Polisi Hawl i Absenoldeb Rhiant ar Gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-Raddedig
1. Cyflwyniad
1.1
Mae’r ddogfen hon yn pennu dull y Brifysgol o gynorthwyo darpar ymchwilwyr ôl-raddedig/ymchwilwyr ôl-raddedig presennol sy’n feichiog, ymchwilwyr ôl-raddedig y daw eu partner yn feichiog, ac ymchwilwyr ôl-raddedig a ddaw’n rhieni trwy gyfrwng llwybrau eraill fel mabwysiadu neu fenthyg croth.
1.2
Drwy gydol y polisi hwn, mae ‘ymchwilydd ôl-raddedig’ yn cyfeirio at y myfyriwr sydd wedi cofrestru ar raglen radd ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe.
1.3
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i ymchwilwyr ôl-raddedig rhan-amser ac amser llawn, a rhai sydd wedi’u hariannu a heb eu hariannu, ac sy’n dilyn rhaglenni gradd ymchwil ar lefel Doethuriaeth neu Radd Meistr.
1.4
Mae pob ymchwilydd ôl-raddedig yn gymwys, waeth be fo’i sefyllfa o ran oedran, anabledd, hil, ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth neu unrhyw nodweddion cydraddoldeb eraill. Cynhwysir ymchwilwyr ôl-raddedig trawsryweddol ac anneuaidd.
1.5
Pan ddefnyddir y gair ‘partner’, cynhwysir partneriaid o’r un rhyw, gwŷr/gwragedd priod o’r un rhyw, cyplau o’r un rhywedd a chyplau anheterorywiol.
1.6
Mae’r polisi’n nodi ymrwymiad Prifysgol Abertawe i sicrhau y caiff myfyrwyr eu trin yn deg o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig, sef: Oedran, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd a Chred, Rhyw a Chyfeiriadedd Rhywiol, Priodas, a Phartneriaeth Sifil (o ran y gofyniad i roi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu). Mae rhagor o wybodaeth yma: https://www.swansea.ac.uk/media/Strategic-Equality-Plan-2020-2024-(Welsh).pdf
1.7
Datblygwyd y polisi hwn yn dilyn canllawiau gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) ynglŷn ag Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Tadolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu ac Absenoldeb Rhiant. Os oes gwahaniaethau i’w cael rhwng polisi Prifysgol Abertawe ac unrhyw bolisi allanol, polisi Prifysgol Abertawe (a nodir isod) a fydd yn cael y lle blaenaf, oni bai bod y myfyriwr wedi cofrestru ar radd ymchwil ar y cyd/gradd ddwbl/gradd gydweithredol gyda sefydliad partner a bod polisi’r sefydliad partner yn groes i’r polisi hwn. Os ydych wedi cofrestru ar radd ar y cyd/gradd ddwbl/gradd gydweithredol, gwnewch ymholiadau i weld pa bolisi sy’n berthnasol.
1.8
Ni fydd y polisi hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni israddedig a rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.
1.9
Bydd y polisi hwn mewn grym o 1 Gorffennaf 2023. Bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol yn y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig neu ynghynt pe bai UKRI a/neu’r adran Adnoddau Dynol yn rhyddhau gwybodaeth sy’n berthnasol i’r polisi hwn.
2. Mathau o Absenoldeb
2.1 Mamolaeth a Mabwysiadu/Benthyg Croth
2.1.1
Mae gan yr holl fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi cofrestru gyda Phrifysgol Abertawe hawl i gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb sy’n gyfwerth ag absenoldeb Mamolaeth neu absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth trwy ohirio’u hastudiaethau:
- Os mai nhw yw’r un a fydd yn rhoi genedigaeth neu
- Os mai nhw yw’r prif fabwysiadwyr a gaiff ei baru â phlentyn neu
- Os mai nhw yw’r prif riant arfaethedig trwy gyfrwng trefniant benthyg croth neu
- Os mai nhw yw’r prif fabwysiadwr sy’n maethu plentyn o dan y cynllun “Maethu ar gyfer Mabwysiadu”.
2.1.2
Os ydych yn gwpl sy’n mabwysiadu ar y cyd neu sy’n bwriadu dod yn rhieni trwy gyfrwng trefniant benthyg croth, rhaid i chi benderfynu pwy a fydd yn cymryd absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth. Efallai y bydd y partner arall (waeth be fo’i rywedd) yn gymwys i gael absenoldeb Tadolaeth/Partner.
2.2 Absenoldeb Tadolaeth/Partner Arferol
2.2.1
Mae’r holl fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi cofrestru gyda Phrifysgol Abertawe yn gymwys i gael hyd at bythefnos o absenoldeb Tadolaeth/Partner:
- Os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y sawl a fydd yn rhoi genedigaeth, neu
- Os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y prif fabwysiadwr, neu
- Os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y prif fabwysiadwr sy’n maethu plentyn o dan y cynllun “Maethu ar gyfer Mabwysiadu”, neu
- Os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y prif riant arfaethedig trwy gyfrwng trefniant benthyg croth; a hefyd
- Os bydd yn rhaid iddynt, neu os disgwylir iddynt, rannu’r cyfrifoldeb dros fagu’r plentyn.
Gweler Adran 9 i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag Absenoldeb Tadolaeth/Partner Arferol.
2.3 Absenoldeb Rhiant Di-dâl
2.3.1
Mae gan bartneriaid hawl i gael cyfnod estynedig o Absenoldeb Rhiant Di-dâl. Gallant ohirio’u hastudiaethau am hyd at 50 wythnos a bydd eu hymgeisyddiaeth yn cael ei hymestyn yn unol â hynny. Rhaid cwblhau unrhyw Absenoldeb Rhiant Di-dâl o fewn 12 mis i enedigaeth y plentyn. Mae Absenoldeb Rhiant Di-dâl ar gael i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra canlynol:
- Rhaid iddynt rannu’r cyfrifoldeb dros y plentyn gyda rhiant arall y plentyn a rhaid iddynt gyflwyno cadarnhad yn dangos y byddant yn gofalu am y plentyn e.e. datganiad ysgrifenedig gan riant arall y plentyn, a
- Rhaid iddynt gymryd yr absenoldeb er mwyn gofalu am y plentyn. Ymhellach:
- Ni ddylai amodau a thelerau eu hysgoloriaeth ymchwil eu gwahardd yn benodol rhag cymryd absenoldeb o’r fath, ac
- Ni ddylent fod wedi cofrestru ar raglen ymchwil ar y cyd â sefydliad arall pan fo rheolau’r sefydliad partner yn eu gwahardd rhag cymryd absenoldeb o’r fath.
Gweler Adran 11.0 lle ymdrinnir ag Absenoldeb Rhiant Di-dâl.
2.4 Absenoldeb Rhiant a Rennir
2.4.1
Nid yw ymchwilwyr ôl-raddedig yn gymwys i gael Absenoldeb Rhiant a Rennir, oherwydd nid ystyrir eu bod yn gyflogeion (gweler y dyfyniad isod mewn llythrennau italig gan UKRI). Fodd bynnag, dylai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd hefyd yn gyflogeion neu sy’n gweithio yn y Brifysgol neu mewn sefydliad/cwmni allanol ddarllen Adran 2.5.
“Shared Parental Leave (SPL) is not available to funded PGRs. SPL and Statutory Shared Parental Pay (ShPP) are defined in law and operated by HMRC. For a parent to benefit from either SPL or ShPP, they must meet the legal eligibility criteria which includes a requirement that they are an employee. Doctoral students funded by UKRI are not employees and so are not able to give HMRC the information required to process an application. See the UKRI statement here.”
2.5 Ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n gyflogeion neu’n weithwyr ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad allanol.
2.5.1
Mae polisïau (AD) Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn gwahaniaethu rhwng myfyrwyr ôl-raddedig a staff, yn arbennig o ran cyfraddau a lefel y tâl, y cyfnod cymhwyso a’r hawl i gael Absenoldeb Rhiant a Rennir. Seilir y polisi ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ar ganllawiau UKRI cyn belled ag y bo’n ymarferol.
2.5.2
Mae’r adran ganlynol yn argymell pa bolisïau y dylai unigolion eu dilyn os ydynt yn fyfyrwyr ôl-raddedig ac yn gyflogeion y Brifysgol neu gwmni/sefydliad allanol.
