddata craidd. Dylid nodi nad oes rhaid i’r arholwyr ddarllen yr atodiadau wrth arholi traethawd ymchwil.
6.2.14
Geirfa
Dylai’r eirfa gynnwys rhestr o dermau arbenigol a ddefnyddir yn y traethawd ymchwil nad oes disgwyl i’r darllenydd fod yn gyfarwydd â nhw, pob un â’i ddiffiniad fel y’i deellir yn y testun.
6.2.15
Llyfryddiaeth
Dylai’r llyfryddiaeth restru’r holl waith y cyfeirir ato yn y traethawd ymchwil a dylai hefyd gynnwys gwaith sydd wedi llywio’r traethawd ymchwil hyd yn oed os na chyfeiriwyd yn uniongyrchol ato.
Confensiynau Rhwymo 6.3 - 6.6.6
6.3 Ymddangosiad Corfforol y Traethawd Ymchwil
6.3.1
Papur
Gwyn, maint A4 sy’n ddigon didraidd i atal unrhyw beth rhag dangos trwyddo: er mwyn cyflawni hyn, dylid defnyddio papur gyda phwysau o 70 i 100 gsm. Mae papur argraffu safonol o 80gsm yn dderbyniol.
6.3.2
Y Print
Rhaid i’r prif destun gael ei argraffu mewn inc du, a gellir ei argraffu ar ddwy ochr y dudalen.
6.3.3
Cymeriad Ffont neu Uchder Argraffu
Ni ddylai’r maint argraffu neu faint y cymeriad fod yn llai nag 8 pwynt (2.50mm), ond fel rheol, byddai maint y testun yn gyfwerth â 12 pwynt Times New Roman.
6.3.4
Ymylon
Dylai’r ymylon fod yn 4cm (1½ modfedd) o led ar yr ochr chwith ac o leiaf 2cm (¾ modfedd) ar yr ochr dde, ond 1 fodfedd (2.5cm) ar yr ochr dde sy’n cael ei ffafrio.
6.3.5
Gofod Llinellau
Dylid defnyddio gofod o un llinell a hanner yn y prif destun. Fodd bynnag, dylid defnyddio gofod sengl yn y Crynodeb, mewn unrhyw ddyfyniadau wedi’u cilosod, ac mewn troednodiadau.
6.3.6
Rhifo’r Tudalennau
Dylid rhifo’r tudalennau yn y traethawd ymchwil mewn trefn.
6.4 Cyfeirnodi a’r llyfryddiaeth
6.4.1
Y gofyniad cyntaf ar gyfer traethawd ymchwil a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd yw ei fod yn cyflwyno canlyniadau gwaith y myfyriwr ei hun. Wrth reswm, nid yw’r gofyniad hwn yn eithrio defnyddio dyfyniadau na chynrychioli safbwyntiau neu ganlyniadau ysgolheigion eraill yn y maes. Yn wir, disgwyliad arall mewn unrhyw draethawd ymchwil yw y bydd y myfyriwr yn cysylltu ei waith ei hun gyda gwaith ymchwilwyr eraill.
Yr hyn sydd o bwys mwyaf yw bod rhaid i’r myfyriwr wahaniaethu’n glir ac yn ddiamwys rhwng meddyliau, casgliadau a chanlyniadau ei hun ac eiddo ysgolheigion eraill wrth ysgrifennu’r traethawd ymchwil. Y mecanwaith safonol ar gyfer sicrhau y gwahaniaethir yn glir yw trwy roi dyfynodau ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol o waith ysgolheigion eraill, a chyfeiriadau er mwyn cydnabod defnydd uniongyrchol ac anuniongyrchol o waith ysgolheigion eraill. Rhaid i’r cyfeiriadau fod yn ddigon cryno i alluogi’r darllenydd i gael gafael ar y gwaith gwreiddiol a'i ystyried. Tybir bod aralleirio heb briodoli’n arfer annheg.
6.4.2
Nod cyfeiriad yw galluogi’r darllenydd i ddod o hyd i’r gwaith y mae’r myfyriwr wedi’i ddyfynnu yn y traethawd ymchwil a throi ato.
6.4.3
Defnyddir cyfeiriadau i nodi’r gwaith a grybwyllwyd yn y testun, ond ni fydd y llyfryddiaeth, a osodir ar ddiwedd y traethawd ymchwil, yn gyfyngedig i'r gwaith a ddyfynnwyd yn unig; bydd hefyd yn rhoi manylion angenrheidiol gwaith arall a fu’n ddefnyddiol i ymchwil y myfyriwr, hyd yn oed os na chaiff ei ddyfynnu yn amlwg yn y testun.
