Rheoliadau galluogi yw'r rhain. Cyhoeddir rheoliadau penodol ar gyfer rhaglenni penodol yn y llawlyfr priodol.
Rheoliadau Galluogi Academaidd ar gyfer Rhaglenni Meistr ar y Cyd
1. Cyflwyniad
1.1
Drwy'r rheoliadau hyn, gellir rhoi dyfarniadau ar y cyd, dwbl a lluosog i ymgeiswyr sy'n cwblhau rhaglen astudio gymeradwy'n llwyddiannus, a ddarperir ar sail amser llawn gan Brifysgol Abertawe a phartner neu bartneriaid cydweithredol. Diffinnir natur dyfarniadau ar y cyd a dwbl yn glir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn
joint-degree-characteristics-15.pdf (qaa.ac.uk)
1.2
Rhaid i bob ymgeisydd a fydd yn astudio rhan o'i gwrs yn Abertawe gofrestru'n ymgeisydd Prifysgol Abertawe ar ddechrau'r rhaglen gan dalu'r ffioedd priodol naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r sefydliad partner.
1.3
Gall ymgeiswyr a dderbynnir i raglen Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir ar y Cyd gymhwyso ar gyfer dyfarniadau interim gan Brifysgol Abertawe, fel y'i dangosir yn Rheoliad 14.7, ar yr amod eu bod wedi astudio'r modiwlau priodol yn Abertawe.
2. Amodau Derbyn
D.S. Dyma'r gofynion lleiaf am fynediad. Caiff rhaglenni unigol osod gofynion llymach na'r rhai a nodir islaw.
2.1
Oni bai fod ymgeiswyr yn gallu bodloni Rheoliad 2.3 isod, rhaid iddynt feddu ar un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau'r rhaglen:
a. gradd gychwynnol/cylch cyntaf gan sefydliad partner; gradd neu gymhwyster cyfwerth a ddyfarnwyd gan gorff arall sy'n dyfarnu graddau.
b. cymhwyster nad yw'n radd y mae'r Brifysgol a'r sefydliad(au) partner/aelodau'r consortiwm wedi tybio ei fod o safon ddigonol at ddibenion derbyn i gwrs ôl-raddedig.
2.2
Ni chaiff ymgeiswyr amser llawn fod yn gofrestredig, ar yr un pryd, ar raglen radd wahanol sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn Abertawe neu brifysgol/sefydliad arall, heb ganiatâd penodol Bwrdd Astudiaethau'r Consortiwm (neu Gadeirydd y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau a’r corff gofynnol yn y sefydliad partner fel y bo’n briodol’).
2.3
Rhaid i ymgeiswyr rhaglenni sy'n destun y rheoliadau hyn nad oes ganddynt radd israddedig feddu ar gymhwyster nad yw'n radd, a phrofiad gwaith neu brofiad arall sylweddol y mae'r Dewiswyr Derbyniadau yn tybio ei fod yn briodol ar gyfer derbyn myfyriwr i’r rhaglen berthnasol. Ni chaniateir derbyn ymgeiswyr i raddau ar y cyd drwy brosesau heblaw am y rhai traddodiadol oni bai fod modd i bob aelod o'r Consortiwm awdurdodi proses dderbyn o'r fath.
2.4
Waeth beth yw cymwysterau mynediad ymgeisydd, rhaid i’r sefydliadau partner fod yn fodlon bod ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd sy’n ofynnol i gwblhau’r rhaglen astudio arfaethedig.
2.5
Cyn derbyn ymgeisydd i’r rhaglen astudio, rhaid i'r Dewiswyr Derbyn sicrhau ei fod yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar sgôr IELTS o 6.5 neu'n well. (Fodd bynnag, caiff rhaglenni unigol osod gofynion llymach o ran iaith lle bynnag y bo'n briodol).
2.6
Os caiff modiwlau eu haddysgu mewn iaith arall, rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedredd yn yr iaith honno hefyd, yn unol ag unrhyw ofynion partner(iaid) y Consortiwm.
