1.    Cefndir

1.1

Mae Cyfadrannau/Ysgolion yn gyfrifol (ar ran y Senedd) am gyflwyno cynlluniau gradd ac am gadarnhau bod myfyrwyr yn bodloni canlyniadau’r rhaglenni astudio. Yn ogystal, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau bod myfyrwyr yn cydymffurfio â gofynion y Brifysgol ac unrhyw gorff proffesiynol perthnasol hefyd.

1.2

Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb penodol o ran myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol a gofrestrir gyda chorff rheoleiddio statudol. Yn ogystal â dyfarnu'r cymhwyster perthnasol, rhaid i'r Brifysgol fod yn fodlon y byddai'r myfyriwr yn aelod newydd diogel ac addas o ran y proffesiwn dan sylw, ac felly'n addas i ymarfer.

1.3

Mae'r Rheoliadau hyn yn amlygu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiadau neu bryderon ynghylch addasrwydd myfyriwr i ymarfer.

1.4

Atgoffir myfyrwyr bod y Rheoliadau’r un mor berthnasol i’w hymddygiad y tu allan i'r Brifysgol a'r cyffiniau gan gynnwys unrhyw leoliadau lle rhoddir myfyrwyr fel rhan o’u haddysg. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall eu hymddygiad y tu allan i'r Brifysgol, gan gynnwys eu bywydau personol, gael effaith ar eu haddasrwydd i ymarfer.

1.5

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn ddilys yn achos myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill cymhwyster proffesiynol y gellir ei gofrestru gyda chorff proffesiynol, statudol, neu reoleiddiol, oni bai eu bod hefyd wedi cofrestru ar raglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol arall. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y Rheoliadau hyn a fydd yn rhwystro'r Brifysgol rhag hysbysu corff proffesiynol, statudol, neu reoleiddiol am fyfyriwr sydd eisoes wedi cofrestru â'r corff dan sylw os bydd cwestiwn yn codi ynghylch addasrwydd y myfyriwr i gofrestru ac i ymarfer.

1.6

Bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol wrth ymdrin ag achos o Addasrwydd i Ymarfer:

  • Rhagdybir y bydd myfyriwr yn ddieuog hyd nes y profir fel arall, saif baich y prawf (y ddyletswydd o brofi’r cyhuddiad) gyda’r Brifysgol a dylai safon y prawf fod ar ‘gydbwysedd y tebygolrwydd’ (gweler 10.6).
  • Tybir bod euogfarnau troseddol, a chasgliadau a chanfyddiadau Cyrff Proffesiynol, Llysoedd Sifil y Deyrnas Unedig, a Gwasanaethau Cymdeithasol y Deyrnas Unedig yn dystiolaeth ddiymwad o'r ffeithiau a ymchwiliwyd yn y fath achosion – gweler 6.5.
  • Pennwyd y canfyddiadau blaenorol gan Bwyllgor Ymchwiliad i Gamymddygiad Academaidd neu bydd y Pwyllgor Ymchwiliad Disgyblu hefyd yn cael ei ystyried fel tystiolaeth gadarn o'r ffeithiau a archwiliwyd yn yr achosion hynny. Ni chaiff y myfyriwr na'r Pwyllgor herio'r fath ganfyddiadau, oni bai fod y canfyddiadau wedi'u gwyrdroi trwy Adolygiad Terfynol.
  • Bydd yr holl weithdrefnau yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

1.7

Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal ar gyfer diogelwch ei myfyrwyr, ei staff ac ymwelwyr a lle bo’n berthnasol y bobl y gallai fod gan fyfyriwr gysylltu â nhw ar leoliadau. O ganlyniad, mae’r Brifysgol yn gweithredu protocol rhannu gwybodaeth gyda Heddlu De Cymru, lle gall Heddlu De Cymru ddatgelu collfarnau myfyrwyr i’r Brifysgol; a bydd y Brifysgol, os caiff gofynion y Ddeddf Diogelu Data eu bodloni, yn darparu gwybodaeth bersonol, megis ffotograffau a chyfeiriadau, i Heddlu De Cymru o dan gylch gwaith atal neu ganfod troseddau.

1.8

Fel arfer, ni chaniateir i fyfyriwr raddio o'r Brifysgol os bydd yn destun ymchwiliad addasrwydd i ymarfer neu Bwyllgor Ymchwilio a bod y broses heb ei chwblhau.

1.9

Pan fydd myfyriwr yn tynnu'n ôl o'i raglen astudio o'i wirfodd cyn i’r Pwyllgor Ymchwilio benderfynu ar bryderon addasrwydd i ymarfer, gall y Brifysgol barhau i benderfynu ar y pryderon addasrwydd i ymarfer yn unol â'r Gweithdrefnau hyn. Felly, dylai unrhyw fyfyrwyr sy'n ystyried tynnu'n ôl o'u rhaglenni o'u gwirfodd drafod hynny â'u Cyfadran/Ysgol cyn parhau i dynnu'n ôl.

1.10

Atgoffir myfyrwyr y gall Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr roi cymorth a chyngor iddynt yn gyfrinachol o ran problemau addasrwydd i ymarfer, a gall eu cynrychioli mewn Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer. Mae'r Ganolfan Gyngor yn wasanaeth rhad ac am ddim i fyfyrwyr.

2.     Rhwymedigaethau ar Fyfyrwyr

2.1

Mae'n ofynnol bod myfyrwyr yn hysbysu'r Brifysgol yn brydlon am fanylion unrhyw gyhuddiad troseddol, euogfarn, neu rybudd a gânt tra byddant yn fyfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Mae gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen broffesiynol gyfrifoldeb ychwanegol i hysbysu'r Brifysgol yn brydlon os byddant yn derbyn rhybudd cosb sefydlog gan yr heddlu neu os byddant yn destun ymchwiliad gwasanaethau cymdeithasol tra byddant yn fyfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Mae'r cyfrifoldebau hyn yr un mor ddilys yn achos myfyrwyr sydd wedi'u gwahardd dros dro o'u hastudiaethau.

2.2

Cyfrifoldeb pob myfyriwr yw sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn gywir ar y system gofnodion ganolog. Nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol o gwbl am lythyrau neu gyfathrebiadau eraill nad ydynt yn cyrraedd myfyriwr oherwydd nad yw ei gofnod wedi’i ddiweddaru.

3.     Diffiniad o “Anaddas i Ymarfer”

3.1

Lle mae myfyriwr wedi cofrestru ar gwrs sy’n arwain yn uniongyrchol (neu’n rhannol) at gymhwyster proffesiynol neu’r hawl i ymarfer proffesiwn neu alwedigaeth benodol, os bydd ei ymddygiad neu’i iechyd yn codi pryder difrifol neu barhaus ynghylch ei allu i barhau ar gwrs, neu i ymarfer yn y proffesiwn neu’r alwedigaeth honno, ystyrir ei fod yn “Anaddas i Ymarfer”. Mae hyn yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i'r posibilrwydd y gall y myfyriwr fod yn risg i gleifion neu'r cyhoedd, neu y gallai danseilio ymddiriedaeth yn y proffesiwn.

3.2

Mae’r Brifysgol yn defnyddio cyfarwyddyd Cyrff Proffesiynol a Statudol penodol wrth benderfynu a yw myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer.

3.3

Rhestrir enghreifftiau a allai olygu, prima facie, ein bod yn tybio bod myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer yn Atodiad 1.

