Rydym ni'n monitro canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU yn ofalus mewn perthynas ag ymlediad y coronafeirws ac efallai y byddwn yn addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd wrth i amgylchiadau a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost.
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil (sy'n cynnwys Gradd Meistr drwy Ymchwil, Rhan Dau rhaglen Meistr safonol/estynedig ac Ymchwilwyr Gwadd)
1. Cyflwyniad
Mae'r Brifysgol yn ymateb yn hyblyg i'r sefyllfa bresennol i alluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau a sicrhau na fydd pandemig Covid-19 yn effeithio arnynt mewn ffordd andwyol. Rydym yn ymrwymedig i drin myfyrwyr yn deg ac â thrugaredd ac mae ein penderfyniadau'n ystyried amgylchiadau unigryw'r sefyllfa bresennol yn llawn. Mewn ymateb, caiff yr holl gyrsiau eu cyflwyno mewn ffordd ddeuol, gan gyfuno addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb i hwyluso'r broses o ymgymryd â'u hastudiaethau i fyfyrwyr.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod presenoldeb mewn sesiynau goruchwylio a chyfranogiad mewn gweithgareddau ymchwil yn elfennau allweddol o sicrhau bod myfyrwyr yn parhau ar y trywydd iawn ac o'u cynnydd, eu cyflawniadau a'u cyflogadwyedd. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol hefyd i fonitro presenoldeb myfyrwyr ac i weithredu ar ddiffyg presenoldeb er mwyn bodloni gofynion adrodd ar bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig (UKVI) o ran monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU ar fisa myfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt). Datblygwyd system electronig ganolog (RMS) i fonitro presenoldeb myfyrwyr at y dibenion hyn.
2. Polisi Monitro Presenoldeb – Myfyrwyr Ymchwil
2.1
Bydd y Polisi Monitro Cyfranogiad hwn yn berthnasol i fyfyrwyr Ymchwil a gofrestrwyd ar raglen academaidd ym Mhrifysgol Abertawe (gan gynnwys graddau Meistr drwy Ymchwil, cam Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd rhaglen Meistr Safonol/Estynedig ac Ymchwilwyr Gwadd sydd wedi cofrestru ar gyfnod sy'n hwy na mis) p'un ai eu bod nhw yn Abertawe, rhywle arall yn y DU neu rywle arall yn y byd.
2.2
Disgwylir i bob myfyriwr Abertawe ymgysylltu â’u hymchwil ar sail wyneb yn wyneb. Caniateir ymgysylltu o bell dim ond pan gaiff cais i gynnal gwaith ymchwil o bell ei gyflwyno a'i gymeradwyo, fel y’i nodir ym mhwynt 4.6 isod neu pan fo myfyriwr yn astudio mewn sefydliad partner fel y'i nodir ym mhwynt 8 isod.
2.3
Mae myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn destun monitro cyfranogiad nes y dyfernir eu cymhwyster iddynt.
2.4
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r holl sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau dysgu rhithwir atodol a drefnir, gan gynnwys cyfarfodydd goruchwylio, cyrsiau hyfforddiant, modiwlau a grwpiau astudio sy’n gysylltiedig â phob rhaglen ymchwil y maent wedi dewis ei dilyn. Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod budd ymgysylltu â'r gymuned ymchwil ehangach a byddem yn annog myfyrwyr ymchwil i fynychu oriau swyddfa rheolaidd.
2.5
Caiff cyfranogiad myfyrwyr ei fonitro ar lefel Cyfadran/Ysgol neu bartneriaeth a chan y Tîm Monitro Cyfranogiad yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt).
2.6
Anfonir pob hysbysiad sy'n ofynnol yn unol â'r gofynion hyn at gyfrif e-bost y Brifysgol y myfyriwr yn y lle cyntaf, ac mewn rhai amgylchiadau, i gyfeiriad cartref a chyfeiriad tymor y myfyriwr, oni fydd y myfyriwr wedi rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Addysg a'r Gyfadran/Ysgol mewn ysgrifen y dylid defnyddio cyfeiriad arall.
