Y System Tiwtora Personol
1. Y System Tiwtora Personol
1.1
Tiwtor Personol yw aelod o staff academaidd sy’n darparu arweiniad a chymorth at ddibenion datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol myfyrwyr ac mae’n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal bugeiliol mewn perthynas â lles myfyrwyr.
1.2
Rhaid i bob myfyriwr sy'n dilyn rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir fod â Thiwtor Personol a enwir.
1.3
Bydd gan bob Cyfadran/Ysgol System Tiwtora Personol sy'n bodloni gofynion y Brifysgol, a amlinellir yn adrannau 3 a 4 isod, ac sy'n darparu pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr drafod problemau sy'n effeithio ar eu cynnydd academaidd a'u datblygiad a'u lles personol.
1.4
Mae'r system Tiwtora Personol yn cynnig arweiniad a chymorth i fyfyrwyr gyda'u datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol. Yn ogystal â materion lles, mae hefyd yn fwriad bod Tiwtor Personol yn cefnogi'r gwaith o ddarparu adborth a chyngor i fyfyrwyr a datblygu eu sgiliau astudio fel y gall y myfyrwyr ddatblygu’n ddysgwyr mwy effeithiol.
2. Rôl y Gyfadran/Ysgol
2.1
Darparu gwybodaeth glir i fyfyrwyr a staff ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer Tiwtora Personol yn y Gyfadran/Ysgol.
2.2
Sicrhau bod trefniadau Tiwtora Personol yn bodloni holl ofynion y Brifysgol ar gyfer system Tiwtora Personol.
2.3
Sicrhau bod pob myfyriwr sy'n dilyn rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir yn cael Tiwtor Personol a enwir ar ddechrau ei raglen.
2.4
Lle bynnag y bo modd, dylai'r broses o benodi Tiwtoriaid Personol ystyried amrywiaeth y garfan myfyrwyr.
2.5
Dylid neilltuo Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg i fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
2.6
Dylid neilltuo Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg i bob myfyriwr sy'n siarad Cymraeg. Mewn achosion disgwyliol, megis nifer annigonol o staff sy'n siarad Cymraeg mewn maes pwnc, bydd Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg yn cael ei ddyrannu o'r Gyfadran ehangach, yn ogystal â Thiwtor Personol pwnc arbenigol o'r maes pwnc. Os yn bosibl, dylai myfyrwyr sy'n nodi nad ydynt yn rhugl gael eu gosod gyda Thiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg i alluogi'r myfyrwyr i ddefnyddio naill ai Cymraeg neu Saesneg yn eu trafodaethau.
2.7
Mewn perthynas â rhaglenni Cyd-anrhydedd a ddarperir gan fwy nag un Gyfadran/Ysgol, neilltuir Tiwtor Personol o bob Cyfadran/Ysgol.
2.8
Ystyried y gymhareb myfyrwyr/Tiwtoriaid Personol i sicrhau dyraniad teg, gan ystyried y llwyth gwaith yn ei gyfanrwydd.
2.9
Lle bynnag y bo modd, anogir Cyfadrannau/Ysgolion i benodi'r un Tiwtor Personol i'r myfyriwr am hyd ei raglen, lle bo'n addas.
2.10
Rhaid sicrhau bod Tiwtoriaid Personol newydd yn cael eu penodi ar gyfer myfyrwyr yn achos absenoldeb estynedig aelod o staff.
2.11
Rhaid penodi aelod(au) o staff gyda chyfrifoldeb am gydlynu’r trefniadau Tiwtora Personol y tu mewn i’r Gyfadran/Ysgol.
2.12
Rhaid penodi dau Uwch-diwtor Personol neu fwy i ddarparu arweiniad a chymorth i Diwtoriaid Personol a chynorthwyo wrth reoli materion cymhleth.
2.13
Sicrhau y darperir system briodol i fonitro trefniadau tiwtora personol yn effeithiol yn y Gyfadran/Ysgol.
2.14
Sicrhau y darperir gwybodaeth glir i fyfyrwyr am sut i wneud cais i newid Tiwtor Personol.
2.15
Sicrhau bod trefniadau yn eu lle i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio dramor neu sydd ar leoliadau diwydiannol, clinigol neu waith.
