Datganiad Canlyniadau Graddau Prifysgol Abertawe 2023-24
1. Proffil Dosbarthiadau Graddau Sefydliadol
Dangosir proffil dosbarthiadau graddau Prifysgol Abertawe ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2015/16 i 2022-23 yn y tabl isod:
Dosbarthiad | 2017-18 | 2018-19 | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|---|---|
Meincnod Sector (Cyfartaledd Grŵp Russell) 1af neu 2:1 | 85.5% | 85.9% | 89.8% | 91% | 87.7% | Ar gael ym mis ionawr 24 |
Meincnod Sector (Cyfartaledd) 1af neu 2:1 | 76.3% | 76.3% | 82.2% | 82.7% | 79.2% | Ar gael ym mis ionawr 24 |
Abertawe 1af neu 2:1 | 78.0% | 79.1% | 81.5% | 82.6% | 82.5% | 83.1% |
1af | 29.0% | 29.9% | 35.8% | 37.4% | 34.6% | 37.6% |
2:1 | 49.0% | 49.2% | 45.7% | 45.2% | 47.9% | 45.5% |
2:2 | 20.0% | 19.2% | 17.1% | 15.6% | 16.2% | 15.6% |
3ydd | 2.0% | 1.7% | 1.3% | 1.8% | 1.3% | 3.4% |
Canlyniadau Graddau
Mae'r data'n dangos bod proffil cyfunedig graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ac Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch y Brifysgol wedi cynyddu o'i gymharu â'r flwyddyn 2021/22 i 83.1% (+3%). Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn sgîl cynnydd yn nifer y graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf (+4%), ond mae nifer y graddau Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch wedi gostwng i 45.5% (-1%). Cafwyd gostyngiad bach yn nifer y dosbarthiadau 2:2 i 15.6% (-0.2%).
Er na fydd data meincnodi ar gael tan fis Ionawr 2024, mae’r blynyddoedd diweddar wedi dangos patrwm tebyg i gyfartaledd y sector, gyda chynnydd bach yn 2021/22.
Mae'r Brifysgol wedi parhau i gynnal safonau a gwella ansawdd rhaglenni'r Brifysgol, i sicrhau bod gan fyfyrwyr y gobaith gorau o raddio gyda graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch ac i'w helpu i sicrhau cyflogaeth raddedig.
Gellir priodoli'r cynnydd ym mhroffil y canlyniadau graddau, yn enwedig y canlyniadau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth Uwch, i amrywiaeth o ffactorau sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd, safonau a phrofiad y myfyrwyr:
- Mae gwelliannau parhaus i addysgeg dysgu ac addysgu, asesu, profiad y myfyrwyr a chymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys tiwtora personol, wedi effeithio'n gadarnhaol ar berfformiad a chanlyniadau myfyrwyr.
- Drwy ganolbwyntio ar wneud gwelliannau mewn meysydd pwnc gwannach, cynyddwyd cysondeb ar draws y portffolio. Mae'r Brifysgol yn adolygu perfformiad modiwlau a rhaglenni'n gyson ar draws amrywiaeth o fetrigau ac mae hyn yn cynnwys ehangder canlyniadau gradd ar draws yr amrediad a ddyfernir.
- Gwelliannau ymhlith myfyrwyr sydd â chymwysterau mynediad ar wahân i Safon Uwch/Uwch Gyfrannol, yn benodol Cyrsiau Mynediad.
2. Arferion Asesu a Marcio
Ar gyfer yr holl raglenni, caiff deilliannau dysgu ac asesu eu mapio'n glir yn erbyn Côd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, maent yn bodloni gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRB), yn ystyried datganiadau Meincnodi Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac yn cyd-weddu â'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod safonau graddau'n cael eu cynnal a bod arbenigwyr allanol (cynrychiolwyr PSRB, defnyddwyr gwasanaethau, myfyrwyr, cyflogwyr, rhanddeiliaid) yn llywio ac yn sicrhau ansawdd ein rhaglenni.
Mae Polisi Asesu, Marcio ac Adborth y Brifysgol (diweddarwyd 2023) yn darparu egwyddorion asesu a gofynion ac mae'n ysgogi gwelliannau mewn arferion asesu. Mae'r polisi yn cynnwys gofynion ar gyfer marcio a dylunio asesiadau yn ogystal â dolenni at reoliadau'r Brifysgol ar gyfer Asesu a Dyfarnu. Goruchwylir y broses o ddylunio asesiadau a marcio gan Arholwyr Allanol arbenigol, sy'n adolygu ac yn cymeradwyo dyluniad asesiadau i sicrhau cysondeb a dilysrwydd; maent hefyd yn darparu adroddiad blynyddol ar brosesau asesu ac yn mynd i gyfarfodydd y Byrddau Arholi perthnasol.
