LLM Ymarfer Y Gyfraith A Drafftio Uwch Rheoliadau Asesu
RHEOLAU ASESU CYFFREDINOL
G1
Mae modiwlau a addysgir LLM Ymarfer y Gyfraith a Drafftio Uwch (yr LLM) yn union yr un peth â'r rhai sydd ar gael ar y Diploma Ôl-raddedig yn Ymarfer y Gyfraith. Felly, ac yn unol â gofynion Awdurdod Rheoleiddio'r Cyfreithwyr, rheolir y modiwlau hyn gan Reoliadau Asesu Cwrs Ymarfer y Gyfraith, ac eithrio Adran 1 ac Adran 3. Gallwch weld y rheoliadau llawn drwy ddilyn y ddolen hon: Rheoliadau Asesu LPC.
Bydd y rheolau asesu pellach a amlinellir isod hefyd yn berthnasol i'r LLM Ymarfer y Gyfraith a Drafftio Uwch.
Ni fydd ymgeiswyr am yr LLM yn cael eu hystyried yn awtomatig ar gyfer dyfarniad y Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer y Gyfraith ac ni chânt eu hystyried am y Diploma Ôl-raddedig oni bai eu bod yn methu'r LLM neu'n dewis gadael y Brifysgol.
G2
Y marc Pasio ar gyfer modiwlau fydd 50%. Ni roddir credydau ond i ymgeiswyr sy'n pasio modiwl.
G3
Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 180 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail y marc cyfartalog ym mhob modiwl sy'n cael ei astudio.
G4
Fel arfer, gwneir penderfyniadau ynghylch dilyniant ymgeiswyr amser llawn ar ddiwedd Semester Dau, sy'n cynnwys cyfnod cyfle atodol. Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar ddiwedd y trydydd semester a chânt eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. Caiff dilyniant myfyrwyr rhan-amser ei gadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn.
G5
Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i ymgeiswyr amser llawn sydd wedi methu unrhyw fodiwl a addysgir roi dau gynnig arall arno i wneud yn iawn am eu methiant, yn unol â Rheoliadau Asesu LPC, ar yr amod y gallant wneud hyn o fewn y terfyn amser ar gyfer y radd (uchafswm o bum mlynedd o ddyddiad ymgais y myfyriwr i basio'r asesiad cyntaf).
G6
Os yw ymgeiswyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud yn iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau wrth bennu'r marc cyfartalog ar gyfer y dyfarniad.
G7
Os bydd ymgeiswyr yn methu modiwl a addysgir eto ar y drydedd ymgais, gofynnir iddynt adael y Brifysgol. Ni fydd y fath ymgeiswyr yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio ac ni chânt eu hystyried am unrhyw ddyfarniad ond cymhwyster ymadael. Ni chaiff ymgeiswyr y gofynnir iddynt adael y Brifysgol gyfle arall i wneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd ac ni chaniateir iddynt drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau. Fel arfer, os yw ymgeisydd yn cael penderfyniad "gofynnir i chi adael y Brifysgol" ni chaiff ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G8
Ni chaniateir i ymgeisydd sydd i'w ailarholi mewn prosiectau a osodwyd neu ryw fath arall o asesiad gwaith cwrs ailgyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol. Yn hytrach, bydd rhaid iddo gyflwyno gwaith newydd i'w asesu, ar bynciau gwahanol i'r rhai lle'r oedd ei waith gwreiddiol heb fodloni'r arholwyr. Nid yw hyn yn berthnasol i'r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
G9
Ni chaniateir i ymgeiswyr ail-wneud modiwl sydd eisoes wedi’i basio er mwyn gwella eu perfformiad.
G10
Os yw ymgeiswyr yn teimlo bod amgylchiadau esgusodol wedi effeithio ar eu perfformiad mewn perthynas â'r modiwlau a addysgir, dylent gyfeirio at Adran 10 o Reoliadau Asesu Cwrs Ymarfer y Gyfraith, a ddylai gael blaenoriaeth dros Bolisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol. Os yw amgylchiadau esgusodol yn effeithio ar ymgeiswyr mewn perthynas â'r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, dylent gyfeirio at reoliadau Abertawe mewn perthynas ag estyn y dyddiad cau cyflwyno/ymgeisyddiaeth yn Adran 4 y Rheoliadau Penodol ar gyfer Graddau Meistr Hyblyg 180 Credyd Abertawe.
G11
Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys am ganmoliaeth/rhagoriaeth, yn unol â Rheoliadau Asesu LPC, ond cânt eu hystyried am deilyngdod/rhagoriaeth yn unol â'r rheoliadau isod (G12 a G13).
G12
Bydd ymgeiswyr yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod ar yr amod eu bod un bodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Mae pedwar marc yn y dosbarth (h.y. pedwar marc pwnc uwchlaw 60% ym mhob un o'r tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol dewisol) yn eu modiwlau a addysgir.