4.     Cychwyn Gweithdrefnau ac Ymchwiliad gan Gyfadran/Ysgol o Addasrwydd i Ymarfer

4.1

Gallai unrhyw fyfyriwr, aelod o staff, claf/defnyddiwr gwasanaeth neu aelod o’r cyhoedd godi pryder am addasrwydd myfyriwr i ymarfer gyda Chyfadran/Ysgol y myfyriwr naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig. Dylid cyfeirio unrhyw bryder at sylw'r Deon Gweithredol perthnasol os nad yw'n hysbys pwy yw'r unigolyn perthnasol i glywed am y pryder.

4.2

Dylai'r Gyfadran/Ysgol gyfeirio'r mater at y Deon Gweithredol neu'r enwebai, cyn gynted â phosib.

4.3

Pan fydd yr achos yn cael ei gyfeirio at y Deon Gweithredol (neu ei ddirprwy enwebedig), bydd yn trefnu ymchwiliad i’r pryder gan Swyddog Achosion a bydd y Swyddog Achosion yn hysbysu’r myfyriwr, yn ysgrifenedig, o’r canlynol:

  • Manylion yr honiad/pryder yn erbyn y myfyriwr;
  • Unrhyw gyfyngiadau neu amodau a roddwyd ar barhad y myfyriwr o ran astudiaethau neu ymarfer yn ystod cyfnod yr ymchwiliad;
  • Manylion y dulliau cymorth bugeiliol priodol yn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.

4.4

Fel arfer, bydd yn rhaid i’r myfyriwr ddarparu ymateb cychwynnol i’r Swyddog Achosion yn ysgrifenedig, o fewn 7 niwrnod gwaith o dderbyn llythyr gan Swyddog yr Achos sy’n rhoi manylion am yr honiadau/pryderon (efallai bydd Swyddog yr Achos yn ystyried na fydd hyn yn angenrheidiol pan fydd yn cwrdd â’r myfyriwr yn unol â 4.6 isod). Os na fydd y myfyriwr yn ymateb, gall Swyddog yr Achos/Panel (lle caiff Panel ei benodi yn unol â gweithdrefnau ar lefel Cyfadran/Ysgol) asesu’r achos, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

4.5

Wrth archwilio’r achos, bydd Swyddog yr Achos yn coladu tystiolaeth sy’n cefnogi neu’n gwrth-ddweud yr honiad neu’r pryder. Gall hyn gynnwys cyfweld ag unigolion perthnasol, gan gynnwys y myfyriwr.

4.6

Pan gaiff cyfweliadau wyneb yn wyneb eu trefnu, bydd y Swyddog Achos yn trefnu gwneud cofnod ysgrifenedig o’r cyfweliad. Bydd gan y sawl sy’n cael eu cyfweld (gan gynnwys y myfyriwr dan sylw) yr hawl i gael cwmni ffrind neu gydweithiwr (sy’n aelod o’r Brifysgol) yn y cyfweliad, neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Rôl unrhyw berson sy’n dod yn gwmni i’r bobl sy’n cael cyfweliad fydd ei gefnogi, ac ni fydd hawl ganddo ateb ar ran y sawl sy’n cael ei gyfweld.

4.7

Bydd gan Swyddog yr Achos yr hawl i gysylltu ag unrhyw unigolyn a gofyn am wybodaeth ganddo (gan gynnwys y myfyriwr dan sylw) dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost, neu ofyn am un neu fwy o gyfweliadau gydag unrhyw unigolyn (gan gynnwys y myfyriwr dan sylw) i ofyn am eglurhad neu ehangiad ar unrhyw bwyntiau.

4.8

Yn yr holl achosion lle caiff pryderon eu mynegi am iechyd neu anabledd myfyriwr, bydd Swyddog yr Achos yn cyfeirio’r myfyriwr i Iechyd Galwedigaethol a/neu ymarferydd sy’n briodol gymwys, fel a nodwyd gan Swyddog yr Achos/Panel (lle mae Panel yn cael ei benodol yn unol â gweithdrefnau ar lefel Cyfadran/Ysgol) am asesiad a barn bosib am ei Addasrwydd i Ymarfer. Caiff adroddiadau asesiadau o’r fath eu hysgrifennu ac fel arfer eu dangos i’r myfyriwr, Swyddog yr Achos, Panel y Gyfadran/Ysgol (os yw wedi’i sefydlu) ac unrhyw Bwyllgor Ymchwilio sy’n cael ei sefydlu’n hwyrach i benderfynu ar ganlyniad yr achos.

4.9

Os bydd myfyriwr yn gwrthod cydweithio mewn asesiad o’r fath, neu’n gwrthod cytuno i ryddhau adroddiad asesu Swyddog yr Achos, Panel y Gyfadran/Ysgol ac unrhyw Bwyllgor Ymchwilio, bydd fel arfer gofyn i’r myfyriwr ohirio astudiaethau nes y caiff asesiad ei gynnal a’i ryddhau a/neu nes y bydd y Pwyllgor Ymchwilio’n cwrdd (gweler 7 isod).

4.10

Efallai y bydd Swyddog yr Achos dan rwymedigaeth i hysbysu’r Corff Proffesiynol perthnasol a chyrff perthnasol eraill am yr honiad cyn gynted ag y byddant yn derbyn hysbysiad am yr achos i sicrhau diogelwch cleifion/defnyddwyr gwasanaeth.

4.11

Pan fydd ymchwiliad troseddol neu gamau cyfreithiol ar y gweill, caiff yr achos ei ystyried yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellwyd yn 6 isod.

4.12

Pan fydd Swyddog yr Achos yn ei ystyried yn angenrheidiol i ohirio myfyriwr yn llawn neu’n rhannol, wrth aros am ganlyniad ymchwiliad y Gyfadran/Ysgol/Gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer, bydd yn dod â’r mater i sylw’r Is-ganghellor (neu ei ddirprwy enwebedig), cyn gynted â phosib yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellwyd isod yn 7.

5. Cwblhau Ymchwiliad y Gyfadran/Ysgol

5.1

Yn dilyn cwblhad ymchwiliad Swyddog yr Achos i’r honiad/pryder a, lle bo’n ymarferol gan gofio cymhlethdod yr achos o fewn 8 wythnos o’r Gyfadran/Ysgol yn cael ei hysbysu am yr honiad/pryder am y tro cyntaf, bydd Swyddog yr Achos (neu’r Panel pan fydd wedi’i benodi yn unol â gweithdrefnau’r Gyfadran/Ysgol) yn penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd yn sgil yr honiad/pryder Addasrwydd i Ymarfer. Dim ond mewn achosion lle mae Swyddog yr Achos/Panel yn penderfynu bod achos prima facie nad yw’r myfyriwr yn Addas i Ymarfer, yn sgil natur ddifrifol y mater a chryfder y dystiolaeth, (h.y. bod ymddygiad neu iechyd y myfyriwr (neu’r ddau) yn arwain at bryder difrifol neu barhaus am ei allu i barhau ar gwrs, neu i ymarfer wedi graddio), y caiff yr achos ei gyfeirio at Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer. Mae hyn yn cynnwys er nad yw’n gyfyngedig i’r posibilrwydd y gallai’r myfyriwr fod yn risg i gleifion neu’r cyhoedd, neu y gallai danseilio ymddiriedaeth yn y proffesiwn.

5.2

Efallai y bydd penderfyniad bod achos prima facie nad yw’r myfyriwr yn Addas i Ymarfer oherwydd un digwyddiad unigol neu batrwm o ymddwyn, a gallai hefyd ddilyn camau adferol nad ydynt wedi datrys y broblem.