- Cyflogai amser llawn Prifysgol Abertawe ac Ymchwilydd Ôl-raddedig rhan-amser
Gan fod prif statws yr unigolyn yn cyfateb i aelod o staff (h.y. cyflogai), byddai’n cael ei rwymo gan rwymedigaethau contractiol, ac felly byddai disgwyl iddo ddilyn egwyddorion polisïau staff Prifysgol Abertawe ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner. https://staff.swansea.ac.uk/human-resources/leave-flexible-working-and-absence/family-friendly-leave-arrangements/
DS: Byddai’n ofynnol i gyflogeion amser llawn Prifysgol Abertawe, sydd hefyd yn ymchwilwyr ôl-raddedig rhan-amser, wneud cais am Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, Absenoldeb Tadolaeth/Partner neu Absenoldeb Di-dâl trwy gyfrwng y prosesau a nodir yn y polisi hwn, fel y gellir dangos yr absenoldeb yn eu cofnod myfyriwr.
- Cyflogai amser llawn cwmni/sefydliad allanol (nid Prifysgol Abertawe) ac Ymchwilydd Ôl-raddedig rhan-amser
Gan fod prif statws yr unigolyn yn cyfateb i aelod o staff y cwmni/sefydliad allanol, byddai’n cael ei rwymo gan rwymedigaethau contractiol, ac felly byddai disgwyl iddo ddilyn egwyddorion polisïau AD y cwmni/sefydliad allanol ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner.
DS: Byddai’n ofynnol i gyflogeion amser llawn cwmnïau/sefydliadau allanol (nid Prifysgol Abertawe), sydd hefyd yn ymchwilwyr ôl-raddedig rhan-amser, wneud cais am Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, Absenoldeb Tadolaeth/Partner neu Absenoldeb Di-dâl trwy gyfrwng y prosesau a nodir yn y polisi hwn, fel y gellir dangos yr absenoldeb yn eu cofnod myfyriwr.
- Ymchwilydd ôl-raddedig amser llawn a gweithiwr rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad allanol, gan gynnwys Arddangoswyr Dysgu ac Uwch-gynorthwywyr Addysgu
Gan fod prif statws yr unigolyn yn cyfateb i statws Ymchwilydd Ôl-raddedig, byddai disgwyl iddo ddilyn polisi Ymchwilwyr Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe.
- Cynorthwywyr Ymchwil Amser Llawn ym Mhrifysgol Abertawe sy’n dilyn gradd ymchwil ôl-raddedig amser llawn
Byddai’r unigolion hyn yn dilyn egwyddorion polisïau staff Prifysgol Abertawe ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner.
- Ymchwilydd Ôl-raddedig Rhan-amser, cyflogai rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad allanol
Byddai’n rhaid ystyried y sefyllfa fesul achos, gan ddibynnu ar natur y contract cyflogaeth a’r oriau a weithir.
- Ymchwilydd Ôl-raddedig Amser Llawn ar raglen ymchwil ar y cyd â sefydliad arall
Byddai’n rhaid ystyried y sefyllfa fesul achos, gan ddibynnu ar leoliad y myfyriwr, sut caiff ei ariannu a beth yw rheolau’r sefydliad partner. Er enghraifft, ystyrir bod rhai myfyrwyr ymchwil ar y cyd yn gyflogeion y sefydliad partner, ac felly byddent yn cael eu rhwymo gan rwymedigaethau contractiol y Partner a byddai disgwyl iddynt ddilyn polisïau AD eu cyflogwr ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner.
3. Taliadau I Ymchwilwyr Ôl-Raddedig (Cyffredinol)
Yr hawl i gael absenoldeb â thâl
Pan fo ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael ariantal, pennir yr hawl i absenoldeb â thâl gan amodau eu cyllid a pha un a fydd wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth/lleoliad yn digwydd yn ystod cyfnod y dyfarniad, fel a ganlyn:
3.1
Bydd gan ymchwilwyr doethurol a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) hawl i gael tâl Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner fel y nodir yn y polisi hwn ac yn unol ag amodau a thelerau UKRI. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr doethurol a ariennir yn rhannol gan UKRI, ac yna bydd polisi UKRI yn berthnasol.
3.2
Bydd gan ymchwilwyr ôl-raddedig a ariennir gan Brifysgol Abertawe, neu eu cyfadran/ysgol, hawl i gael tâl Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner, fel y nodir yn y polisi hwn.
3.3
Yn achos ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n cael ysgoloriaeth a ariennir yn llwyr gan sefydliad allanol neu ddyfarniad allanol a weinyddir trwy’r Brifysgol, rhaid iddynt ymgynghori â’u goruchwylydd a thîm ymchwilwyr ôl-raddedig eu cyfadran i weld a ellir rhoi tâl iddynt yn ystod cyfnodau o Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Tadolaeth/Partner. Os na fydd y cyllidwr allanol yn darparu cyllid ar gyfer y cyfnodau absenoldeb hyn, nac yn darparu’r lefelau a nodir yn y polisi hwn (sy’n seiliedig ar lefelau UKRI), bydd cyfadran y myfyriwr yn ariannu cyfnod yr Absenoldeb Mamolaeth, yr Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth neu’r Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn gyfan gwbl neu’n rhannol, fel bo’r angen.
3.4
Bydd y tâl a gaiff ymchwilwyr ôl-raddedig a ariennir yn rhannol gan y Brifysgol yn cael ei addasu ar sail pro rata yn unol â chanran y cyllid a gânt. Yn achos unrhyw elfen a ariennir yn allanol (os yn berthnasol), os nad yw’r cyllidwr allanol yn darparu cyllid ar gyfer y cyfnodau absenoldeb hyn, nac yn darparu’r lefelau a nodir yn y polisi hwn (sy’n seiliedig ar lefelau UKRI), bydd cyfadran y myfyriwr yn ariannu cyfnod yr Absenoldeb Mamolaeth, yr Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth neu’r Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn gyfan gwbl neu’n rhannol, fel bo’r angen.
3.5
Bydd y tâl a gaiff ymchwilwyr ôl-raddedig a ariennir yn rhannol gan y Brifysgol/cyfadran ac yn rhannol ganddynt eu hunain yn cael ei addasu ar sail pro rata yn unol â chanran y cyllid a gânt gan y Brifysgol/cyfadran. Ni fydd y Brifysgol/cyfadran yn rhoi unrhyw daliad tuag at yr elfen a gaiff ei hariannu gan yr unigolyn.
3.6
Bydd gan ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n eu hariannu eu hunain (yn cynnwys y rhai sydd â hawl i ddyfarniadau ffioedd dysgu yn unig) hawl i’r cyfnodau absenoldeb a nodir yn y polisi hwn, ond ni fyddant yn gymwys i gael taliadau Mamolaeth, taliadau Mabwysiadu/Benthyg Croth na thaliadau Tadolaeth/Partner gan y Brifysgol.
3.7
Bydd y tâl a gaiff ymchwilwyr ôl-raddedig rhan-amser yn cael ei addasu ar sail pro rata yn unol â chanran y cyllid a gânt.
3.8
Dylai staff sydd hefyd yn ymchwilwyr ôl-raddedig ddarllen Adran 2.5 a chysylltu â’r adran AD i gael rhagor o gyngor.
4. Taliadau Ariantal – Absenoldeb Mamolaeth ac Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth
4.1
Yn achos ymchwilwyr ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser a gaiff eu hariannu’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan ysgoloriaeth/ariantal, mae ganddynt hawl i gael hyd at 52 wythnos o absenoldeb sy’n cyfateb i absenoldeb Mamolaeth neu absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth os bydd wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth/lleoliad yn digwydd yn ystod cyfnod eu dyfarniad.
4.2
Nid oes yna unrhyw gyfnod cymhwyso gofynnol ar gyfer absenoldeb sy’n cyfateb i absenoldeb Mamolaeth neu absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth. Caiff ymchwilwyr ôl-raddedig gymryd hyd at 52 wythnos, waeth pryd y gwnaethant ddechrau eu hastudiaethau, ond ni fydd arian yn cael ei roi i fyfyrwyr ar ôl i’w cyfnod ddod i ben neu yn ystod cyfnod ailgyflwyno.
4.3
Dylid talu’r 26 wythnos cyntaf yn ôl cyfradd lawn yr ariantal, pro rata ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.
4.4
Dylid talu’r 13 wythnos canlynol ar lefel sy’n gymesur â Thâl Mamolaeth Statudol https://www.gov.uk/maternity-pay-leave neu Dâl Mabwysiadu Statudol https://www.gov.uk/adoption-pay-leave/pay
4.5
Ni roddir tâl yn ystod y 13 wythnos olaf.