2.7
Bydd Cyfadran/Ysgol gartref y myfyriwr yn monitro presenoldeb myfyrwyr, gan ddechrau o wythnos ymchwil gyntaf unrhyw garfan. Caiff cyfranogiad ei fonitro drwy gyfarfodydd rheolaidd â thîm goruchwylio'r myfyriwr.
2.8
Caiff myfyrwyr eu monitro bob pedair wythnos ar adeg a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Caiff myfyrwyr sy'n astudio rhan-amser eu monitro bob pedair wythnos hefyd, gan ystyried llwythau gwaith gwahanol.
2.9
Os bydd myfyriwr sy'n absennol o'i gyfarfod monitro presenoldeb misol gyda'i oruchwyliwr, bydd proses uwchgyfeirio'r myfyriwr hwnnw'n cychwyn.
2.10
Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi'u lleoli yn Abertawe sy'n ymgymryd ag ymchwil oddi ar Gampws Prifysgol Abertawe gael cymeradwyaeth i astudio o bell gan eu Cyfadran/Hysgol cyn gadael Abertawe a bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r Polisi Monitro Cyfranogiad. Bydd angen i fyfyrwyr Llwybr MyfyrwyrLlwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gael caniatâd hefyd i astudio o bell gan y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr fel y’i hamlinellir yn Adran 5 o’r Polisi Monitro Cyfranogiad Llwybr MyfyrwyrLlwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) uwch. Yn ogystal, bydd angen i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau cyfranogiad a bennwyd
2.11
Mae myfyrwyr ymchwil amser llawn yn gymwys am hyd at 31 niwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd â gwyliau statudol gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, bydd hwn ar sail pro rata. Dylid cofnodi unrhyw wyliau a gymerir ar y system RMS.
2.12
Caiff adroddiadau cyfranogiad eu monitro a'u hadolygu gan yr Gyfadran/Ysgol a'r Tîm Monitro Cyfranogiad yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
3. Myfyrwyr â Theitheb Haen 4
3.1
Mae'n ofynnol i Brifysgol Abertawe fonitro cyfranogiad ei holl fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), yn unol â rheoliadau Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) yn ogystal â'r rheolau mewnfudo sy'n rheoli mewnfudo i'r Deyrnas Unedig. Yn ogystal â Pholisi'r Brifysgol ar Fonitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil, bydd myfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sy'n colli un cyfarfod goruchwylio/ymwneud ag ymchwil yn derbyn e-bost gan y Tîm Monitro Cyfranogiad yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr i'w hatgoffa o'r gofyniad i gydymffurfio â'r Polisi Monitro Cyfranogiad agofynnir iddynt fynd i gyfarfod i drafod eu diffyg presenoldeb. Yn achos diffyg cyfranogiad, bydd myfyriwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) yn destun monitro uwch fel a amlinellwyd yn Adran 4.2 Polisi Monitro Cyfranogiad Haen Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt). Caiff hyn ei weinyddu gan y Tîm Monitro Cyfranogiad yn y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
4. Canllawiau Polisi i Fyfyrwyr
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am:
4.1
Sicrhau eu bod yn deall ac yn cydymffurfio â'r Polisi Monitro Cyfranogiad.
4.2
Mynychu'r holl sesiynau goruchwylio wyneb yn wyneb a rhithwir, a sesiynau dysgu ac addysg sy'n gysylltiedig â'u rhaglen astudio.
4.3
Cadw mewn cysylltiad â'u tîm Goruchwylio a mynd unrhyw gyfarfodydd a drefnir.
4.4
Hysbysu'r Gyfadran/Ysgol am wyliau maent yn bwriadu eu cymryd.
4.5
Hysbysu eu Cyfadran/Hysgol am unrhyw fwriad i fod yn absennol dros dro am gyfnod hwy na phum niwrnod. Caiff hyn ei ystyried fel "cais am absenoldeb dros dro o astudio”. Mae "cais am absenoldeb dros dro o raglen astudio" yn absenoldeb dros dro sydd wedi'i gymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol. Rydym yn deall y bydd yn rhaid i fyfyrwyr golli cyfarfod goruchwylio ymchwil neu ymrwymiad ymchwil a drefnwyd ar adegau am reswm dilys. Yn yr achosion hyn, gall myfyrwyr gyflwyno cais am absenoldeb dros dro o'u hastudiaethau.
Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol fel arfer yn eu dilyn:
- Amgylchiadau rhesymol a allai godi o ganlyniad i bandemig COVID-19.
- Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas neu ffrind agos.
- Amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol o bwys – megis ysgariad, byrgleriaeth, tân, achos llys sylweddol, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr ac sy'n gofyn bod y myfyriwr yn gadael y Brifysgol ar fyr rybudd.
- Gwasanaethu ar reithgor.
- Ymrwymiadau Chwaraeon a/neu gelfyddydol, fel arfer pan fydd y myfyriwr yn cymryd rhan ynddynt.
Fel arfer, rhaid darparu tystiolaeth i gadarnhau hyn pan fo modd. Os yw myfyriwr yn profi anawsterau personol, teuluol, ariannol neu feddygol sy'n effeithio ar ei allu i ymrwymo i'w astudiaethau, y disgwyliad arferol yw y cynghorir y myfyriwr i ohirio ei astudiaethau.
Yn sgîl y risg i lwyddiant academaidd, bydd ceisiadau am absenoldeb fel arfer yn cael eu hystyried am gyfnod o hyd at bythefnos yn unig. Os bydd angen cyfnod hwy o absenoldeb ar fyfyrwyr, bydd rhaid iddynt gysylltu â'u goruchwyliwr cyn y caniateir amser ychwanegol. Fel arfer, ni chaiff y cyfnod ymgeisyddiaeth ei estyn. Ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), ni ddylai’r cyfnod absenoldeb olygu y bydd angen mwy o amser arnynt i gwblhau eu rhaglen. Gall fod yn ofynnol i fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) y mae angen cyfnodau hir o absenoldeb arnynt ohirio eu hastudiaethau.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr aros o fewn pellter cymudo i'w campws astudio i gwblhau gofynion academaidd eu rhaglen astudio, yn unol ag amodau eu fisâu Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), ystyrir ceisiadau o'r fath fesul achos. Ni ddisgwylir i fwy nag un cyfnod o absenoldeb o'r fath gael ei ganiatáu fesul rhaglen astudio. Caiff ceisiadau mynych am gyfnodau estynedig o absenoldeb eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr ystyried gohirio eu hastudiaethau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Dylai myfyrwyr y mae angen iddynt ohirio eu hastudiaethau a/neu ymestyn eu hymgeisyddiaeth ymgynghori â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau.
Dylid hysbysu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar unwaith pan fydd myfyriwr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 ynt) yn derbyn cymeradwyaeth o fod yn absennol dros dro o raglen astudio, er mwyn gallu cofnodi hyn yng nghofnod y myfyriwr.
4.6
Rhaid hysbysu'r Gyfadran/Ysgol am astudiaethau neu ymchwil a wneir oddi ar Gampws Prifysgol Abertawe. Rhaid i fyfyrwyr gael caniatâd i astudio o bell gan yr Gyfadran/Ysgol cyn gadael Abertawe a bydd gofyn iddynt gydymffurfio â'r polisi monitro cyfranogiad yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hefyd angen caniatâd ar fyfyrwyr Haen 4/Llwybr Myfyriwr i astudio o bell gan y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr fel a amlinellwyd yn Adran 5 Polisi Monitro Cyfranogiad Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt). Os bydd cais myfyriwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) i astudio o bell yn hwy nag un mis, adroddir am hyn wrth yr UKVI fel "Newid Lleoliad Astudio." Uchafswm hyd y cyfnod y gall myfyriwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) astudio o bell yw chwe mis. Rhaid i fyfyrwyr barhau i fod yn gofrestredig ac ni ddylai'r cais effeithio mewn ffordd andwyol ar eu hastudiaethau neu'r dyddiad cyflwyno. Dylid gwneud trefniadau gyda thimoedd Goruchwylio a Gweinyddu yr Gyfadran/Ysgol cyn gadael Abertawe a bodloni gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad. Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol, fel arfer, yn eu derbyn:
• Gwaith Maes
• Casglu data
• Ymweliad astudio i lyfrgell, archif neu leoliad diwydiannol
• Presenoldeb mewn neu gyflwyno darlithoedd, sgyrsiau neu gynadleddau mewn sefydliad arall
Cynghorir myfyrwyr i aros nes y caiff eu cais i astudio o bell ei gymeradwyo cyn terfynu trefniadau teithio a llety. Yn ogystal, rhaid i fyfyrwyr gyfeirio at Bolisi Teithio Rhyngwladol y Brifysgol cyn gadael.
