Polisi Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn Myfyrwyr
1. Cyflwyniad
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymo i feithrin cymuned gynhwysol, gyfartal ac amrywiol lle mae pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a'i gefnogi ar ei daith addysgol. Mae'r Polisi Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn y Myfyrwyr hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i greu amgylchedd sy'n hyrwyddo tegwch, cysylltiadau cadarnhaol, cyfleoedd teg, ac yn dathlu’r tapestri cyfoethog o hunaniaethau a phrofiadau yn ein poblogaeth o fyfyrwyr.
1.1
Mae'r polisi hwn yn ymrwymo i fabwysiadu dull croestoriadol, gan gydnabod cydgysylltiad hunaniaethau cymdeithasol amrywiol a'r heriau a'r cyfleoedd unigryw a gyflwynir ganddynt. Wrth ymdrechu i sicrhau fframwaith cynhwysfawr a chynhwysol, rydym yn cydnabod y gallai materion penodol sy'n ymwneud ag amgylchiadau a nodweddion personol penodol fod angen mentrau neu sylw ychwanegol neu wedi'u teilwra ar wahanol adegau. Mae'r ymrwymiad hwn yn sicrhau bod ein hymdrechion o ran hyrwyddo tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn parhau i fod yn rhagweithiol, dynamig ac yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gan ganiatáu i ni fynd i'r afael ag anghenion sy’n esblygu.
1.2
Mae ymrwymiad y Brifysgol i Degwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn i fyfyrwyr yn cael ei atgyfnerthu hefyd gan y polisïau a'r dogfennau canlynol:
Urddas yn y Gweithle ac Wrth Astudio
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028
Polisi Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhyw
2. Egwyddorion
Dylai'r egwyddorion hyn gael eu hymwreiddio ar gyfer datblygu ac adolygu polisïau yn y dyfodol.
2.1
Tegwch: Mae Prifysgol Abertawe’n ymroddedig i drin pob myfyriwr yn deg a chydag urddas, heb ystyried; oedran, anabledd, dosbarth, neu gefndir economaidd-gymdeithasol, hunaniaeth rhywedd, statws priodas a phartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhianta a gofalu, beichiogrwydd a mamolaeth, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred. Rydym yn ymrwymo i gyfleoedd teg ymhlith ein cymuned myfyrwyr a darpar fyfyrwyr. Rydym yn cydnabod bod taith pob myfyriwr yn wahanol, ac rydym yn ymrwymo i ddeall a mynd i'r afael â rhwystrau a allai effeithio'n anghymesur ar fyfyrwyr. Ein nod yw darparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pob myfyriwr i ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.
2.3
Amrywiaeth: Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu amrywiaeth ac yn cydnabod y cryfder sy'n dod o wahanol safbwyntiau a phrofiadau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd sy'n croesawu ac yn gwerthfawrogi cyfraniadau myfyrwyr o bob cefndir.
2.4
Cynhwysiant: Rydym yn ymroddedig i feithrin diwylliant cynhwysol sy'n mynd y tu hwnt i gynrychiolaeth yn unig. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i werthfawrogi. Mae'n golygu sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol a bod ganddynt fynediad teg at gyfleoedd.
2.5
Perthyn: Rydym am i bob myfyriwr deimlo ei fod yn cael ei groesawu a'i werthfawrogi yn y brifysgol. Dylai pob myfyriwr deimlo ei fod yn cael ei dderbyn, ei gynnwys a'i gysylltu fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae diffiniadau manwl o'r termau uchod yng Nghanllaw’r Brifysgol ar Dermau Cynwysoldeb.
3. Pwrpas
Pwrpas y polisi hwn yw creu profiad myfyrwyr sy'n gyfoethog yn ddiwylliannol, yn gynhwysol a seiliedig ar barch yn Abertawe.
Rydym yn cydnabod bod tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn allweddol i greu'r diwylliant hwnnw.
Dylai pum canlyniad a nodwyd yn sgil gweithredu'r polisi hwn fod fel a ganlyn:
3.1
Diwylliant Campws Cynhwysol
Canlyniad: Meithrin amgylchedd campws sy'n cofleidio amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynwysoldeb, gan feithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys mentrau sy'n dathlu ac yn cefnogi amrywiaeth ddiwylliannol, grefyddol a chymdeithasol.