2.7
Rhaid i ymgeiswyr ddatgelu unrhyw broblem o ran cymeriad neu addasrwydd, yn unol â gofynion Bwrdd Astudiaethau'r Consortiwm neu ofynion eraill, mewn perthynas â'u rhaglen astudio. Cyfrifoldeb ymgeiswyr yw darparu unrhyw dystiolaeth sydd, yn eu tyb, yn angenrheidiol ac yn briodol i alluogi penderfynu ar eu cais. Os nad yw ymgeisydd yn datgelu problem o ran cymeriad neu addasrwydd, neu dystiolaeth o'r problemau hynny fel y bo'n angenrheidiol ac yn briodol, gellir tynnu'r ymgeisydd yn ôl neu gellir gwrthod ei dderbyn i raglen astudio.
2.8
Matriciwleiddio yw'r broses o gadarnhau bod ymgeisydd wedi bodloni'r meini prawf derbyn ffurfiol (e.e. drwy gyflwyno dogfennaeth a thystysgrifau perthnasol). Fel arfer, bydd hyn yn digwydd cyn i'r ymgeisydd gael ei dderbyn yn ffurfiol i raglen astudio sy'n arwain at radd gan y Brifysgol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd heb fatriciwleiddio o'r blaen gwblhau’r ffurflen briodol a darparu tystiolaeth o’u gradd neu gymhwyster cyfwerth ar ffurf tystysgrif wreiddiol neu ddatganiad swyddogol gan y sefydliad dyfarnu neu gorff arall. Os nad yw ymgeisydd yn matriciwleiddio, ni fydd yn gymwys i gael ei arholi, gellir ei atal rhag parhau â'r ymgeisyddiaeth ar gam priodol yn y flwyddyn academaidd.
3. Trosglwyddo Credydau
3.1
Oherwydd natur rhaglenni ar y cyd, fel arfer disgwylir i ymgeiswyr sy'n cofrestru ar y rhaglen ar y cyd ddilyn y rhaglen gyfan, gan astudio'r modiwlau a bennwyd. Fodd bynnag, weithiau bydd sefydliadau partner, mewn achosion eithriadol, yn ystyried derbyn credydau perthnasol a gronnwyd mewn sefydliad arall neu fel rhan o raglen dyfarniad sengl a gynigir gan un o sefydliadau partner y Consortiwm.
3.2
Nid oes modd derbyn credydau am ran o fodiwl. Rhaid bod digon o gredydau, ar y lefel briodol, i ganiatáu eithrio'r myfyriwr rhag un neu fwy o fodiwlau cyfan o fewn y rhaglen, a rhaid i fodiwlau a ddilynwyd mewn sefydliad arall gyfateb i fodiwl a gynigir ar y rhaglen.
4. Dyddiadau Dechrau
4.1
Bydd rhaglenni sy'n gweithredu yn unol â'r rheoliadau hyn fel arfer yn cynnig un dyddiad dechrau i bob carfan a hynny ym mis Medi fel rheol. Rhaid i holl lenyddiaeth y rhaglen amlygu'r dyddiadau derbyn penodol.
5. Cofrestru
5.1
Er mwyn cael eu cydnabod fel ymgeiswyr, bydd yn ofynnol i'r holl ymgeiswyr gofrestru yn unol â'r cyfarwyddiadau cofrestru ar gyfer y rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru a bennwyd. Disgwylir i ymgeiswyr gofrestru yn un neu ragor o sefydliadau partner y Consortiwm.
5.2
Er mwyn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bynnag y bo'n briodol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion y rhaglen benodol.
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio.
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
Bydd methu cofrestru o fewn y cyfnod cofrestru a bennwyd yn golygu y daw cyfnod yr ymgeisyddiaeth i ben a chaiff yr ymgeisydd ei dynnu’n ôl o’r rhaglen astudio.