Yn ogystal, bydd angen i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau a bennwyd gan y sefydliad lle maent yn cynnal eu gwaith ymchwil.
4.7
Ymateb i unrhyw gyfathrebiadau gan y Gyfadran/Ysgol, y Gwasanaethau Addysg neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr y Brifysgol ynghylch absenoldeb.
4.8
Ymbresenoli mewn unrhyw gyfarfod a drefnir o ganlyniad i ddiffyg cyfranogiad.
4.9
Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos gan y Gyfadran/yr Ysgol a chan y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Sylwer na fydd cyflwyno cais yn gwarantu y caiff y cais ei gymeradwyo. Gwneir penderfyniadau'n seiliedig ar ofynion academaidd y rhaglen astudio dan sylw ac arweiniad Fisâu a Mewnfudo y DU yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Mae Prifysgol Abertawe’n cadw'r hawl i wrthod cymeradwyo cais os bernir y gallai cymeradwyaeth o'r fath beri risg i ddyletswyddau a chyfrifoldebau cydymffurfiaeth Prifysgol Abertawe fel Noddwr Trwyddedig. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig i fyfyrwyr os na fu eu cais yn llwyddiannus.
Dylai myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) fod yn ymwybodol os caiff eu cais ei gymeradwyo, gallai'r Brifysgol dynnu ei nawdd ar gyfer eu fisa myfyriwr yn ôl. O ganlyniad, byddai fisa'r myfyriwr yn cael ei chwtogi gan na fyddai'n ofynnol mwyach i'r myfyriwr hwnnw deithio/dychwelyd i'r DU i gwblhau'r cwrs.
Pan gaiff fisa myfyriwr ei chwtogi, ni fydd y myfyriwr hwnnw'n gymwys ar gyfer fisa gwaith ôl-astudio'r Llwybr i Raddedigion.
Ar gyfer deiliaid fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen prawf ar y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr fod y myfyriwr wedi dychwelyd adref i gwblhau'r cadarnhad o’r cais a rhoi gwybod i'r Swyddfa Gartref am dynnu'r nawdd. Ar ôl derbyn y prawf ymadael, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn darparu cadarnhad terfynol bod cofnod y myfyriwr wedi cael ei ddiweddaru a nad yw'r myfyriwr yn ddarostyngedig mwyach i broses monitro cyfranogiad wyneb yn wyneb y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr a noddir.
5. Canllawiau Polisi i Gyfadrannau/Ysgolion
5.1 Mae staff gweinyddol ac academaidd y Gyfadran/Ysgol yn gyfrifol am:
5.1.1
Atgoffa myfyrwyr o bwysigrwydd presenoldeb yn y sesiynau goruchwylio neu ymrwymiadau ymchwil;
5.1.2
Sicrhau bod yr wybodaeth, yr arweiniad a'r gweithdrefnau parthed y Polisi hwn ar gael i fyfyrwyr y Gyfadran/Ysgol;
5.1.3
Rhaid cynnal cysylltiad â myfyrwyr ymchwil, trefnu a chofnodi cyfranogiad myfyrwyr mewn sesiwn goruchwylio, hyfforddi ac addasu, diweddaru newidiadau i'r timoedd goruchwylio a sicrhau bod y system RMS yn cynrychioli ymrwymiad a chynnydd disgwyliedig y myfyrwyr mewn ffordd sy'n deg ac yn gywir;
5.1.4
Defnyddio'r broses uwchgyfeirio os bydd ymrwymiad a chyfranogiad y myfyriwr ynanfoddhaol;
5.1.5
Darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a gweithdrefnau i fyfyrwyr am roi gwybod i'w Cyfadran/Hysgol am unrhyw absenoldeb dros dro a drefnir fel y'i nodir yn 4.5 uchod.