6.4.4
Mae llunio traethawd ymchwil yn dechrau trwy archwilio’r deunydd darllen perthnasol yn y maes astudio ac mae’n bwysig mabwysiadu dull defnyddiol o gofnodi darllen y myfyriwr ar y dechrau. Mae meddalwedd Endnote i reoli cyfeiriadau llyfryddiaethol ar gael ar bob cyfrifiadur mynediad agored ledled y campws, a chynigir hyfforddiant gan y Llyfrgell. Gellir prynu copi personol o feddalwedd Endnote i’w ddefnyddio gartref am bris gostyngol. Mae gwybodaeth am sut i gael y feddalwedd hon ar gael o’r swyddfa Cymorth TG yn y Ganolfan Llyfrgell a Gwybodaeth.
6.4.5
Mae’n bwysig iawn yn y camau astudio cynharaf bod y myfyriwr yn trafod â’i oruchwyliwr pa system gyfeirnodi sydd fwyaf priodol ar gyfer y traethawd ymchwil. Mae arholwyr yn aml yn tybio bod cyfeirnodi anghywir yn fethiant i fodloni’n llawn y safonau angenrheidiol ar gyfer gradd ymchwil. Y system fwyaf cyffredin a ddefnyddir yw “System Harvard” a gydnabyddir ar raddfa ryngwladol, ond mae gan rai pynciau neu ddisgyblaethau gonfensiynau eraill y dylai’r myfyriwr fod yn ymwybodol ohonynt. Os nad yw’r Gyfadran/Ysgol yn argymell confensiwn penodol, mae arweiniad sylfaenol ar arddulliau cyfeirnodi ar gael ar wefan y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth neu o ddesg wybodaeth y Gwasanaethau.
6.4.6
Rhaid i unrhyw gyfeiriad at ffynhonnell gwe-seiliedig gynnwys y cyfeiriad gwe (llwybr llawn) a’r dyddiad y'i cyrchwyd ddiwethaf.Ni ddylai'r traethawd ymchwil gynnwys darnau helaeth o ddeunydd heb ei newid sydd eisoes wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo am ddyfarniad gradd gan y Brifysgol hon neu unrhyw brifysgol arall.
6.5.1
Cynnwys Cyhoeddiadau
Gall traethawd ymchwil gynnwys papurau a ysgrifennwyd gan yr ymgeisydd sydd wedi cael eu cyhoeddi'n allanol ac wedi'u hadolygu gan gymheiriaid, er enghraifft mewn cyfnodolion a thrafodion cynhadledd.
Dylai’r papurau ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau'r ymgeiswyr a rhaid eu bod wedi'u hysgrifennu yn ystod cyfnod yr ymgeisyddiaeth.
Rhaid bod cyhoeddiadau'n rhan hanfodol o gorff cydlynol ac annatod o waith, yn hytrach nag elfen ar wahân.
I ddangos eu cyfraniad, yr ymgeiswyr fel arfer fydd yr awdur cyntaf ar bapurau o’r fath. Lle mae’r ymgeisydd wedi cynnwys cyhoeddiadau mewn cyfnodolion sy’n nodi’r rhestr o awduron yn nhrefn yr wyddor, dylid nodi hyn yn glir. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gydnabod cyd-awduron a’u cyfraniad penodol i’r papur, trwy ddatganiad awduraeth am bob papur, i’w gynnwys yn y thesis. Gweler datganiad enghreifftiol 6.6.6.
6.5.2
Nid oes nifer benodol o bapurau y gellir eu cynnwys, ond dylai’r papurau a chynnwys arall y thesis adlewyrchu swm, gwreiddioldeb a lefel y gwaith a ddisgwylir gan ymgeisydd tuag at thesis traddodiadol.
6.5.3
Os yw thesis yn cynnwys papur sydd wedi’i gyhoeddi, nid yw hyn yn gwarantu y bydd yr arholwyr yn argymell y dyfarniad y mae’r ymgeisydd yn cael ei arholi ar ei gyfer. Mae'n ofynnol i'r arholwyr asesu ansawdd y traethawd ymchwil cyfan yn unol â'r meini prawf a nodwyd yn adran 1.0.