5.3
Bydd y sefydliadau partner yn cofnodi manylion yr ymgeiswyr ar gyfer graddau yn unol â'u gweithdrefnau, a byddant yn cyfnewid manylion yn rheolaidd.
6. Strwythur y Rhaglenni
6.1
Bydd y rhaglen yn rhaglen astudio integredig sy'n cael ei chynnig gan Gonsortiwm o bartneriaid addysg uwch. Yn achos graddau Meistr Erasmus Mundus, bydd partneriaid y Consortiwm yn cynnwys o leiaf tri sefydliad addysg uwch o dair aelod-wladwriaeth Ewropeaidd wahanol.
6.2
Mae rhaglen astudio integredig yn rhaglen sy'n gallu dangos:
- Meini prawf ar y cyd ar gyfer derbyn ac arholi. Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am raglen sengl â safonau derbyn cyffredin, proses ymgeisio gyffredin, a phroses ar y cyd ar gyfer dewis ymgeiswyr. Dylai pob sefydliad yn y Consortiwm gydnabod canlyniadau arholiadau a basiwyd yn un o sefydliadau eraill y consortiwm yn llawn ac yn awtomatig.
- Integreiddio cyrsiau. Bydd cwricwlwm a luniwyd ar y cyd neu bydd y Consortiwm yn cydnabod yn llawn cyrsiau a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd ar wahân, ond sydd rhyngddynt yn gwneud cwrs safonol ar y cyd.
- Symudedd. Rhaid i ymgeiswyr astudio yn o leiaf dau o'r sefydliadau sy'n rhan o'r Consortiwm. Rhaid bod darpar ymgeiswyr yn ymwybodol o drefn y cyfnodau astudio sydd i'w treulio yn y gwahanol sefydliadau a'r cyfuniadau symudedd amrywiol wrth gyflwyno cais am y cwrs. Ni chaiff ymgeiswyr dreulio mwy na 70% o'r cyfnod nac ennill mwy na 70% o'r credydau, mewn unrhyw sefydliad unigol.
- Gwarant o ddyfarnu gradd ar y cyd neu ddwbl gydnabyddedig adeg graddio.
6.3
Bydd rhaglenni'n para dwy flynedd.
6.4
Bydd y rhaglenni sy'n arwain at y dyfarniadau hyn yn seiliedig ar 120 o gredydau ECTS (cyfwerth â 240 o gredydau Prifysgol Abertawe) a chânt eu haddysgu ar sail amser llawn dros ddwy flynedd academaidd. Dynodir 30 o'r 120 credyd ECTS i'r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
6.5
Pennir deilliannau dysgu ar gyfer pob rhaglen Meistr ac unrhyw raglen y bwriedir iddi ddarparu cymhwyster canolraddol neu gymhwyster wrth gefn.
6.6
Pennir deilliannau dysgu ar gyfer pob modiwl sy'n cyfrannu at y rhaglen astudio. Gellir dynodi modiwlau'n rhai gorfodol neu ddewisol. Gellir dynodi modiwlau'n rhai 'craidd' hefyd. Nid yn unig y mae'n rhaid dilyn y modiwlau craidd ond mae'n rhaid eu pasio hefyd cyn i ymgeisydd allu symud ymlaen i’r cam astudio nesaf neu gymhwyso i dderbyn dyfarniad.
6.7
Bydd pob modiwl ar gyfer unrhyw gymhwyster a gynigir dan y rheoliadau hyn yn cyfateb i Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
7. Llawlyfr
7.1
Rhoddir llawlyfr i'r holl ymgeiswyr wrth iddynt ddechrau astudio neu cyn hynny. Bydd y llawlyfr yn egluro strwythur y rhaglen, gan gyfeirio'n benodol at natur gydweithredol y rhaglen ac yn amlinellu gofynion asesu pob modiwl. Lle bynnag y bo modd, dylai'r llawlyfr ddarparu dyddiadau arholiadau a dyddiadau cyflwyno gwaith i'w asesu hefyd. Yr egwyddor bennaf ym mhob achos yw sicrhau bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol o ofynion asesu'r rhaglen, a bod ganddynt ddigon o amser i baratoi a chwblhau gwaith i'w asesu o fewn telerau'r rhaglen a ymeradwywyd. Y manylion lleiaf a fydd yn ofynnol fydd y rhai y cytunwyd arnynt gan aelodau'r Consortiwm. Adolygir llawlyfrau bob blwyddyn.
