2.1
Rhaid i ymgeisydd ar gyfer Elfen Doethuriaeth y radd Doethuriaeth Athroniaeth (integredig +2) fod â gradd gychwynnol o un o brifysgolion y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd ac mae’n rhaid iddo gwblhau elfen Gradd Meistr a Addysgir ac elfen Gradd Meistr Ymchwil y rhaglen yn olynol, a llwyddo ynddynt, cyn iddo barhau i ymgymryd ag elfen doethuriaeth y rhaglen yn ffurfiol. Gall ymgeiswyr gofrestru dros dro ar gyfer yr elfen Doethuriaeth ar ôl iddynt gyflwyno elfen Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd yr elfen Gradd Meistr Ymchwil, yn unol â'r rheoliad ar gofrestru cydamserol, hyd at gyfnod hwyaf o dri mis.
2.2
Er mwyn symud ymlaen yn ffurfiol i elfen Doethuriaeth y rhaglen, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau holl fodiwlau'r elfen Meistr yn llwyddiannus (ar yr ymgais gyntaf neu'r ail ymgais) a chyflwyno'r gydran dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
AC
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lwyddo ym mhob modiwl yr elfen Gradd Meistr Ymchwil, gan ennill 60% neu fwy mewn dros hanner o’r modiwlau a addysgir yn ôl nifer y credydau, a chan ennill 60% yn nhraethawd hir y Radd Meistr Ymchwil.
2.3
Bydd gan unrhyw ymgeisydd y mae angen iddo ailgyflwyno’r elfen Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd un cyfle arall i lwyddo. Rhaid i ymgeiswyr felly lwyddo ar yr ail gynnig a bydd gofyn iddynt gychwyn ar yr Elfen Doethuriaeth yn ystod y pwynt mynediad nesaf a geir.
Darperir cefnogaeth i ymgeiswyr sy’n cyflwyno amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar hyd yr ymgeisyddiaeth fel rhan o’u helfen Gradd Meistr Ymchwil a byddant yn gallu dewis gohirio eu hastudiaethau.
Caiff unrhyw ymgeisydd sy’n methu â chwblhau’r elfen Gradd Meistr Ymchwil ar y cynnig cyntaf neu ar yr ail gynnig ei dynnu’n ôl o’r rhaglen PhD (integredig).
2.4
Gwneir y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen ymchwil arfaethedig gan Deon Gweithredol perthnasol neu Diwtor Derbyn y Gyfadran/Ysgol berthnasol gan rywun a enwebwyd ganddo. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:
- A yw’r Gyfadran/Ysgol yn fodlon bod yr ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i allu cwblhau’r rhaglen ymchwil a fwriedir, waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd;
- A yw’r testun ymchwil a ddewiswyd gan yr ymgeisydd yn addas i’w astudio yn y dyfnder sydd ei angen ar gyfer y radd;
- A allai aelod priodol o’r staff ddarparu goruchwyliaeth ddigonol yn unol â pharagraff 7;
- A oes adnoddau a chyfleusterau addas ar gael i gynnal a chefnogi’r rhaglen ymchwil arfaethedig;
- A yw’n ymddangos yn rhesymol y gellid cwblhau’r rhaglen arfaethedig o fewn y cyfnod byrraf posibl a bennwyd.
- A yw'r ymgeisydd yn cwrdd â'r cymhwysedd iaith Saesneg gofynnol a amlinellir yn 2.3.
Pan fydd yr ymgeisydd yn bodloni’r holl ofynion i gofrestru (yn unol â Rheoliad 3.1) oni bai am ofynion llywodraethu matriciwleiddio’r Brifysgol, gall yr ymgeisydd, yn ôl disgresiwn y Swyddfa Derbyn, gael caniatâd i gofrestru dros dro am gyfnod penodol o amser, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn cytuno i fodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio erbyn y dyddiad a bennir gan y Swyddfa Dderbyn. Os yw’r ymgeisydd wedyn yn methu â bodloni gofynion llywodraethu matriciwleiddio’r Brifysgol erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Swyddfa Dderbyn, bydd y cofrestriad dros dro yn dod i ben, ac ystyrir nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru, a bydd Rheoliad 15.6 isod yn berthnasol.
2.5 Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion o ran Fisâu
Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae arnynt angen fisa i astudio yn y Brifysgol fod yn ymwybodol bod eu gallu i barhau i astudio yn y Brifysgol yn dibynnu ar fodloni amodau eu fisa a’r terfynau amser a bennwyd gan Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). I gael rhagor o wybodaeth cyfeirier at https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/student-visas.
2.6
Bydd penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn cael eu gwneud yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol ac ni fyddant yn cael eu goleuo gan gyfyngiadau fisa a therfynau amser a bennwyd gan wasanaeth Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI)
International@CampusLife.