Bydd y Brifysgol yn adolygu data cyfranogi drwy gydol y flwyddyn academaidd a gall newid y gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn er budd lles y myfyrwyr. Bydd y Brifysgol hefyd yn monitro'n agos yr arweiniad diweddaraf gan Fisâu a Mewnfudo y DU ac efallai bydd angen addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd os bydd y rheoliadau'n newid. Argymhellwn dy fod yn gwirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost.
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir
1. Cyflwyniad
Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod presenoldeb ac ymrwymiad i ddysgu ac addysgu yn elfennau allweddol wrth sicrhau cyfraddau llwyddiannus o gadw myfyrwyr, a chynnydd, cyflawniad a chyflogadwyedd myfyrwyr. Mae'r ymagwedd hon hefyd yn ein helpu i adnabod myfyrwyr a allai fod yn wynebu anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. Mae hefyd gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i'r mwyafrif o fyfyrwyr i fonitro cyfranogiad mewn addysgu ac i weithredu pan fydd diffyg cyfranogiad. Mae'r ddyletswydd gyfreithiol hon yn deillio o'r gofyniad i hysbysu cwmnïau Benthyciadau Myfyrwyr y DU a noddwyr allanol ynghylch Ymgysylltu, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) o ran monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU ar Fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt). Bydd y Brifysgol yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data i gynrychioli cyfranogiad mewn astudiaethau at y dibenion hyn ac i sicrhau lles myfyrwyr.
Mae rhai rhaglenni yn cynnwys gofyniad i fonitro presenoldeb a bennir gan gorff proffesiynol; lle bo hyn yn fwy llym na'r un a bennir gan y Brifysgol, gofyniad y corff proffesiynol gaiff flaenoriaeth.
2. Egwyddorion Allweddol
2.1
Bydd y polisi monitro cyfranogiad hwn yn berthnasol i'r holl fyfyrwyr a addysgir sydd wedi cofrestru ar raglen yn y Brifysgol boed yn Abertawe.
2.2
Disgwylir y bydd pob myfyriwr Abertawe i ymgysylltu â sesiynau dysgu wyneb yn wyneb o ddechrau'r flwyddyn academaidd. Efallai y bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu ar gyfer ymgysylltu wyneb yn wyneb ystyried gohirio eu hastudiaethau.
2.3
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr gymryd rhan yn yr holl sesiynau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl neu raglen ymchwil maent wedi dewis eu dilyn, boed yn sesiynau wyneb yn wyneb neu rithwir. Mae sesiwn ddysgu gynlluniedig yn cynnwys darlithoedd, seminarau, grwpiau astudio,dosbarthiadau ymarferol, dosbarthiadau enghreifftiol, tiwtorialau, arholiadau, cyfarfodydd goruchwylio, lleoliadau diwydiannol, teithiau maes neu weithgareddau eraill y mae disgwyl i fyfyrwyr eu cwblhau, ond nid yw'r rhestr hon yn gyflawn.
2.4
Cyfadran/Ysgol gartref y myfyriwr fydd yn monitro cyfranogiad myfyriwr, a hynny ar sail dreigl bob pythefnos o'r wythnos addysgu gyntaf ar gyfer pob carfan.
2.5
I fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), caiff cyfranogiad ei fonitro ar sail bob pythefnos yn olynol gan y Tîm Monitro Presenoldeb yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr fel a amlinellwyd yn y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt).
2.6
Mae monitro presenoldeb yn gefnogol a'i fwriad yw ceisio sicrhau bod lles myfyriwr yn flaenoriaeth. Golyga hyn y gallai Cyfadrannau/Ysgolion gysylltu â myfyrwyr am eu lefelau o gyfranogiad a chynnig help a/neu anogaeth iddynt i ymrwymo'n well hyd yn oed os byddant wedi bodloni trothwy ffurfiol y Brifysgol.
2.7
Bydd y Brifysgol yn defnyddio ystod eang o ffynonellau data i fonitro cyfranogiad myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Seilir hyn yn bennaf ar bresenoldeb myfyrwyr yn y sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a drefnwyd a'u defnydd o ddeunyddiau cwrs yn Canvas. Mae'n bosib yr ystyrir data ychwanegol wrth ystyried Adolygiadau Gweinyddol ar gyfer diffyg cyfranogiad megis cyflwyno asesiadau a gwaith cwrs, data a gedwir gan y llyfrgell a chyfranogiad mewn cyfarfodydd tiwtor personol. Gweler pwynt 11 am ragor o wybodaeth am y broses Adolygiad Gweinyddol.