3. Rôl y Tiwtor Personol
3.1
Dylai Tiwtoriaid Personol gysylltu â'u myfyrwyr yn y lle cyntaf i drefnu dyddiadau ac amseroedd sesiynau mentora arfaethedig.
3.2
Dylai Tiwtoriaid Personol gynnig cyngor a chymorth i’r myfyrwyr y maent yn fentoriaid iddynt mewn materion sy’n ymwneud â chynnydd academaidd a datblygiad personol a’u helpu i ddod o hyd i gymorth gyda materion lles.
3.3
Dylai Tiwtoriaid Personol gynorthwyo eu myfyrwyr wrth adolygu eu cynnydd, eu sgiliau a'u cyflawniadau hyd yma.
3.4
Dylai Tiwtoriaid Personol roi gwybodaeth i'w myfyrwyr am ffynonellau cyfarwyddyd a chymorth eraill sydd ar gael yn y Brifysgol.
3.5
Mae Tiwtoriaid Personol yn cynnig arweiniad a chymorth i fyfyrwyr gyda'u datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol.
3.6
Dylai Tiwtoriaid Personol (neu aelod arall o staff y Gyfadran/Ysgol) gysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn mynychu cyfarfodydd â'u Tiwtor Personol ac os oes pryderon ynghylch eu cynnydd. Dylai myfyrwyr dderbyn e-bost personol os byddant yn colli apwyntiad gyda'u tiwtor personol.
3.7
Rhaid i Diwtoriaid Personol fod yn gyfarwydd â chyfarwyddyd y Brifysgol ar gyfrinachedd, yn ogystal ag unrhyw gyfarwyddyd a gyhoeddir gan gyrff proffesiynol a statudol.
3.8
Caiff Tiwtoriaid Personol ddarparu geirda ar gais rhesymol oddi wrth fyfyriwr, neu caiff gyfeirio'r myfyriwr at aelod arall o'r staff.
3.9
Dylai Tiwtoriaid Personol ymgyfarwyddo â ffynonellau cyngor a chymorth arbenigol o Wasanaethau Proffesiynol y Brifysgol, er enghraifft, o ran myfyrwyr ag anableddau, myfyrwyr rhyngwladol a materion diogelu.
3.10
Dylai Tiwtoriaid Personol gydnabod ffiniau eu rôl a cheisio cyfeirio myfyrwyr at ffynonellau cyngor a chymorth arbenigol lle bo hynny'n briodol.
4. Gofynion Tiwtora Personol
4.1
Bydd o leiaf bedwar cyfarfod Tiwtora Personol rhwng Tiwtoriaid Personol a'u myfyrwyr ym mhob sesiwn academaidd, yn cynnwys cydbwysedd cyfartal o sesiynau unigol a grŵp wedi'u rhannu'n gyfartal gydol y flwyddyn academaidd
4.2
Gall myfyrwyr gysylltu â'u Tiwtoriaid Personol i ofyn am gyfarfodydd Tiwtora Personol neu gyfarfodydd cyswllt ychwanegol i drafod materion personol.
4.3
Dylai Tiwtoriaid Personol hysbysu myfyrwyr yn glir am ddiben y cyfarfod er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr a'r tiwtoriaid personol yn cael gwerth a diben o'r cyfarfodydd.
4.4
Hefyd, caiff myfyrwyr ofyn am gyfarfod unigol gyda'i Diwtor Personol i drafod unrhyw anghenion a gofynion penodol sydd ganddo. Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion drefnu cyfarfodydd unigol â mentor o fewn cyfnod rhesymol.
4.5
Dylai Tiwtoriaid Personol drefnu cyfarfod os oes pryderon ynghylch presenoldeb neu gynnydd myfyriwr.
4.6
Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ofyn am gael newid Tiwtor Personol. Fodd bynnag, bydd ceisiadau lluosog i newid yn amodol ar ddisgresiwn y Deon Gweithredol (neu enwebai). Bydd ceisiadau'n ystyried nifer y myfyrwyr sydd wedi'u dyrannu i Diwtoriaid Personol.
5. Cyfrifoldebau Myfyrwyr
5.1
Mynychu cyfarfodydd gyda’r Tiwtor Personol, boed yn unigol neu mewn grŵp, gan roi gwybod i'w mentor ymlaen llaw os bydd amgylchiadau anorfod yn eu hatal rhag mynd i'r cyfarfod.
