*Mae Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Cyfreithiol yn cael ei reoli gan reoliadau Cymdeithas y Cyfreithwyr. Bydd y rheoliadau isod, ar wahân i’r rheoliadau asesu, yn gymwys. Ceir rheoliadau asesu’r rhaglen hon yn Llawlyfr y Coleg.
Thystysgrif Ôl-Raddedig Addysg Uwch
RHEOLIADAU PENODOL AR GYFER THYSTYSGRIF ÔL-RADDEDIG ADDYSG UWCH
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu goleuo gan waith ar flaen y gad;
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu i ysgolheictod uwch;
- Ggwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth o fewn y ddisgyblaeth;
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
- I werthuso ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth yn feirniadol;
- I werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt, a lle bo'n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg;
- Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol i gynllunio a chynnal tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol;
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan y deiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- Defnyddio menter a chyfrifoldeb personol;
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld;
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygu proffesiynol parhaus.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Gall ymgeiswyr fod yn gymwys i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig os byddant wedi cwblhau rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy’n llwyddiannus, a ddarparwyd ar ffurf rhaglen amser llawn neu ran amser.
2.2
Fel rheol, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddilyn modiwlau y mae eu gwerth yn cyfateb i 60 o gredydau credyd.
2.3
Bydd deilliannau dysgu’n cael eu nodi ar gyfer pob rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig.
3. Cymwysterau Ymadael
3.1
Ni fydd ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig yn gymwys i ennill cymwysterau ymadael.
4. Terfynau Amser
4.1
Bydd cyfnod hwyaf posibl ymgeisiaeth ar gyfer ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig fel a ganlyn:
- Amser llawn: Dim mwy na 12 mis wedi dyddiad dechrau’r rhaglen.
- Rhan-amser: Dim llai na 12 mis a dim mwy na 36 mis wedi dyddiad dechrau’r rhaglen.
4.2
O fewn y terfynau amser cyffredinol hyn, gall y Cyfadrannau/Ysgolion bennu terfynau amser byrrach ar gyfer rhaglenni astudio unigol.
4.3
Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol yn unol â’r rheoliadau a amlinellir yn y rheoliadau penodol.
5. Asesu
5.1
Bydd y broses arholi ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig a/neu asesu parhaus. Gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr sefyll arholiad ymarferol.
5.2
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau rhaglen astudio'r Dystysgrif Ôl-raddedig yn unol â'r Rheoliadau Asesu penodol ar gyfer Tystysgrifau Ôl-raddedig. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u cyhoeddi yn y Rheoliadau Academaidd.
5.3
Y marc llwyddo ar gyfer modiwl fydd 50%.
6. Estyniadau i Ymgeisyddiaeth
6.1
Gellir ymestyn terfynau amser rhaglenni astudio Tystysgrif Ôl-raddedig, fel y’u nodir yn Adran 4 y rheoliadau penodol, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â’r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, ni chaniateir ymestyn terfynau amser oni bai fod angen gwneud hynny am resymau tosturiol neu resymau’n ymwneud ag achosion o salwch, anawsterau difrifol gartref neu ymrwymiadau proffesiynol eithriadol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith andwyol ar yr ymgeisydd. Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno achos llawn a rhesymegol, a gefnogir gan gynllun gwaith a thystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr ei ystyried.
- Yn achos ymgeiswyr sy’n cyfeirio at ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gyda chadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o’r llwyth gwaith eithriadol y mae’r ymgeisydd yn ei ysgwyddo ynghyd â datganiad sy’n nodi nad oedd modd rhagweld yr ymrwymiadau.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch a ddisgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.) Bydd y Brifysgol yn parchu cyfrinachedd unrhyw dystiolaeth a gyflwynir.
- Rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa'r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch a'i fod yn ystyried bod y cais am estyniad yn briodol. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai datganiad o’r fath gael ei wneud ar ôl cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Gyfadran/Ysgol.
6.2
Ni chaniateir estyniad i ymgeisyddiaeth myfyrwyr sy’n ailgyflwyno eu traethodau.
6.3
Rhaid i geisiadau i ymestyn terfyn amser gael eu cyflwyno drwy law Cydlynydd y Rhaglen i’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr.
6.4
Ni fydd ceisiadau am estyniad a gyflwynir gan fyfyrwyr gradd ymchwil ar sail cofrestru cydamserol yn unig yn cael eu caniatáu ar gyfer aelodau staff sydd wedi cofrestru ar y PGCtHE, oherwydd gofyniad cytundebol y PGCtHE fel amod o'u cyflogaeth.
7. Derbyn i’r Cymhwyster
7.1
Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad gan Brifysgol Abertawe, bydd yr ymgeiswyr wedi:
- Dilyn rhaglen astudio gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol;
- Astudio ar gyfer o leiaf 60 credyd;
- Bodloni unrhyw amod(au) pellach a fynnir gan y Gyfadran/Ysgol neu’r Brifysgol.
7.2
Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig yn llwyddiannus yn gymwys i ennill dyfarniad â Theilyngdod/Rhagoriaeth, fel a ganlyn:
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
- Wedi pasio 60 credyd ar Ran Un (gydag o leiaf 50%), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u dilyn yn Abertawe;
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
- Pasiwyd 60 credyd (50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe;
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70%.