2.8
I fyfyrwyr sy'n mynychu sesiynau wyneb yn wyneb, caiff presenoldeb ei fonitro gyda cherdyn sweipio. Bydd angen i fyfyrwyr dapio eu cerdyn ar y darllenwyr sydd wedi'u lleoli yn eu hystafell addysgu wrth gyrraedd, a chaiff y cerdyn ei gydnabod (bydd y darllenydd yn dangos enw'r myfyriwr).
2.9
Mae'n ofynnol i fyfyriwr sganio gan ddefnyddio ei gerdyn ei hun yn unig mewn sesiynau wyneb yn wyneb. Diben y broses monitro presenoldeb yw cefnogi myfyrwyr, nid eu cosbi, ond mae'r Brifysgol yn cydnabod y posibilrwydd bod myfyrwyr yn camddefnyddio'r system, os yw myfyrwyr yn sganio yn y sesiynau dysgu a amserlennir dros eraill, neu'n sganio ac wedyn yn peidio â mynd i'r sesiynau dysgu a amserlennir. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn ymchwilio i unrhyw amheuaeth o gam-drin y system a gall myfyrwyr yr amheuir eu bod yn camddefnyddio'r system fod yn ddarostyngedig i Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol. Gallai hyn arwain at ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Pan fo myfyriwr wedi cofrestru ar gwrs sy'n arwain yn uniongyrchol (neu'n rhannol) at gymhwyster proffesiynol neu'r hawl i ymarfer proffesiwn penodol neu alwad benodol, gellir ei gyfeirio hefyd o dan y gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer. Bydd y tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cynnal gwiriadau yn ystod sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn atgoffa myfyrwyr i sweipio eu cerdyn wrth fynd i mewn i fannau addysgu. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod y darllenwyr cardiau mewn lleoliadau ar draws y campws yn gweithio'n dda.
2.10
Byddwn dim ond yn ystyried cyfranogiad pan fydd modd i'w fonitro. Er enghraifft, os nad oes darllenydd cerdyn yn yr ystafell neu os nad yw'n gweithio, ni fydd hyn yn effeithio ar gofnod cyffredinol y myfyriwr. Yn yr un modd, os caiff sesiwn ddysgu a amserlennwyd ei chanslo drwy ei thynnu o'r amserlen, ni fydd y data cyfranogiad hwn yn cyfrif ar gofnod cyfranogiad y myfyriwr.
2.11
Mae myfyrwyr yn gyfrifol am gofio dod â'u cerdyn i sesiynau ddysgu wyneb yn wyneb ac am gael cerdyn newydd os ydynt yn colli eu cerdyn neu os bydd yn torri cyn gynted â phosib.
2.12
Anfonir pob hysbysiad sy'n ofynnol yn unol â'r gofynion hyn at gyfrif e-bost y Brifysgol y myfyriwr yn y lle cyntaf, ac mewn rhai amgylchiadau, i gyfeiriad cartref a chyfeiriad tymor y myfyriwr, oni fydd y myfyriwr wedi rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Addysg a'r Gyfadran/Ysgol yn mewn ysgrifen y dylid defnyddio cyfeiriad arall.
2.13
Bydd Cyfadran/Ysgol gartref y myfyriwr yn monitro presenoldeb myfyrwyr, gan ddechrau o wythnos addysgu gyntaf unrhyw dderbyniad.
2.14
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sydd wedi cael cyfnodau sylweddol, yn unol â phwynt 10, o ddiffyg cyfranogiad yn eu hastudiaethau i sicrhau eu lles a chynnig cymorth. Pan na fydd y lefel o gyfranogiad yn gwella heb esboniad dros gyfnod o 6 wythnos, efallai y bydd y Brifysgol, mewn amgylchiadau eithriadol, yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl. Fel arfer, ni fydd ymgeisydd â phenderfyniad 'Rhaid Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol' yn cael ei aildderbyn i'r un rhaglen astudio, neu raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
2.15
Os bydd yn rhaid i ymgeiswyr dynnu'n ôl o ganlyniad i'r broses hon, byddant yn gyfrifol am dalu costau'r ffioedd dysgu ar gyfer y cyfnod hyd at y dyddiad diwethaf pan wnaethant ymgysylltu â'u hastudiaethau, mynd i sesiwn addysgu neu gyrchu darpariaeth ar-lein (yn ystod cyfnodau addysgu, o ddydd Llun tan ddydd Gwener). Gall cyrsiau proffesiynol penodol, er enghraifft yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, gyfeirio at ddyddiadau lleoliad gwaith wrth gyfrif y dyddiad cyfranogi diwethaf.
