Rheoliadau Asesu LPC
Rheoliadau Asesu LPC
1. Cyffredinol
1.1
Mae cymhwyso fel cyfreithiwr yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac y mae cwblhau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith (LPC neu ‘y cwrs’) yn llwyddiannus yn ofyniad hanfodol i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
1.2
Mae’r Rheoliadau Asesu hyn yn rhagweld cyflwyno’r cwrs gan y Brifysgol mewn dau gam:
1.2.1
Disgrifir Cam 1 y cwrs (Cam 1) yn fanylach yn Neilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 ac mae’n cynnwys y tri Maes Ymarferiad Craidd hanfodol o Gyfraith ac Ymarferiad Busnes, Cyfraith ac Ymarferiad Eiddo a Chyfreitha, ynghyd â Sgiliau’r Cwrs, Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio, Cyfrifon Cyfreithwyr, Trethiant ac Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau.
1.2.2
Disgrifir Cam 2 y cwrs (Cam 2) yn fanylach yn Neilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 ac mae’n cynnwys tri Dewis Galwedigaethol.
1.3
Nid yw’r Rheoliadau Asesu hyn yn mynnu bod myfyriwr a ymrestrodd yn y Brifysgol ar gyfer Cam 1 y cwrs yn llwyddo i gwblhau Cam 1 y cwrs cyn ceisio Cam 2 y cwrs yn y Brifysgol (yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Asesu hyn sy’n mynnu bod y cwrs yn cael ei gwblhau yn llwyddiannus ymhen cyfnod o bum mlynedd) ac nid oes unrhyw ofyniad o’r fath boed amlwg neu ymhlyg. Fodd bynnag, i osgoi unrhyw amheuaeth yn achos myfyriwr a geisiodd Cam 1 y cwrs gyda darparwr ar wahân i’r Brifysgol, ni chaniateir i’r myfyriwr hwnnw geisio Cam 2 y cwrs yn y Brifysgol oni chwblhawyd Cam 1 y cwrs yn llwyddiannus ac y gall y myfyriwr ddangos trawsgrifiad myfyriwr swyddogol gan y darparwr fel tystiolaeth ei fod wedi cwblhau’r cam yn llwyddiannus.
1.4
Wedi cwblhau Cam 1 a Cham 2 y cwrs yn llwyddiannus fel y rhagwelir gan Ddeilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 bydd y myfyrwyr wedi cwblhau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith boed y camau wedi eu cwblhau yn yr un sefydliad neu sefydliadau gwahanol.
1.5
Y Rheoliadau Asesu hyn ac unrhyw rai o ofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fydd drechaf os cyfyd unrhyw wrthdaro rhyngddynt hwy a rheoliadau’r Brifysgol a bydd dyfarnu unrhyw gymhwyster yn amodol ar Reoliadau Academaidd y Brifysgol a gofynion asesu’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (ac i osgoi unrhyw amheuaeth caiff unrhyw wrthdaro parthed gofynion asesu ei ddatrys o blaid gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr).
2. Diffinio Termau
2.1
Mae ‘cyfeiriwyd’ neu "gyfeirio" yn golygu ac yn cyfeirio at Asesiad Pwnc (fel y’i diffinnir yn 2.5 isod ac sy’n cynnwys asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd, Sgil y Cwrs, Dewis Galwedigaethol, Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio neu Gyfrifon Cyfreithwyr) sy’n cael ei gymryd eto gan fyfyriwr wedi Bwrdd Arholi Terfynol Cam 1 neu Gam 2 o ganlyniad i berfformiad diffygiol blaenorol. Gellir defnyddio’r term waeth faint o asesiadau y mae’n rhaid i fyfyriwr eu hailadrodd, e.e. mae myfyriwr sydd wedi methu’r tri asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd yn cael ei "gyfeirio" yn y tri.
2.2
Mae "gohiriwyd" neu "ohiriad" yn golygu ac yn cyfeirio at Asesiad Pwnc (fel y’i diffinnir yn 2.5 isod ac sy’n cynnwys asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd, Sgil y Cwrs, Dewis Galwedigaethol, Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio neu Gyfrifon Cyfreithwyr) a gymerir gan fyfyriwr sydd, am resymau meddygol neu amgylchiadau esgusodol eraill sy’n cymryd asesiad yn hwyrach na myfyrwyr eraill, ond fel "cais cyntaf". Gellir defnyddio’r term waeth faint o asesiadau y mae’n rhaid i fyfyriwr eu cymryd, e.e. mae myfyriwr sydd ag amgylchiadau esgusodol yn y tri asesiad Maes Ymarferiad Craidd wedi ei "ohirio" yn y tri.
2.3
Mae "ailasesu mewn cwrs" yn golygu ac yn cyfeirio at y cyfle neu’r cyfleoedd a roddir i fyfyrwyr ailadrodd asesiad mewn Cyfrifon Cyfreithwyr neu Sgiliau’r Cwrs yn ystod y cwrs a chyn i Fwrdd Arholi Terfynol Cam 1 gyfarfod. Bydd yr ailasesu ar ffurf ymarferiad newydd cyffelyb ei natur. Ni chaniateir i fyfyrwyr ailgyflwyno’r ymarferiad gwreiddiol. I osgoi unrhyw amheuaeth:
2.3.1
Ni chaniateir i fyfyrwyr ailgyflwyno’r un ymarferiad ac iddo gael ei alw’n gais cyntaf.
2.3.2
Nid yw ailasesu mewn cwrs ar gael i asesiadau ym meysydd ymarferiad craidd Cyfraith ac Ymarferiad Busnes, Cyfreitha, Cyfraith ac Ymarferiad Eiddo, Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio, na’r Meysydd Dewis Galwedigaethol ac y mae’n wahanol i asesiad a gyfeiriwyd neu a ohiriwyd.
2.4
Golyga "cydoddefiad" hawl, boed trwy reolau neu arfer, i wyro oddi wrth y Rheoliadau Asesu a phasio asesiad, neu addasu’r marc neu’r radd, heb iddo fod wedi cyrraedd marc pasio, neu fod wedi cyrraedd y marc neu’r radd ar ei haeddiant.
2.5
Golyga "Asesiad Pwnc" unrhyw rai o’r asesiadau a osodir ym Meysydd Ymarferiad Craidd Cyfraith ac Ymarferiad Busnes, Cyfreitha, Cyfraith ac Ymarferiad Eiddo, Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio, Cyfrifon Cyfreithwyr, Trethiant ac Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau a’r Meysydd Dewis Galwedigaethol.
2.6
Golyga "Iawn" y gallu i wneud iawn am Asesiad Pwnc a fethwyd o rhwng 45% a 49% gyda marc sy’n uwch na 50% o gynifer o bwyntiau canran ag y syrth y marc methu dan 50%.
