Tystysgrifau Sylfaen
Rheoliadau Penodol: Tystysgrifau Sylfaen
1. Cyflwyniad
1.1
Gellir dyfarnu Tystysgrif Sylfaen i gydnabod cwblhau yn llwyddiannus raglen astudio gymeradwy a fwriadwyd i alluogi ymgeiswyr i wneud y canlynol:
• datblygu sgiliau meddwl a dadansoddi i’w cymhwyso i ystod o faterion;
• dangos gallu i gyfathrebu yn glir a chywir mewn dull cryno, rhesymegol a pherthnasol;
• dangos ehangder a dyfnder gwybodaeth mewn pwnc neu bynciau a gallu i drosglwyddo sgiliau a gwneud cysylltiadau.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Cynigir rhaglenni Tystysgrif Sylfaen ar sail blwyddyn o astudio amser llawn (neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser).
2.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr amser llawn fel rheol ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 120 credyd ar Lefel 3 mewn un flwyddyn academaidd.
2.3
Bydd gofyn i ymgeiswyr rhan-amser fel rheol ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 60 credydar Lefel 3 mewn un flwyddyn academaidd. Ni chaniateir i ymgeiswyr rhan-amser fel rheol ddilyn mwy na 90 credyd na llai na 30 credyd mewn un flwyddyn academaidd.
2.4
Caniateir i ymgeiswyr sydd yn dilyn rhaglenni Tystysgrif Sylfaen rhan-amser a gynigir gan yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion ddilyn isafswm o 20 credyd mewn un flwyddyn academaidd.
2.5
Bydd gofyn i ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau atodol y mae disgwyl i Golegau gynhyrchu sydd yn nodi strwythur y rhaglen, gan nodi’n glir pa rai yw’r modiwlau craidd a gofodol, ac a ganiateir modiwlau dethol.
3. Trosglwyddo Credydaur
3.1
Rhaid i ymgeisydd ddilyn isafswm o 90 credyd ym Mhrifysgol Cymru Abertawe neu mewn sefydliad sy’n bartner dan ei reolaeth trwy gytundeb cydweithredu ffurfiol i fod yn gymwys am Dystysgrif Sylfaen.
4. Terfynau Amser
4.1
Dyma fydd uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth i fyfyrwyr sydd yn dilyn Tystysgrif Sylfaen:
- Modd amser llawn: dim mwy na dwy flynedd o gychwyn y rhaglen
- Modd rhan-amser: dim llai na dwy flynedd a dim mwy na thair blynedd o gychwyn y rhaglen.
4.2
Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol yn unol â’r rheoliadau a amlinellir yn rheoliad 27 y Rheoliadau Cyffredinol.
4.3
Gellir gostwng y terfyn amser uchod pro rata ar gychwyn yr ymgeisyddiaeth gan y Coleg dan sylw lle derbyniwyd ymgeisydd i astudio gyda chredyd trosglwyddadwy, fel y’i disgrifir yn rheoliad 3.
5. Rheoliadau Asesu
5.1
Caiff cynnydd ymgeisydd fel rheol ei asesu naill ai yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth wedi ei gwblhau.
5.2
Caiff pob ymgeisydd ei fonitro gan Coleg priodol a'r Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau a phennir y dyfarniad gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
5.3
Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau rhaglen astudio’r dystysgrif yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellwyd yn Rheoliadau Asesu Israddedigion.
5.4
40% fydd marc pasio modiwl.
6. Cymwysterau Ymadael
6.1
Ni fydd ymgeisydd a dderbynnir i raglen astudio tystysgrif ond na all, neu nas caniateir iddo, wedi hynny fwrw ymlaen i gwblhau yn gymwys am gymhwyster ymadael.
7. Dyfarnu Cymhwyster
7.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w ystyried am gymhwyster o Brifysgol Abertawe, bydd yn rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud y canlynol:
- dilyn rhaglen astudio gymeradwy am y cyfnod a nodir gan y Brifysgol;
- dilyn isafswm o 120 credyd ar Lefel 3 (neu yn uwch) ac eithrio yn ôl darpariaeth Adran 3 uchod;
- ateb unrhyw amodau) pellach a fynnir gan y Coleg neu’r Brifysgol.
7.2
Bydd ymgeisydd sydd yn cwblhau Tystysgrif Sylfaen yn llwyddiannus yn gymwys am gymhwyster Clod lle cafodd farc cyffredinol o 70% neu’n uwch (neu’r pwynt graddfa cyfatebol) ar gyfer y cymhwyster dan sylw.
8. Derbyn i’r Cymhwyster
8.1
Dyfernir Tystysgrif Sylfaen i ymgeiswyr yn seremoni wobrwyo Prifysgol Abertawe.