2.16
Os bydd yn rhaid i fyfyrwyr newydd dynnu'n ôl ond nid ydynt wedi cyfranogi yn eu hastudiaethau o gwbl, bydd eu dyddiad presenoldeb/cyfranogiad diwethaf yn cael ei gofnodi fel dyddiad cyntaf y tymor.
2.17
Os bydd myfyrwyr yn ailgofrestru ond nid ydynt yn cyfranogi o gwbl, bydd eu dyddiad presenoldeb/cyfranogiad diwethaf yn cael ei gofnodi fel diwrnod olaf tymor y sesiwn addysgu flaenorol. Os bydd myfyrwyr yn dychwelyd ar ôl gohiriad, bydd eu dyddiad cyfranogi diwethaf yn cael ei gofnodi fel dechrau eu cyfnod gohirio blaenorol.
2.18
Mae gan rai cyrsiau ofynion presenoldeb penodol uwch oherwydd gofynion proffesiynol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion hysbysu myfyrwyr, fel rhan o'r wybodaeth am y cwrs, os oes unrhyw ofynion presenoldeb penodol ychwanegol.
2.19
Bydd hefyd ofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud elfen astudio dramor neu leoliad diwydiannol sy'n rhan hanfodol ac asesedig o'u rhaglen gydymffurfio â'r polisi monitro cyfranogiad. Caiff myfyrwyr o'r fath eu monitro o leiaf bob mis (gweler adran 6).
2.20
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni a gyflwynir drwy gyfnodau dwys byr o astudio yn cael eu monitro yn ystod y cyfnodau astudio dwys (gweler adran 7).
3. Myfyrwyr â Fisa Haen 4/Llwybr Myfyriwr
3.1
Er bod egwyddorion allweddol y polisi hwn yn berthnasol i'r holl fyfyrwyr a addysgir, mae'n ofynnol i'r Brifysgol fonitro cyfranogiad yr holl fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), yn unol â rheoliadau Fisâu a Mewnfudo y DU, yn ogystal â'r Rheoliadau Mewnfudo sy'n rheoli mewnfudo i'r Deyrnas Unedig. Felly bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cynnal gwiriadau cyfranogiad myfyrwyr ar sail wythnosol ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) ar raglenni a addysgir yn seiliedig ar ddata sweipio cardiau o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Fisâu a Mewnfudo y DU. Gweler y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) a Noddir am fanylion penodol y broses monitro cyfranogiad sy'n berthnasol i ddeiliaid fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), a roddir ar waith yn ganolog gan y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
4. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda'r Adran Addysg Barhaus Oedolion
Bydd y broses monitro cyfranogiad yn berthnasol hefyd i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Barhaus i Oedolion er mwyn sicrhau lles myfyrwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau monitro cyfranogiad i'r myfyrwyr hyn yn atodiad y polisi hwn isod.
5. Canllawiau Polisi i Fyfyrwyr
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am:
5.1
Sicrhau eu bod yn deall ac yn cydymffurfio â Pholisïau Monitro Presenoldeb y Brifysgol.
5.2
Cyfranogi ym mhob sesiwn addysgu a drefnwyd sy'n gysylltiedig â'u rhaglen astudio, gan gynnwys mynychu sesiynau dysgu wyneb yn wyneb, gwylio recordiadau pan fydd sesiynau dysgu wedi cael eu recordio ymlaen llaw, mynd i sesiwn ffrydio byw a chyrchu'r deunyddiau dysgu ar-lein y mae eu Cyfadran/Ysgol wedi eu darparu ar eu cyfer.
5.3
Gall hysbysu eu Cyfadran/Ysgol pan fydd problemau technegol sy'n atal myfyrwyr rhag ymgymryd â'u hastudiaethau ar-lein wneud hi'n bosib cynnig cymorth.
5.4
Dylid sicrhau bod eu cardiau gyda nhw ar bob adeg mewn sesiynau wyneb yn wyneb a chael cerdyn newydd yn lle rhai sydd wedi eu colli neu eu difrodi cyn gynted â phosib.
5.5
Cynnal cysylltiad â'u tiwtor personol a mynychu unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu rithwir.
5.6
Bydd angen hysbysu eu Cyfadran/Ysgol am unrhyw fwriad i fod yn absennol dros dro am gyfnod hwy na phum niwrnod. Caiff hyn ei ystyried fel "cais am absenoldeb dros dro o astudio”. Mae "cais am absenoldeb dros dro o raglen astudio" yn absenoldeb byr dros dro sydd wedi'i gymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol. Rydym yn deall y bydd rheswm da gan fyfyrwyr dros golli sesiynau dysgu ar adegau, ond os bydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn dal i fyny gyda'u gwaith. Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol, fel arfer, yn eu derbyn:
• Amgylchiadau eithriadol megis salwch neu anaf difrifol.
• Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas neu ffrind agos.
• Amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol - megis ysgariad, byrgleriaeth, tân, achos llys sylweddol, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr - sy'n gofyn bod y myfyriwr yn gadael y Brifysgol ar fyr rybudd.
• Gwasanaethu ar reithgor.
• Ymrwymiadau chwaraeon a/neu gelfyddydol, fel arfer pan fydd y myfyriwr yn cymryd rhan.
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r Gyfadran/Ysgol i ddechrau a rhaid darparu tystiolaeth ategol fel arfer. Os yw myfyriwr yn profi anawsterau personol, teuluol, ariannol neu feddygol sy'n effeithio ar ei allu i ymrwymo i'w astudiaethau, y disgwyliad arferol yw y cynghorir y myfyriwr i ohirio ei astudiaethau.
Oherwydd y risg i lwyddiant academaidd, bydd ceisiadau am absenoldeb fel arfer yn cael eu hystyried am gyfnod o hyd at bythefnos yn unig ac ni ddylai'r cyfnod o absenoldeb olygu bod myfyriwr eisiau mwy o amser i gwblhau ei raglen. Ni ddylai’r cyfnod o absenoldeb olygu y bydd angen mwy o amser ar y myfyriwr i gwblhau ei rhaglen. Bydd angen i fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sy’n gofyn am gyfnodau hirach o absenoldeb ohirio eu hastudiaethau. Dylai myfyrwyr y mae angen iddynt ohirio eu hastudiaethau a/neu gael estyniad i’w hymgeisyddiaeth ymgynghori â rheoliadau Gohirio Astudiaethau’r Brifysgol. Gan fod disgwyl i fyfyrwyr aros yn Abertawe i gwblhau gofynion academaidd eu rhaglen astudio, yn unol ag amodau eu fisâu Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), ystyrir ceisiadau o'r fath fesul achos. Ni ddisgwylir i fwy nag un cyfnod o absenoldeb o'r fath gael ei ganiatáu fesul rhaglen astudio. Caiff ceisiadau mynych am gyfnodau estynedig o absenoldeb eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr ystyried gohirio eu hastudiaethau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Pan ganiateir cyfnod seibiant o astudiaethau dros dro i fyfyriwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), dylid hysbysu Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn syth er mwyn i hyn gael ei gofnodi ar ffeil y myfyriwr.
5.7
Cyrchu eu cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd i fonitro a darllen pob e-bost a anfonir gan y Brifysgol.
5.8
Ymateb i unrhyw gyfathrebiadau gan y Gyfadran/Ysgol, y Gwasanaethau Addysg neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr y Brifysgol ynghylch absenoldeb;
5.9
Mynychu unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu rithwir a drefnir o ganlyniad i ddiffyg cyfranogiad mewn astudiaethau.
6. Canllawiau Polisi i Gyfadrannau/Ysgolion
6.1
Mae staff Academaidd a Gweinyddol y Gyfadran/Ysgol yn gyfrifol am:
6.1.1
Dylid atgoffa myfyrwyr o bwysigrwydd ymgymryd â'r holl sesiynau dysg a amserlennwyd a deunyddiau dysgu ar-lein;
6.1.2
Sicrhau bod yr wybodaeth, yr arweiniad a'r gweithdrefnau parthed y Polisïau Monitro Presenoldeb Myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr y Gyfadran/Ysgol;
6.1.3
Cynnig unrhyw wybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r Polisi Monitro Presenoldeb Myfyrwyr i fyfyrwyr a chyfnodau o astudio i ffwrdd o Abertawe;
6.1.4
Dylid sicrhau bod yr wybodaeth amserlenni mor gywir â phosib;
6.1.5
Gan sicrhau bod unrhyw newidiadau arbennig i’r amserlen wedi’u cofnodi ar system amserlennu’r Brifysgol, er enghraifft, newid ystafell ar y funud olaf, neu aildrefnu sesiwn ddysgu;
6.1.6
Adolygu cyfranogiad myfyrwyr gan ddefnyddio'r data a ddarparwyd gan y dulliau cyfranogiad gwahanol i sicrhau lles myfyrwyr a chynnig cymorth fel y bo'n briodol. Seilir hyn yn bennaf ar ddefnydd o ddeunyddiau cwrs yn Canvas a phresenoldeb mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a drefnwyd. Mae'n bosib yr ystyrir data ychwanegol wrth ystyried Adolygiadau Gweinyddol ar gyfer diffyg cyfranogiad megis cyflwyno asesiadau a gwaith cwrs, data a gedwir gan y llyfrgell a chyfranogiad mewn cyfarfodydd tiwtor personol.