Mae diwygiadau diweddar i'r polisi wedi ystyried newidiadau i derminoleg a ddefnyddir ar draws y sector yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, cosbau asesu, amserlenni marcio a chymedroli, gofynion cymedroli a gofynion cyfrwng Cymraeg.
Ategir y gwaith o weithredu'r polisi gan Gôd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu helaeth yn ogystal â chan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe ac Academi Cynwysoldeb Abertawe.
Ar ben hynny, gofynnir i'r holl staff academaidd sy'n newydd i AU gwblhau’r Dystysgrif Addysgu Ôl-raddedig Addysg Uwch, a fydd yn cyflwyno Côd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd iddynt yn ogystal â phob agwedd ar ddylunio rhaglenni ac asesiadau a phrosesau sicrhau ansawdd. Darperir rhagor o weithdai sy'n cynnwys pob agwedd ar asesu a marcio gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe.
Uniondeb Academaidd
Mae'r Brifysgol wedi cynnal rhaglen o weithgarwch gwella fel rhan o brosiect Ymlaen drwy gydol 2022/23 a bydd hon yn parhau i 2023/24. Nododd y gwaith yn 2022/23 fod Uniondeb Academaidd yn faes i’w wella a sefydlwyd gweithgorau dynodedig ar gyfer y 4 thema ganlynol:
- Cyfarwyddo Staff
- Polisi a Rheoliadau
- Sgiliau Uniondeb Academaidd Myfyrwyr
- Gweithdrefnau, Cysondeb a Systemau
Roedd rhaglen Ymlaen yn hwyluso cyfranogiad myfyrwyr yn y gwaith ar Uniondeb Academaidd ynghyd ag ymgynghori â staff ar draws y sefydliad. Canlyniad allweddol o'r gwaith yw cyflwyniad system newydd sydd wedi arwain at gysoni’r polisi Amgylchiadau Esgusodol ar draws pob un o'r tair Cyfadran, gan sicrhau bod profiad y myfyrwyr yn gyson, gan gynnwys amserlenni a phrosesau ar gyfer amgylchiadau esgusodol.
3. Llywodraethu Academaidd
Mae llywodraethu academaidd yn hanfodol i ddiogelu gwerth cymwysterau a ddyfernir gan y Brifysgol. Mae Pwyllgor Addysg y Brifysgol yn gyfrifol am oruchwylio Ansawdd a Safonau ac mae'n darparu adroddiad blynyddol i Gyngor (Llywodraethwyr) y Brifysgol, sy'n eu sicrhau bod ansawdd a safonau'n cael eu cynnal. Cynhaliwyd Adolygiad Gwella Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ym mis Tachwedd 2020, gan fodloni gofynion Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Ar y cyd â'r adolygiad hwn, gofynnir i'r llywodraethwyr gadarnhau nifer o ddatganiadau'n flynyddol fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru CCAUC, gan gynnwys, yn achos darparwyr sydd â'r gallu i ddyfarnu graddau, nodi bod safonau'r dyfarniadau y maent yn gyfrifol amdanynt wedi cael eu pennu a'u cynnal yn briodol.
I gynorthwyo'r llywodraethwyr wrth roi’r sicrwydd hwnnw, mae mecanwaith adrodd sy'n trosglwyddo gwybodaeth drwy'r sefydliad, drwy Bwyllgorau a Byrddau Sicrhau Ansawdd Cyfadrannau ac Ysgolion a'r Sefydliad i Bwyllgor Addysg y Brifysgol. Ceir hefyd Fwrdd Partneriaethau Cydweithredol, sy'n goruchwylio’r holl drefniadau partneriaeth. Gyda'i gilydd, mae'r strwythur llywodraethu hwn yn sicrhau bod cyrff lleol wedi'u grymuso ond bod gan y Brifysgol drosolwg clir o ansawdd a safonau. Diweddarwyd yr holl Bwyllgorau a Byrddau Sicrhau Ansawdd yn sgîl ailstrwythuro'r sefydliad yn haf 2021 i greu cyfadrannau ac ysgolion, ac i sicrhau bod eu hymagwedd yn ymatebol ac yn effeithiol.
