4.1
Bydd cyfnod hwyaf posibl ymgeisiaeth ar gyfer ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglen Diploma Ôl-raddedig fel a ganlyn:
Amser llawn: Dim mwy na dwy flynedd wedi dyddiad dechrau’r rhaglen.
Rhan-amser: Dim llai na dwy flynedd a dim mwy na thair blynedd wedi dyddiad dechrau’r rhaglen
Y cyfnod ymgeisyddiaeth i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r PGDip Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymweliadau Iechyd/Nyrsio Ysgol) rhan-amser am dair blynedd neu'r PGDip Astudiaethau Iechyd Cymunedol, y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal fydd pedair blynedd.
4.2
O fewn y terfynau amser cyffredinol hyn, gall y Cyfadrannau/Ysgolion bennu terfynau amser byrrach ar gyfer rhaglenni astudio unigol.
4.3
Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol yn unol â’r rheoliadau a amlinellir yn Adran 5.