6.5.4
Atgoffir ymgeiswyr o’r angen i gadw at delerau eu cytundeb cyhoeddi, o ran perchnogaeth hawlfraint. Dylai ymgeiswyr roi gwybod i’r golygydd o’u bwriad i gynnwys yr erthygl fel rhan o’u thesis a chael cysyniad ysgrifenedig. Dylai ymgeiswyr sylwi y gallai fod angen golygu'r fersiwn Mynediad Agored o'u traethawd ymchwil i ddileu deunydd sy'n eiddo i gyhoeddwr.
6.5.5
Lle bwriedir cynnwys papurau a gyhoeddwyd fel pennod traethawd ymchwil, rhaid i'r rhain gynnwys rhagymadrodd a chasgliad a rhaid iddynt gael eu rhwymo'n rhan o'r traethawd ymchwil yn y man priodol.
6.6.6
Datganiad Awduraeth
Rhaid cynnwys y datganiad canlynol yn y traethawd ymchwil i gofnodi cyfraniadau awduron at gyhoeddiad. Rhaid i'r ymgeisydd restru'r holl awduron ar gyfer pob papur a darparu manylion am eu rôl yn y gwaith a gyhoeddwyd. Lle bynnag y bo modd, dylid darparu amcangyfrif ar ffurf canran o gyfraniad pob awdur hefyd.
Datganiad:
Cyfrannodd y bobl a'r sefydliadau canlynol at gyhoeddi'r gwaith a wnaed fel rhan o'r traethawd ymchwil hwn:
Ymgeisydd | Enw a Choleg |
---|---|
Awdur 1 | Enw a Sefydliad |
Awdur 2 | Enw a Sefydliad |
Awdur 3 | Enw a Sefydliad |
Awdur 4 | Enw a Sefydliad |
Awdur 5 | Enw a Sefydliad |
Awdur 6 | Enw a Sefydliad |
Manylion yr Awdur a'i Rolau:
Papur 1 (teitl)
Wedi'i leoli ym Mhennod <nodwch rif y bennod>
Dyma gyfraniad yr ymgeisydd <nodwch y math a chyfran y cyfraniad>
Awdur <nodwch rif yr awdur> wedi cyfrannu <nodwch y math a chyfran y cyfraniad>
<Ychwanegwch rifau papurau ychwanegol os oes angen>
Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn cytuno â "chyfran y gwaith a wnaed" a nodwyd uchod ar gyfer pob un o'r llawysgrifau adolygu cymheiriaid a gyhoeddwyd sy'n cyfrannu at y traethawd ymchwil hwn:
Llofnod yr Ymgeisydd ____________________________________________
Awdur 1_____________________________________________
Awdur 2_____________________________________________
Awdur 3_____________________________________________
Awdur 4_____________________________________________
Awdur 5_____________________________________________
Awdur 6_____________________________________________
Confensiynau Rhwymo 7-8
7. Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno
Dylech nodi hysbysiad o fwriad i gyflwyno gan ddefnyddio’r System Rheoli Ymchwil o leiaf dri mis cyn rydych yn disgwyl cyflwyno eich traethawd ymchwil. Mae hyn er mwyn caniatáu i’ch adran wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer eich arholiad mewn da bryd. Nid oes angen i chi fod yn rhy benodol wrth gyfrifo eich dyddiad cyflwyno (cyhyd â bod hyn cyn y dyddiad cau terfynol). Cyn cyflwyno eich traethawd ymchwil, dylech wirio’n ofalus mai dyma’r fersiwn rydych yn dymuno cael ei arholi, ac nad yw’n cynnwys gwallau nac esgeulustod damweiniol. Sylwer na fydd modd i chi dynnu eich traethawd ymchwil yn ôl ar ôl ei gyflwyno.
7.1
Ar ôl i'r myfyriwr nodi ei fwriad i gyflwyno drwy'r System Rheoli Ymchwil, ni fydd y myfyriwr fel arfer yn gallu cyflwyno cais am estyniad o ymgeisyddiaeth.