4.6
Dylai Ymchwilwyr Ôl-raddedig benderfynu faint o wythnosau o blith 52 wythnos yr absenoldeb Mamolaeth neu’r absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth y bwriadant eu cymryd; fodd bynnag, rhaid iddynt gymryd pythefnos fan leiaf o ddyddiad yr enedigaeth.
4.7
Yn ystod cyfnod yr Absenoldeb Mamolaeth a’r Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, ni thelir ffioedd dysgu i’r Brifysgol, a bydd dyddiadau gorffen ysgoloriaethau a dyddiadau cyflwyno disgwyliedig yn cael eu haddasu yng nghofnod y myfyriwr fel y gellir nodi cyfnodau o Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth neu newidiadau mewn patrymau astudio.
4.8
Ni chyfyngir ar faint o weithiau y gall Ymchwilwyr Ôl-raddedig gymryd Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth yn ystod eu gradd; fodd bynnag, dim ond unwaith y caiff myfyrwyr gymryd absenoldeb sy’n cyfateb i Absenoldeb Mamolaeth/Mabwysiadu neu Absenoldeb Rhiant Di-dâl fesul genedigaeth/lleoliad plentyn.
Tabl 1: Mae’r tabl isod yn nodi hawl Ymchwilwyr Ôl-raddedig i gael taliadau ariantal yn ystod Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, gan ddibynnu
Ffynhonnell y cyllid | Hyd yr absenoldeb | Taliadau ariantal |
---|---|---|
UKRI | 52 wythnos | Taliadau ariantal llawn am 26 wythnos, yna taliadau sy’n gymesur â’r Tâl Mamolaeth Statudol/Tâl Mabwysiadu Statudol am 13 wythnos* ac yna 13 wythnos yn ddi-dâl. |
Y Brifysgol | 52 wythnos | Taliadau ariantal llawn am 26 wythnos, yna taliadau sy’n gymesur â’r Tâl Mamolaeth Statudol/Tâl Mabwysiadu Statudol am 13 wythnos* ac yna 13 wythnos yn ddi-dâl. |
Yr Ysgol neu’r Gyfadran | 52 wythnos | Taliadau ariantal llawn am 26 wythnos, yna taliadau sy’n gymesur â’r Tâl Mamolaeth Statudol/Tâl Mabwysiadu Statudol am 13 wythnos* ac yna 13 wythnos yn ddi-dâl. |
Rhan-amser** | 52 wythnos | Nifer yr wythnosau fel y nodir uchod, ond ar sail pro rata yn unol â chanran y cyllid a dderbynnir. |
Cyllid allanol | 52 wythnos | Gwneir y taliadau yn ôl disgresiwn y cyllidwr oni chânt eu nodi yn y contract. Os na fydd y cyllidwr allanol yn darparu cyllid ar gyfer y cyfnodau absenoldeb hyn, nac yn darparu’r lefelau a nodir yn y polisi hwn (sy’n seiliedig ar lefelau UKRI), bydd cyfadran y myfyriwr yn ariannu cyfnod yr absenoldeb mamolaeth yn gyfan gwbl neu’n rhannol, fel bo’r angen. |
Yn rhannol gan y Brifysgol neu’r Gyfadran / yn rhannol yn allanol | 52 wythnos |
Bydd angen addasu’r taliad ar sail pro rata yn unol â chanran y cyllid a dderbynnir. Yn achos unrhyw elfen a ariennir yn allanol (os yn berthnasol), os na fydd y cyllidwr allanol yn darparu cyllid ar gyfer y cyfnodau absenoldeb hyn, nac yn darparu’r lefelau a nodir yn y polisi hwn (sy’n seiliedig ar lefelau UKRI), bydd cyfadran y myfyriwr yn ariannu cyfnod yr absenoldeb mamolaeth yn gyfan gwbl neu’n rhannol, fel bo’r angen. Ni fydd y Brifysgol yn talu taliadau Mamolaeth, Mabwysiadu/Benthyg Croth ar gyfer unrhyw elfen a ariennir gan yr unigolyn, a allai hefyd fod yn rhan o ffynhonnell y cyllid. |
Yn rhannol gan y Brifysgol neu’r Gyfadran / yn rhannol gan yr unigolyn | 52 wythnos |
Bydd angen addasu’r taliad ar sail pro rata yn unol â chanran y cyllid a dderbynnir. Ni fydd y Brifysgol/cyfadran yn talu taliadau Mamolaeth, Mabwysiadu/Benthyg Croth ar gyfer unrhyw elfen a ariennir gan yr unigolyn. |
Yr unigolyn yn hunanariannu | 52 wythnos | Ni fydd y Brifysgol/cyfadran yn talu taliadau Mamolaeth, Mabwysiadu/Benthyg Croth. |
*Mae’r gyfradd sy’n gymesur â Thâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol yn cyfeirio at dâl cyfwerth sydd ar gael i staff a chanddynt hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol. Pennir y tâl mamolaeth statudol a’r tâl mabwysiadu statudol gan y llywodraeth bob blwyddyn (gweler https://www.gov.uk/maternity-pay-leave a https://www.gov.uk/adoption-pay-leave/pay).
** Bydd ymchwilwyr ôl-raddedig sydd wedi’u cofrestru ar lai na 100% FTE (Cyfwerth ag Amser Llawn) yn cael eu taliadau ariantal pro rata safonol (ar gyfer y 26 wythnos cyntaf, fel y nodir uchod), ac yna byddant yn cael taliad is am 13 wythnos, gan gymhwyso’r ganran pro rata briodol.
4.9
O ran Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, mae gan ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n bwriadu/wedi dod yn rhieni trwy Fabwysiadu/Benthyg Croth hawl i gael yr un cymorth a’r un cyngor â myfyrwyr eraill a ddaw yn rhieni yn ystod eu hastudiaethau. Bydd y lwfansau absenoldeb a’r taliadau ariantal a nodir yn y tabl uchod ac mewn mannau eraill yn y polisi hwn yn berthnasol iddynt.
4.10
Pan fo dau ymchwilydd ôl-raddedig yn mabwysiadu ar y cyd, dim ond un aelod o’r cwpl a ystyrir yn ‘brif unigolyn sy’n rhoi gofal’. Bydd ganddo ef/hi hawl i gael ei (h)ystyried ar gyfer absenoldeb sy’n cyfateb i absenoldeb Mamolaeth. Bydd y partner arall yn cael yr un hawliau a nodir ar gyfer partneriaid sydd â hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth/Partner ac Absenoldeb Rhiant Di-dâl.
5. Sut i Wneud Cais am Absenoldeb Mamolaeth/Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Rhiant Di-Dâl
5.1 Absenoldeb Mamolaeth
5.1.1
Rhaid i ymchwilwyr ôl-raddedig drafod yr Absenoldeb Mamolaeth sydd ar ddod gyda’u goruchwylydd a hefyd gyda Thîm Ymchwilwyr Ôl-raddedig y gyfadran. Dylent wneud hyn cyn gynted ag y bo modd a dylent gadarnhau dyddiad dechrau’r Absenoldeb Mamolaeth o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad disgwyliedig yr enedigaeth.
5.1.2
Gellir dechrau’r Absenoldeb Mamolaeth cynharaf 11 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.
5.1.3
Bydd cyfnod yr Absenoldeb Mamolaeth yn dechrau’n awtomatig pe bai ymchwilwyr ôl-raddedig yn absennol o’u rhaglen yn rhannol neu’n gyfan gwbl oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.
5.1.4
Y dyddiad hwyraf y gellir dechrau Absenoldeb Mamolaeth yw dyddiad yr enedigaeth.
5.1.5
Yn achos ymchwilwyr ôl-raddedig sydd wedi cofrestru ar raglenni ymchwil ar y cyd â sefydliad partner, bydd angen iddynt wirio gyda’r partner beth yn union yw’r broses ar gyfer gwneud cais am absenoldeb oddi mewn i’r sefydliad partner.
5.2 Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth
5.2.1
Cydnabyddir nad yw’r cyfnod ar gyfer trefniadau mabwysiadu yn rhoi cymaint o amser i gynllunio o gymharu â sefyllfa myfyrwyr beichiog. Mewn achosion o’r fath, bydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn dilyn yr egwyddorion a’r prosesau a nodir isod, cyn belled ag y bo modd.
5.2.2
Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n dymuno cymryd Absenoldeb Mabwysiadu roi gwybod i’w goruchwylydd a’u cyfadran o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad y dymunant i’r absenoldeb ddechrau.