2.7
Golyga "Maes Ymarferiad Craidd" bwnc a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fel maes ymarferiad craidd at ddibenion Deilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 ac mae’n cynnwys pynciau Cyfraith ac Ymarferiad Busnes, Cyfreitha a Chyfraith ac Ymarferiad Eiddo a chyfeiria "Meysydd Ymarferiad Craidd" at fwy nac un maes ymarferiad craidd.
2.8
Golyga "Dewis Galwedigaethol" bwnc a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fel dewis galwedigaethol at ddibenion Deilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 a chyfeiria "Dewisiadau Galwedigaethol" at fwy nac un dewis galwedigaethol.
2.9
Golyga "Sgiliau’r Cwrs" sgiliau Ymchwil Cyfreithiol Ymarferol, ysgrifennu, Drafftio, Cyfweld a Chynghori ac Eiriolaeth at ddibenion Deilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 a chyfeiria "Sgil y Cwrs" at unrhyw un o Sgiliau’r Cwrs.
2.10
"Cam 1". Disgrifir Cam 1 y cwrs yn fanylach yn Neilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 ac y mae’n cynnwys y tri maes ymarferiad craidd hanfodol sef Cyfraith ac Ymarferiad Busnes, Cyfraith ac Ymarferiad Eiddo a Chyfreitha, ynghyd â Sgiliau’r Cwrs, Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio, Cyfrifon Cyfreithwyr, Trethiant ac Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau.
2.11
"Cam 2". Disgrifir Cam 2 y cwrs yn fanylach yn Neilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 ac y mae’n cynnwys tri Dewis Galwedigaethol.
2.12
Golyga “Arholwyr Allanol” yr arholwyr allanol a benodwyd parthed y cwrs yn unol â’r rheolau a’r rheoliadau a wnaed gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Bydd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn penodi arholwyr allanol i fod yn gyfrifol am bob un o’r canlynol:
Cam 1 y cwrs:
- Cyfraith ac Ymarferiad Busnes
- Cyfraith ac Ymarferiad Eiddo
- Cyfreitha – sifil a throseddol
- Sgiliau’r Cwrs
- Cyfrifon Cyfreithwyr ac Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio
- Trethiant ac
- Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
Gellir neilltuo cyfrifoldeb am fwy nag un agwedd o’r cwrs i Arholwr Allanol.
Cam 2 y cwrs:
- Ar gyfer pob Dewis Galwedigaethol a ddarperir (gall un arholwr allanol fod â chyfrifoldeb am ddau neu fwy o ddewisiadau darparwyr)
2.13
Golyga "Bwrdd Arholi" y Bwrdd Arholwyr y cyfeirir atynt yn 4 isod.
2.14
Golyga "Prifysgol" Brifysgol Abertawe neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu trwy enw neu gyfansoddiad.
2.15
Golyga "Deilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007" Ddeilliannau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith 2007 Fersiwn 1 Tachwedd 2007 neu ddeilliannau neu fersiwn Cwrs Ymarferiad y Gyfraith a fabwysiedir neu a awdurdodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr o bryd i’w gilydd naill ai trwy welliant, amrywiad neu roi yn lle deilliannau 2007.
3. Cwblhau’r Cwrs yn Llwyddiannus, a’r Cymhwyster
3.1
Mae gofyn i fyfyriwr gwblhau pob asesiad Cam 1 er mwyn cwblhau Cam 1 y cwrs yn llwyddiannus, ac os felly, bydd gan y myfyriwr hawl i drawsgrifiad yn dangos teitl yr asesiad, y marc a enillwyd a nifer a dyddiad cais llwyddiannus y myfyriwr. Bydd gan fyfyriwr hawl i drawsgrifiad yn unig gan y Brifysgol parthed Cam 1 y cwrs os cwblhawyd y cam hwnnw yn llwyddiannus yn y Brifysgol.
3.2
Gellir cymryd asesiadau Cam 2 gyda’r Brifysgol neu ddarparwr neu ddarparwyr gwahanol. Os bydd myfyriwr yn cwblhau asesiad neu asesiadau Cam 2 gyda’r Brifysgol yna bydd gan y myfyriwr hawl i drawsgrifiad yn dangos teitl yr asesiad, y marc a enillwyd a nifer a dyddiad cais llwyddiannus y myfyriwr gyda’r Brifysgol.
3.2.1
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau yn llwyddiannus Gam 1 a Cham 2 y cwrs yn y Brifysgol yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi ennill Diploma Ôl-Raddedig mewn Ymarferiad Cyfreithiol gan y Brifysgol.
3.2.2
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau yn llwyddiannus Gam 1 y cwrs yn y Brifysgol yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi ennill Tystysgrif Ôl-Raddedig mewn Ymarferiad Cyfreithiol gan y Brifysgol.
3.2.3
Os bydd myfyriwr yn cwblhau Cam 2 y cwrs yn unig yn llwyddiannus yn y Brifysgol wedi cael ei dderbyn trwy system drosglwyddo credydau y cytunwyd arni yn genedlaethol ar ôl cwblhau Cam 1 y cwrs yn llwyddiannus gyda darparwr arall, gall, yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi gael Diploma Ôl-Raddedig mewn Ymarferiad Cyfreithiol ar yr amod na ddyfarnwyd i’r myfyriwr yn flaenorol dystysgrif neu gymhwyster arall gan y darparwr gwahanol hwnnw parthed Cam 1 y cwrs.
3.3
Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cynnwys cyrraedd y safon angenrheidiol yn yr holl asesiadau sy’n gymwys i Gam 1 a Cham 2 y cwrs a mynychu sesiynau sydd ar yr amserlen trwy gydol y cwrs yn brydlon er boddhad i’r Bwrdd Arholi yn ôl eu doethineb absoliwt.
3.4
Ni fydd y Bwrdd Arholi yn caniatáu Cydoddefiad nac Iawn, boed mewn ymateb i amgylchiadau esgusodol neu fel arall wrth benderfynu a yw myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs neu asesiad Cam 1 neu Gam 2 yn llwyddiannus ai peidio.
3.5
Er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ac ennill cymhwyster, rhaid i’r myfyriwr basio Cam 1 a Cham 2 y cwrs ymhen pum mlynedd. Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i bob myfyriwr, ac i osgoi unrhyw amheuaeth y dyddiad a ddefnyddir i bennu cychwyn y cyfnod pum mlynedd yw’r dyddiad pryd y ceisiodd y myfyriwr ei asesiad cyntaf (boed yr asesiad wedi ei gyfeirio neu ei ohirio o ganlyniad i amgylchiadau esgusodol neu beidio) ac nid dyddiad cadarnhau na chyhoeddi’r canlyniadau na dyddiad ymrestru ar y cwrs.