5.2
Defnyddio'r cyfarfod i drafod eu datblygiad personol ac academaidd.
5.3
Hysbysu Tiwtoriaid Personol a/neu staff y Gyfadran/Ysgol mewn Timau Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr Cyfadran sy'n cefnogi lles myfyrwyr am unrhyw amgylchiadau personol a allai fod yn effeithio ar bresenoldeb a chynnydd academaidd.
5.4
Datgan unrhyw anghenion am gymorth penodol gan y Brifysgol, a cheisio'r cyfryw gymorth.
5.5
Ymateb yn rhagweithiol i unrhyw adborth a chyfarwyddyd a ddarperir ac unrhyw gyfleoedd i wella datblygiad personol, gan gynnwys cyflogadwyedd.
5.6
Rhoi gwybod i'w Tiwtor Personol os byddant yn ei enwi fel canolwr at ddibenion ceisio am swydd neu at unrhyw ddibenion eraill. Ym mhob achos, rhaid i fyfyrwyr ddarparu gwybodaeth berthnasol i'r Tiwtor Personol ynghylch diben y geirda.
6. Monitro a Chofnodi
6.1
Dylai Cyfadrannau/Ysgolion ddefnyddio platfform(au) presennol y Brifysgol at ddibenion cynnal a monitro eu trefniadau Tiwtora Personol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun rhwymedigaethau'r Brifysgol o dan ei Thrwydded Fisâu a Mewnfudo y DU.
6.2
Dylai Cyfadrannau/Ysgolion fonitro trefniadau Tiwtora Personol hefyd drwy adolygu canlyniadau arolygon profiad myfyriwr y Brifysgol, a thrwy systemau monitro a gwerthuso perthnasol.
6.3
Dylid cadw cofnod i gadarnhau bod pob myfyriwr wedi mynychu'r sesiynau Tiwtora Personol. Dylid cadw cofnod i gadarnhau bod y myfyrwyr dan sylw wedi mynychu pob un o’r sesiynau tiwtora personol.
6.4
Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i wneud sylwadau ar effeithiolrwydd y trefniadau Tiwtora Personol, yn unol â gweithdrefnau sicrhau ansawdd y Brifysgol.
7. Cyfrinachedd a Diogelu Data
7.1
Ni ddylai Tiwtoriaid Personol ddatgelu gwybodaeth a ddarparwyd gan fyfyrwyr i drydydd parti heb gydsyniad y myfyriwr hwnnw ymlaen llaw. Mae trydydd partïon yn cynnwys teulu'r myfyriwr, ei ffrindiau, ei landlord ac ymholwyr eraill.
7.2
Mae eithriadau i hynny'n cynnwys sefyllfaoedd lle ystyrir bod perygl difrifol y bydd y myfyriwr yn niweidio rhywun arall neu'n niweidio ei hun, neu lle mae datgelu’r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
7.3
Rhaid i Diwtoriaid Personol fod yn ymwybodol bod y Ddeddf Diogelu Data yn rhoi hawl gyfreithiol i fyfyrwyr weld cofnodion o gyfarfodydd gyda Thiwtoriaid Personol.
7.4
Rhaid i Diwtoriaid Personol fod yn ymwybodol o ofynion cyrff proffesiynol a statudol o ran cyfrinachedd.
7.5
Gellir cysylltu â Swyddog Cydymffurfio'r Brifysgol am gyfarwyddyd ar ryddhau gwybodaeth a materion yn ymwneud â diogelu data.
8. Cymorth ar gyfer Tiwtoriaid Personol
8.1
Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau a chymorth i Uwch-diwtoriaid a Thiwtoriaid Personol. Dylid ystyried gofynion cymorth Tiwtoriaid Personol fel rhan o Adolygiad Datblygiad Proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus staff.
8.2
Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau ar-lein at ddefnydd Tiwtoriaid Personol i arwain, hysbysu a chefnogi staff sy'n ymgymryd â'r rôl hollbwysig hon. Bydd adnoddau'r Tiwtoriaid Personol yn codi ymwybyddiaeth o ofynion personol ac academaidd myfyrwyr a'r gwasanaethau cymorth amrywiol sy'n bodoli i helpu myfyrwyr yn y Brifysgol a'r tu allan iddi.