5.1.6
Dylid hysbysu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar unwaith pan fydd myfyriwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) yn derbyn cymeradwyaeth o fod yn absennol dros dro o raglen astudio, er mwyn gallu cofnodi hyn yn ffeil y myfyriwr.
5.1.7
Dylid darparu myfyrwyr â gwybodaeth, canllawiau a gweithdrefnau ar hysbysu Cyfadrannau/Ysgolion am astudio a gynlluniwyd neu ymchwil a wnaed oddi ar Gampws Prifysgol Abertawe fel y'i nodir yn 4.6 uchod.
5.1.8
Dylid darparu gwybodaeth, canllawiau a gweithdrefnau i fyfyrwyr ar wneud cais i gwblhau eu hymchwil o bell fel y'i nodir yn 4.9 uchod.
5.1.9
Sicrhau y caiff Ymgysylltu yr holl fyfyrwyr ei fonitro a'i gofnodi'n deg, yn gywir ac ar ffurf archwiliadwy i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth a chydymffurfio â gofynion diogelu data a rhyddid gwybodaeth, yn ogystal â sicrhau y gall y myfyriwr a'r Gwasanaethau Addysg neu Swyddog Cydymffurfio'r Brifysgol graffu ar y cofnodion.
5.2
Cyfeirio unrhyw fyfyrwyr y nodir y gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt at y Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr priodol.
5.3 Mae Deoniaid Gweithredol yn gyfrifol am:
5.3.1
Sicrhau bod staff y Gyfadran/Ysgol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran monitro cyfranogiad, cofnodi data a phrosesau uwchgyfeirio'r Brifysgol;
5.3.2
Sefydlu a chyhoeddi enwau'r cysylltiadau sydd â chyfrifoldeb am y dyletswyddau hyn yn y Gyfadran/Ysgol;
5.3.3
Sicrhau y caiff presenoldeb yr holl fyfyrwyr ei fonitro a'i gofnodi'n deg, yn gywir ac ar ffurf archwiliadwy i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth a chydymffurfio â gofynion diogelu data a rhyddid gwybodaeth, yn ogystal â sicrhau y gall y myfyriwr a'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr neu’r Gwasanaethau Addysg graffu ar y cofnodion;
5.3.4
Sicrhau lefel briodol o fonitro a chofnodi ar gyfer pob myfyriwr.
5.4
Mae Cyfarwyddwyr Ymchwil a Chyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn gyfrifol am:
5.4.1
Sicrhau bod staff y Gyfadran/Ysgol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran monitro cyfranogiad, cofnodi data a phrosesau uwchgyfeirio'r Brifysgol;
5.4.2
Sicrhau y caiff presenoldeb yr holl fyfyrwyr ei fonitro a'i gofnodi'n deg, yn gywir ac ar ffurf archwiliadwy i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth a chydymffurfio â gofynion diogelu data a rhyddid gwybodaeth, yn ogystal â sicrhau y gall y myfyriwr a'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr neu’r Gwasanaethau Addysg graffu ar y cofnodion;
5.4.3
Sicrhau lefel briodol o fonitro a chofnodi ar gyfer pob myfyriwr;
5.4.4
Defnyddio'r broses uwchgyfeirio os bydd diffyg cyfranogiad gan y myfyriwr, trefnu cyfarfodydd gyda myfyrwyr i drefnu canlyniadau diffyg cyfranogiad a chymryd camau yn unol â'r Polisi Monitro Cyfranogiad yn seiliedig ar ganlyniad y cyfarfod.
6. Myfyrwyr ar Raglen Meistr Ymchwil (MRes)
6.1
Bydd myfyrwyr ar raglen MRes sy'n cyflawni elfen a addysgir y rhaglen yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr i Fyfyrwyr a Addysgir o ran amlder monitro (bob pythefnos).