3.6
Yn amodol ar 3.4 uchod, bydd penderfyniad neu benderfyniadau’r Bwrdd Arholi parthed materion asesu ac a yw myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ai peidio yn derfynol.
3.7
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau Cam 1 a Cham 2 y cwrs yn llwyddiannus, yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi, dderbyn marc pasio gyda Chlod neu Ragoriaeth. I gael Clod neu Ragoriaeth dylai myfyrwyr fod wedi bod â phedwar marc yn y dosbarth (h.y. pedwar marc pwnc uwchlaw 60% neu 70% ar draws y tri Maes Ymarferiad Craidd a’r tri Maes Dewis Galwedigaethol) ynghyd â chyfartaledd o 60% neu 70% ar draws pob pwnc arholiad yng Ngham 1 a Cham 2.
3.8
I gael Rhagoriaeth yn y cwrs rhaid i fyfyriwr fod wedi pasio pob asesiad yng Ngham 1 a Cham 2 y cwrs heb ailasesu yn y cwrs na chyfeirio.
3.9
I gael Clod yn y cwrs rhaid i fyfyriwr fod wedi pasio pob asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd yng Ngham 1 y cwrs a phob asesiad mewn Dewis Galwedigaethol yng Ngham 2 y cwrs heb gyfeirio ac ni ddylai fod wedi ei gyfeirio mewn mwy nac un asesiad yng Ngham 1 y cwrs (ac eithrio asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd) ac i osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw clod ar gael i fyfyriwr sydd wedi methu dau neu fwy o asesiadau y tro cyntaf naill ai yng Ngham 1 neu Gam 2 y cwrs.
3.10
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau Cam 1 y cwrs yn llwyddiannus, yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi, gael Rhagoriaeth am Gam 1 y cwrs ar yr amod, i gael Rhagoriaeth yng Ngham 1 y cwrs, fod yn rhaid i fyfyriwr fod wedi pasio pob asesiad yng Ngham 1 y cwrs heb ailasesiad yn y cwrs na chyfeirio, a bod â dau farc yn y dosbarth (h.y. dau farc pwnc uwchlaw 70% ac o leiaf un yn y tri Maes Ymarferiad Craidd) ynghyd â chyfartaledd o 70% ar draws pob pwnc arholiad yng Ngham 1.
3.11
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau Cam 2 y cwrs yn llwyddiannus, yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi, gael Rhagoriaeth am Gam 2 y cwrs ar yr amod, i gael Rhagoriaeth yng Ngham 2 y cwrs, fod yn rhaid i fyfyriwr fod wedi pasio pob asesiad yng Ngham 2 y cwrs heb ailasesiad yn y cwrs na chyfeirio, a bod â dau farc yn y dosbarth (h.y. dau farc pwnc uwchlaw 70% ) ynghyd â chyfartaledd o 70% ar draws y tri Maes Dewis Galwedigaethol.
3.12
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau Cam 1 y cwrs yn llwyddiannus, yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi, gael Clod am Gam 1 y cwrs ar yr amod, i gael Clod am Gam 1 y cwrs, fod yn rhaid i fyfyriwr fod wedi gwneud y canlynol:
3.12.1
pasio pob asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd yng Ngham 1 y cwrs heb gyfeirio a bod â dau farc yn y dosbarth (h.y. dau farc pwnc uwch na 60% ac o leiaf un yn y tri Maes Ymarferiad Craidd) ynghyd â chyfartaledd o 60% ar draws yr holl bynciau arholiad yng Ngham 1, a;
3.12.2
bod wedi ei gyfeirio mewn dim mwy nag un asesiad yng Ngham 1 y cwrs (ac eithrio am asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd) ac i osgoi unrhyw amheuaeth, nid oes modd dyfarnu clod am y cwrs i fyfyriwr sydd wedi methu dau neu fwy o asesiadau y tro cyntaf.
3.13
Gall myfyriwr sydd yn cwblhau Cam 2 y cwrs yn llwyddiannus,yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi, gael Clod am Gam 2 y cwrs ar yr amod, i gael Clod am Gam 2 y cwrs, fod yn rhaid i fyfyriwr fod wedi gwneud y canlynol:
3.13.1
Pasio pob asesiad mewn Maes Dewis Galwedigaethol yng Ngham 2 y cwrs heb gyfeirio a
3.13.2
Bod â dau farc yn y dosbarth (h.y. dau farc pwnc uwch na 60%) ynghyd â chyfartaledd o 60% ar draws y tri Maes Dewis Galwedigaethol.
4. Bwrdd Arholi
4.1
Y canlynol yw aelodau Bwrdd Arholwyr:
Aelodaeth y Bwrdd Arholwyr
Y Deon Gweithredol
Cyfarwyddwr y Cwrs
Arweinwyr Asesiad Pwnc
Yr Arholwyr Allanol
Unrhyw aelod arall o’r Brifysgol (gan gynnwys aelodau staff Ysgol y Gyfraith, y Gwasanaethau Academaidd neu’r Deon Gweithredol) a fynnir gan Gyfarwyddwr y Cwrs ac a fydd, ym marn Cyfarwyddwr y Cwrs, o gymorth i’r Bwrdd Arholi.
Y cynrychiolwyr hynny o Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a enwebir yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr o bryd i’w gilydd cyn i’r Bwrdd Arholi eistedd.
4.2
Bydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol i’r Gyfadran/Ysgol y Gyfraith yn aelod cyfansoddol ohoni ac i Wasanaethau Academaidd y Brifysgol am argymell cymwysterau a chynnwys trawsgrifiadau myfyrwyr yn unol â’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau’r Brifysgol a gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac am redeg y Rheoliadau Asesu hyn yn gyffredinol gan gynnwys, heb ragfarnu neu gyfyngu, am yr isod yn gyffredinol:
4.2.1
Pennu ceisiadau am amgylchiadau esgusodol; a
4.2.2
Pob mater asesu lle bydd penderfyniad neu benderfyniadau’r Bwrdd Arholi yn derfynol gan gynnwys a yw myfyriwr wedi cwblhau Cam 1 neu Gam 2 y cwrs yn llwyddiannus ai peidio neu a atebodd y safon ofynnol ym mhob un o’r camau.
4.3
Cadeirydd y Bwrdd Arholi fydd Cyfarwyddwr y Cwrs neu’r Deon Gweithredol neu os byddant yn absennol, caiff y Bwrdd Arholi ei gadeirio gan eu henwebai.