5.2.3
Ni fydd Absenoldeb Mabwysiadu ar gael pan fyddwch yn mabwysiadu aelod o’r teulu neu lysblentyn, pan fyddwch yn dod yn warcheidwad arbennig neu’n ofalwr sy’n berthynas, neu pan fyddwch yn mabwysiadu’n breifat.
5.2.4
Os ydych yn gwpl sy’n mabwysiadu ar y cyd, rhaid i chi benderfynu pwy a fydd yn cymryd Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth â thâl. Efallai y bydd y partner arall yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth/Partner â thâl.
5.2.5
Yn achos trefniadau mabwysiadu oddi mewn i’r DU, gellir dechrau’r Absenoldeb Mabwysiadu hyd at 14 diwrnod cyn i’r plentyn ddechrau byw gyda chi, ond ddim hwyrach na dyddiad y lleoliad. Yn achos trefniadau mabwysiadu a wneir dramor, gellir dechrau’r Absenoldeb Mabwysiadu pan fydd y plentyn yn cyrraedd y DU neu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad hwn.
5.2.6
Yn achos trefniadau benthyg croth, gellir dechrau’r absenoldeb ar ddiwrnod geni’r plentyn neu’r diwrnod wedyn. Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig roi gwybod i’w goruchwylydd a’u cyfadran ddim hwyrach na diwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.
5.2.7
Fel arfer, bydd Absenoldeb Mabwysiadu yn dod i ben wyth wythnos ar ôl diwedd yr wythnos pan fydd unrhyw un o’r amhariadau canlynol yn digwydd:
i. Dechreuodd yr Absenoldeb Mabwysiadu cyn dyddiad disgwyliedig y lleoliad, ac yna cawsoch wybod na fyddai’r plentyn yn cael ei leoli gyda chi;
ii. Mae’r plentyn wedi rhoi’r gorau i fyw gyda’r mabwysiadwr.
5.3 Absenoldeb Rhiant Di-dâl
5.3.1
Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig drafod eu bwriad i gymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl gyda’u goruchwylydd a chyda thîm gweinyddol Ymchwilwyr Ôl-raddedig y gyfadran cyn gynted ag y bo modd, gan gadarnhau hyd disgwyliedig yr absenoldeb a’r dyddiad dechrau ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y dymunant i’r absenoldeb ddechrau.
5.3.2
Rhaid iddynt gymryd yr absenoldeb hwn, sef hyd at 50 wythnos, o fewn 12 mis i enedigaeth/lleoliad y plentyn. Gellir ei gymryd i gyd ar unwaith, neu mewn blociau llai o 3 mis yn olynol, neu gyda chyfnodau o astudio ynghanol blociau penodol o 3 mis. Sylwer: wrth hollti’r Absenoldeb Rhiant Di-dâl yn flociau 3 mis ar wahân, mae’n bosibl na fydd modd i’r unigolyn gymryd y dyraniad 50 wythnos yn llawn pe bai’r cyfnod yn ymestyn y tu hwnt i’r 12 mis a ganiateir.
5.3.3
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt o’r DU/myfyrwyr o Iwerddon, mae hi’n hanfodol iddynt wirio amodau ymgysylltu a mynychu eu fisa a’u cwrs os ydynt yn bwriadu cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl, yn enwedig os dymunant gymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl ar ffurf blociau ysbeidiol yn gymysg â chyfnodau astudio.
5.4. Gohirio Astudiaethau ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Rhiant Di-dâl
5.4.1
Ar ôl cytuno ar ddyddiadau’r Absenoldeb Mamolaeth, yr Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth neu’r Absenoldeb Rhiant Di-dâl, rhaid i ymchwilwyr ôl-raddedig lenwi ffurflen Gohirio Astudiaethau a’i chyflwyno i’r gyfadran ddim hwyrach na’r 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (yn achos Absenoldeb Mamolaeth ac Absenoldeb Benthyg Croth), a ddim hwyrach na 28 diwrnod (yn achos Absenoldeb Mabwysiadu ac Absenoldeb Rhiant Di-dâl).
5.4.2
Hefyd, rhaid i’r ymchwilydd ôl-raddedig gyflwyno tystiolaeth i ategu’r cais i ohirio’i astudiaethau. Gall tystiolaeth o’r fath gynnwys:
i. Mamolaeth: Ffurflen MAT B1 wreiddiol (y dyddiad cynharaf y gall meddyg neu fydwraig roi MAT B1 yw 20 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth).
ii. Mabwysiadu: Tystiolaeth gan yr asiantaeth fabwysiadu y bydd y plentyn yn cael ei fabwysiadu neu lythyr yn cadarnhau y dymunir rhoi trefniant mabwysiadu ar waith.
iii. Benthyg Croth: Ffurflen MAT B1 y rhiant geni a Gorchymyn Rhiant o fewn 6 mis i enedigaeth y plentyn.
iv. Absenoldeb Rhiant Di-dâl: Tystiolaeth fel uchod, ynghyd â chadarnhad y byddant yn gofalu am y plentyn e.e. datganiad ysgrifenedig gan riant arall y plentyn.
5.4.3
Pe bai ymchwilydd ôl-raddedig yn methu â hysbysu timau Ymchwilwyr Ôl-raddedig y gyfadran neu’n methu â chyflwyno cais iddynt am Absenoldeb Mamolaeth/Absenoldeb Mabwysiadu/Absenoldeb Rhiant Di-dâl o fewn y dyddiadau a bennir yn y polisi hwn, rhaid i Arweinydd Academaidd Ymchwilwyr Ôl-raddedig y gyfadran gymeradwyo’r absenoldeb.
5.4.4
Dylai myfyrwyr beichiog neu fyfyrwyr a ddaw yn rhieni sicrhau bod eu manylion cyswllt diweddaraf a manylion cyswllt eu perthynas agosaf gan y Brifysgol trwy gyfrwng y Fewnrwyd neu trwy gysylltu â MyUniHub i ddiweddaru’r manylion.
5.4.5
Sylwer: bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni ymchwil ar y cyd â sefydliad partner wirio gyda’r partner beth yn union yw’r broses oddi mewn i’r sefydliad partner.
6. Cymorth Iechyd a Chymorth o Fath Arall
6.1 Cymorth Cyffredinol a Chyfrinachedd
6.1.1
Rhaid trin gwybodaeth am feichiogrwydd myfyrwyr mewn modd cyfrinachol. Gyda chaniatâd y myfyriwr, bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu gyda phobl eraill y mae angen iddynt fod yn ymwybodol o’r sefyllfa, neu gyda thimau cymorth.
6.1.2
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar Ddiogelu Data ym mholisi Diogelu Data’r Brifysgol a gellir cael rhagor o gyngor ynglŷn â rhannu gwybodaeth gan y tîm Cydymffurfiaeth Data trwy anfon e-bost i’r cyfeiriad DataProtection@swansea.ac.uk.
6.2 Cymorth a Chyngor Cyffredinol
6.2.1
Gall Timau Ymchwilwyr Ôl-raddedig y gyfadran, ar y cyd â Welfare@CampusLife, gynnig gwybodaeth a chyfeirio ymchwilwyr ôl-raddedig at wasanaethau perthnasol, yn cynnwys archwilio a ydynt yn bwriadu parhau â’u beichiogrwydd neu’n dymuno dirwyn y beichiogrwydd i ben, a hefyd os ydynt wedi colli baban yn y groth.
6.2.2
Caiff ymchwilwyr ôl-raddedig beichiog a’u partneriaid eu hannog i geisio cymorth, pa un a fydd y beichiogrwydd yn parhau ai peidio.
6.2.3
Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n feichiog cyn iddynt ddechrau ar eu cwrs gysylltu â’u darpar oruchwylydd i drafod unrhyw oblygiadau o ran eu rhaglen astudio. Bydd angen ystyried pob achos yn unigol, oherwydd mae gofynion gwahanol raglenni yn amrywio’n fawr.
6.3 Marw-enedigaethau neu Gamesgoriadau:
6.3.1
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall effeithiau camesgor, marw-enedigaeth neu farwolaeth newydd-anedig beri gofid enfawr ac, i rai unigolion, bod camesgor yn gyfystyr â cholli plentyn waeth pa mor gynnar yn y beichiogrwydd y gall ddigwydd. At ddibenion y polisi hwn, ar ôl 25 wythnos lawn o feichiogrwydd ni fyddwn yn gwahaniaethu rhwng marwolaethau byw, marw-enedigaethau a marwolaethau newydd-anedigion (sef pan fydd y baban yn marw o fewn 28 diwrnod ar ôl ei eni).