Mae proses Adolygu Ansawdd fewnol y Brifysgol yn cynnwys Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau, Adolygiad Blynyddol o Raglenni ac Adolygiadau Ansawdd sydd wedi'u dylunio i adolygu'n fanwl feysydd y mae angen eu cefnogi, heb leihau craffu mewn meysydd perfformiad uchel. Gyda'i gilydd, mae'r ymagweddau hyn yn sicrhau bod gan y Brifysgol drosolwg clir a deialog rheolaidd ynghylch ansawdd a safonau ei darpariaeth, sydd wrth wraidd canlyniadau graddau.
Mae'r Arholwyr Allanol a'r Arbenigwyr Pwnc Allanol yn hollbwysig i ddylunio, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni'n barhaus ac maent yn cyfrannu at yr holl weithgareddau i ddylunio neu adolygu rhaglenni. Ar lefel y sefydliad, mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'n derbyn adroddiad gan yr Arholwr Allanol ar lefel Cyfadran/Ysgol ac mae'n darparu adroddiad sefydliadol i Bwyllgor Addysg y Brifysgol. Gofynnir i Gyfadrannau/Ysgolion roi ymateb ar lefel leol ac mae'r Brifysgol yn ymateb i gamau gweithredu a gymerir yn sgîl adroddiadau gan Arholwyr Allanol ac yn eu goruchwylio ar lefel y sefydliad.
Yn 2022/23, cyflwynwyd proses newydd ar gyfer adrodd am Adroddiadau Sicrhau Ansawdd ar lefel Cyfadran i groesgyfeirio tair ffynhonnell o ddata o Adroddiadau Arholwyr Allanol, yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni ac Adborth Myfyrwyr. Mae'r adroddiad hwn yn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau staff, myfyrwyr ac arholwyr allanol yn cael eu cyfuno ac mae’n helpu i nodi patrymau a thueddiadau, o ran arfer da a meysydd i’w gwella. Derbynnir yr adroddiadau gan y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau ar y cyd â'r holl reoliadau a adolygir yn flynyddol i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas at y diben o hyd.
4. Algorithmau Dosbarthu
Cyhoeddir rheoliadau dosbarthu Prifysgol Abertawe fel rhan o'i Rheoliadau Academaidd. Adolygir y rheoliadau hyn o hyd.
Fel arfer, caiff dosbarth gradd yr ymgeisydd ei bennu'n unol â'r marc cyfartalog wedi'i bwysoli ar gyfer yr holl fodiwlau, gan gynnwys marciau'r methiannau a ddigolledir, gan gyfrannu at yr asesiad o’r anrhydedd gan ddefnyddio'r ffiniau dosbarthiad canlynol:
Band 3: Y marciau gorau a gyflawnwyd mewn 80 o gredydau ar lefel 6, gan roi pwysoliad o 3
Band 2: Marciau lefel 6 o'r 40 o gredydau sy'n weddill a'r marciau gorau a gyflawnwyd mewn 40 o gredydau ar lefel 5, gan roi pwysoliad o 2
Band 1: Marciau a gyflawnwyd yn y credydau ar lefel 5 sy'n weddill, gan roi pwysoliad o 1
Yna defnyddir fformiwla i gyfrifo dosbarthiad y radd ar gyfartaledd.
Cyfartaledd Dosbarth Gradd wedi'i Bwysoli | |
---|---|
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf | 70%+ |
Anrhydedd Ail Ddosbarth, Adran I | 60-69.99% |
Anrhydedd Ail Ddosbarth, Adran II | 50-59.99% |
Anrhydedd Trydydd Dosbarth | 40-49.99% |
Gradd Basio | 35-39.99% |
Cyfle: Gall myfyrwyr sydd o fewn 2% i ffin dosbarthiad gael eu hystyried am gael eu dyrchafu i'r dosbarthiad nesaf os ydynt yn bodloni'r meini prawf canlynol.
Yr Egwyddor Mwyafrif: Er mwyn dyfarnu’r dosbarthiad uwch i fyfyriwr, rhaid bod y myfyriwr wedi cyflawni marciau ym mand y dosbarthiad uwch mewn modiwlau sydd â phwysoliad credydau gwerth o leiaf hanner y rheiny sy'n cyfrannu at ddosbarthiad y radd.
Cyfradd Welliant Wrth Ymadael (Exit Velocity): Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn ystyried cyfartaledd y flwyddyn astudio olaf heb bwysoliad. Pan fydd cyfartaledd blwyddyn olaf myfyriwr ym mand y dosbarthiad uwch, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn dyfarnu gradd yn y dosbarth uwch fel arfer.