6.2
Pan fydd myfyrwyr MRes yn symud i elfen ymchwil y rhaglen, byddant yn destun gofynion monitro'r Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil yn gyfan gwbl, a chânt eu monitro bob pedair wythnos.
7. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Meistr Safonol/Estynedig
7.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Ran Un o raglen Meistr Safonol/Estynedig yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir. Bydd myfyrwyr sy'n symud ymlaen i Ran Dau y prosiect/cam y traethawd hir ar raglen Meistr Safonol/Estynedig yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad i Fyfyrwyr Ymchwil a chânt eu monitro ar sail pedair wythnos nes yr adeg gyflwyno. Bydd y goruchwyliwr yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr ac am y broses uwchsgilio.
7.2
Disgwylir i fyfyrwyr ôl-raddedig llawn amser a addysgir astudio'n barhaus dros yr haf yn ystod cyfnod y traethawd hir/prosiect a disgwylir iddynt ymgysylltu â'u goruchwyliwr unwaith y mis yn bersonol ar y campws. Ystyrir bod myfyrwyr o'r fath yn ystod y tymor yn ystod cyfnod y traethawd haf/prosiect.
7.3
Bydd myfyrwyr sy'n cael estyniad i Ran Dau neu gyfnod prosiect/traethawd hir eu hastudiaethau yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil a byddant yn cael eu monitro bob pedair wythnos hyd at y pwynt cyflwyno.
7.4
Os na dderbynnir gwaith gan yr arholwyr yn ystod Rhan Dau neu gyfnod prosiect/traethawd hir y rhaglen a bod y myfyriwr yn cael ailgyflwyno, bydd yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil hyd at y pwynt ailgyflwyno o fewn y terfyn amser a bennir gan Reoliadau Academaidd ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser.
7.5
Bydd disgwyl i fyfyrwyr sy'n ailgyflwyno eu gwaith ymwneud yn llawn â'u hastudiaethau yn ystod y cyfnod ailgyflwyno a byddant yn cael eu monitro bob pedair wythnos (un sesiwn adborth ffurfiol ac yna archwiliadau lles, nid oes gan fyfyrwyr hawl i gael goruchwyliaeth ychwanegol) hyd at y pwynt ailgyflwyno. Bydd y Gyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr yn ystod y cyfnod ailgyflwyno.
8. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Ymchwil Ôl-raddedig a gyflwynir drwy bartneriaeth gydweithredol
8.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Ymchwil Ôl-raddedig a gyflwynir drwy bartneriaeth gydweithredol ac mae Prifysgol Abertawe yn un o'r cyrff dyfarnu yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil a chaiff ei fonitro bob 4 wythnos hyd at adeg cyflwyno.
8.1.1.
Bydd Goruchwyliwr Prifysgol Abertawe yn gyfrifol am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr yn y system RMS a bydd yn ymgysylltu â Goruchwylydd y Sefydliad Partner i fonitro cynnydd y myfyriwr ni waeth beth fo lleoliad astudio'r myfyriwr.
8.1.2.
Yn ogystal, disgwylir i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau cyfranogiad/presenoldeb a bennir gan y Sefydliad Partner.
8.1.3.
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud elfen a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad nes yr adeg pan fyddant yn symud ymlaen i elfen ymchwil eu rhaglen.
8.2
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Ymchwil Ôl-raddedig a gyflwynir drwy bartneriaeth gydweithredol a’r Sefydliad Partner yw'r corff dyfarnu dim ond yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar gyfer y cyfnod pan fydd eu lleoliad astudio ym Mhrifysgol Abertawe a chaiff hynny ei fonitro ar sail 4 wythnos.
8.2.1.
Goruchwyliwr Prifysgol Abertawe fydd yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr yn y system RMS ar gyfer y cyfnod hwn yn unig.
8.2.2.
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud elfen a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir hyd nes yr adeg pan fyddant yn symud ymlaen i elfen ymchwil y rhaglen.