5.3

Efallai y bydd Swyddog yr Achos/Panel yn ystyried sut y gallai ymddygiad neu iechyd y myfyriwr effeithio ar ddiogelwch cleifion neu’r cyhoedd, neu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn meddygol. Efallai y bydd Swyddog yr Achos/Panel yn adfyfyrio ar natur ddifrifol yr ymddygiad, aeddfedrwydd y myfyriwr a’r flwyddyn astudio, yn ogystal â’r tebygrwydd o’r ymddygiad yn ail-adrodd a pha mor dda y bydd y myfyriwr yn ymateb i gymorth. Rhaid i Swyddog yr Achos/Panel ymddwyn mewn ffordd gymesur, gan bwyso a mesur diddordebau’r cleifion/defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau’r cyhoedd yn erbyn y myfyriwr a dylid ystyried a ellir mynd i’r afael â’r pryder drwy gynnig cymorth i’r myfyriwr neu diwtora adferol, neu a yw’r trothwy atgyfeirio at Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ffurfiol y Brifysgol wedi’i ddiwallu. Dylai Swyddog yr Achos/Panel hefyd ystyried unrhyw ganllawiau o ran cosb gan y corff proffesiynol priodol.

5.4

Gall Swyddog yr Achos/Panel gymryd cyngor cyfreithiol annibynnol neu arbenigol arall os yw’n ystyried bod hynny’n angenrheidiol, gan gynnwys, os yw’n briodol, gan Iechyd Galwedigaethol neu aelodau o Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol.

5.5

Yn dilyn cwblhau’r ymchwiliad, efallai bydd Swyddog yr Achos/Panel yn penderfynu ar (unrhyw) gyfuniad o’r canlyniadau sy’n dilyn:

a) Gwrthod yr achos lle penderfynir nad oes gan yr honiad unrhyw sylwedd.

b) Penderfynu bod angen gwneud ymholiadau neu ymchwiliadau pellach ac ailystyried yr achos ar ôl hynny.

c) Cyfeirio’r achos er mwyn ymdrin ag ef drwy weithdrefnau’r Gyfadran/Ysgol (h.y. lle mae tystiolaeth nad yw ymddygiad y myfyriwr yn bodloni’r safonau disgwyliedig ond nid ystyrir ei fod mor ddifrifol fel nad yw’r myfyriwr yn Addas i Ymarfer. Gallai hyn gynnwys, ymysg pethau eraill, gyfeirio’r myfyriwr at gymorth gan Tiwtor Personol y myfyriwr, Gwasanaethau Myfyrwyr neu Iechyd Galwedigaethol, a’i gwneud hi’n ofynnol i’r myfyriwr gymryd camau addysgol adferol megis cwblhau darn o ysgrifennu adfyfyriol.

Ch) Cyfeirio’r myfyriwr i gael asesiad iechyd neu anabledd, yn unol â 4.9 a 4.10.

d) Cyfeirio’r achos i’r Gwasanaethau Addysg i ymdrin ag ef yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu’r Brifysgol, naill ai yn ogystal â neu’n lle canlyniadau eraill o dan 5.5.

dd) Oedi (dal) yr achos tra bydd ymchwiliad gan yr Heddlu ar y gweill, gydag amodau neu hebddynt. Dim ond gyda chytundeb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg y gellir gosod amodau o’r fath (megis rhoi Contract Ymddygiad ar waith).

e) Cyfeirio’r achos at yr Is-ganghellor (neu ei ddirprwy enwebedig) i wahardd y myfyriwr dros dro neu’n rhannol wrth aros am ymchwiliad pellach neu ymgynulliad Pwyllgor Ymchwil, yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellwyd isod yn 7.

f) Rhoi rhybudd ffurfiol llafar neu ysgrifenedig i’r myfyriwr mewn perthynas â’i ymddygiad, gan ei gwneud hi’n glir i’r myfyriwr fod ei ymddygiad yn disgyn islaw’r safonau disgwyliedig. Caiff cofnod ysgrifenedig anffurfiol ei gynnal ar ffeil y myfyriwr yn y Gyfadran/Ysgol a byddai’n cael ei datgelu i unrhyw Bwyllgor Ymchwiliad dilynol. Fodd bynnag, ni fyddai unrhyw sylwadau am rybudd anffurfiol o’r fath mewn unrhyw eirdaon a ddarparwyd.

ff) Cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig ffurfiol mewn perthynas â’u hymddygiad, pan fydd ymddygiad myfyriwr yn disgyn islaw’r safonau disgwyliedig. Gwybodaeth am rybuddion ffurfiol a’r ffaith y bydd yn rhaid eu datgelu gan y corff proffesiynol perthnasol yn Atodiad 2. Gall myfyriwr ofyn am adolygiad o’r penderfyniad i gyhoeddi rhybudd ffurfiol ysgrifenedig yn unol â’r Weithdrefn Adolygu Derfynol.

g) Cytuno i gamau ar y cyd â’r myfyriwr. Gallai camau fod yn briodol pan nodir bod achos prima facie yn bodoli nad yw’r myfyriwr yn addas, ond mae’r myfyriwr yn cydnabod hyn ac yn dangos mewnwelediad i’r pryderon hyn ac yn chwilio am ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion sylfaenol. Mae gwybodaeth am gamau yn Atodiad 2.

ng) Pan nodir bod achos prima facie yn bodoli lle nad yw’r myfyrwyr yn addas i ymarfer, dylid cyfeirio’r achos i Bwyllgor Ymchwiliad ei glywed. Gellir cyfeirio’r Pwyllgor Ymchwilo cyfredol gan gynnal ymchwiliadau pellach.

5.6

Efallai y bydd Swyddog Achos/Panel hefyd dan rwymedigaeth i hysbysu’r corff proffesiynol perthnasol am ganlyniad ei ymchwiliadau, hyd yn oed pan fydd canlyniad yr achos wedi’i ddiystyru neu na chaiff achos ei gyfeirio at Bwyllgor Ymchwilio.

5.7

Caiff y myfyriwr ei hysbysu am y penderfyniad, yn ysgrifenedig, cyn gynted â phosib ac fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith o wneud y penderfyniad. Darperir copi o’r llythyr/e-bost hwn i’r Gwasanaethau Addysg (a fydd yn gyfrifol am drefnu’r Pwyllgor Ymchwilio).

5.8

Pan wneir penderfyniad i atgyfeirio’r achos at Bwyllgor Ymchwilio, disgwylir i’r Swyddog Achosion baratoi adroddiad gyda thystiolaeth ategol (a allai gynnwys un neu fwy o ddogfennau ar wahân) i gynnwys, ymysg eraill, y canlynol:

  • Amlinelliad o’r honiad(au)/pryder(on);
  • Manylion am y dystiolaeth (gan atodi copïau o unrhyw gofnodion perthnasol o gyfweliadau gohebiaeth a dogfennau);
  • Enwau, a lle bynnag y bo modd, ddatganiadau gan dystion y bydd Swyddog yr Achos yn eu ffonio i roi tystiolaeth pan fydd y Pwyllgor Ymchwiliad yn cwrdd;
  • Rhesymau pam mae’r ymddygiad a/neu amgylchiadau personol yn destun pryder difrifol neu barhaus am allu’r myfyriwr i barhau ar gwrs, neu ymarfer wedi graddio;
  • Y Codau perthnasol sy’n rheoli’r proffesiwn mae’r myfyriwr yn anelu ato;
  • Yr argymhelliad ar ganlyniadau/cosbau priodol gan Swyddog yr Achos a/neu Banel y Gyfadran/Ysgol;
  • Beth sy’n digwydd pan fydd yr ymddygiad dan sylw yn drosedd.