- Mae'n rhaid eu bod wedi pasio pob asesiad yn eu tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol heb gael eu cyfeirio; a rhaid nad ydynt wedi cael eu cyfeirio mewn mwy nag un asesiad yn Rhan 1 y cwrs (heblaw am asesiad mewn maes ymarfer craidd).
- Cyflawnir marc cyfartalog cyffredinol heb fod yn llai na 60% a heb fod yn uwch na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan.
G13
Os yw ymgeiswyr wedi pasio pob asesiad yn eu modiwlau a addysgir heb gael eu hailasesu neu eu cyfeirio mewn cwrs, os ydynt wedi ennill pedwar marc yn y dosbarth (h.y. pedwar marc pwnc uwchlaw 70% ym mhob un o'r tri maes ymarfer craidd ac ym mhob un o'r tri maes galwedigaethol dewisol), byddant yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr â rhagoriaeth, ar yr amod eu bod yn ennill marc cyfartalog cyffredinol heb fod yn llai na 70% ar gyfer y rhaglen gyfan.
G14
Os yw ymgeiswyr yn methu cwblhau'r rhaglen a/neu'n tynnu'n ôl o'r Brifysgol, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd ganddynt, efallai y bydd ganddynt hawl i gymhwyster ymadael.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n gadael â Diploma Ôl-raddedig yn gallu cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr oni bai eu bod yn cwblhau'r holl gredydau a addysgir, yn unol â Rheoliadau Asesu Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Bydd y fath ymgeiswyr yn derbyn Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer y Gyfraith.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n gadael â Diploma Ôl-raddedig sy'n cynnwys 60 credyd o fodiwlau a addysgir a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn gallu cymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Bydd y fath ymgeiswyr yn derbyn Diploma Ôl-raddedig mewn Drafftio Uwch.
G15
Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys i dderbyn y dyfarniad priodol "â theilyngdod" os ydynt wedi pasio'r nifer gofynnol o gredydau ac wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol nad yw'n llai na 60% ac nad yw'n uwch na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
Yn ogystal, bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Diploma Ôl-raddedig sy'n cynnwys 120 o gredydau a addysgir yn gymwys am ddyfarniad "â Theilyngdod" ar yr amod y bodlonwyd yr holl feini prawf canlynol:
- Mae pedwar marc yn y dosbarth (h.y. pedwar marc pwnc uwchlaw 60% ym mhob un o'r tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol dewisol) yn eu modiwlau a addysgir.
- Mae'n rhaid eu bod wedi pasio pob asesiad yn eu tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol heb gael eu cyfeirio; a rhaid nad ydynt wedi cael eu cyfeirio mewn mwy nag un asesiad yn Rhan 1 y cwrs (heblaw am asesiad mewn maes ymarfer craidd).
- Cyflawnir marc cyfartalog cyffredinol heb fod yn llai na 60% a heb fod yn uwch na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan.
G16
Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys am y dyfarniad priodol "â Rhagoriaeth" os ydynt wedi astudio'r nifer gofynnol o gredydau, gan ennill marc cyffredinol o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
Yn ogystal, os yw ymgeiswyr yn gadael â Diploma Ôl-raddedig sy'n cynnwys 120 o gredydau a addysgir, rhaid iddynt fod wedi pasio pob asesiad yn eu modiwlau a addysgir heb ailasesiad neu gyfeirio o fewn y cwrs a rhaid iddynt fod wedi ennill pedwar marc yn y dosbarth dan sylw (h.y. pedwar marc pwnc uwch na 60% ym mhob un o'r tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol dewisol).
G17
Os nad yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau, byddant yn methu'r LLM, ond efallai y byddant yn gymwys am ddyfarniad ymadael. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno. Os nad yw ymgeiswyr wedi defnyddio pob ymgais a ganiateir i basio'r modiwlau a addysgir, gellir caniatáu iddynt barhau â'u hastudiaethau er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
G18
Os yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau ond yn methu ennill marc pasio, gellir rhoi un cyfle arall iddynt ailgyflwyno yn unol â'r terfyn amser priodol. Bydd marciau am ailgyflwyno’n cael eu capio ar 50%.
Dull Astudio | |
AMSER LLAWN | Fel arfer* 3 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol). |
RHAN-AMSER | 6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol). |
G19
Os nad yw ymgeiswyr yn gallu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, gallant ofyn am estyniad i'r dyddiad cau yn unol â rheoliadau'r Brifysgol.
G20
Bydd ymgeiswyr sy'n methu'r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar ôl ailgyflwyno yn methu'r rhaglen, ond gellir eu hystyried am ddyfarniad ymadael priodol.
G21
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno.
Rheolau Penodol i'w Defnyddio gydag Ymgeiswyr Rhan-amser gan Fwrdd Diwedd y Flwyddyn yng nghanol eu hastudiaethau.
S1
Caniateir i ymgeiswyr sy'n pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir barhau â'u hastudiaethau.