7.2
Bydd y llawlyfr yn darparu arweiniad hefyd ar ofynion y darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, gan gynnwys cyngor ar y meini prawf asesu a ddefnyddir a'r arferion cyfeirnodi sydd i'w defnyddio i osgoi llên-ladrad.
8. Terfynau Amser
8.1
Bydd y rhaglen radd lawn, gan gynnwys y broses o gyflwyno’r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn y fformat a bennir, yn cael ei chwblhau o fewn y cyfnodau canlynol o'r dyddiad cofrestru cychwynnol:
Rhaglenni 2 flynedd (120 credyd ECTS/ 240 credyd Abertawe) |
Fel arfer o fewn 24 mis, ond heb fod yn hwy na 48 mis |
8.2
Fel arfer, tybir bod ymgeisydd wedi methu'r radd os nad yw'n cyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau a bennwyd ar gyfer y rhaglen ac os na fydd wedi cael estyniad oherwydd amgylchiadau esgusodol.
9. Estyn Ymgeisiaeth
9.1
Mae gan bob rhaglen gyfnod ymgeisiaeth hwyaf posib. Bwriad y cyfnod hwyaf posibl yw sicrhau bod ymgeiswyr y torrwyd ar draws eu hastudiaethau am ba reswm bynnag yn gallu cwblhau eu gradd. Rhaid i ymgeiswyr geisio cwblhau eu rhaglen erbyn y dyddiadau cau a bennir ar gyfer y rhaglen. Bydd ymgeisiaeth yn dirwyn i ben (felly ni fydd modd arholi'r ymgeisydd) os na chwblheir y rhaglen o fewn terfynau amser y Brifysgol.
9.2
Mewn achosion eithriadol yn unig, gellir estyn y terfyn amser i gwblhau'r radd. Rhaid cyflwyno cais rhesymegol, wedi'i gefnogi gan dystiolaeth annibynnol briodol, a'i gymeradwyo gan Gyfarwyddwr y Rhaglen neu ei enwebai dynodedig a swyddogion priodol sefydliad(au) y Consortiwm. Nodir y meini prawf am estyniad o'r fath yn 9.3 isod.
9.3
Caiff ceisiadau am estyniad eu hystyried yn unol â'r meini prawf canlynol:
(a) Fel arfer, cymeradwyir cais i ohirio astudiaethau neu am estyniad ar seiliau tosturiol yn unig; neu yn achos salwch, anawsterau teuluol difrifol neu ymrwymiadau eithriadol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid cyflwyno cais rhesymegol llawn, wedi'i gefnogi gan dystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall briodol a boddhaol, a'i gymeradwyo gan Gyfarwyddwr y rhaglen neu'r swyddog dynodedig, yn y lle cyntaf, ac wedi hynny gan bwyllgor priodol y sefydliad sy'n dyfarnu'r radd.
(b) Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
(i) Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol neu dystiolaeth ddogfennol berthnasol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch fel y'u disgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.)
(ii) Rhaid darparu datganiad clir, sy'n dangos bod y sefyllfa wedi'i hasesu ac y tybir ei bod yn briodol rhoi'r estyniad y gwneir cais amdano. Bydd datganiad o'r fath, lle bynnag y bo'n bosib, yn dilyn cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r sefydliad.