5.9

Bydd Swyddog yr Achos yn darparu copi o adroddiad o’r fath, ynghyd â dogfennau ategol i’r Gwasanaethau Addysg cyn gynted ag y bo modd, ac fel arfer o fewn 20 niwrnod gwaith ar ôl y penderfyniad i gyfeirio’r achos at Bwyllgor Ymchwilio. Os bydd yn anymarferol i Swyddog yr Achos gyflwyno ei adroddiad a’i ddogfennau ategol o fewn 20 niwrnod gwaith, caiff y myfyrwyr wybod yn ysgrifenedig o amserlen darparu’r rhain. Pan fyddant yn cael eu derbyn, bydd y Gwasanaethau Addysg yn trefnu copïau o’r adroddiad a dogfennau ategol i’w darparu i fyfyrwyr ac aelodau o Banel y Pwyllgor.

5.10

Lle nad yw’n ymarferol i Swyddog yr Achos ddarparu ei holl dystiolaeth i’r Ysgrifennydd (e.e. datganiadau gan dystion, dogfennau etc) yn unol â 5.9 uchod, bydd fel arfer yn darparu adroddiad cychwynnol ac, wedi hynny, dystiolaeth ychwanegol yn unol â’r amserlen a bennir gan y Gwasanaethau Addysg. Fodd bynnag, efallai na fydd hi’n bosib darparu adroddiad/adroddiad cychwynnol lle caiff myfyrwyr ei atgyfeirio ar gyfer asesiad meddygol nes y derbynnir adroddiad asesu. Pan fydd ymchwiliad troseddol neu gamau cyfreithiol ar y gweill, caiff yr achos ei ystyried yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn 6 isod.

6.1

Pan fydd yr ymddygiad dan sylw hefyd yn drosedd, fel arfer ni chaiff penderfyniad ei wneud dan y rheoliadau hyn nes y bydd yr ymchwiliad troseddol/camau cyfreithiol dan sylw wedi dod i ben. Yn lle hynny, fel arfer caiff yr achos ei ystyried fel ‘wedi’i oedi wrth aros am ganlyniad ymchwiliad troseddol/camau cyfreithiol.’ Fodd bynnag, efallai y bydd Swyddog yr Achos dan rwymedigaeth i hysbysu’r Corff Proffesiynol perthnasol ar y dechrau a chyn cyhoeddi canlyniad yr ymchwiliad troseddol/camau cyfreithiol.

6.2

Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd, gallai’r oedi hyn fod yn amodol ar amodau megis rhoi Contract Ymddygiad ar waith neu waharddiad rhannol neu lawn o’r Brifysgol a’i safleoedd, gan gynnwys lleoliadau. Dim ond gyda chytundeb o flaen llaw Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg y gellir rhoi amodau ar waith (megis rhoi Contract Ymddygiad ar waith). At hynny, dim ond yr Is-ganghellor (neu ei ddirprwy enwebedig) sy’n gallu rhoi gwaharddiad rhannol neu interim ar waith.

6.3

Caiff yr achos ei adolygu pan fydd datblygiadau o ran ymchwiliad yr Heddlu/camau cyfreithiol. Atgoffir myfyrwyr bod rhwymedigaeth arnynt i ddiweddaru’r Brifysgol am statws eu hachos ac unrhyw amodau rhyddhau/mechnïaeth a roddir arnynt.

6.4

Pan fydd ymchwiliadau’r Heddlu/camau cyfreithiol wedi dod i ben ac, naill ai bydd y myfyriwr wedi cael ei erlyn, neu bnderfynwyd i beidio ag erlyn, bydd Swyddog yr Achos yn penderfynu a ddylid parhau i gymryd camau o dan y rheoliadau hyn.

6.5

Pan fydd y myfyriwr wedi’i ddedfrydu’n euog o drosedd, caiff yr euogfarn ei hystyried i fod yn dystiolaeth ddiamau y cyflawnwyd y drosedd – h.y. ni ddylai Swyddog yr Achos a/neu’r Pwyllgor Ymchwilio geisio ‘mynd y tu ôl’ i’r euogfarn na chyrraedd casgliad arall mewn perthynas â’r materion a arweiniodd at yr euogfarn. Hefyd caiff dyfarniadau/canfyddiadau a wneir gan Gyrff Proffesiynol, Llysoedd Sifil y DU a Gwasanaethau Cymdeithasol y DU eu hystyried yn dystiolaeth ddiamau o’r ffeithiau yr ymchwiliwyd iddynt yn yr achosion hynny.

6.6

Pan benderfynir nad yw’r  myfyriwr yn addas i ymarfer ac mae’r  myfyriwr hefyd wedi’i ddedfrydu gan lys troseddol mewn perthynas â’r un ffeithiau, caiff cosb y llys ei hystyried wrth benderfynu ar y gosb o dan y rheoliadau hyn.

6.7

Fel arfer, bydd gofyn i fyfyriwr y rhoddir dedfryd o garchar iddo ohirio ei astudiaethau am hyd y ddedfryd o garchar neu’r tu hwnt i hynny.

6.8

Pan fydd dedfryd o garchar yn 12 mis o hyd, neu’n hwy na gweddill cyfnod ymgeisyddiaeth y myfyriwr, bydd y Gwasanaethau Addysg fel arfer yn gofyn i’r myfyriwr dynnu’n ôl o’r Brifysgol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr. Bydd y Gwasanaethau Addysg yn cadarnhau’r penderfyniad hwn yn ysgrifenedig i’r myfyriwr. Fodd bynnag, gallai myfyriwr ofyn am adolygiad ffurfiol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg o dan y Weithdrefn Adolygiad Terfynol o fewn 14 o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad penderfyniad y Gwasanaethau Addysg.

6.9

Mewn unrhyw achos lle bydd y myfyriwr wedi’i atal oherwydd dedfryd o garchar, bydd dychweliad y myfyriwr i’r Brifysgol a/neu ei leoliad yn amodol ar ganlyniad boddhaol mewn asesiad risg. Gellir gosod amodau a chyfyngiadau sy’n rheoli symudiadau ac ymddygiad y myfyriwr, os caniateir iddynt ailgychwyn ei astudiaethau.

7. Gwaharddiad neu Waharddiad Rhannol wrth aros am Ymchwiliadau Pellach neu Bwyllgor Ymchwilio

7.1

Bydd myfyriwr sy’n destun un o’r canlynol:

  • Ymchwiliad o amgylchiadau, a allai ei atal rhag cael cynnig lleoliad neu barhau ag un; neu
  • Cwyn ddifrifol nad yw’r myfyriwr yn addas i ymarfer; neu
  • Camau cyfreithiol troseddol; neu
  • Ymchwiliad gan yr Heddlu.

Gellir ei atal yn llawn neu’n rhannol gan yr Is-ganghellor neu ei ddirprwy enwebedig wrth aros am gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio neu achos llys troseddol neu asesiad meddygol y myfyriwr (gweler 4.9 uchod).

7.2

a) mae gwaharddiad yn cynnwys gwaharddiad cadarn o ran dod i gyfleusterau’r Brifysgol neu eu cyrchu, y cwrs (gan gynnwys lleoliadau myfyrwyr) a chyfranogiad yn unrhyw weithgareddau’r Brifysgol. Gallai hefyd gynnwys gofyniad na fydd y myfyriwr yn cysylltu â’r person neu’r bobl dan sylw mewn unrhyw ffordd. Caiff gwaharddiad ei ddefnyddio dim ond pan ystyrir nad yw gwaharddiad rhannol o weithgareddau neu gyfleusterau penodol yn ddigonol.

b) Mae gwaharddiad rhannol yn cynnwys cyfyngiadau penodol ar ddod i gyfleusterau, rhaglenni a chyrsiau astudio’r Brifysgol neu eu cyrchu (gan gynnwys lleoliadau myfyrwyr), a gwaharddiad dewisol o ran ymarfer swyddogaethau neu ddyletswyddau unrhyw swydd neu aelodau o bwyllgor yn y Brifysgol, y caiff yr union fanylion yn ei gylch eu darparu’n ysgrifenedig. Gallai hefyd ei gwneud hi’n ofynnol i’r myfyriwr beidio â chysylltu a’r person neu’r bobl dan sylw.

7.3

Ni chaiff gwaharddiad llawn neu rannol wrth aros am wrandawiad ei ddefnyddio fel cosb. Diben pŵer i wahardd neu wahardd yn rhannol o dan y ddarpariaeth hon yw amddiffyn aelodau’r Brifysgol yn gyffredinol, neu aelod penodol, neu bobl eraill a allai gynnwys cleifion, disgyblion, cleientiaid neu aelodau’r cyhoedd, a chaiff y pŵer ei ddefnyddio dim ond pan fydd yr Is-ganghellor o’r farn ei bod hi’n ofynnol cymryd camau o’r fath. Caiff rhesymau ysgrifenedig eu cofnodi a’u rhoi i’r myfyriwr. Gall hefyd fod yn rhaid i Swyddog yr Achos ddarparu copi o’r rhesymau ysgrifenedig am y penderfyniad i’r Corff Proffesiynol perthnasol.

7.4

Fel arfer, ni chaiff myfyriwr ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol oni bai y rhoddwyd cyfle iddo gyflwyno cynrychiolaeth yn bersonol i’r Is-ganghellor neu ei ddirprwy enwebedig. Lle, am ba reswm bynnag, ymddengys i’r Is-ganghellor neu ei ddirprwy enwebedig nad yw’n bosib nac yn addas i’r myfyriwr ddod yn bersonol o fewn amserlen sydd wedi’i hystyried gan yr Is-ganghellor neu ei ddirprwy enwebedig i fod yn briodol i amgylchiadau’r achos, bydd y myfyriwr yn gymwys i gyflwyno cynrychiolaeth ysgrifenedig o fewn cyfnod o amser a bennir gan yr Is-ganghellor neu ei ddirprwy enwebedig.

7.5

Mewn achosion sy’n cael eu hystyried yn rhai brys, caiff yr Is-ganghellor neu ei ddirprwy enwebedig ei rymuso i wahardd myfyriwr yn syth, ar yr amod y rhoddir y cyfleoedd a grybwyllwyd yn 7.4 uchod wedi hynny, ac y caiff y mater ei adolygu o fewn 7 niwrnod gwaith.

7.6

Pan fydd datblygiadau sylweddol, caiff adolygiad o’r gwaharddiad neu’r gwaharddiad rhannol ei drefnu gan y Gwasanaethau Addysg cyn gynted â phosib. Ni fydd adolygiad o’r fath yn cynnwys cyfarfod na chyflwyniadau a wneir yn bersonol, ond bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno cynrychiolaeth ysgrifenedig. Penderfyniad yr Is-ganghellor nei ei ddirprwy enwebedig fydd unrhyw benderfyniad i godi’r gwaharddiad neu’r gwaharddiad rhannol.

7.7

Pan gaiff canlyniad ymchwiliad yr Heddlu a (lle bo’n berthnasol) camau yn y llys eu cyhoeddi, bydd y Gwasanaethau Addysg yn trefnu i’r achos gael ei benderfynu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Os bydd Swyddog yr Achos a’r Gwasanaethau Addysg yn cytuno y gall y Pwyllgor Ymchwilio symud ymlaen yn gynharach, gofynnir am gydsyniad ysgrifenedig y myfyriwr.

8. Pwyllgor Ymchwilio

8.1

Pan fydd y Gwasanaethau Addysg yn derbyn llythyr gan Swyddog yr Achos/y Panel sy’n cadarnhau’r penderfyniad i gyfeirio’r achos i Bwyllgor Ymchwilio, bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor (a fydd yn cael ei benodi o’r Gwasanaethau Addysg) yn trefnu y caiff y Pwyllgor Ymchwilio priodol ei ymgynnull cyn gynted â phosib, ac fel arfer o fewn 7 wythnos waith o adroddiad Swyddog yr Achos yn cael ei dderbyn gan y Gwasanaethau Addysg.

8.2

Bydd y Pwyllgor Ymchwilio yn cynnwys pedwar aelod (a ddewisir gan Ysgrifennydd y pwyllgor), sef:

(i) Dau aelod o’r canlynol: Dirprwy Is-gangellorion o Bwyllgorau/Byrddau lefel y Brifysgol gyda’r profiad/arbenigedd perthnasol; uwch-aelodau’r staff addysgu a chlinigol academaidd (h.y. Uwch-ddarlithydd; Uwch-diwtor Clinigol); Staff er anrhydedd ac Athrawon Emeritws; a

(ii) Chynrychiolydd myfyrwyr (o Brifysgol Abertawe neu brifysgol arall) neu Swyddog Amser Llawn o Undeb y Myfyrwyr. Pan na fydd hi’n ymarferol i’r Ysgrifennydd drefnu am gynrychiolydd myfyrwyr/Swyddog o Undeb y Myfyrwyr fod yn aelod o’r Panel heb fod hyn yn achosi oedi sylweddol i amserlen Pwyllgor, gall yr Ysgrifennydd ddewis trydydd aelod o’r staff o blith y rhai hynny a restrwyd yn 8.2(i) uchod yn lle cynrychiolydd myfyriwr/Swyddog o Undeb y Myfyrwyr.

(iii) Ymarferydd perthnasol, cyn-ymarferydd neu berson sy’n gyfarwydd iawn â’r codau ymddygiad, y codau moeseg neu’r codau ymarfer sy’n rheoli’r proffesiwn(proffesiynau) sy’n berthnasol i’r achos.

8.3

Ni fydd Panel y Pwyllgor Ymchwilio yn cynnwys aelodau o staff o’r Ysgol lle mae’r myfyriwr yn astudio nac aelodau sydd eisoes wedi bod yn rhan o’r achos dan sylw. Caiff un aelod o Banel y Pwyllgor Ymchwilio ei benodi gan yr Ysgrifennydd i fod yn Gadeirydd. Gwneir penderfyniad gan Banel y Pwyllgor drwy bleidlais drwy fwyafrif gan aelodau’r Panel. Caiff pleidleisiau aelodau unigol eu trin yn gyfrinachol. Os na fydd penderfyniad clir, bydd gan y Cadeirydd bleidlais ddyfarnu ychwanegol.

8.4

Mewn achosion sy’n cynnwys materion cyfreithiol neu feddygol cymhleth neu mewn achosion difrifol, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i benodi pumed aelod i’r Panel, a gall yr unigolyn hwn fod yn aelod o Brifysgol Abertawe ai peidio. Ni fydd person o’r fath yn meddu ar hawliau pleidleisio fel arfer, mewn perthynas â phennu a yw myfyriwr yn addas i ymarfer a pha ganlyniad/cosb y dylid ei r(h)oi, ond bydd yn penderfynu materion sy’n ymwneud â chyfarfod y Pwyllgor a thystiolaeth a gyflwynir gan y partïon. Efallai bydd hefyd yn rhoi cyngor i’r Panel ynghylch materion cyfreithiol, iechyd neu arbenigol eraill. Caiff y myfyriwr ei hysbysu ond caiff pumed aelod ei benodi i Banel y Pwyllgor.

8.5

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r Gwasanaethau Addysg dderbyn adroddiad Swyddog yr Achos a dogfennau ategol (y ceir manylion amdano yn 5.6 uchod), bydd yr Ysgrifennydd yn:

  • Anfon copïau o adroddiad Swyddog yr Achos a dogfennau ategol at y myfyriwr ac unrhyw ddogfennau pellach i’w cyflwyno gerbron y Pwyllgor Ymchwilio.
  • Gwahodd y myfyriwr i ddarparu unrhyw dystiolaeth, datganiadau gan dystion neu ddogfennau eraill y mae’r myfyriwr yn bwriadu dibynnu arnynt mewn ymateb i adroddiad Swyddog yr Achos i’r Ysgrifennydd erbyn dyddiadau cau a bennir i ymateb i adroddiad Swyddog yr Achos. Dylai ymateb ysgrifenedig y myfyriwr gynnwys cyfeiriad at unrhyw ddatganiadau neu ddogfennau yn adroddiad Swyddog yr Achos y mae’r myfyriwr yn anghytuno â nhw. Caniateir o leiaf 20 niwrnod gwaith i’r myfyriwr baratoi ymateb. Darperir copïau o ymateb y myfyriwr a dogfennau ategol gan yr Ysgrifennydd i Swyddog yr Achos ac i Banel y Pwyllgor cyn i’r Pwyllgor Ymchwilio gwrdd. Lle bydd y myfyriwr yn darparu dogfennaeth yn hwyrach na’r terfyn amser a bennwyd gan yr ysgrifennydd, gallai hyn orfodi oedi/torri’r Pwyllgor er mwyn rhoi amser i aelodau’r Panel a Swyddog yr Achos ddarllen a myfyrio am y cynnwys.
  • Gwahodd y myfyriwr i hysbysu Ysgrifennydd y Pwyllgor am unrhyw ofynion arbennig.
  • Hysbysu’r myfyriwr, Swyddog yr Achos ac aelodau’r Pwyllgor Ymchwilio am ddyddiad, lle ac amser y cyfarfod a’u darparu â chopïau o’r honiad a’r dystiolaeth/dogfennau a gyflwynwyd gan Swyddog yr Achos a’r myfyriwr.

8.6

Bydd yr Ysgrifennydd yn trefnu dyddiad, lle ac amser pan fydd y Pwyllgor Ymchwilio yn cwrdd. Caiff y myfyriwr ei hysbysu y bydd ganddo’r hawl i ddod i’r cyfarfod. Os bydd y myfyriwr yn cadarnhau nad yw’n gallu dod i’r cyfarfod ar y dyddiad hwnnw, bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn ail-drefnu’r cyfarfod ar un achlysur arall, oni bai y bydd y myfyriwr yn cadarnhau’n ysgrifenedig nad yw am fynd i’r cyfarfod. Bydd gofyn i’r myfyriwr hysbysu’r Ysgrifennydd a yw’n bwriadu mynd i gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio ai peidio. Os bydd y myfyriwr yn nodi nad yw’n dymuno mynd i’r cyfarfod, bydd y Pwyllgor Ymchwilio yn parhau yn ei absenoldeb. Fel arfer, ni all myfyriwr anfon person arall i’r cyfarfod yn ei le oni bai y caiff hyn awdurdod eithriadol gan y Cadeirydd cyn y cyfarfod.

8.7

Dylid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor ym Mhrifysgol Abertawe, oni bai y cytunwyd ar drefniadau amgen.

8.8

Gall y myfyriwr ddod i’r Pwyllgor yng nghwmni cydweithiwr/ffrind (sy’n aelod o Brifysgol Abertawe) neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr, a/neu gellir ei gynrychioli. Bydd gan y myfyriwr yr hawl i glywed yr holl dystiolaeth, cael cynrychiolydd i siarad ar ei ran, galw a holi tystion a thynnu sylw’r Panel i dystiolaeth arall a gyflwynwyd erbyn y terfyn amser a bennwyd. Er gwaethaf y ffaith y gellir cynrychioli myfyriwr yng nghyfarfod y Pwyllgor, bydd y Panel yn dal i eisiau clywed yn uniongyrchol gan y myfyriwr yn ei eiriau ei hun a bydd gofyn i’r myfyriwr (nid cynrychiolydd y myfyriwr) ateb cwestiynau.

8.9

Bydd myfyriwr sy’n bwriadu cael cwmni a/neu gynrychiolaeth yn hysbysu’r Ysgrifennydd am enw’r person sy’n dod/yn ei gynrychioli’n ysgrifenedig, o flaen llaw, a bydd yn dweud a oes gan y person gymwysterau cyfreithiol. Os yw’r myfyriwr yn bwriadu cael cynrychiolaeth gyfreithiol yng nghyfarfod y Pwyllgor, rhaid i’r myfyriwr roi rhybudd ei fod yn bwriadu cael cynrychiolaeth gyfreithiol i’r Ysgrifennydd dair wythnos fan hwyraf cyn dyddiad cyfarfod y Pwyllgor, gan y byddai’r Gyfadran/Ysgol yn disgwyl penodi ei chynrychiolydd ei hun (os bydd yn dymuno) i gynrychioli’r Gyfadran/Ysgol yng nghyfarfod y Pwyllgor. Ni fydd gan y Gyfadran/Ysgol gynrychiolaeth gyfreithiol yng nghyfarfod y Pwyllgor pan na fydd gan y myfyriwr gynrychiolaeth gyfreithiol.

8.10

Bydd gan y myfyriwr yr hawl i gael cwmni cyfieithydd os nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw trefnu cyfieithydd a bod yn gyfrifol am dalu’r ffïoedd perthnasol. Dylai’r myfyriwr roi enw’r cyfieithydd i’r Ysgrifennydd cyn y cyfarfod.

8.11

Gall myfyriwr ddewis a ddylid cynnal cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dylai myfyrwyr sy’n dymuno cael cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg hysbysu’r Ysgrifennydd pan fyddant yn derbyn hysbysiad am ddyddiad y gwrandawiad, er mwyn i Swyddfa’r Gymraeg yn y Brifysgol drefnu gwasanaethau cyfieithu. Darperir gwasanaethau o’r fath am ddim i’r myfyriwr.

8.12

Os na fydd myfyriwr yn dod i gyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio heb esboniad rhesymol, ar ôl nodi cyn hynny i’r Ysgrifennydd y byddai’n bresennol, ac ar yr amod y cymerwyd yr holl gamau rhesymol i gysylltu â’r myfyriwr, bydd y cyfarfod yn mynd yn ei flaen yn ei absenoldeb. Bydd gan y Cadeirydd y disgresiwn o ran yr hyn y gellir ei ddiffinio’n ‘esboniad rhesymol’.

8.13

Pan na fydd tystion unrhyw barti yn bresennol yn y Pwyllgor Ymchwilio, bydd y Cadeirydd yn defnyddio ei ddisgresiwn i ohirio cyfarfod y Pwyllgor ai peidio.

8.14

Efallai y bydd y Pwyllgor yn derbyn datganiad ysgrifenedig gan dystion fel tystiolaeth pan fydd y ddau barti yn cytuno nad oes angen i dystion ddod, neu lle mae’n anymarferol i’r tyst ddod neu ble, ym marn Cadeirydd y Pwyllgor, mae rhyw reswm arall o ran cyfiawnder i beidio â gwneud hynny.

8.15

Cyn neu yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Ymchwilio, efallai bydd y Panel yn gofyn am ymholiadau pellach ac efallai bydd yn gofyn i dystion ychwanegol ddod. Gall ohirio’r cyfarfod os bydd yn ystyried bod hynny er budd cyfiawnder.

8.16

Os bydd dau fyfyriwr neu fwy ynghlwm mewn achosion cysylltiedig, ar ddisgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor, gall y Pwyllgor ymdrin â’u hachosion ar yr un pryd.

8.17

Gall Cadeirydd y Pwyllgor osod cyfyngiadau amser ar gyflwyniadau llafar y partïon neu holi tystion.

8.18

Bydd yr Ysgrifennydd yn trefnu i gofnod ysgrifenedig a/neu recordiad sain o gyfarfod y Pwyllgor gael ei wneud. Ni chaniateir defnyddio  unrhyw ddyfeisiau recordio gweledol neu sain.

8.19

Atgoffir myfyrwyr mai er eu budd nhw yw cadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol. Os na fydd y myfyriwr yn ymateb i ohebiaeth neu’n gofyn i gyfarfod gael ei ohirio fwy nag unwaith, bydd y Brifysgol yn parhau â’r cyfarfod yn absenoldeb y myfyriwr ar yr amod y gwnaed pob ymdrech resymol i gysylltu â’r myfyriwr a/neu ddiwallu ei anghenion.

9.     Swyddogaethau’r Pwyllgor

9.1

Bydd swyddogaethau’r Pwyllgor Ymchwilio fel a ganlyn:

  • Ystyried y dystiolaeth a gyflwynir iddo;
  • Lle bo’n berthnasol, penderfynu a ddigwyddodd unrhyw un/pob un o’r digwyddiadau honedig:
  • Ar sail unrhyw ddigwyddiadau y dyfernir iddynt fod wedi digwydd neu bryderon iechyd yr ystyrir iddynt fod yn berthnasol, penderfynu a oes sylwedd i’r honiad fod y myfyriwr yn Anaddas i Ymarfer;
  • Penderfynu, os yn briodol, ar y canlyniad a’r gosb i’w rhoi.

10.   Gweithdrefn yn ystod Cyfarfod y Pwyllgor

10.1

Caiff cyfarfod y Pwyllgor ei gynnal fel pwyllgor ffurfiol ac nid fel gwrandawiad lledfarnwol. Ni fydd y Pwyllgor yn rhwym i reolau llym tystiolaeth. Yn amodol ar y gweithdrefnau a amlinellwyd isod, bydd gweithdrefn cyfarfod y Pwyllgor ar ddisgresiwn Ysgrifennydd a Chadeirydd y Pwyllgor.

10.2

Os bydd dau fyfyriwr neu fwy yn rhan o gamymddygiad cysylltiedig, ar ddisgresiwn yr Ysgrifennydd/Cadeirydd, gall y Pwyllgor ymdrin â’r achosion ar yr un pryd.

10.3

Caiff yr achos yn erbyn y myfyriwr ei gyflwyno gan Swyddog yr Achos.

10.4

Bydd Swyddog yr Achos yn cyflwyno’r achos, gan alw tystion perthnasol a chyflwyno’r dystiolaeth sy’n addas yn ei farn ef. Gellir holi’r myfyriwr a’r tystion.

Yn dilyn cyflwyniad yr achos, bydd y myfyriwr yn cyflwyno ei ymateb gan alw tystion a chyflwyno tystiolaeth sy’n addas yn ei farn ef.

10.5

Gall tystion dim ond cymryd rhan mewn perthynas â thystiolaeth sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r achos ac fel arfer, byddant yn tynnu’n ôl wedi rhoi tystiolaeth. Fel arfer, byddant yn dod i’r cyfarfod i roi tystiolaeth yn unigol. Felly, ni all tyst fynd fel tyst a chynrychiolydd. Efallai y bydd Cadeirydd y panel am ystyried caniatáu i dystion aros yn y gwrandawiad drwy gydol yr achos ar yr amod bod y ddau barti yn cytuno â hyn o flaen llaw neu os yw’r Cadeirydd yn ei ystyried yn briodol i’r achos i’r tyst aros.

10.6

Pan fydd y dystiolaeth wedi’i chyflwyno a’r holl waith holi tystion wedi’i gwblhau, bydd yr holl bobl, ac eithrio aelodau o’r Pwyllgor ac Ysgrifennydd y Pwyllgor, yn gadael.

10.7

Bydd Panel y Pwyllgor Ymchwilio yn ystyried a yw’r achos wedi’i brofi. Bydd baich y prawf (sef y ddyletswydd i brofi’r honiad) ar y Brifysgol. Dylai safon y prawf fod yn seiliedig ar “gydbwyso tebygrwydd”; caiff ffaith ei chadarnhau os yw’n fwy tebygol ei bod wedi digwydd na pheidio.

10.8

Os yw’r Panel yn penderfynu bod yr achos wedi’i brofi, caniateir i’r partïon gyflwyno sylwadau ynghylch y canlyniad a chyflwyno unrhyw amgylchiadau lliniarol i’r Pwyllgor, cyn i’r Panel benderfynu ar y gost neu’r canlyniad priodol.

11.   Canlyniadau y gall y Pwyllgor Ymchwilio ddewis o’u plith

11.1

Yn gyffredinol, cyn dod at benderfyniad am yr honiadau/pryderon dan sylw, ni fydd Panel y Pwyllgor yn cael ei hysbysu fel arfer am dystiolaeth o ganfyddiadau a brofwyd eisoes ynghylch Addasrwydd i Ymarfer y myfyriwr. Dylid hysbysu’r Panel am hyn cyn penderfynu ar gosb neu ganlyniad. Fodd bynnag, gellir datgelu tystiolaeth am ganfyddiadau blaenorol a brofwyd sy’n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer y myfyriwr cyn i’r Panel benderfynu a yw’r myfyriwr yn anaddas i ymarfer, lle mae tystiolaeth o’r fath yn gwrthbrofi honiad o gymeriad da a wnaed gan y myfyriwr.

11.2

Mae profi honiad nad yw’r myfyriwr yn Addas i Ymarfer yn taflu amheuaeth ddifrifol dros addasrwydd y myfyriwr i ymarfer yn broffesiynol. O ganlyniad, dylai’r Pwyllgor Ymchwilio gymryd argymhelliad Swyddog yr Achos a/neu Banel y Gyfadran/Ysgol gyda’r pwys mwyaf o ran a all y myfyriwr barhau ar y rhaglen radd a mynd ymlaen i gymhwyso ar gyfer y proffesiwn mae’n dymuno cymhwyso ar ei gyfer, ym marn y Pwyllgor.

11.3

Os yw Panel y Pwyllgor yn canfod nad yw’r honiad bod y myfyriwr yn anaddas i ymarfer wedi’i brofi, rhaid diystyru’r achos ac ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y myfyriwr neu roi rhybudd ffurfiol lle cyfyd nad yw ymddygiad y myfyriwr wedi cynnal y safonau disgwyliedig (gweler Atodiad 2 ar gyfer gwybodaeth am rybuddion ffurfiol).