6.3.2
Os na fydd y beichiogrwydd yn parhau, ni fydd angen rhoi gwybod i staff na myfyrwyr y Brifysgol, oni bai bod yr ymchwilydd ôl-raddedig yn dymuno dweud wrthynt. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd yn bwysig rhoi gwybod i’r Brifysgol am yr unigolyn beichiog, am resymau iechyd a diogelwch, tra bydd y beichiogrwydd yn parhau.
6.3.3
Pe bai marw-enedigaeth yn digwydd o wythnos 25 y beichiogrwydd ymlaen, bydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn gymwys i gael Absenoldeb Mamolaeth (ac ariantal os ydynt yn cael cyllid sy’n ymdrin â thâl Mamolaeth).
6.3.4
Yn achos ymchwilwyr ôl-raddedig a fydd yn camesgor cyn cwblhau 24 wythnos o feichiogrwydd, ni fyddant yn gymwys i gael Absenoldeb Mamolaeth, ond efallai y byddant angen amser oddi wrth eu hastudiaethau er mwyn adfer yn gorfforol ac yn emosiynol. Sylweddolir y gall yr amser hwn amrywio o unigolyn i unigolyn. Dylai cyfadrannau a goruchwylwyr weithio’n sensitif gydag ymchwilwyr ôl-raddedig er mwyn darparu’r amser hwn. Os bydd myfyrwyr yn dymuno cael 4 wythnos neu fwy o amser oddi wrth eu hastudiaethau, dylid ei ystyried fel Caniatâd i Fod yn Absennol neu Absenoldeb Tosturiol.
6.4 Salwch yn ystod beichiogrwydd:
6.4.1
Os bydd ymchwilwyr ôl-raddedig, yn ystod eu beichiogrwydd, yn methu â pharhau â’u gwaith ymchwil oherwydd salwch, dylid dilyn y drefn arferol ar gyfer cofnodi absenoldeb salwch. Fodd bynnag, bydd unrhyw absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd y tu hwnt i wythnos 36 y beichiogrwydd yn arwain yn awtomatig at ddechrau’r Absenoldeb Mamolaeth. Efallai y bydd y gyfadran angen nodyn gan feddyg yr ymchwilydd ôl-raddedig yn cadarnhau bod yr ymchwilydd yn ffit i astudio drachefn.
6.5 Apwyntiadau Gofal Cynenedigol ac Apwyntiadau Mabwysiadu:
6.5.1
Mae gan ymchwilwyr ôl-raddedig beichiog hawl i gael amser rhesymol oddi wrth eu hastudiaethau i fynychu gofal cynenedigol – gall hyn gynnwys dosbarthiadau ymlacio a dosbarthiadau magu plant. Hefyd, mae gan ymchwilwyr ôl-raddedig hawl i gael amser oddi wrth eu hastudiaethau i fynychu apwyntiadau cynenedigol gyda phartneriaid neu rieni geni (mewn achosion benthyg croth).
6.5.2
Os bydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn mabwysiadu plentyn, bydd ganddynt hawl i gymryd amser oddi wrth eu hastudiaethau i fynychu apwyntiadau mabwysiadu ar ôl cael eu paru gyda phlentyn. Rhaid i ymchwilwyr ôl-raddedig roi rhybudd i’w cyfadran ynglŷn â’r apwyntiadau hyn ac efallai y gofynnir iddynt gyflwyno tystiolaeth o’r apwyntiad.
6.6 Gwyliau Blynyddol
6.6.1
Gall ymchwilwyr ôl-raddedig gronni gwyliau blynyddol tra byddant ar Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth. Fodd bynnag, os byddant yn cymryd gwyliau blynyddol cronedig ar ôl iddynt ddychwelyd at eu hastudiaethau, ni fydd eu hymgeisyddiaeth yn cael ei hymestyn.
6.6.2
Os na fydd modd i ymchwilwyr ôl-raddedig gymryd eu holl wyliau blynyddol ar gyfer eu sesiwn academaidd cyn iddynt fynd ar Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, gallant ddwyn cyfran gymesur o’u gwyliau ymlaen i’r sesiwn academaidd nesaf. Cyfrifoldeb Ymchwilwyr Ôl-raddedig yw cadw golwg ar eu gwyliau blynyddol.
6.7 Diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad
6.7.1
Trwy gytundeb â’u cyfadran, caiff ymchwilwyr ôl-raddedig ymgymryd â hyd at 10 o ddiwrnodau ‘Cadw mewn Cysylltiad’ yn ystod eu Habsenoldeb Mamolaeth neu eu Habsenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth.
6.7.2
Gellir cynnal diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad ar unrhyw adeg yn ystod yr Absenoldeb Mamolaeth a’r Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, ac eithrio yn ystod y pythefnos cyntaf.
6.7.3
Mae diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad yn ddewisol. Cânt eu defnyddio fel ffordd o gadw mewn cysylltiad anffurfiol â’r goruchwylydd neu’r tîm ymchwil. Dylid talu am ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad ar gyfradd ddyddiol sylfaenol y myfyriwr (heb ystyried faint o oriau a weithiwyd) minws unrhyw gymorth Mamolaeth/Mabwysiadu priodol y mae ef yn ei dderbyn.
Sylwer: Mae'n bwysig sylwi y gellir dim ond talu am ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad os cânt eu cymryd yn ystod yr 13 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu/Mamolaeth lle mae'r cyflog yn cyd-fynd â SMP/SAP, neu yn ystod 13 wythnos olaf yr absenoldeb di-dâl.Ni chaiff ceisiadau i dalu diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad yn ystod y 26 wythnos gyntaf (h.y. yn ystod derbyn cyflog mamolaeth/mabwysiadu llawn, neu gyfwerth pro rata) eu hystyried.
6.7.4
Cyfrifoldeb ymchwilwyr ôl-raddedig yw cael caniatâd gan eu goruchwylydd i fynychu diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad a chadw golwg ar sawl diwrnod o’r fath a gynhelir. Bydd nifer y diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad yn cael eu cronni ac yn cael eu talu i'r ymchwilydd ôl-raddedig fel un taliad ar ddiwedd yr absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu.
6.8 Iechyd a Diogelwch
6.8.1
Mae gan y Brifysgol ystafelloedd seibiant/llesiant pwrpasol lle ceir offer addas ar gyfer mamau beichiog/mamau sy’n bwydo ar y fron. Gall ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ddefnyddio’r cyfleusterau hyn ac archebu slotiau fel bo’r angen. I gael rhagor o wybodaeth, dylai ymchwilwyr ôl-raddedig gysylltu â thîm gweinyddol Ymchwilwyr Ôl-raddedig eu cyfadran.
6.8.2
Y gyfadran y mae’r ymchwilydd ôl-raddedig beichiog wedi cofrestru gyda hi sy’n gyfrifol am gynnal asesiadau risg yn ymwneud â’r gwaith a’r amgylchedd.
6.8.3
Rhaid cynnal asesiad risg ar yr amgylchedd astudio tra mae’r ymchwilydd ôl-raddedig yn feichiog, o fewn 6 mis ar ôl yr enedigaeth (os yw’r ymchwilydd ôl-raddedig wedi dychwelyd i astudio) a chyhyd ag y bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig yn bwydo ar y fron. Mae gan y Brifysgol a’r ymchwilydd ôl-raddedig rwymedigaeth i sicrhau na chynhelir y gwaith ymchwil na’r gwaith astudio mewn amgylchedd anniogel. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd yr ymchwilydd ôl-raddedig yn gorfforol agos at gyfarpar a chemegau ac ati.
6.8.4
Rhaid i’r goruchwylydd drefnu i gynnal asesiad a llenwi Asesiad Risg Beichiogrwydd gyda’r ymchwilydd ôl-raddedig. Os ystyrir nad yw’r amgylchedd yn peri llawer o risg i’r beichiogrwydd, efallai y bydd y goruchwylydd o’r farn y gall gynnal yr Asesiad Risg Beichiogrwydd heb unrhyw gymorth ychwanegol. Ond gall y goruchwylydd ofyn i’r Cynghorydd Iechyd a Diogelwch am gymorth, yn enwedig os ystyrir y gallai amgylchedd y gwaith ymchwil beri risg uwch i feichiogrwydd. Hefyd, gall hyn fod yn berthnasol os pennir materion iechyd/materion meddygol/materion eraill yn ymwneud â beichiogrwydd yr unigolyn; mewn achosion o’r fath, efallai y gellir atgyfeirio’r achos at y tîm Iechyd Galwedigaethol neu’r Gwasanaethau Myfyrwyr e.e. Anabledd (bydd y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch yn nodi’r ffordd briodol o weithredu). Efallai hefyd y cynigir atgyfeirio’r mater at y tîm Iechyd Galwedigaethol os yw’r myfyriwr yn un o gyflogeion y Brifysgol neu os yw wedi cofrestru ar raglen feddygol a reoleiddir.