9. Ymchwilwyr Gwadd
9.1
Bydd Ymchwilwyr Gwadd sy'n gofrestredig yn y Brifysgol am gyfnod sy'n hwy nag un mis yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad i Fyfyrwyr Ymchwil. Bydd y Goruchwyliwr yn gyfrifol am gofnodi cyfranogiad.
9.2
Bydd Ymchwilwyr Gwadd yn destun y broses uwchgyfeirio am resymau diffyg cyfranogiad.
10. Y Broses Uwchgyfeirio ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Bydd myfyriwr sy'n absennol o gyfarfod goruchwylio neu gyfarfod ymgysylltu ag ymchwil yn destun proses uwchgyfeirio. Fe'i dyluniwyd i ail-ymgysylltu â myfyrwyr sydd wedi bod yn absennol o'u hastudiaethau i ddarganfod y rhesymau am yr absenoldeb ac i gynorthwyo myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau neu y gallai fod angen cefnogaeth benodol arnynt. Caiff y broses uwchgyfeirio ei dangos a'i hesbonio isod Bydd myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt gynt) hefyd yn destun monitro uwch fel y nodir yn y Polisi Monitro Cyfranogiad Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt):
Cam 0 – Myfyriwr wedi mynychu pob cyfarfod goruchwylio/ymgysylltu ag ymchwil mewn cyfnod o bedair wythnos.
Cam 1 - Mae'r myfyriwr wedi methu cyfarfod(ydd) goruchwylio neu ymgysylltu ag ymchwil am bedair wythnos. Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr, gan rybuddio am ganlyniadau diffyg cyfranogiad a gofyn iddo ailgysylltu â'i oruchwyliwr a/neu fynd i gyfarfod gyda thîm Profiad Myfyrwyr yr Gyfadran/Ysgol i drafod cymorth a chefnogaeth ychwanegol. Rhybuddir y myfyriwr y gall peidio â mynd i'r cyfarfod gael ei ystyried wrth benderfynu am ei ddyfodol os na fydd ymrwymiad yn gwella.
Cam 2 – Yn dilyn Cam 1, mae'r myfyriwr wedi methu cyfarfod(ydd) goruchwylio neu ymgysylltu ag ymchwil am gyfnod o bedair wythnos pellach. Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr gwrdd â Deon Cysylltiol (Ymchwil), neu enwebai, ei Gyfadran/Ysgol. Os yw'r myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod, gellir caniatáu iddo barhau fel myfyriwr, yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr Ymchwil, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig, neu enwebai, a chan ddibynnu ar ei esboniad ac ar dystiolaeth ategol a ddarperir.
Cam 3 – Bydd methu â mynychu wedyn yn golygu y bydd gofyn i'r myfyriwr dynnu'n ôl ym mhob achos oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Pan fydd ymrwymiad myfyriwr yn gwella, ni chysylltir ag ef oni bai ei fod yn gwaethygu unwaith eto. Mae pob cyfnod o bedair wythnos o bresenoldeb gwell yn golygu y bydd y myfyriwr yn disgyn un cam yn y broses uwchgyfeirio.
11. Adolygiad Gweinyddol
Yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol, gall myfyrwyr sy'n derbyn hysbysiad o dynnu'n ôl neu ataliad dros dro gan y Brifysgol gyflwyno cais am adolygiad terfynol o'r penderfyniad hwn. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno ffurflen Adolygiad Gweinyddol i'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr o fewn 5 niwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr/e-bost i'r myfyriwr yn cadarnhau'r penderfyniad i dynnu'n ôl neu atal dros dro. Caiff y ffurflen ei hadolygu gan Gyfadran/Ysgol y myfyriwr a'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn achos myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Y Cyfarwyddwr Cysylltiol: Gall Gweithrediadau Myfyrwyr neu eu henwebai adolygu achosion lle mae'r Gyfadran/Ysgol neu’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn parhau i argymell i dynnu'n ôl neu atal dros dro yn y cyfnod apelio. Bydd yr Adolygiad Gweinyddol yn golygu cwblhau gweithdrefnau mewnol y Brifysgol ar gyfer y Broses Monitro Cyfranogiad.