9.4
Ni chaniateir estyniad i ymgeiswyr sy'n ailgyflwyno darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
10. Gohirio Astudiaethau
10.1
Caiff ceisiadau i ohirio astudiaethau eu hystyried a'u cefnogi gan Gyfarwyddwr y Rhaglen ac wedi hynny gan reoliadau'r Brifysgol berthnasol ynghylch gohirio astudiaethau.
10.2
Bydd Bwrdd Astudiaethau'r Consortiwm yn derbyn adroddiadau am ymgeiswyr sy'n gohirio astudiaethau neu'n tynnu'n ôl, ac yn gweithredu fel y bo'n briodol.
11. Monitro Cynnydd a Ymgysylltu
11.1
Disgwylir i ymgeiswyr fynd i holl sesiynau dysgu cynlluniedig y modiwl maent wedi dewis ei ddilyn.
11.2
Caiff ymgysylltu ei fonitro yn unol â pholisïau partner y Consortiwm lle mae'r ymgeisydd yn astudio.
11.3
Caiff cynnydd ei fonitro drwy drafodaethau rheolaidd â thiwtoriaid a thrwy fyrddau arholi.
12. Absenoldeb Ymgeiswyr
12.1
Dylai ymgeiswyr roi gwybod am absenoldebau a'r rhesymau drostynt i Gydlynydd y Rhaglen yn y sefydliad lle maent yn astudio.
13. Trefniadau Arbennig
13.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Sefydliad neu'r Sefydliadau perthnasol am unrhyw anabledd neu amgylchiadau esgusodol y gall fod angen darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno'r dogfennau priodol i ategu hyn. Gyda chaniatâd yr ymgeisydd, rhennir gwybodaeth o'r fath rhwng y sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod pob sefydliad yn ymwybodol o anghenion unigol a bydd gweithdrefnau'r sefydliad lle mae'r ymgeisydd yn astudio'n berthnasol.
14. Rheoliadau Asesu
14.1
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau'r rhaglen astudio yn unol â'r Rheoliadau Asesu ar gyfer y rhaglen a'r dyfarniad dan sylw. Bydd y rheoliadau asesu ar gael i ymgeiswyr yn llawlyfr y rhaglen.
14.2
Mae'n rhaid i ymgeiswyr ennill marc heb fod yn llai na 50% (neu radd gyfwerth a ddefnyddir mewn sefydliad partner) i ennill y credydau a gynigir am unrhyw fodiwl.
14.3
Mae'n bosib y bydd yn ofynnol hefyd i ymgeisydd ddangos i'r bwrdd arholi perthnasol ei fod wedi cwblhau unrhyw gyfnod hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol yn foddhaol.
14.4
Bydd rhaid i'r Consortiwm gytuno ar dabl trosi am farciau/graddau, a'i ddarparu i ymgeiswyr.
14.5
Gall y Consortiwm gytuno ar ddull dyfarnu dosbarth ar gyfer Gradd Meistr. Os yw'n berthnasol, darperir manylion y dull a ddefnyddir i ymgeiswyr. Er mwyn ennill Gradd Meistr â Theilyngdod ym Mhrifysgol Abertawe, bydd rhaid i ymgeisydd ennill marc cyffredinol cyfartalog heb fod yn llai na 60% am y rhaglen gyfan. Er mwyn ennill Gradd Meistr â Rhagoriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, bydd rhaid i ymgeisydd ennill marc cyffredinol heb fod yn llai na 70% am y rhaglen gyfan.
14.6
Lle mae tystysgrif gradd sengl i'w dyfarnu gan y ddau bartner/yr holl bartneriaid, gellir caniatáu gradd heb ddosbarthiad lle bo hynny'n ofynnol gan ddeddfwriaeth gwlad y sefydliad partner. Mewn achosion o'r fath, cofnodir canlyniadau ar Atodiad y Diploma/E-HEAR.