S2
Gellir rhoi cyfle i ymgeiswyr sy'n methu modiwl a addysgir ail-wneud yr asesiad neu i wneud asesiad atodol yn unol â Rheoliadau Asesu Cwrs Ymarfer y Gyfraith.
S3
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll cydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
Rheolau penodol i’w defnyddio gydag ymgeiswyr rhan-amser gan fwrdd ailsefyll diwedd y flwyddyn, yng nghanol eu hastudiaethau
S4
Os yw ymgeiswyr yn pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir, caniateir iddynt barhau â'u hastudiaethau.
S5
Os yw ymgeiswyr yn methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais, gellir rhoi cyfle iddynt ailsefyll yr asesiad neu sefyll asesiad atodol yn unol â Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd.
Rheolau penodol i'w defnyddio gydag ymgeiswyr rhan-amser gan Fwrdd Semester Dau/y Bwrdd Dyfarnu
S6
50% fydd y marc pasio.
S7
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfanswm pwysiad credydau pob modiwl a astudiwyd.
S8
Bydd ymgeiswyr yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr â theilyngdod ar yr amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Mae pedwar marc yn y dosbarth (h.y. pedwar marc pwnc uwchlaw 60% ym mhob un o'r tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol dewisol) yn eu modiwlau a addysgir.
- Rhaid eu bod wedi pasio pob asesiad yn eu tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol heb gael eu cyfeirio a rhaid nad ydynt wedi cael eu cyfeirio mewn mwy nag un asesiad yn Rhan1 y cwrs (heblaw am asesiad mewn maes ymarfer craidd).
- Rhaid eu bod wedi ennill marc cyffredinol cyfartalog nad yw'n llai na 60% ac nad yw'n fwy na 69.99% am y rhaglen gyfan.
S9
Os yw ymgeiswyr wedi pasio pob asesiad yn eu modiwlau a addysgir heb gael eu hailasesu neu eu cyfeirio o fewn y cwrs ac os ydynt wedi ennill pedwar marc yn y dosbarth (h.y. pedwar marc pwnc uwchlaw 70% ym mhob un o'r tri maes ymarfer craidd a phob un o'r tri maes galwedigaethol dewisol), byddant yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth ar yr amod eu bod yn ennill marc cyffredinol cyfartalog nad yw'n llai na 70% ar gyfer y rhaglen gyfan.
S10
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni gofynion S2 yn methu cymhwyso am y dyfarniad. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd sefyll arholiadau neu asesiadau atodol ym mhob modiwl a addysgir lle mae wedi methu ar yr ymgais gyntaf neu'r ail ymgais am farc wedi'i gapio o 50%.
S11
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll unrhyw gydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
S12
Os yw ymgeiswyr yn methu unrhyw fodiwl a addysgir ar y drydedd ymgais, gellir caniatáu iddynt barhau â'u dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael neu, os na chyflwynwyd eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau, cânt eu hystyried am ddyfarniad ymadael (gweler S8 isod).
S13
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, neu elfen gyfatebol a gymeradwywyd, erbyn y dyddiad cau, byddant yn methu'r LLM ond gallant fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno. Os nad yw ymgeiswyr wedi defnyddio pob ymgais a ganiateir iddynt i basio'r modiwlau a addysgir, gellir caniatáu iddynt barhau â'u hastudiaethau er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
S14
Os yw ymgeiswyr yn methu'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy a chaniateir iddynt ailgyflwyno, bydd y cyfnodau amser canlynol i ailgyflwyno yn berthnasol. Caiff marciau ailgyflwyno eu capio ar 50%.
Dull Astudio | Ailgyflwyno |
---|---|
AMSER LLAWN | 3 mis* fel arfer (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol). |
RHAN-AMSER | 6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol). |
S15
Cydnabyddir y gallai rhai ymgeiswyr fethu'r modiwlau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a'r modiwlau a addysgir ar yr ymgais gyntaf. Caiff ymgeiswyr o'r fath un cyfle i ailgyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (yn unol â'r rheoliadau uchod) a hyd at dri chyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir a fethwyd yn unol â Rheoliadau Asesu LPC.
S16
Fel arfer, gofynnir i ymgeiswyr sy'n methu'r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar yr ail ymgais adael y Brifysgol. Fodd bynnag, os nad yw ymgeiswyr wedi defnyddio pob ymgais a ganiateir i basio'r modiwlau a addysgir, gellir caniatáu iddynt barhau â'u hastudiaethau er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
S17
Os yw ymgeiswyr yn methu cymhwyso am ddyfarniad, gellir eu hystyried am ddyfarniad ymadael priodol, yn amodol ar ofynion y corff proffesiynol.
Tystysgrif Ôl-raddedig |
|
---|---|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
Diploma Ôl-raddedig |
|
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth
|
|
S18
Mae gan yr holl ymgeiswyr hawl i holi am gywirdeb eu marciau yn unol â gweithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol neu i apelio penderfyniad Bwrdd Arholi yn unol â gweithdrefnau apêl y Brifysgol.