4.4
Bydd y Bwrdd Arholi, heb ragfarnu na chyfyngu i 4.2 uchod, yn gyfrifol am y canlynol:
4.4.1
Sicrhau yr atebir gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr parthed paratoi, safonau, nifer asesiadau a threfniadau asesu;
4.4.2
Arholi ac asesu safon pob myfyriwr ym mhob asesiad a llunio rhestr basio a gwneud argymhellion parthed asesiadau a fethwyd;
4.4.3
Dweud wrth bob myfyriwr am ei ch/gyrhaeddiad;
4.4.4
Derbyn adroddiadau ac unrhyw ohebiaeth gan yr Arholwyr Allanol a gwneud penderfyniadau am eu hargymhellion; a
4.4.5
Gweithredu yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol yn amodol ar ofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a’r Rheoliadau Asesu hyn ar yr amod yn wastad ac i osgoi unrhyw amheuaeth mai’r Rheoliadau Asesu hyn ac unrhyw rai o ofynion eraill yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fydd drechaf os cyfyd unrhyw wrthdaro rhyngddynt a Rheoliadau’r Brifysgol.
5. Asesiadau
5.1 Cwblhau Cam 1 yn Llwyddiannus
Er mwyn cwblhau Cam 1 y cwrs yn llwyddiannus gyda’r Brifysgol, rhaid i fyfyriwr gyrraedd y safon ofynnol yn yr holl feysydd isod:
Y Meysydd Ymarferiad Craidd
Y Meysydd Sgiliau
Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio
Cyfrifon Cyfreithwyr
Trethiant ac
Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
5.2 Cwblhau Cam 2 yn Llwyddiannus
Er mwyn cwblhau Cam 2 y cwrs yn llwyddiannus, rhaid i fyfyriwr gyrraedd y safon angenrheidiol yn y Dewisiadau Galwedigaethol.
5.3 Y Meysydd Ymarferiad Craidd
Asesir Meysydd Ymarferiad Craidd Cyfraith ac Ymarferiad Busnes, Cyfreitha a Chyfraith ac Ymarferiad Eiddo fel a ganlyn:
5.3.1
Dylid asesu pob un o’r Meysydd Ymarferiad Craidd trwy gyfrwng un asesiad ymarferiad craidd yr un, i bara o leiaf dair awr, gyda’r cyfryw ddeunyddiau cymeradwy y cytunwyd arnynt gyda’r Arholwyr Allanol ac yr hysbyswyd amdanynt i’r myfyrwyr.
5.3.2
Rhaid i asesiad ymarferiad craidd fod ar ffurf arholiad neu fath arall o asesiad dan oruchwyliaeth, a’r marc pasio fydd 50%.
5.3.3
Mae modd rhannu pob asesiad ymarferiad craidd yn ddau ran, ac os rhennir hwy felly:
- gellir cynnal pob rhan ar ddiwrnodiau gwahanol;
- dylai’r ddau ran fod o fewn yr un cyfnod asesu, hynny yw, bloc o amser a neilltuwyd i asesu;
- dylid cyrraedd at un marc asesu trwy gyfansymu’r marciau o’r ddau ran, gydag unrhyw bwysiad yn adlewyrchu cydbwysedd y cwrs;
- at bob diben yn y rheoliadau asesu hyn, mae’r ddau ran yn cynrychioli un asesiad ymarferiad craidd a rhaid i’r myfyriwr gymryd dau ran yr asesiad, sy’n golygu nad oes modd i un rhan gael ei ‘gario drosodd’ i gyfnod asesu diweddarach;
- rhaid neilltuo isafswm o 5% o farciau ym mhob asesiad ymarferiad craidd i asesiad Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio
5.3.4
Rhaid cael dau ran i’r asesiad Cyfreitha, un mewn Cyfreitha Sifil ac un mewn Cyfreitha Troseddol, gyda’r marciau ar gyfer y naill a’r llall wedi eu cyfansymu i gael y marc cyffredinol. Rhaid i bwysiad pob rhan fod yn amlwg a rhaid cofnodi hyn ar y trawsgrifiad y cyfeirir ato yn 6 (darpariaethau asesu cyffredinol) isod.
5.3.5
Rhaid neilltuo isafswm o 5% o farciau ym mhob Asesiad Ymarferiad Craidd i asesiad Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio.
5.4 Y Dewisiadau Galwedigaethol
Asesir y Dewisiadau Galwedigaethol fel a ganlyn:
5.4.1
Bydd gan bob dewis un asesiad yn para o leiaf dair awr gyda’r cyfryw ddeunyddiau cymeradwy y cytunwyd arnynt gyda’r Arholwyr Allanol ac yr hysbyswyd amdanynt i’r myfyrwyr.
5.4.2
Rhaid i bob asesiad dewis fod ar ffurf arholiad neu fath arall o asesiad dan oruchwyliaeth, a’r marc pasio fydd 50%.
5.4.3
Gelir rhannu asesiadau dewis yn ddau ran, ac os felly:
- Gellir cynnal pob rhan ar ddiwrnodiau gwahanol;
- Dylai’r ddau ran fod o fewn yr un cyfnod asesu, hynny yw, bloc o amser a neilltuwyd i asesu;
- Dylid cyrraedd at un marc asesu trwy gyfansymu’r marciau o’r ddau ran, a
- At bob diben yn y rheoliadau asesu hyn, bydd y ddau ran yn un asesiad dewisol a rhaid i’r myfyriwr geisio’r naill ran a’r llall o’r asesiad sy’n golygu nad oes modd i farc un rhan gael ei ‘gario drosodd’ i gyfnod asesu arall.
5.5 Meysydd Sgiliau’r Cwrs
Caiff pob un o bum Sgìl y Cwrs sef Ymchwil Cyfreithiol Ymarferol, Ysgrifennu, Drafftio, Cyfweld a Chynghori ac Eiriolaeth, eu hasesu unwaith fel a ganlyn:
5.5.1
Asesir pob sgil ar sail medrus/heb fod yn fedrus eto yn erbyn set o feini prawf asesu.
5.5.2
Asesir Eiriolaeth yng nghyd-destun naill ai Cyfreitha Sifil neu Droseddol neu’r ddau.
5.5.3
Mae dwy elfen i Gyfweld a Chynghori; yr elfen gyntaf yw Cyfweld, a Chynghori a dilyn i fyny yw’r ail. Gellir asesu’r naill elfen a’r llall mewn rhannau gwahanol, ac os felly, gwneir penderfyniad cyffredinol ar fod yn fedrus/heb fod yn fedrus eto.
5.5.4
Gellir cyfuno pob asesiad sgil gyda’r canlynol:
- Asesiad Maes Ymarferiad Craidd, ac os felly, rhaid rhoi marc am yr asesiad ymarferiad craidd a gwneud penderfyniad o fod yn fedrus/heb fod yn fedrus eto am yr elfen sgiliau a rhaid i’r asesiad gael ei oruchwylio; ac
- Un neu fwy o asesiadau sgiliau eraill, ac os felly, rhaid rhoi penderfyniad o fod yn fedrus/heb fod yn fedrus eto ar gyfer pob un sgil, ond nid oes gofyniad i oruchwylio asesiad neu asesiadau.