6.8.5
Dylai’r myfyriwr a’r goruchwylydd lofnodi’r Asesiad Risg Beichiogrwydd a dylai’r goruchwylydd gadw copi ohono. Dylid adolygu’r Asesiad Risg Beichiogrwydd drachefn yn ystod ail a thrydydd tymor y beichiogrwydd. Dylid cynnal asesiad risg ychwanegol o fewn 6 mis i’r enedigaeth (os yw’r myfyriwr ôl-raddedig wedi dychwelyd i astudio), a chyhyd ag y bydd y myfyriwr ôl-raddedig yn bwydo ar y fron. Hefyd, dylid cynnwys unrhyw ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad tra bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig ar absenoldeb sy’n cyfateb i absenoldeb Mamolaeth. Dylid mynd ati’n ddi-oed i dynnu sylw’r gyfadran briodol at bryderon iechyd a diogelwch.
6.8.6
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd y Brifysgol angen i ymchwilwyr ôl-raddedig ohirio’u hastudiaethau, ond bydd hyn yn cael ei drafod gyda’r unigolyn bob amser. Er enghraifft, efallai y bydd angen gohirio astudiaethau yn y fath fodd os ystyrir y gallai un o elfennau craidd y radd ymchwil beri risg uchel i iechyd a diogelwch yr ymchwilydd ôl-raddedig beichiog a/neu’r ffetws/plentyn sydd yn y groth.
7. Ychwelyd i Astudio
7.1
Ni chaniateir i ymchwilwyr ôl-raddedig ddychwelyd at eu hastudiaethau yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl yr enedigaeth.
7.2
Yn achos Absenoldeb Mabwysiadu, rhaid i’r ymchwilydd ôl-raddedig gymryd pythefnos fan leiaf, a gall y cyfnod hwn ddechrau hyd at 14 diwrnod cyn i’r plentyn gael ei fabwysiadu neu, yn achos cytundeb benthyg croth, yn syth ar ôl yr enedigaeth.
7.3
Os na fydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn dychwelyd at eu rhaglen astudio ar ôl Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, bydd yn ofynnol iddynt ad-dalu unrhyw ariantal a dalwyd gan y Brifysgol ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth.
7.4
Os bydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol o fewn 12 wythnos ar ôl iddynt ddychwelyd at eu hastudiaethau, a hwythau wedi bod ar Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, bydd gan y Brifysgol hawl i adennill unrhyw daliadau a wnaed.
7.5
Gall ymchwilwyr ôl-raddedig drafod gyda’u goruchwylydd unrhyw effeithiau posibl y gallai’r enedigaeth neu’r mabwysiadu eu cael ar y dull astudio yn y dyfodol. Dylai cyfadrannau a chyllidwyr/partneriaid allanol ystyried unrhyw geisiadau i astudio’n rhan-amser, cyhyd ag y bydd y cais ar gyfer 50% FTE fan leiaf.*. Os yw’r myfyriwr yng nghyfnod hwyaf ei ymgeisyddiaeth, ni chaniateir trosglwyddo i drefniant rhan-amser, ond gellir ystyried ymestyn cyfnod hwyaf ei ymgeisyddiaeth pe bai angen.
*Sylwer: oherwydd cyfyngiadau fisa, go brin y byddai myfyrwyr â fisa Llwybr Myfyrwyr yn cael parhau â’u cyrsiau’n rhan-amser.
7.6
Dylai cyfadrannau ystyried ceisiadau i ddychwelyd i astudio ynghynt (ac eithrio o fewn y pythefnos cyntaf) neu’n hwyrach nag y trefnwyd yn wreiddiol.
7.7
Dylid ailgynnal asesiadau risg ar amgylchedd y gwaith ymchwil os bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig yn dychwelyd i astudio o fewn chwe mis i roi genedigaeth, a chyhyd ag y bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig yn bwydo ar y fron. Dylai hyn hefyd gynnwys unrhyw ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad tra bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig ar absenoldeb sy’n cyfateb i absenoldeb Mamolaeth.
7.8
Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig drafod gyda’u goruchwylwyr pa batrymau a threfniadau gweithio sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau personol, gan fynd ati wedyn i gytuno arnynt. Dylai goruchwylwyr goleddu agwedd dosturiol tuag at amgylchiadau pob unigolyn, a chan ystyried gallu’r ymchwilydd ôl-raddedig i gwblhau’r gwaith o fewn y cyfnod cyllido perthnasol, dylent fod yn barod i dderbyn trefniadau hyblyg, e.e. wythnos weithio gywasgedig, oriau hyblyg neu oriau gwasgarog.
7.9 Gofal Plant
Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe feithrinfa yng Nghampws Singleton, lle darperir cyfleusterau gofal dydd i blant myfyrwyr, sef plant rhwng 3 mis ac 8 oed. Gellir gofyn am ragor o wybodaeth a manylion am ffioedd. Fe’ch cynghorir i wneud cais yn gynnar. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.swansea-union.co.uk/support/nursery/
7.10
Hefyd, mae gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe adnodd gwybodaeth yn ymwneud â Gofal Plant yma:- https://www.abertawe.gov.uk/gofalplantynabertawe.
8. Fisâu Myfyrwyr Rhyngwladol
8.1
Caiff ymchwilwyr ôl-raddedig rhyngwladol sy’n feichiog neu sydd bellach yn rhieni eu hannog yn gryf i gysylltu â’u goruchwylydd a Thîm Gweinyddol Ymchwilwyr Ôl-raddedig y gyfadran cyn gynted â phosibl.
8.2
Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig rhyngwladol fynd ati’n ofalus i ddarllen y ddogfen ‘Student Pregnancy and Maternity: A guide for international students and their family members Pregnancy and Maternity: International Students - Swansea University’.
8.3
Yn achos ymchwilwyr ôl-raddedig a chanddynt fisa Llwybr Myfyrwyr i astudio yn y DU, ar hyn o bryd ni chaniateir iddynt ymestyn eu fisâu yn y DU am resymau’n ymwneud â beichiogrwydd neu famolaeth. Ar ôl genedigaeth y plentyn, os yw’r myfyriwr ôl-raddedig yn dymuno cymryd seibiant byr y tu hwnt i’r pythefnos gorfodol, rhaid gwneud hynny gyda chaniatâd y gyfadran a chyda chytundeb unrhyw gorff cyllido neu ofynion fisa. Fodd bynnag, o dan reoliadau UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU), ni ddylai’r absenoldeb hwn fod yn fwy na 60 diwrnod, a rhaid i’r myfyrwyr allu parhau i gwblhau eu hastudiaethau o fewn cyfnod eu fisa bresennol.
8.4
Os bydd yr absenoldeb dros dro y gofynnir amdano yn hwy na 60 diwrnod, bydd angen i ymchwilwyr ôl-raddedig a chanddynt fisa Llwybr Myfyrwyr ohirio’u hastudiaethau a dychwelyd i’w gwlad gartref hyd nes y byddant yn barod i ailafael yn eu hastudiaethau. Golyga hyn y bydd yn ofynnol i’r Brifysgol roi gwybod i UKVI bod y myfyriwr wedi gohirio’i astudiaethau, a bydd UKVI yn cwtogi (canslo) fisa bresennol y myfyriwr. Felly, bydd angen i’r ymchwilydd ôl-raddedig wneud cais am fisa Llwybr Myfyrwyr yn ei wlad gartref cyn y gall ailafael yn ei astudiaethau.
8.5
Rhaid sicrhau bod ceisiadau i ohirio astudiaethau oherwydd absenoldeb rhiant yn cael eu cyflwyno mewn da bryd er mwyn rhoi digon o amser i gymeradwyo’r cais ac er mwyn gwneud yn siŵr y gall y myfyriwr deithio i’w wlad gartref ar ôl rhoi gwybod i UKVI am ohirio’r astudiaethau.
8.6
Ym mhob achos, dylid ceisio cyngor gan y Tîm Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar tier4attendance@swansea.ac.uk cyn gynted ag y bo modd (yn arbennig yn achos beichiogrwydd) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â fisâu myfyrwyr (a elwid yn Haen 4 o’r blaen).