6.1.7
Darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a gweithdrefnau i fyfyrwyr am roi gwybod i'w Gyfadran/Ysgol am unrhyw absenoldeb cynlluniedig byr dros dro os bydd hwnnw dros bum niwrnod gwaith, a fydd yn cael ei ystyried fel "cais am absenoldeb dros dro o astudio". "Cais am absenoldeb dros dro o astudio" yw absenoldeb dros dro y mae'r Gyfadran/Ysgol wedi'i dderbyn. Rydym yn deall y bydd rheswm da gan fyfyrwyr dros golli sesiynau dysgu ar adegau, ond os bydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn dal i fyny gyda'u gwaith. Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol, fel arfer, yn eu derbyn:
• Amgylchiadau eithriadol megis salwch neu anaf difrifol.
• Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas neu ffrind agos.
• Amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol - megis ysgariad, byrgleriaeth, tân, achos llys sylweddol, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr - sy'n gofyn bod y myfyriwr yn gadael y Brifysgol ar fyr rybudd.
• Gwasanaethu ar reithgor.
• Ymrwymiadau chwaraeon a/neu gelfyddydol, fel arfer pan fydd y myfyriwr yn cymryd rhan;
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r Gyfadran/Ysgol i ddechrau a rhaid darparu tystiolaeth ategol fel arfer. Os yw myfyriwr yn profi anawsterau personol, teuluol, ariannol neu feddygol sy'n effeithio ar ei allu i ymrwymo i'w astudiaethau, y disgwyliad arferol yw y cynghorir y myfyriwr i ohirio ei astudiaethau.
Oherwydd y risg i lwyddiant academaidd, bydd ceisiadau am absenoldeb fel arfer yn cael eu hystyried am gyfnod o hyd at bythefnos yn unig ac ni ddylai'r cyfnod o absenoldeb olygu bod myfyriwr eisiau mwy o amser i gwblhau ei raglen. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sydd angen cyfnodau hirach o absenoldeb ohirio eu hastudiaethau. Dylai myfyrwyr sydd angen gohirio eu hastudiaethau a/neu gael estyniad i'w ymgeisyddiaeth ddarllen rheoliadau Gohirio Astudiaethau'r Brifysgol ar gyfer rhaglenni a addysgir. Gan fod disgwyl i fyfyrwyr aros yn Abertawe i gwblhau gofynion academaidd eu rhaglen astudio, yn unol ag amodau eu fisâu Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), ystyrir ceisiadau o'r fath fesul achos. Ni ddisgwylir i fwy nag un cyfnod o absenoldeb o'r fath gael ei ganiatáu fesul rhaglen astudio. Caiff ceisiadau mynych am gyfnodau estynedig o absenoldeb eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr ystyried gohirio eu hastudiaethau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Pan roddir caniatâd dros dro i fyfyriwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) ohirio astudio, dylid hysbysu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar unwaith fel y gellir cofnodi hyn yn ffeil y myfyriwr.
6.1.8
Cadw mewn cysylltiad â'r menteion academaidd ac amserlennu, a chofnodi presenoldeb myfyrwyr yn ystod sesiynau menteion yn unol â pholisi Y System Tiwtora Personol;
6.1.9
Dylid rheoli'r broses ar gyfer diffyg cyfranogiad parhaus gydag astudiaethau i sicrhau lles myfyrwyr a chynnig cefnogaeth a gallai hyn, yn eithriadol, arwain at dynnu'r myfyriwr yn ôl;
6.1.10
Sicrhau y caiff presenoldeb yr holl fyfyrwyr ei fonitro a'i gofnodi'n deg, yn gywir ac ar ffurf archwiliadwy i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth a chydymffurfio â gofynion diogelu data a rhyddid gwybodaeth, yn ogystal â sicrhau y gall y myfyriwr a'r Gwasanaethau Addysg neu’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr graffu ar y cofnodion;
6.1.11
Cyfeirio unrhyw fyfyrwyr y nodir y gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt at y Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr priodol.
6.2
Mae Deoniaid Gweithredol yn gyfrifol am:
6.2.1
Sicrhau bod staff y Gyfadran/Ysgol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran monitro presenoldeb, cofnodi data a phrosesau uwchgyfeirio'r Brifysgol;
6.2.2
Sefydlu a chyhoeddi cysylltiadau enwedig â chyfrifoldeb am y dyletswyddau hyn yn y Gyfadran/Ysgol;
6.2.3
Sicrhau y dynodir tiwtor personol i bob myfyriwr;
6.2.4
Sicrhau y caiff presenoldeb yr holl fyfyrwyr ei fonitro a'i gofnodi'n deg, yn gywir ac ar ffurf archwiliadwy i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth a chydymffurfio â gofynion diogelu data a rhyddid gwybodaeth, yn ogystal â sicrhau y gall y myfyriwr a'r Gwasanaethau Addysg neu’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr graffu ar y cofnodion;
6.2.5
Sicrhau lefel briodol o fonitro a chofnodi ar gyfer pob myfyriwr/rhaglen astudio yn unol â'r polisi.
7. Lleoliadau Gwaith, Astudio Dramor a Rhaglenni Cydweithiol a Ddarperir Oddi ar Unrhyw Gampws Prifysgol Abertawe
7.1
Bydd yn orfodol i fyfyrwyr sy'n gwneud elfen astudio dramor neu leoliad diwydiannol sy'n rhan hanfodol neu asesedig o'u rhaglen, neu sy'n astudio Rhaglen Gydweithredol a ddarperir mewn sefydliad arall, i gydymffurfio â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol i Fyfyrwyr a Addysgir ac yn achosmyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), y Polisi Monitro Cyfranogiad i fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau monitro cyfranogiad a bennwyd gan y sefydliad astudio dramor neu'r darparwr lleoliad diwydiannol.
7.2
Caiff myfyrwyr sy’n gwneud elfen astudio dramor neu leoliad diwydiannol sy’n rhan hanfodol neu asesedig o’u rhaglen, neu sydd ar Raglenni Cydweithredol sy’n cael eu cyflwyno mewn sefydliad arall eu monitro’n fisol neu’n amlach. Bydd Cyfadrannau/Ysgolion perthnasol yn cysylltu â’r myfyrwyr hyn unwaith y mis a bydd gofyn iddynt gadarnhau eu cyfranogiad parhaus yn eu rhaglen. Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn gyfrifol am ddweud wrth fyfyrwyr am y gofyniad hwn ac am y broses o gysylltu ar ddechrau lleoliad.
7.3
Os na fydd myfyriwr yn ymateb i'w Gyfadran/Ysgol pan gysylltir ag ef yn unol â 7.2 uchod, bydd y Gyfadran/Ysgol yn anfon e-bost dilynol ato i atgoffa'r myfyriwr bod yn rhaid iddo ymateb er mwyn cadarnhau ei gyfranogiad parhaus yn ei raglen. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried tynnu myfyriwr yn ôl os na fydd yn ymateb i'r e-bost dilynol ac os na fydd tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol. Yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â'r myfyrwyr perthnasol i ymdrin â'r mater.
7.4
Mae'r rhestr ganlynol yn enghreifftiau o ddigwyddiadau priodol ar gyfer monitro presenoldeb myfyrwyr sy'n astudio dramor neu ar leoliadau gwaith:
- Cyswllt rhwng y myfyriwr a chydlynydd academaidd y Gyfadran/Ysgol neu aelod penodedig arall o staff. Gall hyn fod ar Skype, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Cadarnhad o bresenoldeb myfyriwr gan gynrychiolydd penodedig priodol y Brifysgol sy'n derbyn myfyrwyr sy'n astudio dramor neu gynrychiolydd cwmni i fyfyrwyr ar leoliad gwaith.
- Data o gofnodion presenoldeb y Brifysgol berthnasol.
- Mae angen tystiolaeth ychwanegol hefyd ar rai rhaglenni.
7.5
Mae myfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sydd ar leoliad neu sy'n astudio dramor yn destun y gofynion ychwanegol a nodir yn 3.2 o'r Polisi Monitro Cyfranogiad i fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt).
7.6
Bydd myfyrwyr sy'n methu â chydymffurfio â gofynion eu rhaglen neu y mae eu presenoldeb yn anfoddhaol yn cael eu hystyried gan y Gyfadran/Ysgol, a bydd camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.