3.2
Mynediad Teg i Gyfleoedd a Chymorth
Canlyniad: Sicrhau bod gan bob myfyriwr, waeth beth fo’i gefndir neu ei nodweddion personol, fynediad teg at gyfleoedd academaidd, chwaraeon, allgyrsiol a phroffesiynol. Ar yr un pryd, darparu gwasanaethau cymorth wedi'u teilwra sy'n darparu ar gyfer anghenion unigryw gwahanol grwpiau o fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu gweithredu mesurau i fynd i'r afael yn rhagweithiol ag unrhyw wahaniaethau rhwng myfyrwyr a lleihau unrhyw rwystrau i lwyddiant, gan gynnwys y bwlch gwahaniaethol o ran dyfarnu.
3.3
Cynrychiolaeth Amrywiol
Canlyniad: Cyflawni cynrychiolaeth amrywiol ar draws staff y brifysgol, cyhoeddiadau, digwyddiadau a deunyddiau hyrwyddo, gan dynnu sylw at yr hunaniaethau a'r profiadau amrywiol ymhlith y myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod naratif y brifysgol yn adlewyrchu cyfoeth ei chymuned mewn modd dilys.
3.4
Cwricwlwm Teg, Amrywiol, a Chynhwysol
Canlyniad: Sicrhau bod y cwricwlwm a'r amgylchedd addysgu wedi'u cynllunio i fod yn deg, yn amrywiol ac yn cynnwys pob myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori safbwyntiau, lleisiau a chyd-destunau diwylliannol amrywiol yng nghynnwys cyrsiau, meithrin amgylchedd sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniadau pob myfyriwr.
3.5
Addysg ac Ymwybyddiaeth Rhagweithiol
Canlyniad: Meithrin cymuned campws sy'n wybodus ac yn ymwybodol o faterion tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn. Gweithredu rhaglenni addysg a hyfforddiant parhaus er mwyn i fyfyrwyr a staff hyrwyddo dealltwriaeth, empathi, ac ymrwymiad ar y cyd i greu cymuned academaidd deg a chynhwysol.
3.6
Ymchwil ac Arloesi
Annog mentrau ymchwil sy'n cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o faterion Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn, gan sicrhau bod y brifysgol yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gwybodaeth ac arloesedd wrth feithrin amgylchedd cynhwysol.
4. Cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb y DU 2010
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymo i gydymffurfio'n llawn â Deddf Cydraddoldeb y DU 2010, gan gydnabod a chynnal y nodweddion gwarchodedig a amlinellir yn y ddeddfwriaeth hon. Y nodweddion hyn yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.
Mae ein polisïau, gweithdrefnau ac arferion yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn llym yn seiliedig ar y nodweddion hyn, gan sicrhau bod pob aelod o gymuned y brifysgol yn cael ei drin yn deg, yn gyfartal ac â pharch.
Yn ogystal, gyda'r polisi hwn, mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ymdrechu i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn seiliedig ar acen, pryd a gwedd, diwylliant, addysg, cyflogaeth, iaith gyntaf, cenedligrwydd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, cyflyrau iechyd parhaus hirdymor, rhianta a gofalu, a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Diffiniadau Allweddol:
4.1
Gwahaniaethu: Unrhyw driniaeth anghyfiawn neu niweidiol ar sail nodwedd warchodedig, neu nodweddion eraill a restrir ym mhwynt 4 y polisi hwn, gan arwain at driniaeth lai ffafriol neu anghyfartal.
Enghreifftiau:[1]
- Eithrio myfyriwr o ddigwyddiad prifysgol oherwydd ei fbod yn anabl, gan dybio y gallai fod angen darpariaeth ychwanegol arno nad yw trefnwyr y digwyddiad yn fodlon ei darparu.
- Gweithredu cod gwisg llym sy'n gwahardd gorchuddion pen, gan effeithio'n anuniongyrchol ar unigolion sy'n gwisgo gorchuddion pen crefyddol.
4.2
Aflonyddu: Ymddygiad digroeso sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig sy'n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu sarhaus i unigolion yr effeithir arnynt.
Enghreifftiau:
- Eithrio myfyriwr o gynulliadau cymdeithasol neu gydweithrediadau academaidd yn seiliedig ar eu hil neu ethnigrwydd, eu hynysu ac atal eu gallu i gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau'r brifysgol.