Polisïau Perthnasol
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil
9. Absenoldeb Tadolaeth/Partner Arferol
9.1 Cyflwyniad – Absenoldeb Tadolaeth/Partner
Gall pob ymchwilydd ôl-raddedig cymwys wneud cais am Absenoldeb Tadolaeth/Rhiant waeth beth fo’i sefyllfa o ran oedran, anabledd, hil, ethnigrwydd, crefydd neu gred, rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, neu unrhyw nodweddion cydraddoldeb eraill. Cynhwysir ymchwilwyr ôl-raddedig trawsryweddol ac anneuaidd. Pan ddefnyddir y gair ‘partner’, cynhwysir partneriaid o’r un rhyw, gwŷr/gwragedd priod o’r un rhyw, cyplau o’r un rhywedd a chyplau anheterorywiol.
9.2 Absenoldeb Tadolaeth/Partner Arferol
9.2.1
Mae’r holl ymchwilwyr ôl-raddedig sydd wedi cofrestru gyda Phrifysgol Abertawe yn gymwys i gael hyd at bythefnos o Absenoldeb Tadolaeth/Partner:
i. os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y sawl a fydd yn rhoi genedigaeth, neu
ii. os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y prif fabwysiadwr, neu
iii. os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y prif fabwysiadwr sy’n maethu plentyn o dan y cynllun “Maethu ar gyfer Mabwysiadu”, neu
iv. os mai nhw yw priod, partner neu bartner sifil y prif riant arfaethedig trwy gyfrwng trefniant benthyg croth; a hefyd
v. os bydd yn rhaid iddynt, neu os disgwylir iddynt, rannu’r cyfrifoldeb dros fagu’r plentyn.
9.2.2
Yn achos cyplau sy’n mabwysiadu plentyn neu sy’n cael plentyn trwy gyfrwng trefniant benthyg croth, dim ond un aelod o’r cwpl a fydd yn cael tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth. Gall yr unigolyn arall gymryd Absenoldeb Tadolaeth/Partner.
9.2.3
Nid oes yna unrhyw gyfnod cymhwyso gofynnol ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth/Partner.
9.2.4
Rhaid cymryd yr absenoldeb mewn un bloc. Mae ‘wythnos’ yn cyfateb i nifer y diwrnodau mae’r myfyriwr yn astudio’n arferol mewn wythnos; er enghraifft, byddai wythnos yn cyfateb i ddau ddiwrnod os mai ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn unig mae’r myfyriwr yn astudio.
9.2.5
Ni ellir dechrau’r Absenoldeb Tadolaeth/Partner cyn dyddiad yr enedigaeth a rhaid ei gymryd o fewn 56 diwrnod (8 wythnos) o’r enedigaeth neu’r lleoliad. Pe bai marwenedigaeth yn digwydd o wythnos 25 y beichiogrwydd ymlaen, byddai partneriaid yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn y ffordd arferol.
9.2.6
Ni chyfyngir ar faint o weithiau y gall ymchwilwyr ôl-raddedig gymryd Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn ystod eu gradd, yn unol â dyfodiad disgwyliedig pob plentyn. Fodd bynnag, dim ond un cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth/Partner y caiff partneriaid ei gymryd ar y tro, hyd yn oed os caiff mwy nag un plentyn ei eni o ganlyniad i’r un beichiogrwydd neu os caiff mwy nag un plentyn ei fabwysiadu ar yr un pryd.
9.3 Taliadau Ariantal yn ystod Absenoldeb Tadolaeth/Partner Arferol
9.3.1
Os yw’r ymchwilydd ôl-raddedig yn cael cyllid, efallai y bydd ganddo hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth/Partner â thâl os bydd genedigaeth/lleoliad y plentyn yn digwydd oddi mewn i gyfnod y dyfarniad.
9.3.2
Os bydd cyfnod yr Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn digwydd ar ôl i ddyfarniad y myfyriwr ddod i ben, bydd yr Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn ddi-dâl. Bydd yr ymgeisyddiaeth hwyaf yn cael ei hymestyn i adlewyrchu cyfnod yr absenoldeb oni bai bod y myfyriwr wedi cofrestru ar radd ar y cyd/gradd ddwbl/gradd gydweithredol â sefydliad partner lle ceir rheoliadau sy’n atal yr ymgeisyddiaeth rhag cael ei hymestyn yn awtomatig. Mewn achosion o’r fath, dylai’r myfyriwr ddilyn rheolau’r sefydliad partner ar gyfer ymestyn yr ymgeisyddiaeth.
9.3.3
Dylai staff sydd hefyd yn ymchwilwyr ôl-raddedig ddarllen Adran 2.5 a chysylltu â’r adran AD i gael rhagor o gyngor.
9.3.4
Amodau cyllid yr ymchwilydd ôl-raddedig a fydd yn pennu’r hawl i Absenoldeb Tadolaeth/Partner â thâl a’r hawl i ymestyn y cyfnod cyllido. Os bydd wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth/lleoliad yn digwydd yn ystod cyfnod y dyfarniad – gweler Tabl 2 isod.
Tabl 2: Mae’r tabl canlynol yn nodi hawliau Ymchwilwyr Ôl-raddedig i daliadau ariantal yn ystod Absenoldeb Tadolaeth/Partner
Ffynhonnell y cyllid | Yr hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth/Partner a thaliadau ariantal (os yn berthnasol) |
---|---|
UKRI | Ariantal llawn am hyd at bythefnos. Dylid ymestyn dyddiad gorffen y cyllid i gwmpasu cyfnod yr absenoldeb. |
Y Brifysgol | Ariantal llawn am hyd at bythefnos. Dylid ymestyn dyddiad gorffen y cyllid i gwmpasu cyfnod yr absenoldeb. |
Yr Ysgol neu’r Gyfadran | Ariantal llawn am hyd at bythefnos. Dylid ymestyn dyddiad gorffen y cyllid i gwmpasu cyfnod yr absenoldeb. |
Yr uchod ar sail ran-amser | Taliad pro rata am hyd at bythefnos, yn unol â chanran y cyllid a dderbynnir. |
Cyllid allanol | Ariantal llawn am hyd at bythefnos (pro rata ar gyfer trefniadau rhan-amser). Gwneir y taliadau yn ôl disgresiwn y cyllidwr oni chânt eu nodi yn y contract. Os na fydd y cyllidwr allanol yn darparu cyllid ar gyfer cyfnod yr absenoldeb, nac yn darparu’r lefelau a nodir yn y polisi hwn (sy’n seiliedig ar lefelau UKRI), bydd cyfadran y myfyriwr yn ariannu cyfnod yr Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn gyfan gwbl neu’n rhannol, fel bo’r angen. |
Yn rhannol gan y Brifysgol neu’r Gyfadran / yn rhannol yn allanol |
Taliad pro rata am hyd at bythefnos, a fydd wedi’i addasu yn unol â chanran y cyllid a dderbynnir. Bydd taliadau gan gyllidwyr allanol yn cael eu talu yn ôl disgresiwn oni chânt eu nodi yn y contract. Yn achos unrhyw elfen a ariennir yn allanol (os yn berthnasol), os na fydd y cyllidwr allanol yn darparu cyllid ar gyfer cyfnod yr absenoldeb, nac yn darparu’r lefelau a nodir yn y polisi hwn (sy’n seiliedig ar lefelau UKRI), bydd cyfadran y myfyriwr yn ariannu cyfnod yr Absenoldeb Tadolaeth/Partner yn gyfan gwbl neu’n rhannol, fel bo’r angen. Ni fydd y Brifysgol yn talu taliadau Tadolaeth/Partner ar gyfer unrhyw elfen a ariennir gan yr unigolyn, a allai hefyd fod yn rhan o ffynhonnell y cyllid. |
Yn rhannol gan y Brifysgol neu’r Gyfadran / yn rhannol gan yr unigolyn |
Taliad pro rata am hyd at bythefnos, a fydd wedi’i addasu yn unol â chanran y cyllid a roddir gan y Brifysgol/cyfadran. Ni fydd y Brifysgol/cyfadran yn talu taliadau Tadolaeth/Partner ar gyfer unrhyw elfen a ariennir gan yr unigolyn. |
Self-funded | Absenoldeb am hyd at bythefnos, ond ni fydd y Brifysgol yn talu taliadau Absenoldeb Tadolaeth/Partner. |
9.4 Sut i Wneud Cais am Absenoldeb Tadolaeth/Partner
9.4.1
Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n dymuno cymryd Absenoldeb Tadolaeth/Partner roi gwybod i’w goruchwylydd pa ddyddiad y disgwylir i’r absenoldeb ddechrau. Gan na ellir cymryd mwy na phythefnos o absenoldeb o’r fath, ni fydd angen iddynt ohirio’u hastudiaethau, ond rhaid iddynt gyflwyno’u cais am Absenoldeb Tadolaeth/Partner i’w Goruchwylydd (trwy ddefnyddio’r ffurflen yn Atodiad 1).