8. Myfyrwyr sy'n Dilyn Rhaglenni Ansafonol o Astudio a Addysgir Drwy Wythnosau Dwys Byr
8.1
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gydymffurfio â'r polisi monitro presenoldeb. Ar gyfer rhaglenni a addysgir yn ddwys dros gyfnodau o wythnos/pythefnos, bydd y broses monitro presenoldeb yn seiliedig ar gyfnodau o 2 ddiwrnod yn ystod pob wythnos pan fydd sesiynau dysgu a amserlennir wedi'u hamserlennu. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi manylion am ddyddiadau'r cyfnodau hyn i'r myfyrwyr ar ddechrau pob cwrs. Noder bod rhai rhaglenni yn destun gofynion presenoldeb uwch oherwydd achrediad proffesiynol.
8.2
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn cysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn cymryd rhan yn eu hastudiaethau am gyfnod o 2 ddydd ac yn cynnig cymorth iddynt i'w helpu i ailgydio yn eu hastudiaethau.
9. Myfyrwyr Sydd Wedi Cofrestru ar Ran Dau Rhaglen Meistr a Addysgir Safonol Neu ail Flwyddyn Rhaglen Gradd Meistr Estynedig
9.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen ôl-raddedig a addysgir, ac sy'n ymgymryd ag elfen ymchwil eu rhaglen (y modiwl(-au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ), yn destun gofynion y Polisi Monitro Presenoldeb Myfyrwyr Ymchwil o ran amlder y monitro (misol).
9.2
Bydd myfyrwyr o'r fath hefyd yn destun y Polisi Monitro Presenoldeb Myfyrwyr Ymchwil o ran y broses uwchgyfeirio. Fodd bynnag, bydd Cadeirydd y Pwyllgor Dysgu ac Addysgu neu ei enwebai yn cymryd cyfrifoldebau'r Deon Cysylltoil (Ymchwil), yng ngham tri o'r broses.
9.3
Gall y myfyrwyr hynny sydd wedi symud ymlaen yn swyddogol i Ran Dau neu gam y prosiect/traethawd hir ar Raglen Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir sy’n dechrau ym mis Medi ac a hoffai adael Abertawe am resymau personol, ddewis cyflwyno “Cais i Gwblhau Astudiaethau o Bell”.
Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos gan y Gyfadran/yr Ysgol a chan y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Sylwer na fydd cyflwyno cais yn gwarantu y caiff y cais ei gymeradwyo. Gwneir penderfyniadau'n seiliedig ar ofynion academaidd y rhaglen astudio dan sylw ac arweiniad Fisâu a Mewnfudo y DU yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Mae Prifysgol Abertawe’n cadw'r hawl i wrthod cymeradwyo cais os bernir y gallai cymeradwyaeth o'r fath beri risg i ddyletswyddau a chyfrifoldebau cydymffurfiaeth Prifysgol Abertawe fel Noddwr Trwyddedig. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig i fyfyrwyr os na fu eu cais yn llwyddiannus.
Dylai myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) fod yn ymwybodol os caiff eu cais ei gymeradwyo, gallai'r Brifysgol dynnu ei nawdd ar gyfer eu fisa myfyriwr yn ôl. O ganlyniad, byddai fisa'r myfyriwr yn cael ei chwtogi gan na fyddai'n ofynnol mwyach i'r myfyriwr hwnnw deithio/dychwelyd i'r DU i gwblhau'r cwrs.
Pan gaiff fisa myfyriwr ei chwtogi, ni fydd y myfyriwr hwnnw'n gymwys ar gyfer fisa gwaith ôl-astudio'r Llwybr i Raddedigion.
Ar gyfer deiliaid fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen prawf ar y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr fod y myfyriwr wedi dychwelyd adref i gwblhau'r cadarnhad o’r cais a rhoi gwybod i'r Swyddfa Gartref am dynnu'r nawdd. Ar ôl derbyn y prawf ymadael, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn darparu cadarnhad terfynol bod cofnod y myfyriwr wedi cael ei ddiweddaru a nad yw'r myfyriwr yn ddarostyngedig mwyach i broses monitro cyfranogiad wyneb yn wyneb y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr a noddir.
10. Y Broses Monitro Cyfranogiad i Fyfyrwyr a Addysgir
10.1
Bydd y Brifysgol yn adolygu defnydd myfyrwyr o ddeunyddiau cwrs yn Canvas a’u cyfranogiad mewn sesiynau wyneb yn wyneb bob pythefnos. Lluniwyd yr adolygiadau hyn i nodi myfyrwyr y mae eu cyfranogiad wedi disgyn dan y trothwy angenrheidiol, i sicrhau lles myfyrwyr, cadarnhau'r rhesymau am y diffyg cyfranogiad a chynorthwyo myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau neu a allai fod angen cymorth penodol arnynt i ailgydio o ddifrif.