8.3
Bydd Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn darparu gwybodaeth i Diwtoriaid Personol i gefnogi datblygiad personol, sgiliau cyflogadwyedd a nodweddion myfyrwyr, a chynllunio gyrfa.
8.4
Bydd Academi Hywel Teifi yn darparu gwybodaeth a chymorth i Diwtoriaid Personol o ran darpariaeth a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg.
9. Tiwtoriaid Personol i Fyfyrwyr sy'n Dilyn Rhaglenni Israddedig ac Ôl-raddedig a Addysgir
Mae Polisi'r Brifysgol ar Diwtora Personol yn ei gwneud yn ofynnol i neilltuo Tiwtor Academaidd i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig y byddant mewn cysylltiedig ag ef fel aelod o’r staff addysgu. Bydd eich Tiwtor Personol yn rhoi arweiniad academaidd, cefnogaeth ar gyfer datblygiad personol a chymorth i ddod o hyd i gyngor ac arweiniad ar faterion lles i chi. O ganlyniad, mae'n bwysig iawn i chi gynnal cysylltiad â'ch Tiwtor Personol. Gallwch ddod o hyd i enw'ch Tiwtor drwy fynd i Fewnrwyd y Brifysgol. Os nad oes Tiwtor Personol wedi’i neilltuo i chi, cysylltwch â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr eich Cyfadran/Ysgol.
I grynhoi, mae’r Brifysgol yn disgwyl i Diwtor Personol:
- Ddarparu arweiniad a chymorth gyda datblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol.
- Cyfarfod â'i fyfyrwyr o leiaf bedair gwaith y flwyddyn mewn cydbwysedd cyfartal o sesiynau unigol a grŵp sydd wedi'u rhannu'n gyfartal gydol y flwyddyn academaidd.
- Dylai Tiwtoriaid Personol gydnabod ffiniau eu rôl a cheisio cyfeirio myfyrwyr at ffynonellau cyngor a chymorth arbenigol lle bo hynny'n briodol:;
- Bydd y berthynas rhwng myfyriwr a thiwtor personol yn aros yn gyfrinachol yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol gan gynnwys Pennod 3, Adran B y Canllaw i GDPR a Chaniatâd Lles, a Deddfau Seneddol perthnasol a gofynion cyrff proffesiynol a chyrff statudol;
- Ni ddylai Tiwtoriaid Personol ddatgelu gwybodaeth a ddarparwyd gan fyfyrwyr i drydydd parti heb gydsyniad y myfyriwr ymlaen llaw. Mae eithriadau i hynny'n cynnwys sefyllfaoedd lle ystyrir bod perygl difrifol y bydd y myfyriwr yn niweidio rhywun arall neu'n niweidio ei hun, neu lle mae datgelu’r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Dylai myfyrwyr:
- Rannu gwybodaeth a allai effeithio ar gynnydd academaidd gyda Thiwtoriaid Personol a/neu Dimau Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr Cyfadrannau, gan gynnwys absenoldebau, perfformiad, anabledd, materion meddygol a lles. Anogir myfyrwyr yn gryf i wneud hyn er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth priodol yn ystod eu hamser yn Abertawe, ac fel y tynnir sylw Tiwtoriaid Personol, a, lle bo’n briodol, Pwyllgor Amgylchiadau Eithriadol y Gyfadran/Ysgol, at amgylchiadau o’r fath;
- Mynychu'r holl gyfarfodydd grŵp ac unigol gyda’u Tiwtor Personol a rhoi esboniadau derbyniol, ymlaen llaw, am unrhyw absenoldeb nad oes modd ei osgoi;
- Cynnal eu cynlluniwr datblygiad personol eu hunain a chyfrannu at weithgareddau cynllunio a drefnir yn y cyfarfod gyda’r Tiwtor Personol;
- Hysbysu eu Tiwtor Personol os cânt eu harestio neu os byddant yn derbyn rhybudd am unrhyw drosedd yn ystod eu cyfnod wedi'u cofrestru fel myfyriwr.
Yn ystod cyfnod eich astudiaethau, efallai y byddwch am fynd ar drywydd materion pellach gydag aelodau staff y tu allan i'r Gyfadran/Ysgol. Mewn achosion o'r fath, byddai disgwyl i chi gysylltu â staff y Cyfarwyddiaethau Bywyd Myfyrwyr a Gwasanaethau Addysg a allai eich helpu.