9.4.2
Hefyd, rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno’r dystiolaeth ganlynol i ategu eu cais:
Yn achos genedigaethau: Copi o’r ffurflen MAT B1 neu, os yw’r baban wedi’i eni – tystysgrif geni’r plentyn.
Yn achos mabwysiadu: tystiolaeth ddogfennol sy’n dangos dyddiad disgwyliedig/gwirioneddol y lleoliad.
Yn achos trefniant Benthyg Croth: Ffurflen MAT B1 y rhiant geni a Gorchymyn Rhiant o fewn 6 mis i enedigaeth y plentyn.
9.4.3
Sylwer: bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni ymchwil ar y cyd â sefydliad partner wirio gyda’r Partner beth yn union yw’r broses oddi mewn i’r sefydliad partner.
10. Absenoldeb ar gyfer Apwyntiadau Cynenedigol/Cyfarfodydd Mabwysiadu
10.1
Mae gan ymchwilwyr ôl-raddedig hawl i gymryd amser i ffwrdd â thâl i fynd gyda’u partner (neu’r rhiant benthyg croth) i ddau apwyntiad cynenedigol. Os bydd yr unigolion o dan sylw yn mabwysiadu plentyn, mae ganddynt hawl i gymryd amser i ffwrdd â thâl i fynychu dau apwyntiad mabwysiadu ar ôl iddynt gael eu paru â phlentyn. Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig roi cymaint o rybudd â phosibl i’w goruchwylydd ynglŷn â’r apwyntiadau hyn, ac efallai y gofynnir iddynt gyflwyno tystiolaeth o’r apwyntiad.
11. Absenoldeb Rhiant Di-Dâl
11.1
Hefyd, mae gan rieni hawl i gael Absenoldeb Rhiant Di-dâl estynedig, hyd at 50 wythnos. Rhaid cwblhau unrhyw Absenoldeb Rhiant Di-dâl o fewn 12 mis o enedigaeth y plentyn. Gellir cymryd yr absenoldeb hwn i gyd ar unwaith neu mewn blociau llai o dri mis (neu fwy).
DS: Os bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig yn dymuno ailafael yn ei astudiaethau rhwng blociau o Absenoldeb Rhiant Di-dâl, mae’n bosibl na fydd modd i’r unigolyn gymryd y dyraniad 50 wythnos yn llawn pe bai’r cyfnod yn ymestyn y tu hwnt i’r 12 mis a ganiateir.
11.2
Yr ymchwilydd ôl-raddedig a ddylai benderfynu faint o Absenoldeb Rhiant Di-dâl y dymuna ei gymryd. Gall ddewis aros ar Absenoldeb o’r fath am y 12 mis yn llawn, neu gall ddewis gorffen y cyfnod ynghynt. Dyma’r opsiynau sydd ar gael:
- O ddyddiad yr enedigaeth, gall ymchwilwyr ôl-raddedig gymryd pythefnos o Absenoldeb Tadolaeth/Rhiant â thâl.
- O ddyddiad yr enedigaeth, gall ymchwilwyr ôl-raddedig ohirio’u hastudiaethau am 3, 6 neu 9 mis (efallai y bydd y pythefnos cyntaf yn cynnwys Absenoldeb Tadolaeth/Partner os ydynt yn gymwys i’w gael, a bydd gweddill yr absenoldeb yn ddi-dâl). Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, gallant ymestyn y cyfnod hyd at 12 mis.
- O ddyddiad yr enedigaeth, gall ymchwilwyr ôl-raddedig ohirio’u hastudiaethau er mwyn cymryd blwyddyn o absenoldeb rhiant (efallai y bydd y pythefnos cyntaf yn cynnwys absenoldeb â thâl os ydynt yn gymwys i’w gael, a bydd gweddill yr absenoldeb yn ddi-dâl).
- O ddyddiad yr enedigaeth, gall ymchwilwyr ôl-raddedig ohirio’u hastudiaethau er mwyn cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl ar ffurf blociau 3 mis olynol/ysbeidiol.
11.3 Dyma enghreifftiau:
- Mae myfyriwr yn gohirio’i astudiaethau er mwyn cymryd 3 mis o Absenoldeb Rhiant Di-dâl o ddyddiad yr enedigaeth (efallai y bydd y pythefnos cyntaf yn cynnwys absenoldeb â thâl), mae’n dychwelyd at ei astudiaethau am 6 mis, ac yna mae’n gohirio’i astudiaethau er mwyn cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl ar gyfer 3 mis olaf y cyfnod 12 mis.
- Mae myfyriwr yn gohirio’i astudiaethau er mwyn cymryd 6 mis o Absenoldeb Rhiant Di-dâl ar ôl dyddiad yr enedigaeth (efallai y bydd y pythefnos cyntaf yn cynnwys absenoldeb â thâl), mae’n dychwelyd am 4 mis ac yna mae’n gohirio’i astudiaethau er mwyn cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl am 2 fis arall o fewn y cyfnod 12 mis.
11.4
Sylwer: bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni ymchwil ar y cyd â sefydliad partner wirio gyda’r Partner a yw’r rhaglen yn caniatáu iddynt gymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl a beth yn union yw’r broses oddi mewn i’r sefydliad partner.
11.5
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt o’r DU/myfyrwyr o Iwerddon, mae hi’n hanfodol iddynt wirio amodau ymgysylltu a mynychu eu fisa a’u cwrs os ydynt yn bwriadu cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl, yn enwedig os dymunant gymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl ar ffurf blociau ysbeidiol yn gymysg â chyfnodau astudio.
11.6
Os oes gan fyfyrwyr rhyngwladol ymholiadau, dylent gysylltu â staff Gwasanaeth Proffesiynol Ymchwilwyr Ôl-raddedig eu cyfadran a’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar tier4attendance@swansea.ac.uk cyn gwneud cais am Absenoldeb Rhiant Di-dâl, rhag ofn y bydd yn effeithio ar eu fisa.
11.7
Er mwyn bod yn gymwys i ohirio astudiaethau fel y gellir cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl:
- Rhaid i chi rannu cyfrifoldeb dros y plentyn gyda phartner y sawl sydd wedi rhoi genedigaeth, rhaid i chi fod yn gyd-riant neu’n bartner trwy gyfrwng trefniant benthyg croth, neu rhaid i chi fod yn gyd-fabwysiadwr neu’n bartner a barwyd â phlentyn, a hefyd;
- Rhaid i chi gymryd yr absenoldeb er mwyn gofalu am y plentyn, a hefyd;
- Ni ddylai amodau a thelerau’r ymgeisyddiaeth (na’r fisa, os yn berthnasol) wahardd myfyrwyr yn benodol rhag cymryd absenoldeb o’r fath.
11.8 Sut i Wneud Cais am Absenoldeb Rhiant Di-dâl
11.8.1
Bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyfadran cyn gynted â phosibl eich bod yn bwriadu cymryd Absenoldeb Rhiant Di-dâl a rhaid i chi ddilyn y broses ar gyfer gwneud cais i ohirio astudiaethau fel y nodir yn Adran 5.0 Sut i Wneud Cais am Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth ac Absenoldeb Rhiant Di-dâl.
11.8.2
Bydd dyddiadau gorffen Ysgoloriaethau/Ysgoloriaethau Ymchwil a dyddiadau cyflwyno disgwyliedig yn cael eu haddasu yng nghofnod yr Ymchwilydd Ôl-raddedig er mwyn adlewyrchu’r Absenoldeb Rhiant Di-dâl.
12. Absenoldeb Rhiant a Rennir
Yn unol â pholisi UKRI, ni fydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer cynlluniau Absenoldeb Rhiant a Rennir a Thâl Rhiant a Rennir Statudol y llywodraeth, oherwydd anelir y cynlluniau hyn at gyflogeion o dan gyfraith cyflogaeth statudol. Dylai ymchwilwyr ôl-raddedig sydd hefyd yn gyflogeion neu’n weithwyr ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad allanol ddarllen Adran 2.5.