10.2
Caiff y broses ei hamlinellu a'i hesbonio isod:
• Cam 1 – Nid yw'r myfyriwr wedi cyrchu deunyddiau cwrs yn Canvas nac wedi cymryd rhan wyneb yn wyneb yn ei astudiaethau ers pythefnos. Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr i gynnig cefnogaeth, yn ei gyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn ei wahodd i gysylltu â'i Gyfadran/Ysgol os yw am drafod ei lefelau cyfranogiad neu os oes angen cymorth wrth ymrwymo i'w astudiaethau.
• Cam 2 – Yn dilyn Cam 1, Nid yw'r myfyriwr wedi cyrchu deunyddiau cwrs yn Canvas nac wedi cymryd rhan wyneb yn wyneb yn ei astudiaethau ers pythefnos (cyfanswm o 4 wythnos). Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr eto am ei lefelau o gyfranogiad, gan ei wahodd i gysylltu â'i Gyfadran/Ysgol os yw am drafod ei gyfranogiad neu os oes angen cymorth arno i ailgydio yn ei astudiaethau. Caiff pwysigrwydd sicrhau lles myfyrwyr ei amlygu ac anogir y myfyriwr yn gryf i ymgysylltu â'i Gyfadran/Ysgol i gael cymorth ar yr adeg hon.
• Cam 3 – Yn dilyn Cam 2, mae cyfranogiad y myfyriwr yn ei astudiaethau wedi bod yn wael am 7 niwrnod pellach (sef cyfanswm o 21 o ddiwrnodau). Bydd y Gyfadran/Ysgol yn cysylltu eto â'r myfyriwr a bydd angen iddo fynd i gyfarfod naill ai yn bersonol neu'n rhithwir i drafod ei ddiffyg cyfranogiad a darparu unrhyw dystiolaeth sy'n berthnasol i'w lefelau o gyfranogiad. Sicrhau lles myfyrwyr yw ein blaenoriaeth ac os bydd y myfyriwr yn cymryd rhan yn y cyfarfod ac os gall gynnig rhesymau boddhaol am ei ddiffyg cyfranogiad, bydd yn gallu parhau â'i astudiaethau.
• Cam 4 - Os yw myfyriwr yn mynd i gyfarfod ond nid yw'n ailgydio yn ei astudiaethau yn y cyfnod o 7 o ddiwrnodau nesaf, ac nid yw'n gallu cynnig rhesymau boddhaol am y diffyg cyfranogiad yn ystod y cyfarfod neu nad yw'n mynd i'r cyfarfod, bydd Arweinydd Addysg yr Gyfadran/Ysgol (neu ei enwebydd), yn eithriadol, yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl. Wrth ystyried tynnu'n ôl, bydd y Gyfadran/Ysgol yn adolygu data o wahanol ddulliau cyfranogi mewn perthynas â'r pwyntiau cyswllt cyffredinol a fodlonwyd, cyfranogiad rheolaidd, diffyg cyfranogiad olynol a thystiolaeth a ddarperir gan y myfyriwr mewn perthynas â'i gyfranogiad yn ei raglen astudio. Gwneir pob ymdrech i ystyried yr holl amgylchiadau esgusodol a'r sefyllfaoedd heriol y gallai myfyrwyr fod ynddynt wrth ystyried eu tynnu'n ôl o'r Brifysgol.
10.3
Pan fydd cyfranogiad myfyriwr yn gwella yn ystod y 7 o ddiwrnodau yn dilyn y cyfarfod â'r Gyfadran/Ysgol, cysylltir ag ef i gydnabod hyn.
11.Adolygiad Gweinyddol ac Adolygiad Terfynol
11.
Os bydd gwahaniaeth rhwng y canlyniad a ffefrir rhwng y naill barti neu'r llall, bydd myfyrwyr naill ai'n gorfod cwblhau Gweithdrefn Adolygiad Terfynol llawn (yn achos argymhelliad i dynnu'n ôl ar ran y Gyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr) neu bydd y Cyfarwyddwr Cysylltiol: Gweithrediadau Myfyrwyr (neu ei enwebai) yn adolygu'r ffurflen (yn achos argymhelliad i wahardd ar ran y Gyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr). Pan fydd y Cyfarwyddwr Cysylltiol: Gweithrediadau Myfyrwyr (neu ei enwebai) yn cadarnhau canlyniad a ffefrir gan y Gyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr, caiff hyn ei gyfleu i'r myfyriwr a bydd yn cael y cyfle i gyflwyno Adolygiad Terfynol llawn o fewn 5 niwrnod gwaith.