5.5.5
Lle bo asesiadau sgiliau wedi eu cyfuno ag asesiadau Maes Ymarferiad Craidd neu asesiadau sgiliau eraill, yna dylai’r asesiad gael ei gynllunio a’i farcio fel bod modd dadelfennu agweddau at ddiben deilliant yr asesiad ac i gofnodi’r wybodaeth ar y trawsgrifiad (y cyfeirir ato yn 6 isod). I osgoi unrhyw amheuaeth gall myfyriwr gael ei gyfeirio neu ei ohirio mewn un o’r agweddau yn unig ac ni fydd gofyn i fyfyriwr ailsefyll asesiad integredig os methodd yn un agwedd yn unig o’r asesiad. Fodd bynnag, os digwydd cyfeirio yn un yn unig o’r asesiadau, cofnodir yr ailasesu ar y trawsgrifiad (y cyfeirir ato yn 6 isod) fel yr ail neu’r trydydd cynnig.
5.6 Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio
5.6.1
Asesir Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio mewn dwy ffordd:
- Trwy asesiad ar ei ben ei hun fydd yn para am o leiaf ddwy awr ac a gymerir fel rheol yn ystod cyfnod asesu terfynol Cam 1 y cwrs ac
- O fewn pob un o’r asesiadau ymarferiad craidd lle mae’n rhaid neilltuo o leiaf 5% o’r marciau i Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio.
5.6.2
50% fydd y marc pasio ar gyfer yr asesiad ar ei ben ei hun mewn Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio.
5.6.3
Rhaid i fyfyriwr basio’r asesiad arunig mewn Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio y cyfeirir ato yn 5.6.1 er mwyn pasio’r pwnc, sy’n golygu na ddylid cydgrynhoi’r marciau a gafwyd ym mhob un o’r meysydd ymarferiad craidd gyda’r marciau o’r asesiad arunig er mwyn pasio.
5.7 Cyfrifon Cyfreithwyr
5.7.1
Asesir Rheolau Cyfrifon Cyfreithwyr trwy asesiad ar wahân dan oruchwyliaeth a fydd yn para am o leiaf ddwy awr (gan gynnwys unrhyw amser darllen) ac y bydd y marc pasio ar ei gyfer yn 50%.
5.7.2
Gellir caniatáu i fyfyrwyr gyfeirio at unrhyw ddeunyddiau yn yr asesiad gan gynnwys copi o’r Rheolau Cyfrifon Cyfreithwyr. Os caniateir cyfeirio at ddeunyddiau yn yr asesiad gall fyfyriwr anodi’r deunyddiau a ganiateir cyn yr asesiad.
5.7.3
Gellir cymryd yr asesiad yn Rheolau Cyfrifon Cyfreithwyr ar unrhyw adeg yn ystod Cam 1 y cwrs.
5.8 Trethiant
Asesir Trethiant yn y Meysydd Ymarferiad Craidd ond i osgoi unrhyw amheuaeth nid oes gofyniad am asesiad arunig yn y maes hwn, ond os bydd Trethiant yn destun asesiad arunig, yna rhaid cofnodi marc ar wahân ar drawsgrifiad y myfyriwr, a sut bynnag, dylai trawsgrifiad y myfyriwr gofnodi dull asesu’r maes hwn.
5.9 Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
5.9.1
Asesir Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau yn y Meysydd Ymarferiad Craidd ond i osgoi unrhyw amheuaeth nid oes gofyniad am asesiad arunig yn y maes hwn. Sut bynnag, dylai trawsgrifiad y myfyriwr gofnodi dull asesu’r maes hwn.
5.9.2
Os yw Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau yn destun asesiad arunig, yna 50% fydd y marc pasio ar gyfer yr asesiad arunig, a rhaid cofnodi marc ar wahân ar drawsgrifiad y myfyriwr.
5.9.3
Os asesir Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau yng nghyd-destun Sgil y Cwrs (ar hyn o bryd Sgil Cyfweld a Chynghori) yna rhaid cofnodi canlyniad ar wahân o fedrus/heb fod yn fedrus eto ar gyfer Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau ar drawsgrifiad y myfyriwr. Mae angen marc pasio o 50% er mwyn cael cymhwyster medr, ac ni all myfyriwr basio Cam 1 y cwrs nes cael hyn.
5.10 Y Gyfraith sy’n Berthnasol i Asesiadau
Seilir pob asesiad y bydd y myfyriwr yn ei gymryd ar y gyfraith sydd mewn grym ar y pryd adeg yr asesiad waeth beth yw’r gyfraith a ddysgir i’r myfyriwr yn ystod the cwrs.
6. Gweinyddu a Darpariaethau Asesu yn Gyffredinol
6.1
50% fydd y marc pasio ar gyfer pob asesiad yn y Meysydd Ymarferiad Craidd a’r Dewisiadau Galwedigaethol a Chyfrifon ac Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio 50% a:
6.1.1
Bydd pob asesiad yn cael marc canran gwirioneddol.
6.1.2
Caiff marciau yn diweddu mewn ffracsiwn o 0.5 neu fwy eu talgrynnu i’r cyfanrif nesaf. Caiff marciau yn diweddu mewn ffracsiwn o lai na 0.5 eu talgrynnu i lawr i’r cyfanrif nesaf. I osgoi unrhyw amheuaeth bydd hyn yn gymwys i’r marc terfynol yn unig ac nid i bob marc cydrannol.
6.2
Asesir pob un o Sgiliau’r Cwrs sef Ymchwil Cyfreithiol Ymarferol, Ysgrifennu, Drafftio, Cyfweld a Chynghori ac Eiriolaeth ar sail medrus/heb fod yn fedrus eto yn unig.
6.3
Rhaid cofnodi marciau ar gyfer asesiadau cwrs Cam 1 a Cham 2 ar drawsgrifiad myfyriwr ar wahân, boed y myfyriwr wedi astudio ar gyfer y camau ar wahân neu yn gyfun.
6.4
Rhaid i bob trawsgrifiad myfyriwr ar gyfer Cam 1 y cwrs gynnwys:
6.4.1
Marciau canran ar gyfer y tri Maes Ymarferiad Craidd gan gynnwys marciau penodol ar gyfer cyfreitha troseddol a sifil a phwysiadau cymharol pob rhan o’r asesiad cyfreitha cyffredinol;
6.4.2
Y marc canran ar gyfer Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio a ddeilliwyd o’r asesiad arunig yn y pwnc;
6.4.3
Y marc canran ar gyfer Cyfrifon Cyfreithwyr;
6.4.4
Penderfyniadau medrus/heb fod yn fedrus eto ar gyfer pob un o Sgiliau’r Cwrs;
6.4.5
Ar gyfer pob asesiad, nifer y cynnig pryd y llwyddodd y myfyriwr a dyddiad gwneud yr asesiad llwyddiannus;
6.4.6
Y marciau ar gyfer unrhyw asesiadau arunig (os oedd rhai) mewn Trethiant a/neu Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau a wnaed gan y myfyriwr neu wybodaeth am gyd-destun asesu’r deilliannau ar gyfer y pynciau hyn os na ddefnyddiwyd asesiad arunig; a
6.4.7
Dyddiad yr asesiad cyntaf at ddiben rhoi tystiolaeth o’r gofyniad fod myfyriwr yn pasio’i holl asesiadau ymhen cyfnod o bum mlynedd.