7.2 Gweithdrefnau
- Mae’r myfyriwr yn nodi ei fwriad i gyflwyno traethawd ymchwil (drwy'r System Rheoli Ymchwil) dri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig;
- Mae’r goruchwyliwr yn cofnodi a gafwyd cymeradwyaeth i gyflwyno'r traethawd ymchwil cyn dyddiad ymgeisyddiaeth ofynnol y myfyriwr (gweler yr Arweiniad ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil am fanylion cyflwyno'n gynnar;
- Mae’r goruchwyliwr yn cofnodi a fydd yn gwneud cais am waharddiad ar fynediad neu a wnaethpwyd hynny eisoes;
- Mae’r goruchwyliwr yn nodi a fydd y traethawd ymchwil yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac a fydd yr arholiad llafar yn Gymraeg;
- Mae’r goruchwyliwr yn nodi a fydd y traethawd ymchwil yn cael ei gyflwyno mewn iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg (dylid cael caniatâd i wneud hynny ar adeg cadarnhau’r ymgeisyddiaeth, gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil) ac a fydd yr arholiad llafar mewn iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg;
- Os oes gan y goruchwyliwr sylwadau/pryderon am fwriad y myfyriwr i gyflwyno, dylid nodi'r rhain ar y System Rheoli Ymchwil. Os bydd y myfyriwr yn cyflwyno cyn dyddiad cyflwyno cynharaf yr ymgeisyddiaeth, dylai'r goruchwyliwr gynnwys sylw penodol ar hyn;
- Mae'r Gyfadran/Ysgol yn hysbysu'r Gwasanaethau Academaidd o gyflwyno'r gwaith ymchwil sydd ar ddod;
- Mae'r Gyfadran/Ysgol yn dechrau'r broses o enwebu'r Bwrdd Arholi (gweler Canllaw i Arholi'r Graddau Ymchwil ar arweiniad i enwebu arholwyr).
7.3 Cyflwyno’r traethawd ymchwil
Ar ôl nodi ei fwriad i gyflwyno drwy'r System Gwybodaeth Ymchwil, bydd y myfyriwr yn derbyn "Pecyn Cyflwyno".
7.3.1
Ar ôl i’r myfyriwr ysgrifennu ei draethawd ymchwil, dylai’r goruchwylwyr weld y copi drafft terfynol i roi sylwadau arno. Yna, bydd y myfyriwr yn gwneud y diwygiadau terfynol i’r traethawd ymchwil.
7.3.2
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr ymchwil gynnwys yn y traethawd ymchwil grynodeb o’r traethawd ymchwil a’r cyhoeddiadau a datganiadau perthnasol (gweler Cynllun mewnol traethawd ymchwil uchod).
7.3.3
Pan fydd myfyriwr yn barod i gyflwyno’i draethawd ymchwil, dylai’r datganiadau a’r gosodiadau gofynnol gael eu llofnodi a dylai dau gopi o’r traethawd ymchwil gael eu rhwymo’n unol â pholisi’r Gyfadran/Ysgol ar gyflwyno mewn rhwymiad dros dro ar gyfer yr arholiad (gweler y Confensiynau Rhwymo uchod). Bydd hefyd angen i’r myfyriwr baratoi copi electronig o’r traethawd ymchwil i fynd gyda’r fersiwn argraffedig o’r traethawd ymchwil. Caiff y copi electronig ei storio’n ddiogel gan Goleg neu Ysgol gartref y myfyriwr a chaiff ei ddileu ar ôl i’r arholiad llafar gael ei gynnal. Gellir hefyd ddarparu’r copïau electronig o’r traethawd ymchwil i arholwyr allanol os ydych yn gwneud cais am un. Mewn amgylchiadau eithrindol, gall y Gyfadran/Ysgol gytuno i anwybyddu'r gofyniad am gopiau wedi'u rhwymo a derbyn copiau electronig yn unig.
7.3.4
Mae gan bob Gyfadran/Ysgol aelod penodol o staff sy’n gyfrifol am dderbyn y traethawd ymchwil yn ffurfiol. Dylai’r myfyriwr gyflwyno dau gopi o’r traethawd ymchwil wedi’u rhwymo a copi electronig o’r traethawd ymchwil i’r aelod penodol o staff.
Wedyn, gweithredir y gweithdrefnau canlynol:
- Bydd statws matriciwleiddio a statws ariannol y myfyriwr yn cael eu gwirio. Os bydd gan y myfyriwr ddyled i’r Brifysgol, ni fydd y traethawd ymchwil yn cael ei arholi.
- Gofynnir i’r myfyriwr gadarnhau’r cyfeiriad y mae’n gofyn i’r hysbysiad ffurfiol gael ei anfon iddo – fel rheol “Cyfeiriad Cartref” y myfyriwr fydd hwn.
- Bydd y myfyriwr yn derbyn cadarnhad electronig ei fod wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil a dogfennau eraill.
Unwaith y bydd y Gwasanaethau Addysg wedi cadarnhau eu bod wedi penodi’r Bwrdd Arholi, gellir dechrau arholi’r traethawd ymchwil. Sylwer: ni ddylid trefnu dyddiadau’r arholiadau/arholiadau llafar nes bod y Bwrdd Arholi wedi’u cymeradwyo. Mae cyflwyno’r traethawd ymchwil yn derfynol, ac ni ellir ei dynnu’n ôl unwaith y byddwch wedi gwneud hyn.