- Galw enw'n barhaus ac yn sarhaus wedi'i gyfeirio at fyfyriwr yn seiliedig ar ei gyfeiriadedd rhywiol, gan greu amgylchedd gelyniaethus ac anghyfforddus.
- Anfon negeseuon neu ddelweddau eglur na ofynnwyd amdanynt, sy'n ymwneud â nodweddion a restrir ym mhwynt 4 y polisi hwn, at gyd-fyfyriwr trwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan greu sefyllfa frawychus a thrallodus.
- Gwatwar myfyriwr yn barhaus am ei gredoau neu arferion crefyddol, gan achosi trallod emosiynol ac effeithio ar ei allu i gymryd rhan lawn ym mywyd y brifysgol.
- Gwrthod cydnabod enw neu ragenwau a ddewiswyd gan fyfyriwr traws a defnyddio ei enw blaenorol yn gyson, neu'r rhagenwau anghywir er gwaethaf cais penodol ganddo.
4.3
Erledigaeth: Trin unigolyn yn annheg neu'i drin yn niweidiol o ganlyniad iddo fynnu ei hawliau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 neu gefnogi eraill i wneud hynny.
Enghreifftiau:
- Cosbi myfyriwr am gyflwyno cwyn am arferion marcio gwahaniaethol, gan arwain at fwy o graffu a thriniaeth hallt mewn asesiadau dilynol.
- Tynnu sylw at fyfyriwr a gefnogodd hawliad gwahaniaethu un o'i gyfoedion am lwyth gwaith ychwanegol ac amserlennu anffafriol, gan wneud ei brofiad academaidd yn fwy heriol.
- Eithrio myfyriwr o ddigwyddiadau neu gyfleoedd prifysgol i ddial am gymryd rhan mewn gwrthdystiad gwrth-hiliol heddychlon yn y brifysgol.
- Gwadu mynediad myfyriwr i weithgareddau allgyrsiol ar ôl iddo roi tystiolaeth tyst i gefnogi cwyn un o'i gyfoedion am aflonyddu.
- Rhoi gradd is i fyfyriwr na'i haeddiant, dim ond oherwydd ei fod wedi lleisio pryderon am ddarpariaeth annigonol ar gyfer anabledd.
4.4
Micro-ymosodiadau: Mae micro-ymosodiadau yn fynegiant cynnil, anymwybodol yn aml o duedd neu ragfarn a allai gyfrannu at amgylchedd gelyniaethus. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o'u hiaith a'u gweithredoedd, gan geisio osgoi unrhyw niwed anfwriadol neu atgyfnerthu stereoteipiau. Dyma rai enghreifftiau o ficro-ymosodiadau:
- Ynganu enw'n anghywir yn barhaus heb unrhyw ymdrech i'w gael yn iawn.
- Cael eich holi "o ble ydych chi’n dod mewn gwirionedd" - rhagdybiaeth nad ydych chi'n Brydeiniwr.
- Cyffwrdd gwallt person du.
- Rhywun yn dweud wrthyt "dwyt ti ddim yn edrych fel rhywun Traws”.
- Rhywun yn dweud wrthyt "dwyt ti ddim yn ymddwyn fel rhywun Hoyw”.
- Gwneud dim ymdrech i ddefnyddio'r rhagenwau cywir, hyd yn oed pan ofynnir i chi wneud hynny.
- Rhywun yn dweud wrthyt "dwyt ti ddim yn edrych yn anabl”.
- Rhywun yn dweud wrthyt Rwyt ti'n gymaint o ysbrydoliaeth am oresgyn dy anabledd”.
4.5
Mae'r polisi hwn yn gyrru ein hymrwymiad i feithrin diwylliant campws cynhwysol, hyrwyddo cynrychiolaeth amrywiol, a chynnig mynediad teg i gyfleoedd a gwasanaethau cymorth. Rydym yn gweithio'n rhagweithiol i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd teg, a meithrin cysylltiadau da ymhlith holl aelodau ein cymuned academaidd. Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o ran bod yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariadau neu ddiwygiadau i'r Ddeddf Cydraddoldeb, gan ymgorffori newidiadau'n weithredol i gynnal cydymffurfiaeth a hyrwyddo ein hymroddiad i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
[1] Mae enghreifftiau'n ddarluniadol ac nid ydynt yn gynhwysfawr.