6.5
Dylai pob trawsgrifiad myfyriwr ar gyfer Cam 2 y cwrs gynnwys:
6.5.1
Marciau canran ar gyfer pob un o’r Dewisiadau Galwedigaethol a wnaed gyda’r Brifysgol;
6.5.2
Rhif cynnig llwyddiannus y myfyriwr a dyddiad gwneud yr asesiad llwyddiannus; a
6.5.3
Dyddiad yr asesiad cyntaf at ddiben rhoi tystiolaeth o’r gofyniad fod myfyriwr yn pasio’i holl asesiadau ymhen cyfnod o bum mlynedd.
6.6
Ni ddylai trawsgrifiadau myfyrwyr gynnwys unrhyw gyfeiriad at unrhyw system ‘raddio’ neu ‘ddosbarthu’ y dewisodd y Brifysgol ei defnyddio, er y gellir cofnodi hyn ar dystysgrif ar wahân.
6.7
Rhaid i drawsgrifiadau ddangos sawl cynnig a gafodd y myfyriwr ar bob asesiad; fodd bynnag, nid oes angen dangos y marc ar gyfer pob un o’r asesiadau a fethwyd.
6.8
Os penderfyna’r Bwrdd Arholi fod gan fyfyriwr amgylchiadau esgusodol oedd yn effeithio ar ei berfformiad mewn asesiad arbennig i gyfiawnhau gohirio’r asesiad, gellir anwybyddu’r ymgais hwnnw at ddibenion y wybodaeth a gofnodir ar y trawsgrifiad ac o ran gweithredu’r rheol tri chynnig. Fodd bynnag, ym mhob achos, nid oes modd codi’r marciau mewn ymateb i amgylchiadau esgusodol, ac i osgoi unrhyw amheuaeth, y dyddiad a ddefnyddir i bennu cychwyn y cyfnod pum mlynedd ar gyfer cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yw’r dyddiad y rhoddodd y myfyriwr gynnir ar yr asesiad cyntaf, boed yr asesiad wedi ei ohirio o ganlyniad i amgylchiadau esgusodol neu beidio.
6.9
Yn amodol ar 6.8 uchod ni chaniateir i fyfyrwyr ailsefyll asesiad yn wirfoddol y rhoesant gynnig arno o’r blaen a’i basio yn y Brifysgol er mwyn gwella’r marc a gofnodwyd ar eu trawsgrifiad.
6.10
I osgoi amheuaeth ac yn amodol ar reoliad 10 isod yn ymwneud ag amgylchiadau esgusodol, bydd methu ag ymgeisio neu fynychu asesiad mewn Sgiliau’r Cwrs neu Asesiad Pwnc ar y cynnig cyntaf (gan gynnwys asesiad cynnig cyntaf o ganlyniad i ohiriad blaenorol dan y rheoliadau asesu hyn) yn unol â’r cynllun asesu a gyhoeddwyd ar gyfer y cwrs yn golygu y bydd canlyniad o fethiant ar y cynnig cyntaf yn cael ei cofnodi yn y Bwrdd Arholi (oni bai bod amgylchiadau esgusodol y tynnwyd sylw’r Bwrdd Arholi iddynt yn unol â rheoliad 10 isod) ac ar ôl hynny bydd rheoliad 7 isod yn berthnasol.
7. Myfyrwyr Nad Ydynt yn Llwyddo y Cynnig Cyntaf
7.1
Bydd myfyriwr sy’n methu unrhyw asesiad yn cael ei gyfeirio yn yr asesiad hwnnw neu’r asesiadau hynny, ond tri chynnig yn unig gaiff myfyriwr ar unrhyw asesiad ac os yw unrhyw un o’r asesiadau ar ffurf dau bapur ar wahân, y maent, serch hynny, yn un asesiad pwnc. I osgoi unrhyw amheuaeth ni chaniateir cyfeirio mewn un papur yn unig, a rhaid i fyfyriwr sydd wedi methu’r asesiad gael ei gyfeirio yn yr asesiad a chymryd y ddau bapur eto.
7.2
Os na lwyddodd myfyriwr ar drydydd cynnig ar asesiad Cam 1, yna bydd yn methu’r cam hwnnw yn gyfan gwbl, a’r canlyniad fydd y bydd yn rhaid ailsefyll Cam 1 y cwrs a holl asesiadau Cam 1.
7.3
Os na lwyddodd myfyriwr ar drydydd cynnig ar asesiad Cam 2, yna gall y myfyriwr naill ai ailsefyll ar y cwrs ar gyfer y dewis penodol hwnnw neu ymrestru ar ddewis newydd gwahanol a gynigir gan y Brifysgol.
7.4
Os na fydd myfyriwr yn pasio’r holl asesiadau Cam 2 ymhen pum mlynedd i eistedd ei asesiad Cam 1 cyntaf, yna rhaid iddo gwblhau Cam 1 a 2 y cwrs eto gan gynnwys yr holl asesiadau. Yn yr un modd, os cychwynna myfyriwr ar Gam 2 y cwrs cyn pasio holl asesiadau Cam 1, yna rhaid pasio’r holl asesiadau (ar gyfer Camau 1 a 2) ymhen pum mlynedd o’r cynnig cyntaf ar yr asesiad cyntaf.
7.5
Lle bo hynny’n rhesymol ymarferol, seilir unrhyw asesiadau a gyfeiriwyd a gymerir gan fyfyriwr ar y gyfraith sydd mewn grym adeg yr asesiad waeth beth yw’r gyfraith a ddysgwyd i’r myfyriwr yn ystod y cwrs.
7.6
Rhaid i’r trawsgrifiad myfyriwr ddangos yn glir ar ba gynnig yr oedd y myfyriwr yn llwyddiannus a dyddiad y llwyddiant.
7.7
Bydd union amseriad eistedd cyfeiriad neu gyfeiriadau yn fater i ddoethineb y Bwrdd Arholi ond beth bynnag, dylai fod yn unol â threfn asesu arferol y cwrs. Gelir eistedd yn y cyfnod hyd at a chan gynnwys mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf yn dilyn cwblhau’r cwrs.
7.8
Os bydd myfyriwr yn pasio asesiad a gyfeiriwyd, yna dyfernir uchafswm marc o 50% am yr asesiad a gyfeiriwyd.
7.9
Os metha myfyriwr unrhyw asesiad neu asesiadau a gyfeiriwyd, caiff y cyfle i gael ail gyfeiriad terfynol yn yr asesiad hwnnw neu’r asesiadau hynny.
7.10
Er mwyn cwblhau Cwrs Ymarferiad y Gyfraith yn llwyddiannus a chael cymhwyster, rhaid i fyfyriwr basio Cam 1 a Cham 2 y cwrs gan gynnwys pob asesiad ymhen cyfnod o bum mlynedd. Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i bob myfyriwr a gyfeiriwyd mewn asesiad. I osgoi unrhyw amheuaeth, y dyddiad a ddefnyddir i bennu cychwyn y cyfnod pum mlynedd yw’r dyddiad y rhoes y myfyriwr gynnig ei asesiad cyntaf (boed wedi ei gyfeirio neu ei ohirio neu beidio) ac nid dyddiad cadarnhau na chyhoeddi’r canlyniadau na dyddiad ymrestru ar y cwrs.
8. Methu Asesiadau Cyfrifon Cyfreithwyr
8.1
Gall myfyrwyr gael un cyfle (yn unig) i gael ailasesiad yn y cwrs ar yr asesiad mewn Cyfrifon Cyfreithwyr yng Ngham 1 y cwrs.
8.2
Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n methu â phasio Cyfrifon Cyfreithwyr hyd yn oed wedi ailasesiad yn y cwrs yn cael ei gyfeirio gan y Bwrdd Arholi yn y papur a fethwyd. Un cyfeiriad yn unig a ganiateir. I osgoi unrhyw amheuaeth, golyga hyn na chaiff myfyriwr fwy na thri chynnig ar yr asesiad mewn Cyfrifon Cyfreithwyr – y "cynnig cyntaf", un ailasesiad yn y cwrs ac un cyfeiriad.
8.3
Bydd union amseriad eistedd cyfeiriad neu gyfeiriadau yn fater i ddoethineb y Bwrdd Arholi ond beth bynnag, dylai fod yn unol â threfn asesu arferol y cwrs. Gelir eistedd yn y cyfnod hyd at a chan gynnwys mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf yn dilyn cwblhau’r cwrs.
9. Methu Asesiadau Sgiliau’r Cwrs
9.1
Gall myfyrwyr gael cyfle am un ailasesiad mewn cwrs am bob asesiad a fethwyd mewn perthynas ag un o Sgiliau’r Cwrs, ac i osgoi unrhyw amheuaeth mae hyn yn gymwys i asesiad a gyfunwyd ag asesiad mewn Maes Ymarferiad Craidd neu un arall o Sgiliau’r Cwrs.
9.2
Caiff unrhyw fyfyriwr sy’n methu â phasio unrhyw asesiad yn un o Sgiliau’r Cwrs wedi cynnig ar ailasesiad mewn cwrs ei gyfeirio gan y Bwrdd Arholi yn yr asesiad hwnnw. Fodd bynnag, i osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw methu yn unrhyw un neu gyfuniad o asesiadau yn Sgiliau’r Cwrs yn "tanio" cyfeiriad mewn asesiadau a basiwyd; maent yn cael eu "bancio."
9.3
Caiff asesiadau Sgiliau’r Cwrs gyda dau asesiad (os oes rhai) eu trin ar wahân at ddibenion cyfeirio.
9.4
Uchafswm o un cyfeiriad fydd mewn unrhyw asesiad yn un o Sgiliau’r Cwrs wedi methu’r asesiad mewn-cwrs. I osgoi unrhyw amheuaeth, golyga hyn na chaiff myfyriwr fwy na thri chynnig ar unrhyw asesiad – y "cynnig cyntaf", un ailasesiad yn y cwrs ac un cyfeiriad.
9.5
Bydd union amseriad eistedd cyfeiriad neu gyfeiriadau yn fater i ddoethineb y Bwrdd Arholi ond beth bynnag, dylai fod yn unol â threfn asesu arferol y cwrs. Gelir eistedd yn y cyfnod hyd at a chan gynnwys mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf yn dilyn cwblhau’r cwrs.
10. Amgylchiadau Esgusodol
10.1
Rhagdybir y bydd unrhyw fyfyriwr sy’n mynychu ac yn cwblhau unrhyw asesiad yn ffit i gymryd yr asesiad ac ni chaiff tystiolaeth feddygol a ddangosir wedi hynny parthed amgylchiadau oedd yn bodoli cyn yr asesiad ei dderbyn na’i ystyried gan y Bwrdd Arholi. I osgoi unrhyw amheuaeth, cymerir fod myfyriwr sy’n mynychu ac yn cwblhau asesiad yn cadarnhau’r canlynol:
10.1.1
Nad oes rhesymau pam na all eistedd yr asesiad y pryd hwnnw na pham y gallant wedi hynny gyflwyno cais am gonsesiwn parthed amgylchiadau esgusodol; a
10.1.2
Bod unrhyw geisiadau am addasiadau rhesymol eisoes wedi eu cyflwyno i’r Brifysgol ac wedi ei derbyn ganddynt.
10.2
Yn amodol ar 10.1 uchod, gall myfyriwr sy’n ystyried:
10.2.1
Cyn cymryd asesiad y gall amgylchiadau meddygol neu eraill effeithio ar ei berfformiad ar ei risg ei hun beidio â dod i’r asesiad ac yn hytrach wneud cais i’r Bwrdd Arholi ynghyd â thystiolaeth i gefnogi’r cais i ohirio cymryd yr asesiad;
10.2.2
Yn ystod asesiad y gall amgylchiadau meddygol neu eraill a gosodd yn ystod yr asesiad fod wedi effeithio ar ei berfformiad, yna rhaid i’r myfyriwr hysbysu goruchwyliwr/asesydd yn syth wedi’r asesiad, ac i osgoi unrhyw amheuaeth, cyn gadael lleoliad yr arholiad, a gwneud cais ysgrifenedig i’r Bwrdd Arholi ynghyd â thystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi’r cais i ohirio cymryd yr asesiad.
10.3
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw dwyn amgylchiadau esgusodol yn ysgrifenedig i sylw’r Bwrdd Arholi, ynghyd â thystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi cyn i’r Bwrdd ddod i benderfyniad. Bydd y Bwrdd Arholi fel rheol ond yn ystyried ceisiadau ysgrifenedig gyda thystiolaeth gefnogol a wneir ymhen tair wythnos i’r asesiad perthnasol, ac ni fydd ceisiadau a wneir wedi’r amser hwn fel arfer yn cael eu hystyried. Yn achos ceisiadau "ôl-weithredol" neu eraill, bydd gofyn i’r myfyriwr fodloni’r Bwrdd fod amgylchiadau eithriadol dros fethu dwyn yr amgylchiadau esgusodol neu’r dystiolaeth gefnogol i sylw’r Bwrdd yn ysgrifenedig ymhen tair wythnos o’r asesiad perthnasol a chyn gwneud y penderfyniad.
10.4
Os bydd myfyriwr yn cyflwyno cais yn ysgrifenedig a thystiolaeth ysgrifenedig sydd yn bodoli’r Bwrdd Arholi nad oedd yn gallu cymryd asesiad oherwydd salwch neu achos da arall, neu yr effeithiwyd yn sylweddol andwyol ar ei berfformiad gan y cyfryw faterion, yna gall y myfyriwr, yn ôl doethineb absoliwt y Bwrdd Arholi, gael ei ohirio yn yr asesiad hwnnw. Ni cheir codi marciau myfyrwyr mewn ymateb i’r cyfryw amgylchiadau esgusodol, ond bydd yr eisteddiad diweddarach yn cyfrif fel eisteddiad cyntaf.
10.5
Ni chaniateir Cydoddefiad neu Iawn fyth naill ai mewn ymateb i amgylchiadau esgusodol neu fel arall ac ni ellir fyth godi marciau.
10.6
Lle bo hynny’n rhesymol ymarferol, seilir unrhyw asesiadau a gyfeiriwyd a gymerir gan fyfyriwr ar y gyfraith sydd mewn grym adeg yr asesiad waeth beth yw’r gyfraith a ddysgwyd i’r myfyriwr yn ystod y cwrs.
11. Twyllo a Llên-Ladrad
11.1
Bydd honiadau o lên-ladrad neu arferion annheg yn destun gweithdrefnau’r Brifysgol.
11.2
Bydd pob achos o ganfod llên-ladrad neu arferion annheg a ganfyddir gan y Brifysgol hefyd yn cael ei adrodd i’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
11.3
Os ceir bod myfyriwr wedi llên-ladrata gwaith neu fod yn euog o arferion annheg mewn unrhyw asesiad ar y cwrs, yna gall y Brifysgol bennu yn ôl ei ddoethineb absoliwt, y dylid canslo marciau ar gyfer pob modiwl ar y cwrs neu y bydd y myfyriwr yn methu’r cwrs cyfan, ac ni chaniateir iddo ail-eistedd y cwrs yn y Brifysgol neu gosb arall addas dan yr amgylchiadau. Wrth bennu hyn, bydd y Brifysgol fel arfer yn dilyn canllawiau neu ofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu, yn absenoldeb unrhyw ganllawiau o’r fath, bydd gweithdrefnau a chosbau’r Brifysgol yn gymwys.
12. Apeliadau
12.1
Bydd penderfyniadau terfynol y Bwrdd Arholi yn amodol ar y weithdrefn Apeliadau a gweithdrefnau eraill y Brifysgol; fodd bynnag, y mae’r weithdrefn Apeliadau hon yn amodol ar y canlynol:
- Nad oes apêl yn erbyn barn academaidd y Bwrdd Arholi; a
- Bod gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn cymryd blaenoriaeth os cyfyd unrhyw wrthdaro rhwng y Brifysgol a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ynglŷn â phwy ddylai gael caniatâd i gwblhau Cam 1 neu Gam 2 y cwrs yn llwyddiannus a bwrw ymlaen i hyfforddi i fod yn gyfreithiwr.
13. Terfyn Amser ar gyfer Cwblhau’r Cwrs
13.1
Yn amodol ar 13.2 isod, mae uchaf o derfyn amser cyffredinol i gwblhau’r cwrs, sef 5 mlynedd. Hynny yw, rhaid i fyfyriwr sy’n cychwyn cwrs llawn-amser ym Medi 2009 gwblhau pob asesiad Cam 1 a Cham 2 yn llwyddiannus erbyn Medi 2014, ac oni wna, tybir ei fod wedi methu’r cwrs.
13.2
Y dyddiad a ddefnyddir i bennu cychwyn y cyfnod pum mlynedd yw’r dyddiad y rhoes y myfyriwr gynnig ei asesiad cyntaf (boed wedi ei gyfeirio neu ei ohirio neu beidio) ac nid dyddiad cadarnhau na chyhoeddi’r canlyniadau na dyddiad ymrestru ar y cwrs.
13.3
Bydd myfyriwr yn cwblhau asesiadau erbyn Medi mewn blwyddyn benodol os cymerodd neu y cyflwynodd yr asesiad perthnasol erbyn 30 Medi y flwyddyn honno. Nid yw dyddiad cyfarfod y Bwrdd Arholi neu gyhoeddi’r canlyniadau yn arwyddocaol.
13.4
Gall y terfynau amser ar gyfer cwblhau’r Cyrsiau a osodir yn 13.1 a’r Rheoliadau Asesu hyn gael eu hamrywio o bryd i’w gilydd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr: os felly, bydd y terfyn amser a amrywiwyd yn gymwys. Er enghraifft, gall penderfyniad gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i newid y cwrs yn sylfaenol neu roi un arall yn ei le, neu amgylchiadau eraill y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol, arwain at osod terfyn amser terfynol ar gyfer cwblhau fydd ar ddyddiad hwyrach.
14. Presenoldeb a Phrydlondeb
14.1
Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cynnwys cyrraedd y safon angenrheidiol yn yr holl asesiadau cymwys i Gam 1 a Cham 2 y cwrs a mynychu sesiynau sydd ar yr amserlen trwy gydol y cwrs yn brydlon er boddhad i’r Bwrdd Arholi yn ôl eu doethineb absoliwt. Gall y Brifysgol, mewn ymgynghoriad ag aelodau’r Bwrdd Arholi, eithrio unrhyw fyfyriwr naill ai o’r cwrs neu rai neu’r cyfan o’r asesiadau mewn perthynas â Cham 1 neu Gam 2 y cwrs os bydd ei bresenoldeb neu ei brydlondeb yn wael.
14.2
Er mwyn arfer y doethineb y cyfeirir ato yn 14.1. uchod, nid oes raid i’r Brifysgol gynnull Bwrdd Arholi yn ffurfiol, ond gall arfer y doethineb hwnnw wedi ymgynghori ag aelodau’r Bwrdd Arholi (a gall yr ymgynghori ddigwydd dros y teliffon, trwy bost electronig neu ddull arall o gyfathrebu gan gynnwys fideo-gynadledda) ac i osgoi unrhyw amheuaeth nid oes raid i’r ymgynghori fod gyda holl aelodau’r Bwrdd Arholi ond rhaid iddo gynnwys yr holl Arholwyr Allanol a Chyfarwyddwr y Cwrs.