7.4 Mynediad parhaus i gyfleusterau ar ôl cyflwyno
Bydd pob myfyriwr yn cael mynediad i’r Llyfrgell ac i’r cyfleusterau TG tan ddiwedd y broses arholi (fel y nodwyd yn yr hysbysiad ffurfiol gan y Gwasanaethau Addysg).
7.5 Trefniadau ailgyflwyno
Os bydd yn ofynnol i fyfyriwr ailgyflwyno’i draethawd ymchwil (yn hytrach na gwneud cywiriadau a diwygiadau), mae’r trefniadau ailgyflwyno yn union fel yr amlinellir uchod ar gyfer y cyflwyniad cyntaf. Dylai’r Bwrdd Arholi gael ei ail-enwebu ac ni all y gwaith o arholi’r traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd ddechrau hyd nes i’r ddau arholwr gael eu hailbenodi a’u cadarnhau gan Wasanaethau Addysg.
7.5.1
Ar ôl yr arholiad llafar, bydd y myfyriwr yn cael ei hysbysu yn ffurfiol gan y Brifysgol am argymhelliad y Bwrdd Arholi. Bydd y myfyriwr yn cael adborth ar y pwyntiau y mae’n rhaid iddo fynd i’r afael â nhw yn yr ailgyflwyniad, fel rheol gyda'r Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Dylai’r myfyriwr gael copi o’r ffurflenni Adroddiad a Chanlyniadau hefyd a baratowyd gan yr arholwyr cyn ac ar ôl yr arholiad llafar. Bydd yr un arholwyr yn arholi’r traethawd ymchwil wedi’i ailgyflwyno i weld a aed i’r afael â’r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiadau o’r arholiad cyntaf. Gan amlaf, mae traethawd ymchwil wedi’i ailgyflwyno yn cael ei arholi gan ail arholiad llafar. Mewn achosion eithriadol iawn, gallai’r gofyniad am ail arholiad llafar gael ei hepgor - bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi’n rhoi gwybod i’r myfyriwr fod y gofyniad am ail arholiad llafar wedi’i hepgor (gweler y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil).
7.5.2
Ymhen ychydig ddiwrnodau ar ôl cael ei hysbysu'n ffurfiol gan y Brifysgol am y canlyniad, bydd cerdyn cofnod y myfyriwr ar y fewnrwyd yn dangos bod dyddiad diwedd yr ymgeisyddiaeth wedi newid i’r un a hysbyswyd fel y dyddiad ailgyflwyno olaf. Ar ôl i’r cofnod ar y fewnrwyd gael ei ddiweddaru, bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio cyfleusterau electronig y Brifysgol a gwasanaethau’r Llyfrgell tan y dyddiad diwedd ymgeisyddiaeth newydd.
7.5.3
Rhaid i’r myfyriwr ailgyflwyno’i draethawd ymchwil ar y dyddiad cau a hysbyswyd gan y Brifysgol neu cyn hynny a thalu’r ffi ailgyflwyno ar neu cyn y dyddiad ailgyflwyno. Gellid talu ag arian parod neu â cherdyn credyd i’r Adran Gyllid, neu â siec Sterling a dynnwyd o fanc y DU (i’w thalu i “Prifysgol Abertawe”).
8. Cyflwyno traethawd ymchwil terfynol wedi’i rwymo mewn copi caled
Ar ôl i un neu'r ddau o'r arholwyr gymeradwyo'r cywiriadau a'r diwygiadau y gofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd Arholi (fel y nodwyd ar y Ffurflen Ganlyniadau), rhaid i'r myfyriwr gyflwyno dau gopi o'r traethawd ymchwil wedi’u rhwymo’n barhaol (un yn achos y MRes/MA trwy Ymchwil/MSc trwy Ymchwil/LLM trwy ymchwil) a thaflen grynodeb rydd o’r traethawd ymchwil i’r aelod staff dynodedig, ac un copi electronig mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) i Wasanaethau Addysg, cyn y gellir dyfarnu’r radd (gweler Rhwymo clawr caled parhaol uchod). Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Gyfadran/Ysgol gytuno i anwybyddu'r gofyniad i ofyn am gopiau wedi'u rhwymo a derbyn copiau electronig yn unig, ond dylai copiau caled wedi'u rhwymo gael eu cyflwyno ymhen amser pan fydd hi'n ymarferol gwneud hynny.