5. Disgwyliadau
Mae Prifysgol Abertawe'n rhoi pwyslais cryf ar greu cymuned gynhwysol a pharchus sy'n cynnal egwyddorion Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, disgwylir i bob myfyriwr ac aelod staff gyfrannu'n weithredol at amgylchedd campws cadarnhaol a chynhwysol.
5.1 Gwyliwr Gweithredol
Mae Prifysgol Abertawe'n annog myfyrwyr i fod yn gyfranwyr gweithredol i gymuned gynhwysol. Mae hyn yn golygu peidio â bod yn wylwyr goddefol wrth weld ymddygiad gwahaniaethol ond mynd ati i herio a mynd i'r afael â digwyddiadau o'r fath, pan fo'n ddiogel gwneud hynny. Caiff myfyrwyr eu hannog i fod yn gynghreiriaid ac eiriolwyr, gan feithrin amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth i unigolion a allai fod yn profi rhagfarn, micro-ymosodiadau, neu fathau eraill o ymddygiad gwahaniaethol.
5.2 Cymhwysedd Diwylliannol
Mae Prifysgol Abertawe'n gwerthfawrogi cymhwysedd diwylliannol fel agwedd hanfodol ar gymuned gynhwysol. Anogir myfyrwyr a staff i addysgu eu hunain, trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi a hyrwyddir, am wahanol ddiwylliannau, safbwyntiau a phrofiadau, gan feithrin amgylchedd lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn cael ei hyrwyddo.
5.3 Ymddygiad Seiliedig ar Barch
Disgwylir i fyfyrwyr ymddwyn gyda pharch ac yn gynhwysol, gan gydnabod a gwerthfawrogi amrywiaeth cymuned y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys ymatal rhag unrhyw fath o ymddygiad gwahaniaethol, rhagfarnllyd, sarhaus neu gyfathrebu tuag at unigolion neu grwpiau yn seiliedig ar eu nodweddion gwarchodedig neu bersonol, boed ar neu oddi ar y campws.
5.4 Adrodd am Ddigwyddiadau
Os bydd myfyrwyr yn profi unrhyw ddigwyddiadau sy'n mynd yn groes i egwyddorion Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn neu'n dyst iddynt, disgwylir iddynt adrodd am ddigwyddiadau o'r fath yn brydlon. Mae mecanweithiau adrodd yn hygyrch ac yn gyfrinachol, gan sicrhau bod pryderon yn cael sylw gyda sensitifrwydd a gofal. Mae Prifysgol Abertawe’n annog diwylliant o dryloywder ac atebolrwydd. Os bydd gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, neu ragfarn annheg yn digwydd, mae gan y brifysgol fecanweithiau adrodd cadarn ar waith.
Drwy gadw at y disgwyliadau hyn, mae myfyrwyr yn cyfrannu'n weithredol at greu amgylchedd prifysgol sy'n adlewyrchu gwerthoedd Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn. Credwn y bydd ymdrechion cyfunol ei myfyrwyr yn arwain at gymuned ddysgu fwy cynhwysol, parchus a chyfoethog.
5.4.1 Mecanweithiau Adrodd
Mae'r Ffurflen Adrodd a rhestr o gynghorwyr aflonyddu yn adran Atodiadau'r Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio.
Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i ymateb i bob adroddiad o fewn 10 diwrnod gwaith.
5.5 Cymorth
Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth i ddioddefwyr a gwylwyr gweithredol sydd i'w gweld ar dudalen y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr - ar wefan Prifysgol Abertawe.
6. Gweithredu
6.1 Cyfleusterau a Gwasanaethau Hygyrch
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymo i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sy'n darparu ar gyfer anghenion amrywiol ein myfyrwyr, gan gynnwys y rhai sy'n anabl ac yn niwroamrywiol.
Dylai'r holl gyfleusterau a gwasanaethau a gynigir gan neu mewn cysylltiad â'r Brifysgol gadw at y canllawiau a amlinellir yn y polisi hwn. Mae hyn yn cynnwys amgylcheddau dysgu, cyfleusterau arlwyo, gwasanaethau llety, darpariaethau chwaraeon, siopau manwerthu, yn ogystal â gweithgareddau cynadledda a chymdeithasol.