14.7
Os yw ymgeisydd yn cael ei dderbyn i raglen, ond os nad yw'n gallu cwblhau'r rhaglen, neu os na chaniateir iddo wneud hynny, mae'n bosib y bydd yn gymwys am ddyfarniad ymadael gan Brifysgol Abertawe, ar yr amod bod yr ymgeisydd wedi astudio'r modiwlau neu gyfran gytunedig o'r modiwl(-au), ac wedi ennill credydau gan Brifysgol Abertawe. Gellir ystyried dyfarnu un o'r cymwysterau ymadael canlynol gan Brifysgol Abertawe i ymgeisydd o'r fath:
Credydau a enillir ar Lefel M | Gall ymgeisydd adael y rhaglen yn gymwys i dderbyn: |
---|---|
30 Credyd ECTS o leiaf | Tystysgrif Ôl-raddedig |
60 credyd ECTS o leiaf | Diploma Ôl-raddedig |
15. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
15.1
Mae pob sefydliad partner yn gyfrifol am safonau academaidd y dyfarniad ac felly, gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarnu marciau, dosbarthiadau a graddau gan y bwrdd arholi priodol yn y sefydliad partner. Gall Consortiwm sefydlu ei fyrddau arholi ei hun, ond rôl ymgynghorol fydd gan y byrddau hyn a byddant yn gwneud argymhellion i fyrddau arholi sefydliadau, ond bai fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo iddynt weithredu ar ran y sefydliadau partner.
15.2
Bydd pob bwrdd arholi yn y Consortiwm yn enwebu Cadeirydd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi'r gwaith wedi'u bodloni.
15.3
Bydd byrddau arholi'n gyfrifol am sicrhau bod y rheolau a'r rheoliadau ynghylch cynnydd wedi cael eu gweithredu'n gyson a bod safonau'n cael eu cynnal.
15.4
Dylid cofnodi cyfarfodydd byrddau arholi a dylai'r adrannau perthnasol yn sefydliadau'r Consortiwm gadw'r cofnodion. Dylai'r cofnodion gynnwys sylwadau cyffredinol yr Arholwr Allanol os yw hynny'n berthnasol.
15.5
Oherwydd natur consortia rhyngwladol, cydnabyddir nad yw penodi arholwyr allanol yn arferol yn Ewrop, ac felly efallai na fydd yn ofynnol mewn sefydliadau partner. Fodd bynnag, yn achos marciau a graddau a ddyfernir yn enw Prifysgol Abertawe, mae'n rhaid i'r arholwr allanol priodol ymwneud â'r broses asesu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau 'r Brifysgol.
15.6
Argymhellir, lle bynnag y bo'n briodol, bod y consortia yn penodi arholwr allanol ychwanegol i oruchwylio a sicrhau cysondeb safonau'r rhaglen. Caiff Arholwyr Allanol o'r fath eu henwebu a'u penodi yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan Fwrdd Arholi'r Consortiwm. Gellid defnyddio Arholwr Allanol a benodwyd gan sefydliad partner, drwy ei weithdrefnau ei hun, at y diben hwn. Mae'n rhaid i Fyrddau Arholi'r Consortiwm sicrhau bod Arholwyr Allanol yn derbyn gwybodaeth lawn am y rhaglen a'r gweithdrefnau asesu ar adeg eu penodi. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw gyngor ysgrifenedig a roddir i'r ymgeiswyr ynghylch asesu yn y naill ran o'r rhaglen neu'r llall.
16. Arholiadau
16.1
Fel arfer, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn y sefydliad lle maent wedi dilyn y modiwlau sy'n cael eu hasesu.
16.2
Fel arfer, Saesneg fydd yr iaith addysgu ac asesu. Fodd bynnag, gall yr iaith asesu amrywio yn ôl cytundeb y Consortiwm. Caiff yr wybodaeth hon ei chyfleu i'r ymgeiswyr drwy wybodaeth am y modiwl yn y llawlyfr.
17. Cyflwyno Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd
17.1
Penodir goruchwyliwr ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd y goruchwyliwr yn gyfrifol am sicrhau bod yr astudio'n digwydd yn unol â chanllawiau arfer da'r sefydliad.