11.4

Os yw Panel y Pwyllgor yn canfod bod yr honiad nad yw’r myfyriwr yn addas i ymarfer wedi’i brofi, bydd yn ystyried y canlyniad perthnasol i’w roi ar waith, pan fydd y myfyriwr a Swyddog yr Achos wedi cael y cyfle i gyflwyno sylwadau am hyn. Wrth ystyried y canlyniad i’w roi ar waith, bydd y Panel yn ystyried unrhyw ffactorau gwaethygol neu liniarol, gan gofio’r angen am gydbwyso diogelwch cleifion/defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd, diddordebau’r myfyriwr a’r angen i gynnal ymddiriedaeth yn y proffesiwn. Diben cosbau yw diogelu cleifion a’r cyhoedd, cynnal ymddiriedaeth yn y proffesiwn a sicrhau yr ymdrinnir yn effeithiol â myfyriwr nad yw’n addas i ymarfer, yn hytrach na chosb ar gyfer y myfyriwr.

11.5

Wrth ystyried y canlyniad/cosb i’w rhoi ar waith, dylai’r Panel ystyried yr opsiynau sydd ar gael wrth ddechrau symud o’r rhai lleiaf llym a symud i’r rhai nesaf dim ond os yw’n fodlon nad yw’r canlyniad/cosb yn ddigonol dan amgylchiadau’r achos.

12.  Pan fydd honiad nad yw’r myfyriwr yn addas i ymarfer yn cael ei brofi

12.1

Pan fydd honiad nad yw’r myfyriwr yn addas i ymarfer yn cael ei brofi, yn gyffredinol nid yw’n briodol i’r Panel Pwyllgor gymryd rhagor o gamau (sef peidio â rhoi cosb) neu gyflwyno rhybudd ffurfiol. Efallai bydd Panel y Pwyllgor yn:

(1) Gofyn i’r myfyriwr ymrwymo ar ffurf cytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y myfyriwr i’r Pwyllgor na fydd yn ymddwyn mewn ffordd benodol yn y dyfodol neu bydd yn cymryd camau penodol (gweler Atodiad 2 am fanylion).

(2) Rhoi un gosb neu fwy ar waith. Gan ddechrau gyda’r gosb leiaf llem, mae’r cosbau fel a ganlyn:    

(i) Amodau;

(ii) Gwaharddiad Dros Dro (sy’n cynnwys Gwaharddiad Dros Dro) o’r rhaglen;

(iii) Gwaharddiad o’r rhaglen neu’r Brifysgol;

Mae manylion am y Cosbau hyn yn Atodiad 2.

(3) Os bydd Panel y Pwyllgor yn penderfynu nad yw’r canlyniadau/cosbau uchod yn briodol, ar ei ddisgresiwn ei hun, gall benderfynu ar ganlyniad(au)/cosb(au) amgen neu ychwanegol lle mae’n ystyried amgylchiadau’r achos i fod yn briodol.

(4) Gosod unrhyw gyfuniad o’r canlyniadau/cosbau uchod pan fydd yn ystyried bod hyn yn briodol i amgylchiadau’r achos (e.e. gwahardd y myfyriwr dros dro gan osod amodau ar gyfer cyfnodau’r gwaharddiad ac yn dilyn dychweliad y myfyriwr i’r rhaglen).

12.2

Pan fydd Panel y Pwyllgor wedi canfod y myfyrwyr yn addas i ymarfer, yn gyffredinol, bydd rhwymedigaeth ar y Deon Gweithredol (neu ei ddirprwy enwebedig) i hysbysu’r corff/cyrff proffesiynol a rheoleiddio perthnasol am ganlyniad y Pwyllgor a chyfeirio at y canlyniad mewn corff proffesiynol neu mewn unrhyw gyfeiriadau wedi hynny. Gall y Deon Gweithredol (neu ei ddirprwy enwebedig) hefyd adrodd am y canlyniad wrth ddarparwr lleoliad y myfyriwr a/neu’r cyflogwr.

12.3

Mewn rhai achosion, gall y corff/cyrff proffesiynol perthnasol benderfynu gwneud penderfyniad annibynnol. Er enghraifft, hyd yn oed os bydd y Pwyllgor Ymchwilio yn diystyru achos, efallai y bydd corff proffesiynol yn penderfynu bod penderfyniad o’r fath yn anghywir, yn dad-gofrestru neu’n gwrthod cofrestru’r myfyriwr Mewn amgylchiadau o’r fath, ni fydd y myfyriwr yn gallu cwblhau’r cymhwyster proffesiynol.

12.4

Os na fydd y myfyriwr yn cydymffurfio ag unrhyw ganlyniad a bennir gan Banel y Pwyllgor yn unol ag amserlenni a nodwyd gan Banel y Pwyllgor, gellir gofyn i Banel y Pwyllgor (neu Banel Pwyllgor newydd) ailystyried y canlyniad i’w roi. Fel arall, efallai y bydd peidio â chydymffurfio â’r canlyniad ei hun yn cael ei ystyried yn gamymddygiad digon gwael i sbarduno ymchwiliad Addasrwydd i Ymarfer newydd.

13.  Camau i’w cymryd yn dilyn y Pwyllgor Ymchwilio

13.1

Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cadarnhau’n ysgrifenedig o fewn saith niwrnod gwaith i ddod â chyfarfod y Pwyllgor i ben a yw’r honiad wedi’i brofi ai peidio, unrhyw ganlyniad neu gosb i’w rhoi ar waith a hawl y myfyriwr i ofyn am adolygiad ffurfiol o’r penderfyniad yn unol â Gweithdrefn Adolygiad Terfynol y Brifysgol. Pan fyddwch chi wedi’ch paratoi a’ch cymeradwyo gan Gadeirydd y Pwyllgor, caiff copi o adroddiad sy’n cynnwys penderfyniadau a rhesymau dros benderfyniadau’r Panel neu gofnodion y Pwyllgor eu darparu i’r myfyriwr hefyd.

13.2

Os bydd y Pwyllgor yn canfod nad yw achos wedi’i brofi, gall Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio hysbysu’r myfyriwr o hyn ar lafar hefyd.

13.3

Os bydd y Pwyllgor yn canfod bod yr honiad wedi’i brofi, gall Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio hefyd hysbysu’r myfyriwr o hyn a’r canlyniad/cosb i’w rhoi ar waith ar lafar, ond ni fydd unrhyw drafodaeth am benderfyniad y Panel â’r myfyriwr.

14.  Adolygiadau Terfynol o Benderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Ymchwilio

Gall myfyrwyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad y Pwyllgor Ymchwilio Addasrwydd i Ymarfer ofyn am adolygiad terfynol o’r penderfyniad yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio Ffurflen Gais Adolygiad Terfynol i Gyfarwyddwyr y Gwasanaethau Addysg o fewn 14 o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad y penderfyniad.

Am wybodaeth am sut o ofyn am adolygiad a’r seiliau perthnasol am adolygiad, gweler Gweithdrefn Adolygiad Terfynol Prifysgol Abertawe.

15.   Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu

15.1

Bydd y Gwasanaethau Addysg yn adrodd wrth y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd am wybodaeth ystadegol sy’n berthnasol i achosion addasrwydd i ymarfer yn flynyddol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd fydd monitro’r data a gwneud argymhellion, yn ôl yr angen.

15.2

Yn ogystal, cyfrifoldeb y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd fydd adolygu’r Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer a’u heffeithiolrwydd a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau, lle bo’n briodol, i’w hystyried gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd a’r Senedd.

Atodiadau