Mae'r ymrwymiad hwn yn ymestyn i sicrhau hygyrchedd ym mhob agwedd ar fywyd y brifysgol. Bydd y brifysgol yn ymgorffori egwyddorion dylunio cynhwysol wrth gynllunio a chynnal adeiladau a chyfleusterau, deunyddiau dysgu, a mannau byw, astudio a chymdeithasu.
6.2 Addysg a Hyfforddiant
Mae Prifysgol Abertawe’n ymroddedig i feithrin diwylliant campws sy'n hyddysg ac yn ymwybodol o faterion tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y brifysgol yn darparu rhaglenni addysg a hyfforddiant parhaus ar gyfer staff a myfyrwyr, er enghraifft:
- Rhaglen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cynnwys Myfyrwyr
- Rhaglen Cefnogi Myfyrwyr LHDT+
- Modiwl gwrth-hiliaeth
Nod y rhaglenni hyn yw gwella ymwybyddiaeth o faterion Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn, gan gwmpasu pynciau fel gwrth-hiliaeth, rhagfarn anymwybodol, cymhwysedd diwylliannol, a strategaethau ar gyfer meithrin diwylliant campws cynhwysol. Bydd staff sy'n wynebu myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn i alluogi amgylchedd cynhwysol yn y Brifysgol. Trwy fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant cynhwysfawr, mae Prifysgol Abertawe’n ceisio grymuso ei chymuned gyda'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyfrannu'n weithredol at amgylchedd sy'n gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth.
6.3 Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Byddwn yn parhau i werthuso effaith bosibl mentrau, polisïau a phrosesau ein myfyrwyr i fesur eu heffeithiau ar unigolion mewn perthynas â nodweddion a restrir ym mhwynt 4 y polisi hwn. Bydd defnyddio ein proses, asesiadau ac ymgynghoriadau o'r broses asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb sefydledig yn nwylo deiliaid polisi, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a/neu'r rhai sy'n goruchwylio ymarfer a gweithdrefnau. Bydd unrhyw asesiadau sy'n dangos effaith sylweddol (neu effaith debygol) ar allu'r Brifysgol i fodloni Dyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol y sector cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Brifysgol. Mae rhagor o wybodaeth am gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ar gael yma: Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
6.4 Mentora, Rhwydweithio, Cysgodi, a Phrofiad Gwaith/Cyfleoedd Interniaeth
Bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod teithiau maes, lleoliadau profiad gwaith/interniaeth, rhaglenni mentora, digwyddiadau rhwydweithio a chyfleoedd cysgodi, yn hygyrch ac yn ddiogel i bob myfyriwr. Wrth gynllunio'r cyfleoedd hyn, rhoddir ystyriaeth mewn perthynas â:
Chost – all myfyrwyr fforddio ei ariannu?
Hygyrchedd i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu
Cyfleoedd sydd wedi'u lleoli ymhell i ffwrdd o'r campws/dramor - a oes cyfle lleol neu yn y DU wedi’i ystyried?
Cydbwysedd ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill, e.e., gwaith, gofalu ac ati. Dylai'r mentrau hyn gael eu cynllunio i roi cipolwg gwerthfawr, arweiniad a phrofiadau ymarferol i fyfyrwyr, gan sicrhau mynediad teg at adnoddau datblygu gyrfa. Drwy hwyluso'r cyfleoedd hyn, mae'r brifysgol yn ceisio chwalu rhwystrau, hyrwyddo cynwysoldeb, a rhoi'r sgiliau a'r rhwydweithiau angenrheidiol i fyfyrwyr i lwyddo yn eu meysydd dewisol.
Bydd Prifysgol Abertawe'n dangos esiampl o gynghreiriaeth gweithredol drwy gefnogi myfyrwyr sy'n adrodd am wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth sy'n digwydd ar leoliad gwaith. Gall hyn gynnwys cael sgyrsiau anodd pan fo safonau cynwysoldeb yn is na'r disgwyliadau a amlinellir yn y ddogfen hon mewn sefydliad partner.
6.5 Dad-drefedigaethu'r Cwricwlwm: Sicrhau bod deunyddiau addysgu yn ddilys, yn gynrychioliadol ac yn amrywiol
Bydd Prifysgol Abertawe'n gwneud pob ymdrech i ddad-drefedigaethu'r cwricwlwm, drwy gymryd rhan mewn asesiad ac adolygu parhaus i ddarparu profiad addysgol sy'n gynhwysol ac sy'n adlewyrchu ehangder gwybodaeth ddynol, yn meithrin meddwl yn feirniadol, ac yn sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei werthfawrogi a'i gynrychioli yn ei daith academaidd.
6.6 Ehangu Cyfranogiad
Mae gan Brifysgol Abertawe ymrwymiad dwfn i ehangu cyfranogiad, gan ymdrechu i wneud addysg uwch yn hygyrch i unigolion o gefndiroedd amrywiol. Mae'r Brifysgol yn cymryd rhan weithredol mewn rhaglenni mynediad ac allgymorth, gan gynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i ddarpar fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd Prifysgol Abertawe, os oes angen, yn rhoi mesurau cadarnhaol wedi'u targedu ar waith i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth, gan gynnwys mentrau allgymorth wedi'u teilwra a rhaglenni cymorth. Rydym yn ymrwymo i weithio gydag ysgolion a chymunedau. Gydag ymrwymiad i gynyddu hygyrchedd, mae Prifysgol Abertawe'n ymgynghori'n rheolaidd â myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.
6.7 Monitro a Gwerthuso
Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymo i sicrhau effeithiolrwydd a pherthnasedd parhaus ei mentrau Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y brifysgol yn cynnal adolygiadau cydraddoldeb blynyddol, ac yn cyhoeddi eu canlyniadau yn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol, i fesur gwahanol ddangosyddion llwyddiant Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn a chael dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein hymdrechion, nodi meysydd i'w gwella, a dathlu llwyddiannau.
7. Troseddau Polisi
Mae Prifysgol Abertawe’n ystyried bod cadw at ei pholisi Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn i Fyfyrwyr yn hollbwysig i gynnal amgylchedd dysgu cynhwysol seiliedig ar barch. Bydd torri'r polisi hwn, p'un ai trwy weithredoedd gwahaniaethol, aflonyddu, neu fethu â chydymffurfio â'r disgwyliadau a amlinellir, yn cael eu trin o ddifrif.
Ar ôl cael gwybod am achos o dorri polisi, bydd y brifysgol yn cychwyn ymchwiliad i ganfod manylion y digwyddiad. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb a natur y drosedd, gellir cymryd camau disgyblu. Gall y camau hyn amrywio o ymyriadau addysgol a rhaglenni ymwybyddiaeth i ganlyniadau mwy difrifol, megis rhybuddion ffurfiol, cyfnod prawf, atal neu ddiarddel.
Bydd canlyniadau'n cael eu pennu trwy broses deg, gyfiawn a thryloyw, gan ystyried manylion pob achos. Mae'r brifysgol yn ymrwymo i gynnal cyfiawnder, gan sicrhau bod unigolion dan sylw yn cael cyfle i gyflwyno eu safbwynt yn ystod yr ymchwiliad.
Yn ogystal, mae'r brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd darparu cymorth i unigolion sydd wedi profi niwed oherwydd troseddau polisi. Bydd gwasanaethau cymorth, fel cwnsela ac arweiniad, ar gael i'r rhai sy'n cael eu heffeithio.
Mae Prifysgol Abertawe’n pwysleisio'r agwedd addysgol ar fynd i'r afael â thorri polisïau, gan ymdrechu i feithrin diwylliant o ddysgu a gwella parhaus. Trwy ganlyniadau clir ar gyfer troseddau polisi ac ymrwymiad i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt, nod y brifysgol yw atgyfnerthu pwysigrwydd cynnal gwerthoedd Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn ledled ei chymuned.
8. Adolygu ac Atebolrwydd
Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd a pherthnasedd parhaus y polisi Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn i Fyfyrwyr, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal adolygiad o'r polisi hwn yn flynyddol.
9. Casgliad
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn sylfaen i'n cenhadaeth. Trwy weithredu'r polisi Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn i Fyfyrwyr hwn, ein nod yw creu amgylchedd dysgu bywiog a chefnogol lle gall pob myfyriwr ffynnu a chyfrannu at amrywiaeth a chyfoeth ein cymuned academaidd.