17.2
Ni chaiff ymgeisydd newid y gwaith, ychwanegu ato na dileu rhan ohono rhwng y dyddiad cyflwyno a'i arholi.
17.3
Rhaid cyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn unol â chanllawiau partner y Consortiwm y cyflwynir y gwaith iddo.
17.4
Rhaid darparu manylion am y dull cyflwyno i ymgeiswyr yn y llawlyfr.
18. Arholi'r Asesiad a Gyflwynir ar gyfer y Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd
18.1
Caiff y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ei asesu yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan Fwrdd Arholi'r Consortiwm, gan gyfeirio at weithdrefnau pob sefydliad partner. Bydd y strwythur marcio a ddefnyddir yn gyson â rheolau cenedlaethol a bydd yn adlewyrchu'r meini prawf marcio y cytunwyd arnynt.
18.2
Os bydd yr arholwyr yn rhoi marc methu i'r darn(-au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, caiff yr ymgeisydd un cyfle yn unig i'w ailgyflwyno, a hynny o fewn tri mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad swyddogol i'r ymgeisydd am y canlyniad blaenorol neu, os cyflwynwyd y gwaith i sefydliad partner, yn unol â'r dyddiadau a'r rheoliadau a gyhoeddwyd gan y sefydliad partner. Efallai y bydd y sefydliad partner dan sylw yn codi tâl am ailarholi darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n cael ei ailgyflwyno.
18.3
Bydd ymgeiswyr sy'n ailgyflwyno yn derbyn adborth ysgrifenedig am y rhesymau am y methiant, yn unol â chanllawiau cenedlaethol y sefydliad y cyflwynwyd y gwaith iddo. Ar yr amod bod canllawiau cenedlaethol yn caniatáu hyn, dylai adborth o'r fath adlewyrchu holl sylwadau'r holl arholwyr, gan hysbysu'r ymgeisydd o'r newidiadau angenrheidiol y gofynnir amdanynt.
18.4
Os nad yw ymgeisydd yn cyflwyno'r gwaith dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad terfyn a bennwyd ar gyfer y rhaglen, ac os nad yw ei ymgeisiaeth wedi cael ei hestyn oherwydd amgylchiadau arbennig, bydd yn methu'r radd Meistr.
19. Cyfyngiad ar Fynediad
19.1
Fel arfer, bydd dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a gyflwynir i'w arholi (gan ddibynnu ar bolisi'r brifysgol bartner) ar gael i bawb a heb fod yn destun unrhyw ddosbarthiad diogelwch neu gyfyngiad o ran mynediad. Fodd bynnag, caiff Sefydliadau Partner wahardd llungopïo a/neu fynediad i'r gwaith am gyfnod a bennir, hyd at bum mlynedd. Cyfrifoldeb goruchwyliwr prosiect yr ymgeisydd fydd cyflwyno cais i Fwrdd Arholi'r Consortiwm, a fydd yn gyfrifol am wneud argymhellion i'r sefydliad dyfarnu.
19.2
Wrth gyflwyno'r gwaith, bydd yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys datganiad wedi’i lofnodi ynddo a fydd yn nodi naill ai:
- Y gall y gwaith, os yw’n llwyddiannus, fod ar gael ar gyfer benthyciad rhwng llyfrgelloedd neu i’w lungopïo (yn unol â’r ddeddf hawlfraint), ac y gellir darparu’r teitl a’r crynodeb ar gyfer sefydliadau allanol; neu
- Y gall y gwaith, os yw’n llwyddiannus, fod ar gael ar ddiwedd cyfnod.
19.3
Fel arfer, dylai teitl a chrynodeb byr o'r gwaith fod ar gael yn ddirwystr.
19.4
Bydd copïau o'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a gymeradwywyd gan yr arholwyr yn eiddo'r Brifysgol y cyflwynwyd y gwaith iddi.