5. Gwella Parhaus
Mae'r Brifysgol yn ymgymryd â rhaglen wella o'r enw Ymlaen. Mae'n canolbwyntio ar gyflawni newid sylweddol o ran effeithiolrwydd y sefydliad dros y tair blynedd nesaf yn ogystal ag ymgorffori diwylliant o wella’n barhaus a fydd yn parhau i'r dyfodol. Mae gan raglen Ymlaen gwmpas eang â thri phrif gategori:
- Prif brosiectau
- Gwella’n Barhaus/Prosesau
- Gwelliannau Cyflym
Yn 2022/23, canolbwyntiodd y rhaglen ar y 4 maes allweddol canlynol:
- Amgylchiadau Esgusodol
- Uniondeb Academaidd
- Mentora Academaidd
- Ymgysylltu a Chyfathrebu â Myfyrwyr
Ar gyfer 2023/24, bydd y rhaglen yn ymgorffori gwaith y pedwar maes y sonnir amdanynt uchod ac yn canolbwyntio ar gam nesaf y rhaglen gan gynnwys gwella cyfathrebu â myfyrwyr, porth i wasanaethau myfyrwyr a systemau a phrosesau i gefnogi staff a myfyrwyr.
Yn dilyn gwaith sylweddol i ailstrwythuro'r Brifysgol o golegau i strwythur sy'n seiliedig ar gyfadrannau ac ysgolion yn haf 2021, mae rhagor o feysydd wedi cael eu hadolygu a'u hailstrwythuro bellach er mwyn iddynt gydweddu ag arferion gwaith, prosesau a systemau newydd. Mae hyn wedi arwain at ailenwi’r Gwasanaethau Academaidd yn Wasanaethau Addysg, ac mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe ac Academi Cynwysoldeb Abertawe bellach wedi'u cynnwys yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Addysg. Mae’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr hefyd wedi cael ei ailenwi'n dîm Bywyd Myfyrwyr ac mae hwn yn cynnwys MyUniHub a Gwasanaethau Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr.
Mae data am ganlyniadau graddau yn un o'r setiau allweddol o ddata sy'n cael eu hadolygu gan raglenni fel rhan o'r Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau a Rhaglenni, sy'n barhaus, ac Adolygiadau Ansawdd manylach. Nodir arfer effeithiol drwy'r prosesau ansawdd hyn, ac fe'i hamlygir yn Adroddiadau Trosolwg Ansawdd y Cyfadrannau fel yr amlinellwyd yn flaenorol, ynghyd â thrwy dudalennau gwe Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe.
Ar y cyd â'n monitro rheolaidd, mae'r Brifysgol wedi bod yn canolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr yn barhaus, gan ymdrechu'n benodol i wella'r meysydd canlynol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar berfformiad myfyrwyr:
Addysgeg Dysgu ac Addysgu
Mae'r Brifysgol yn cefnogi ac yn galluogi gwella dysgu ac addysgu'n barhaus, gan gyflawni arloesi a gwella'n barhaus ar draws yr holl Gyfadrannau/Ysgolion. Ar y cyd â chefnogaeth gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, mae Arweinwyr Addysg Cyfadrannau/Ysgolion yn cwrdd yn rheolaidd ac yn canolbwyntio ar wella ymagweddau yn eu meysydd. Mae'r Brifysgol yn cydnabod ac yn gwobrwyo dysgu ac addysgu drwy lwybrau gyrfa penodol a chymryd rhan ym mhroses y Gymrodoriaeth AU.
Mae hyn wedi arwain at broses cynllunio gweithredu ac adrodd newydd i gefnogi gwella, prosesau symlach i alluogi'n gweithgarwch dysgu ac addysgu i fod yn hyblyg ac yn ymatebol ac ymyriadau penodol i gefnogi meysydd penodol ar draws y sefydliad.
Asesu, Marcio ac Adborth
Mae'r Brifysgol wedi bod yn canolbwyntio ar wella Asesu ac Adborth ers peth amser ac mae wedi diweddaru'r polisi Asesu, Marcio ac Adborth yn ddiweddar i fynd i'r afael â'r gwelliannau hyn.
Bydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar wella asesu yn 23/24, gan roi pwyslais penodol ar ymgorffori deallusrwydd artiffisial ac arweiniad i gefnogi staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio offer o'r fath ac i sicrhau bod uniondeb dyfarniadau'n cael ei gynnal drwy arferion asesu effeithiol, dilys a diogel.