19.5
Os yw'r arholwyr allanol o'r farn bod y darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd o werth arbennig, gellir adneuo copi yn Llyfrgell y sefydliad dyfarnu. Tybir bod y gwaith o werth arbennig yn yr achosion canlynol:
- Lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn ei fod wedi cyflawni safon Rhagoriaeth;
- Yn achos Prifysgol Abertawe, lle mae'n arbennig o berthnasol i Gymru.
20. Cyhoeddi Gwaith
20.1
Mae gan ymgeisydd hawl i gyhoeddi’r gwaith cyfan neu ran o’r gwaith a gynhyrchwyd yn ystod ei gyfnod cofrestru yn y Brifysgol. Gall ymgeisydd gyhoeddi’r gwaith cyn ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, ar yr amod na nodir yn unrhyw le yn y gwaith a gyhoeddir ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer gradd uwch. Nes ymlaen gellir cynnwys gwaith o'r fath a gyhoeddwyd yn y gwaith a gyflwynir i’w arholi.
20.2
Ymdrin â'r darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn dilyn arholi.
Ac eithrio lle mae'r ymgeisydd wedi ennill rhagoriaeth, neu tybir bod y gwaith o werth arbennig (achosion sy'n amodol ar Reoliad 19.5 uchod) gall y Brifysgol benderfynu sut i ymdrin â chopïau o'r gwaith.
Dylai'r Gyfadran/Ysgol gadw un copi o’r gwaith am o leiaf ddwy flynedd.
21. Dyfarnu'r Radd
21.1
Caiff y radd ei dyfarnu i ymgeiswyr llwyddiannus yn unol â gweithdrefnau cytunedig y sefydliad(au) dyfarnu. Trefnir seremonïau gwobrwyo gan un neu bob un o'r Sefydliadau Partner a gwahoddir ymgeiswyr i fod yn bresennol. Lle cynhelir y seremoni raddio yn Abertawe, argymhellir bod Cyfadrannau/Ysgolion'n gwahodd y sefydliad partner i anfon cynrychiolydd i'r seremoni. Lle cynhelir y seremoni raddio mewn sefydliad partner, os yw'n briodol, anogir Cyfadrannau/Ysgolion i anfon cynrychiolydd.
21.2
Bydd y dystysgrif/tystysgrifau gradd i'w dyfarnu'n cyfeirio at natur gydweithredol y radd, a bydd yn cynnwys enw pob sefydliad a fu'n ymwneud â'r addysgu.
22. Apeliadau Academaidd
22.1
Caiff pob apêl academaidd ei hystyried yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan sefydliadau partner y Consortiwm ac sydd wedi'u hamlinellu yn y Memorandwm Cytundeb. Byddant yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- Dylid ystyried apêl gan y Brifysgol neu'r Prifysgolion a wnaeth y penderfyniad y mae'r ymgeisydd yn apelio yn ei erbyn;
- Bydd gan yr ymgeisydd hawl i ddefnyddio gwasanaeth yr ombwdsmon cenedlaethol os yw hynny'n briodol;
- Bydd gan yr ymgeisydd fynediad i gymorth.
Cyhoeddir manylion yn llawlyfr y rhaglen.
23. Camymddygiad Academaidd
23.1
Caiff unrhyw honiad o gamymddygiad academaidd ei ystyried yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan sefydliadau partner y Consortiwm ac sydd wedi'u hamlinellu yn y Memorandwm Cytundeb. Cyhoeddir manylion yn llawlyfr y rhaglen.
24. Dyfarniadau Aegrotat
24.1
Caiff ceisiadau gan Gyfarwyddwr y Rhaglen am Ddyfarniadau Aegrotat eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol berthnasol ar gyfer dyfarnu Graddau Aegrotat.
25. Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth
25.1
Caiff ceisiadau gan Gyfarwyddwr y rhaglen am ddyfarniadau ar ôl marwolaeth eu hystyried yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol berthnasol ar gyfer Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth.